English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

Y DU

Y Canghellor yn addo gwneud ‘beth bynnag a gymer hi’ ar Coronafirws

Mewn ymateb a dyfodd ar garlam, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fenthyciadau gwerth biliynau o bunnoedd i fusnesau a chefnogaeth i weithwyr a phobl hunangyflogedig a roddwyd allan o waith.

Gan addo gwneud ‘beth bynnag a gymer hi’, cyhoeddodd y canghellor Rishi Sunak gyfres o newidiadau i fudd-daliadau hefyd, yn cynnwys:

  • Adfer y Lwfans Tai Lleol i 30ain canradd y farchnad leol. Dylai hyn helpu i gau’r bwlch rhwng rhenti a budd-daliadau ar gyfer rhentwyr preifat, sydd wedi cynyddu o ganlyniad i rewi budd-daliadau am y pedair blynedd rhwng 2016 a 2020
  • Cynnydd o £1,000 y flwyddyn yn y lwfans safonol ar gyfer Credyd Cynhwysol a Chredydau Treth Gwaith
  • Gohirio’r isafswm incwm y mae Credyd Cynhwysol yn ei dybio fod pobl hunangyflogedig yn ei ennill trwy gydol cyfnod yr haint

Fodd bynnag, wrth i WHQ fynd i’r wasg, roedd llywodraeth San Steffan yn dal i wrthod y galw am ddileu’r cyfnod aros pum-wythnos am y taliad Credyd Cynhwysfawr cyntaf. O fewn dwy wythnos gyntaf yr haint, ymgeisiodd bron i filiwn o bobl am y budd-dâl.

Arweiniodd yr haint at atal pob gweithgaredd yn y farchnad dai hefyd.

LLOEGR A CHYMRU

Llysoedd yn atal achosion meddiannu

Ataliodd llysoedd yng Nghymru a Lloegr bob achos meddiannu am o leiaf 90 diwrnod o ddiwedd mis Mawrth mewn ymateb i’r haint.
Golygai’r penderfyniad fod pob achos a oedd yn y system ar y pryd neu ar fin mynd ger bron llys wedi’i atal.
Yn gynharach, roedd llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi ‘gwaharddiad llwyr’ ar droi allan, ond wynebai feirniadaeth am nad oedd y ddeddfwriaeth frys ond yn ymestyn y cyfnod rhybudd o ddau fis i dri ar gyfer tenantiaid deiliadaeth-fer.
Mae’r penderfyniad gan y llysoedd yn cynnwys hawliadau meddiannu morgais yn ogystal â thenantiaethau preifat a chymdeithasol a rhai tenantiaethau tymor-byr.

LLOEGR

Hwb i dai yn y gyllideb

Mewn Cyllideb Wanwyn a gafodd ei goddiweddyd yn fuan wrth i’r Coronafirws ledaenu, cyhoeddodd y canghellor Rishi Sunak gyllid ychwanegol ar gyfer cartrefi fforddiadwy newydd ac am newid cladin llosgadwy.

Bydd Rhaglen Cartrefi Fforddiadwy Lloegr yn werth £12.2 biliwn dros y pum mlynedd o 2021/26. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 33 y cant neu £3 biliwn ar raglen 2016/21, er bod £2 biliwn ohono wedi’i gyhoeddi o flaen llaw.

Fodd bynnag, mae’n golygu bod cyfanswm y cyllid ar gyfer cartrefi fforddiadwy newydd yn dal i redeg yn sylweddol islaw’r lefel a etifeddodd llywodraeth Geidwadol San Steffan gan Lafur yn 2010.

Bydd Cronfa Diogelwch Adeiladau newydd gwerth £1 biliwn yn ymestyn cymorth y llywodraeth y tu hwnt i’r £600 miliwn presennol ar gyfer tynnu ac ailosod Cladin Cyfansawdd Alwminiwm math-Grenfell ar adeiladau fflatiau dros 18m i gynnwys deunyddiau cladin eraill gan gynnwys Lamineiddio Pwysedd Uchel.

Fodd bynnag, ymddengys mai dim ond adeiladau 18m neu fwy sy’n gymwys, gan adael preswylwyr blociau canolig eu maint mewn limbo.  Ac mae’n dal i adael landlordiaid yn wynebu bil enfawr am waith diogelwch tân. Mae cymdeithasau tai yn unig yn amcangyfrif y gallai eu costau fod yn fwy na £10 biliwn.

Rhoddodd y canghellor hwb i dai cyngor hefyd trwy ddileu cynnydd yn y gyfradd llog a godir ar fenthyca Cyfrif Refeniw Tai gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus. Mae’r Gyllideb yn golygu taliadau canlyniadol o £640 miliwn i’r Alban, £260 miliwn i Gymru a £210 miliwn i Ogledd Iwerddon.

YR ALBAN

Tenantiaid i gael chwe mis o rybudd yn ystod cyfnod yr haint

Rhoddodd ASAau gefnogaeth unfrydol i ddeddfwriaeth Coronafirws frys sy’n cynyddu’r isafswm cyfnod rhybudd ar gyfer troi allan i chwe mis.

Mae’r cynnydd mewn grym yn achos tenantiaid cymdeithasol a phreifat ac yn rhoi dwywaith cymaint o rybudd i denantiaid yr Alban â’u cymheiriaid yng Nghymru a Lloegr.

Bydd pobl a rhai busnesau bach na allant ad-dalu dyledion oherwydd yr haint yn gallu gwneud cais am gyfnod o chwe mis o ‘ofod anadlu’. Bydd hyn yn caniatáu iddynt geisio cyngor ariannol a dod o hyd i ddulliau tymor hir o ad-dalu dyledion.

Bydd mwyafrif y mesurau brys yn dod i ben yn awtomatig chwe mis ar ôl iddynt ddod i rym. Gall Senedd yr Alban eu hymestyn am ddau gyfnod pellach o chwe mis, gan roi cyfanswm o hyd at 18 mis i’r mesurau yn y Bil.

GOGLEDD IWERDDON

Cefnogaeth gyda thai yn hanfodol, medd gweinidog

Ni chaiff unrhyw denantiaid tai cymdeithasol sy’n cael anhawster talu eu rhent yn ystod cyfnod yr haint Covid-19 eu troi allan o dan gytundeb rhwng y Weithrediaeth Tai, cymdeithasau tai a’r Adran Cymunedau.

Dywedodd y gweinidog tai Deirdre Hargey y byddai ei hadran yn gweithio gyda landlordiaid i helpu i gadw tenantiaid yn eu cartrefi a sicrhau bod y system les yn darparu help cyn gynted â phosib.

Dywedodd y gweinidog y dylid osgoi troi allan yn y sector rhentu preifat hefyd gyda chymorth Credyd Cynhwysol a Lwfans Tai Lleol.

A dywedodd fod gan y Weithrediaeth Dai dîm canolog Covid-19 ar waith i fynd i’r afael ag anghenion pobl ddigartref: ‘Yn yr amseroedd eithriadol iawn hyn, er mwyn amddiffyn iechyd ein holl ddinasyddion, rwy’n croesawu’r datganiad gan y Weithrediaeth Tai ei bod yn gweithio i ddarganfod llety dros-dro ar gyfer unigolion ag arnynt ei angen, ni waeth a oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus ar hyn o bryd.’

Dywedodd fod cyd-berchnogion hefyd yn ddiogel yn eu cartrefi, gyda benthycwyr morgeisi yn addo cefnogi eu cwsmeriaid, ac y byddai benthycwyr yn cynnig gwyliau morgais o dri mis o leiaf i berchentywyr.

LLYWODRAETH CYMRU

Deddfwriaeth frys i atal troi allan

Caiff tenantiaid eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan am dri mis o leiaf o dan ddeddfwriaeth frys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Coronafirws.

Mae pecyn o fesurau hefyd yn rhoi gwyliau rhag gorfod talu am dri mis i fenthycwyr morgeisi.

Cytunodd Llywodraeth Cymru y byddai mesurau sy’n cael eu datblygu gan Lywodraeth y DU i atal troi neb allan o lety rhent cymdeithasol neu breifat mewn grym gyda thenantiaid Cymru.

Golyga mesurau amddiffyn newydd o dan y ddeddfwriaeth frys:

  • Na all landlordiaid gychwyn achos meddiannu yn arwain at droi tenantiaid allan am o leiaf dri mis yn ystod yr argyfwng
  • Caiff y gwyliau talu morgais tri-mis ei ymestyn i gynnwys morgeisiau Prynu i Rentu i amddiffyn landlordiaid

Meddai’r  gweinidog tai Julie James: Mae’n hanfodol na chaiff unrhyw rentwyr yng Nghymru eu gorfodi allan o’u cartref yn ystod y cyfnod anodd a digynsail hwn. Bydd y mesurau hyn yn lliniaru’r pwysau ar landlordiaid am daliadau morgais a lleihau’r pwysau ar denantiaid o ganlyniad.’

Fodd bynnag, dywedodd Plaid Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i amddiffyn tenantiaid, gan nodi bod Llywodraeth yr Alban wedi mynd ymhellach.

Dywedodd AC De-ddwyrain Cymru Delyth Jewell: ‘Gan fod tai wedi’i ddatganoli dylai Llywodraeth Cymru wneud yr hyn mae Llywodraeth yr SNP yn ei wneud yn yr Alban a chyflwyno deddfwriaeth sy’n gwahardd yn bendant unrhyw droi allan am y chwe mis nesaf, gydag opsiwn i ymestyn os bydd y cyfnod clo yn para’n hwy.’

Daeth y ddeddfwriaeth frys ar ôl i Lywodraeth Cymru symud i ddiwygio deddf bresennol i roi amddiffyniad gwarantedig o 12 mis o leiaf i rentwyr preifat yng Nghymru rhag cael eu troi allan ar ddechrau tenantiaeth newydd os nad ydyn nhw wedi torri telerau eu cytundeb.

Nod y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) yw cynyddu sicrwydd i rentwyr tra hefyd yn galluogi landlordiaid i feddiannu eu heiddo mewn da bryd pan fo angen.

Diweddu digartrefedd yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn, mewn egwyddor, argymhellion eang gan y Grŵp Gweithredu Digartrefedd i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Penodwyd y grŵp o arbenigwyr y llynedd i gynghori ar nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o ddiweddu pob math o ddigartrefedd neu sicrhau ei fod yn beth prin, byr-dymor a heb fod yn digwydd eto lle na allwyd ei atal.

Canolbwyntiai’r cyntaf o gyfres o adroddiadau, a gyhoeddwyd ym mis Hydref, ar y camau oedd eu hangen i fynd i’r afael â chysgu allan yn ystod gaeaf 2019/20 a’r camau angenrheidiol i’w atal yn y tymor hwy. Yn ei hymateb cychwynnol, cymerodd Llywodraeth Cymru gyfres o gamau ar unwaith i helpu mwy o bobl oedd yn cysgu allan i ddod i mewn o’r strydoedd.

Cyflwynodd y grŵp, dan gadeiryddiaeth Jon Sparkes, prif weithredydd Crisis, ei ail adroddiad a’r mwyaf cynhwysfawr ar y polisïau tymor- hir, strwythurol a strategol sydd eu hangen i ddiweddu digartrefedd ganol mis Mawrth. 

Cyllid digartrefedd ychwanegol i frwydro Covid-19

Cyhoeddodd y gweinidog tai, Julie James, £10 miliwn i helpu pobl ddigartref a phobl sy’n cysgu allan yn sgil haint y Coronafirws.

Bwriad yr arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru oedd galluogi awdurdodau lleol i sicrhau’r llety sydd ei angen i sicrhau y gellir amddiffyn a chefnogi rhai heb gartref a’u hynysu os bydd angen.

Gallai hyn gynnwys prynu blociau o stafelloedd gwesty neu wely a brecwast, llety myfyrwyr gwag ac adeiladau eraill i weithredu ochr yn ochr â’r ddarpariaeth bresennol, wedi eu rheoli i sicrhau y darperir cefnogaeth o ansawdd uchel, safonau hylendid a’r monitro priodol er mwyn canfod symptomau a salwch.

Gweithredodd gweinidogion hefyd i sicrhau bod rhai sydd heb hawl i arian cyhoeddus, fel dioddefwyr cam-drin domestig a cheiswyr lloches, yn cael eu cefnogi yn ystod yr haint.

Mae’r gyfraith gyfredol yn atal gweinidogion rhag cynnig rhai mathau o gefnogaeth iddynt, yn gynnwys cymorth tai. Cafodd awdurdodau lleol eu cyfarwyddo i ddefnyddio pwerau a chyllid amgen i gynorthwyo’r rhai sydd angen lloches a mathau eraill o gefnogaeth yn ystod y pandemig. Bydd hyn yn sicrhau y cânt eu cefnogi i gadw’n ddiogel ac yn iach. 

DAM wrth graidd adeiladu tai cymdeithasol

Dylai tai a gynhyrchir mewn ffatroedd fod wrth galon cyflenwi tai fforddiadwy yng Nghymru, meddai’r gweinidog tai Julie James.

Mae Llywodraeth Cymru am i awdurdodau lleol adeiladu llawer mwy o dai gyngor, a hynny’n gyflym, ond dywed eu bod yn wynebu’r un cyfyngiadau ag adeiladwyr tai traddodiadol.

Wrth lansio strategaeth newydd ym mis Chwefror i ysgogi dulliau adeiladu modern (DAM), dywedodd y gweinidog y byddent yn helpu cynghorau i adeiladu tai o well ansawdd yn gyflymach er mwyn ateb y galw cynyddol am gartrefi fforddiadwy ledled y wlad.

Fodd bynnag, mae a wnelo’r strategaeth â llawer mwy na thai, gyda gweinidogion yn synhwyro cyfleoedd i ddod  â buddiannau newydd i economi Cymru.

Mae ailddychmygu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru yn cynnwys cynlluniau i ddefnyddio asedion cenedlaethol fel pren a dur Cymreig, datblygu sgiliau yn y cymunedau sydd wedi dioddef waethaf trwy ddirywiad diwydiant traddodiadol, a rhaglen hyfforddi i gyn-garcharorion.

A gwelir hynny fel rhan allweddol o uchelgais Llywodraeth Cymru am leihau allyriadau carbon o dai a symud tuag at economi gylchol trwy leihau gwastraff adeiladu o hyd at 90 y cant. Mae’r strategaeth yn disgrifio sut i symud fesul cam tuag at DAM, gan gychwyn gyda’r systemau panelog sy’n fwyaf cyffredin ar y foment, a symud tuag at y dulliau cyfeintiol mwyaf effeithlon.

Mae gweinidogion hefyd yn buddsoddi’r swm sylweddol o £45 miliwn yn y diwydiant tai modiwlar yng Nghymru.

Ymgynghoriadau

CYMRU

CTCC yn cael ei huwchraddio

Cafodd Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd (CTCC) ei huwchraddio a’i dychwelyd i’r safon parthed llywodraethiant a gwasanaethau ddiwedd mis Mawrth – ddwy flynedd ar ôl cael ei his-raddio gan y rheoleiddiwr.

Dechreuodd y broses wellia gyda newidiadau ar y bwrdd gydag aelodau newydd a chadeirydd newydd. Penodwyd uwch-dîm rheoli newydd sbon dan arweiniad y prif weithredydd Hayley Selway. Yn y Dyfarniad Rheoleiddio, cadwodd CTCC ei safle safonol ar gyfer rheolaeth ariannol hefyd.

Mae’r dyfarniadau rheoleiddio  diweddaraf ar gyfer cymdeithasau tai Cymru ar gael yn www.llyw.cymru/dyfarniadau-rheoleiddio

Pennaeth Newydd yn Cymoedd i’r Glannau

Bydd Joanne Oak yn cychwyn fel prif weithredydd newydd Cymoedd i’r Glannau ym mis Mai. A hithau’n gyfrifydd cymwys gyda mwy na dau ddegawd o brofiad o arweinyddiaeth uwch ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, bydd yn cymryd lle’r prif weithredydd dros-dro, Duncan Forbes, yn y gymdeithas adeiladu a leolir ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

A hithau â phrofiad o arweinyddiaeth, rheoli newid, cynllunio strategol, rheolaeth ariannol a llywodraethiant, mae’n symud o Ofal Cymdeithasol Cymru lle bu’n gyfarwyddydd strategaeth a gwasanaethau corfforaethol, ynghyd â bod yn aelod o fwrdd Bron Afon ac yn un o ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau.

CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW

1) 50 Out-of-the-box housing solutions to homelessness and housing exclusion

Housing Solutions Platform, Ionawr 2020

www.housing-solutions-platform.org/

2) Strategaeth Dulliau Adeiladu Modern ar gyfer Tai Cymdeithasol

Llywodraeth Cymru, Chwefror 2020

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-02/strategaeth-adeiladu-tai-cymdeithasol.pdf

3) The Case for a Welsh Benefits System

Sefydliad Bevan, Chwefror 2020

www.bevanfoundation.org/publications/the-case-for-a-welsh-benefits-system/

4) UK Poverty 2019/20

Sefydliad Joseph Rowntree, Chwefror 2020

https://www.jrf.org.uk/report/uk-poverty-2019-20

5) Making Housing Affordable Again: Rebalancing the Nation’s Housing System

Y Comisiwn Tai Fforddiadwy, Mawrth 2020

www.affordablehousingcommission.org/news/2020/3/23/making-housing-affordable-again-rebalancing-the-nations-housing-system-the-final-report-of-the-affordable-housing-commission

6) Local authority new build programmes and lifting the HRA borrowing caps – What is the potential and what are the constraints?

Sefydliad Tai Siartredig, National Federation of ALMOs, ARCH, Ionawr 2020

www.cih.org/publication-free/display/vpathDCR/templatedata/cih/publication-free/data/Local_authority_new_build_programmes_and_lifting_the_HRA_borrowing_caps

7) It was like a nightmare – the reality of sofa surfing in Britain today

Crisis, Ionawr 2020

www.crisis.org.uk/ending-homelessness/homelessness-knowledge-hub/types-of-homelessness/it-was-like-a-nightmare-the-reality-of-sofa-surfing-in-britain-today/

8) Alternative Approaches to Resolving Housing Disputes

CaCHE, Chwefror 2020

https://housingevidence.ac.uk/publications/alternative-approaches-to-resolving-housing-disputes/

9) Capturing Increases in Land Value

CaCHE, Ionawr 2020

housingevidence.ac.uk/publications/capturing-increases-in-land-value/

10) Working hard(ship). An exploration of poverty, work and tenure

Resolution Foundation, Chwefror 2020

www.resolutionfoundation.org/publications/working-hardship/

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »