Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio yn fuan – a thema’r rhifyn Gaeaf hwn o WHQ yw tai a phobl hŷn.
Cydnabyddir yn gynyddol y rhan hanfodol i bydd angen i dai ei chwarae, ochr yn ochr â gwasanaethau cyhoeddus eraill, i ni allu cyflawni’r uchelgais o wneud Cymru yn wlad orau’r byd i heneiddio ynddi. Ond fel y dywed y Comisiynydd Pobl Hŷn, Heléna Herklots, nid yw materion tai yn cael digon o sylw o hyd, yn enwedig ar lefel y DU.
Yn y cyfamser, mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw’r ddarpariaeth dai yn gymesur â’r ddemograffeg o hyd.
Ac os yw’r blaenoriaethau ar gyfer polisi tai oed-gyfeillgar yn glir, mae adroddiad David Robinson ar ymchwil fanwl mewn un rhan o ogledd Lloegr yn awgrymu bod bwlch sy’n destun gofid rhyngddynt a’r dewisiadau tai go iawn sydd ar gael i bobl hŷn ar lawr gwlad.
Mae darparwyr tai yng Nghymru yn gweithio’n galed i bontio’r bwlch hwnnw â phrojectau newydd a syniadau newydd. Mae Rebecca Mollart a Chris Thomas yn archwilio arfer da o ran cefnogi pobl LGBT hŷn mewn tai gwarchodol a thai ymddeol, mae Angela Stacey yn esbonio sut yr aeth Trivallis ati i adnewyddu ei dai gwarchodol hen-ffasiwn, ac mae Richard Sheahan yn ystyried sut y mae technoleg gynorthwyol o fudd i bobl hŷn mewn tai gofal-ychwanegol a gwarchodol ym Mlaenau Gwent.
I gloi, mae Chris Jones yn adrodd ar waith Gofal a Thrwsio Cymru i gefnogi mwy na 30,000 o bobl hŷn i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi, a Bill Rowlands yn edrych ar broject newydd i helpu pobl sy’n byw gyda dementia yng Nghwm Taf.
Y tu allan i’n thema ganolog, mae Clare Budden yn adrodd ar ymdrechion ClwydAlun i gyflawni ei nod dymor-hir o beidio â throi neb allan, a Jenny Preece yn edrych ar y dystiolaeth ddiweddaraf ar sut a pham y gwrthodir tai i bobl.
Ceir diweddariad ar reoleiddio gan Doug Elliott ynghyd ag erthygl gan Ceri Victory-Rowe ar ddatblygu’r model newydd ar gyfer llywodraethiant cymdeithasau tai.
Mae Jocelle Lovell hithau yn amlinellu casgliadau ymchwil newydd i fuddiannau tai cydweithredol a rhai dan arweiniad y gymuned.
Gyda hyn oll, y manylion llawn am holl enillwyr Gwobrau Tai Cymru a’n holl nodweddion rheolaidd, mae’r rhifyn hwn yn fan cychwyn i’r hyn a fydd yn 2020 brysur.
Jules Birch, Golygydd, WHQ