Fis – sy’n ymddangos fel degawd – yn ôl, roedd y rhifyn hwn o WHQ yn mynd i ganolbwyntio ar un o elfennau sylfaenol tai: rhenti.
Ac yna, newidiodd y Coronafirws bopeth. I landlordiaid, tenantiaid, awdurdodau lleol, sefydliadau digartrefedd a phawb sy’n gweithio yn y maes tai yng Nghymru, mae dyfodiad yr haint wedi golygu gorfod dod i arfer â ffyrdd newydd o fyw a gweithio ar garlam.
Ar yr un pryd, aeth y cartref yn amddiffynfa gyntaf yn erbyn Covid-19 wrth i lywodraethau wthio eu neges i aros yn ddiogel – ond mae’r argyfwng wedi taflu goleuni newydd ar anghydraddoldebau a oedd eisoes yn rhemp yn ein cymdeithas.
Yn y farchnad lafur, gall rhai pobl weithio gartref tra bod eraill yn cael eu gorfodi i deithio i’r gwaith ac mae eraill eto yn dal i gael eu hunain ar flaen y gad mewn ysbytai, cartrefi gofal ac archfarchnadoedd.
Gall rhai elwa ar y cynlluniau seibiant o’r gwaith sy ar gael i weithwyr a’r hunangyflogedig, tra bod eraill wedi cwympo trwy’r craciau yn y system gymorth a mynd yn un o’r miliwn o ymgeiswyr newydd am Gredyd Cynhwysol yn ystod pythefnos olaf mis Mawrth.
Yn y system dai, mae gan rai ddigon o le a stafelloedd gwely sbâr lle gallant weithio gartref neu ynysu eu hunain, a gallant ddianc o’r cyfnod clo i’w gardd.
Roedd eraill yn fyr iawn o le hyd yn oed cyn yr argyfwng, heb gysylltiad rhyngrwyd na gardd ar gyfer y plant, neu’n talu’r dreth stafell wely ar lofftydd mae’r llywodraeth yn eu hystyried yn rhai ‘sbâr’.
A does gan eraill eto ddim cartref lle gallant fod yn ddiogel, dim ond drws siop neu wely mewn hostel neu stafell mewn llety dros-dro gorlawn.
Mae’r rhifyn arbennig hwn o WHQ yn adlewyrchu hynny i gyd a mwy wrth i’r sector tai ledled Cymru ymateb i argyfwng y Coronafirws. Clywn o dde Cymru am y cyrch i sicrhau llety i bobl ddigartref, o ogledd Cymru ynglŷn â chadw preswylwyr gofal-ychwanegol yn ddiogel, ac o bob man arall am y rhuthr i ad-drefnu swyddfeydd a gwasanaethau i denantiaid.
Daeth gweithio gartref, cyfarfodydd rhithwir, gosod eiddo’n ddigyswllt, cyngor atgyweirio dros y ffôn, dosbarthiadau ymarfer corff ar Facebook Live, a chyd-dynnu i sicrhau bod bwyd yn cyrraedd y rhai mwyaf diymgeledd yn rhan o fywyd gwaith beunyddiol.
Ac i sefydliadau fel Crisis, STS Cymru, CCC, Shelter Cymru, Cymorth Cymru ac Erosh mae’r argyfwng wedi golygu ymgyfarwyddo ar fyrder â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth a deddfwriaeth frys er mwyn cynnig dehongliad, arweiniad a chefnogaeth ar draws y sector.
Yn y cyfamser roedd TPAS Cymru wrthi’n gwneud arolwg tenantiaid, gan ddod o hyd i rai negeseuon pwysig i landlordiaid nawr ac yn y dyfodol.
Wrth i ni fynd i’r wasg ddechrau mis Ebrill, roedd yna ymdeimlad gwirioneddol o bobl yn cyd-dynnu ac yn ymateb i holl heriau Coronafirws.
Fodd bynnag, rydym hefyd yn camu yn ôl o’r argyfwng presennol wrth i Tamsin Stirling ystyried yr hyn y mae’r haint wedi’i ddatgelu am ein cymdeithas a pham y bydd gwerthoedd mor bwysig yn y misoedd i ddod.
Edrychwn i’r dyfodol hefyd. Mae Shane Perkins yn gofyn sut olwg fydd ar y normal newydd ar gyfer tai pan fydd y pandemig drosodd, mae Alicja Zalesinska yn dadlau bod yr hawl i dai yn bwysicach byth yn awr, ac mae Keith Edwards yn ystyried pa beth fydd ei angen yn y tymor hwy.
Dichon i ddeddfwriaeth frys ac addasiadau dros-dro i’r rhwyd ddiogelwch atal argyfwng ar unwaith, ond sut olwg fydd ar bethau ymhen rhai misoedd wrth i filiynau stryffaglu i dalu rhent neu forgais ac wrth i fusnesau ganfod bod cau dros-dro wedi troi’n barhaol?
A daw hynny â ni’n ôl at ffocws gwreiddiol y rhifyn hwn: rhenti. Yn sgil setliad pum-mlynedd Llywodraeth Cymru, edrychwn ar beth mae landlordiaid ledled Cymru yn ei wneud i sicrhau bod yr hyn y maent yn ei godi yn wirioneddol fforddiadwy i denantiaid ac i gydbwyso hynny â blaenoriaethau eraill fel adeiladu cartrefi newydd.
Clywn hefyd gan Jon Sparkes am gynlluniau i roi terfyn ar ddigartrefedd y cytunwyd arnynt mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru ychydig cyn i’r argyfwng godi, a chan Andy Sutton am gynlluniau i greu un o gymunedau carbon-sero go iawn cyntaf y byd ym Mhontardawe.
Bydd hanfodion tai – cartref teilwng i bawb am bris y gallant ei fforddio – yn bwysicach byth mewn byd ôl-Gorona ac ôl-ddirwasgiad.
Gobeithio y gall y rhifyn Gwanwyn hwn o WHQ ysbrydoli rhywfaint mewn amserau mor heriol. Cadwch yn ddiogel.
Jules Birch, Golygydd, WHQ