English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI YNG NGWEDDILL Y DU

Y DU

Torïaid buddugoliaethus am ddad-rewi budd-daliadau

Cafodd Ceidwadwyr Boris Johnson fuddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad ar gefn enillion yng ngogledd a chanolbarth Lloegr ac yng Nghymru.

Mae’r canlyniad yn codi’r cwestiwn i ba raddau y bydd tai yn rhan o’r ‘chwyldro isadeiledd’ a’r ail-gydbwyso buddsoddi a addawyd ym maniffesto’r Torïaid

Ac erys cwstiynau mawr parthed sut, os o gwbl, y bydd San Steffan yn darparu cylid datblygu rhanbarthol i gymryd lle’r hyn a ddaw o Frwsel ar hyn o bryd.

Ond ar lefel y DU, mae oblygiadau mwyaf y canlyniad ar gyfer tai yn dibynnu ar yr hyn fydd yn digwydd gyda nawdd cymdeithasol a diwygiadau lles.

Golyga’r canlyniad y bydd budd-dâl cynhwysol yn dal i gael ei gyflwyno, er i faniffesto’r Torïaid addo ‘gwneud mwy i sicrhau’ ei fod yn ‘gweithio ar gyfer y rhai mwyaf diymgeledd’.

Addawai’r maniffesto hefyd y byddai budd-daliadau’n cael eu dad-rewi, er bod hynny i fod i ddigwydd yn Ebrill 2020 p’run bynnag, tra’n sicrhau ‘ei bod hi’n talu i weithio mwy o oriau’.

Mewn digwyddiad hystings tai yn ystod yr ymgyrch, dywedodd is-weinidog tai y byddai’r dad-rewi yn cynnwys lwfans tai lleol hefyd – er y bydd rhaid aros i weld beth fydd hynny’n ei olygu o safbwynt y diffygion yn erbyn rhenti sydd wedi cronni dros y degawd diwethaf.

 

LLOEGR

Agenda tai’r llywodraeth newydd yn ymffurfio

Ymddengys y bydd perchentyaeth yn dychwelyd i frig agenda tai’r llywodraeth yn Lloegr yn sgil buddugoliaeth y Ceidwadwyr.

Dadleuai maniffesto’r Torïaid mai ‘perchentyaeth yw un o’r gwerthoedd Ceidwadol mwyaf sylfaenol’ a bod angen i bobl ifanc gael gwybod ei bod o fewn eu cyrraedd.

Mae polisïau perchentyaeth penodol yn cynnwys cynllun i werthu cartrefi ar ostyngiad i brynwyr lleol, a chefnogi morgeisi cyfradd-sefydlog hirdymor i ostwng cost adneuon.

Fodd bynnag, roedd y maniffesto hefyd fel pe bai’n israddio nod y llywodraeth o 300,000 o gartrefi newydd yn Lloegr erbyn canol y 2020au trwy ei osod ochr yn ochr â’r targed blaenorol (ac is) o ‘o leiaf filiwn yn fwy o dai’ yn ystod y senedd nesaf. Cadarnhawyd yr argraff hon gan sylwadau cefndir ar Araith y Frenhines nad oeddynt yn cyfeirio at y nod o 300,000.

Ar gyfer deiliadaethau eraill, bydd y llywodraeth yn ‘ymrwymo i adnewyddu’ Cynllun Cartrefi Fforddiadwy Lloegr er mwyn darparu ‘cannoedd o filoedd o gartrefi newydd’ er na roddwyd manylion hyd yma.

Yn fwyaf trawiadol, addawodd ddod â chysgu allan i ben erbyn diwedd y senedd nesaf trwy ehangu’r Fenter Cysgu Allan a Thai yn Gyntaf a gweithio i ddod â gwasanaethau lleol ynghyd.

Addawodd Araith y Frenhines hefyd:

  • Mesur Diwygio i Rentwyr a fydd yn atal troi allan heb fai o dan Adran 21 ac yn creu blaendal oes newydd ar gyfer tenantiaid, tra’n cynnig mwy o hawliau adennill meddiant i landlordiaid ac achosion llys cyflymach.
  • Mesur Diogelwch Adeiladau a Mesur Diogelwch Tân i weithredu diwygiadau ôl-Grenfell
  • Papur Gwyn Tai Cymdeithasol i ddilyn cynigion y Papur Gwyrdd am well rheoleiddio a mwy o iawndal i denantiaid.

YR ALBAN

Hwb iach i adeiladu tai

Cododd cyfradd cwblhau cartrefi newydd yn yr Alban i’w lefel uchaf er 2008 yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2019. Dengys yr ystadegau swyddogol y cwblhawyd 21,403 o gartrefi dros y 12 mis, cynnydd o 18 y cant ar 2018.

Cynyddodd y gyfradd cychwyn codi tai newydd o 22 y cant, i gyrraedd 23,700, yn cynnwys mwy nag 11,000 o gartrefi fforddiadwy.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Kevin Stewart:

‘O dai preifat i rai cymdeithasol, mae’n galonogol bod y nifer o dai newydd a gychwynnwyd ac a gwblhawyd eleni wedi cynyddu, gan ddaparu lle clyd, diogel y gallant ei alw’n gartref i fwy o bobl. Mae’r cynnydd yn dangos nerth sector adeiladu tai newydd yr Alban.

‘Byddwn yn parhau i gyrchu ein nod uchelgeisiol o ddarparu 50,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021.’

GOGLEDD IWERDDON

Straen tai yn uwch nag erioed

Mae nifer y teuluoedd mewn ‘straen tai’ wedi dyblu yng Ngogledd Iwerddon dros yr 16 mlynedd diwethaf.

Mae ffigurau a ryddhawyd gan yr Adran Cymunedau yn dangos bod mwy na 26,000 o aelwydydd ar y rhestr aros am dai cymdeithasol yn cwrdd â’r diffiniad o straen tai, gyda 30 neu fwy o bwyntiau dethol. Mae hyn yn golygu eu bod yn debygol o fod yn byw mewn llety anaddas neu anniogel.

Mae’r ffigur 9 y cant yn uwch o’i gymharu â blwyddyn yn ôl ac yn ddwbl y lefel yn 2002/03 pan ddechreuodd y gyfres ddata.

Yn y cyfamser, wrth i’r trafodaethau barhau ar ffurfio llywodraeth ddatganoledig newydd yn Stormont, rhybuddiodd Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Gogledd Iwerddon bod ‘amser yn prinhau’ ar gyfer gweithredu ar ymestyn mesurau lliniaru lles a gwrthdroi ailddosbarthu dyled.

Apeliodd y Prif Weithredydd Ben Collins at ysgrifennydd Gogledd Iwerddon i weithredu a rhybuddiodd y byddai lefelau straen tai a digartrefedd yn codi oni wnaed y ddau beth erbyn mis Mawrth.

 

LLYWODRAETH CYMRU

Rhenti i gynyddu o CPI+1% dros y pum mlynedd nesaf

Bydd rhenti tai cymdeithasol yng Nghymru yn cynyddu o’r gyfradd chwyddiant + 1 y cant am y pum mlynedd nesaf o dan gytundeb a gyhoeddwyd gan y gweinidog tai Julie James.

Mae’r cytundeb hirdymor hwn yn unol ag argymhellion yr adolygiad annibynnol o’r cyflenwad tai fforddiadwy, ac mae’n golygu y bydd cyfraddau ar gyfartaledd yn cynyddu o 2.7 y cant ym mis Ebrill 2020 (1 y cant ar ben y cynnydd o 1.7 y cant mewn chwyddiant).

Mae rhai amodau ynghlwm wrth y setliad rhent ac mae’n cynnwys rhywfaint o hyblygrwydd. Dywed llythyr at gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol mai:

  • CPI + 1 y cant yw’r cynnydd uchaf a ganiateir, ond dywed Llywodraeth Cymru na ddylid ei ystyried fel cynnydd otomatig – dylai landlordiaid ystyried fforddiadwyedd
  • Er mwyn caniatáu i landlordiaid ailstrwythuro rhenti lle bo angen, gellir gostwng rhenti tenantiaid unigol, eu rhewi neu eu cynyddu o £2 ychwanegol yr wythnos ar ben y CPI + 1%, ar yr amod nad yw cyfanswm incwm rhent y landlord yn cynyddu o fwy na CPI + 1%
  • Os yw CPI yn syrthio tu allan i’r amrediad 0 i 3 y cant, gall y gweinidog benderfynu ynglŷn â rhenti am y flwyddyn honno yn unig
  • Dylai landlordiaid cymdeithasol hysbysu Llywodraeth Cymru os bydd ganddynt bryderon ynghylch hyfywedd ariannol neu eu gallu i gyflawni eu hymrwymiadau i denantiaid a benthycwyr
  • Fel rhan gynhenid o’r polisi, bydd disgwyl i landlordiaid bennu polisi rhent a thaliadau gwasanaeth sy’n sicrhau bod tai cymdeithasol yn parhau i fod yn fforddiadwy i denantiaid presennol a rhai’r dyfodol – a dylid trafod asesiad o effeithlonrwydd cost, gwerth am arian a fforddiadwyedd mewn cyfarfodydd bwrdd, cabinet neu gyngor.

Mae’r llythyr at landlordiaid cymdeithasol hefyd yn nodi cytundeb ehangach gyda chyrff cynrychioladol yn gysylltiedig â’r setliad rhent. O dan hwn bydd y landlordiaid yn:

  • Cryfhau eu dulliau gweithredu i sicrhau cyn lleied â phosib o droi allan, a dim troi allan a fyddai’n gwneud pobl yn ddigartref
  • Cynnal arolwg boddhad tenanatiaid safonol a darparu data i’w gyhoeddi ar wefan ganolog er mwyn helpu tenantiaid i graffu a chymharu perfformiad landlordiaid. Bydd y canlyniadau cyntaf ar gael ym mis Ebrill 2021 a phob dwy flynedd wedi hynny
  • Anelu at uchelgais y bydd safonau gofod GAD 2020 mewn grym ar gyfer pob deiliadaeth ar safleoedd a dderbyniodd gyllid gan Lywodraeth Cymru, i’w weithedu fesul cam o 2021
  • Gweithio tuag at uchelgais y bydd unrhyw dai newydd, beth bynnag fo’u deiliadaeth, yn cyrraedd safonau effeithlonrwydd ynni EPC A o leiaf ar safleoedd a dderbyniodd gyllid gan Lywodraeth Cymru, i’w weithredu fesul cam o 2021

Dywedodd Stuart Ropke, prif weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: ‘Rydym yn falch fod y gweinidog wedi ymateb heddiw i’r galw gan gymdeithasau tai, a chyflwyno setliad rhent tymor-hir a chynaliadwy.

Bydd y sicrwydd hwn yn caniatáu i gymdeithasau tai yng Nghymru weithio gyda thenantiaid i bennu rhenti sy’n wirioneddol fforddiadwy a sicrhau y gall cymdeithasau barhau i adeiladu a buddsoddi yn y cartrefi o ansawdd y mae ar Gymru gymaint o’u hangen’

Croesawodd David Wilton, prif weithredydd TPAS Cymru, y setliad am ddarparu ‘mesur mwy o sicrwydd i’r sector ac, i raddau, i denantiaid’ ond ychwanegodd: ‘Tra credwn y bydd defnyddio arolygon boddhad tenantiaid o fudd i ddibenion craffu, mae ar denantiaid angen mwy o dryloywder a rhan yn y broses benderfynu strategol ehangach.’

‘Yn enwedig, os codir rhent uwch ar denantiaid na’r lefelau CPI cyfredol, yna mae’n rhaid rhoi llais llawer cryfach i denantiaid yn y broses benderfynu er mwyn canfod pa werth am arian y gallant ei ddisgwyl pan fyddant yn talu’r cyfraddau uwch hyn.’

Meddai Matt Dicks, cyfarwyddydd STS Cymru: ‘Dylai’r sicrwydd mwy sy’n deillio o’r setliad hwn fynd law yn llaw â‘r un sicrwydd parthed lefelau grant tai cymdeithasol a rhagolygon tymor-hir ar gyfer y gefnogaeth sydd ar gael i sefydliadau i wella ansawdd cartrefi presennol a sicrhau safonau ansawdd uwch ar gyfer cartrefi yn y dyfodol.’

Ymgyrch yn erbyn digartrefedd cudd

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd bwysig i gynyddu ymwybyddiaeth o’r ffaith ‘nad yw digartrefedd bob amser yn byw ar y strydoedd’.

Mae’r ymgyrch i fynd i’r afael â digartrefedd cudd wedi ei hanelu at bobl ifanc sydd mewn perygl o fod – neu sydd eisoes – yn ddigartref, ac mae hefyd yn cynghori’r cyhoedd ar beth i’w wneud os ydynt yn poeni am rywun o’u cydnabod. Mae ymchwil yn awgrymu bod y mwyafrif helaeth yn cysylltu digartrefedd â chysgu allan yn unig – ond nid dyna sefyllfa’r rhan fwyaf o bobl ifanc ddigartref.

Noda’r ymgyrch y gall pobl fod yn ddigartref, hyd yn oed os oes ganddynt do dros eu pennau. Gallant fod yn ‘syrffio soffa’ yng nghartref ffrind, neu’n aros mewn llety dros-dro fel hostel, lloches nos neu wely-a-brecwast, neu’n byw mewn amgylchiadau gwael dros ben neu rywle nad yw’n addas iddyn nhw neu eu teulu.

Mae’r rheini sy’n dioddef digartrefedd cudd yn debycach hefyd o fod mewn perygl o gael eu hecsploetio – yn enwedig pobl ifanc.

Nod yr ymgyrch yw sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn y cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol cyn gynted â phosib, gan eu hatal rhag mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf.

Meddai’r gweinidog tai, Julie James: ‘Gwyddom na ŵyr llawer o bobl ifanc lle i gael cyngor a chefnogaeth – felly dyna pam rydym yn lansio’r ymgyrch newydd hon. Os credwch eich bod yn dioddef digartrefedd cudd neu’n debyg o wneud, ceisiwch help nawr. Dyw hi byth yn rhy hwyr neu’n rhy gynnar i gael help.’

Mae Llywodraeth Cymru yn cyllido Shelter Cymru i ddarparu cyngor a chefnogaeth annibynnol gyda thai. Mae’r gwasanaeth hefyd yn rhoi pobl mewn cysylltiad â sefydliadau a all gynnig gwasanaethau cefnogi yn seiliedig ar anghenion unigol.

Meddi cyfarwyddydd Shelter Cymru, Jon Puzey: ‘Mae’n wych bod Llywodraeth Cymru yn cymryd hyn gymaint o ddifri ac yn ein helpu i gyrraedd mwy o bobl ifanc. Gyda’r ymgyrch hon, rydym yn gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gwybod bod Shelter Cymru yma i’w helpu.

Am gymorth a chefnogaeth, gallwch alw Shelter Cymru ar 08000 495 495 neu ddysgu mwy yn www.sheltercymru.org.uk/cy/digartrefeddcudd/

Hwb i dai yn y gyllideb ddrafft

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn dyrannu £175 miliwn arall o gyllid cyfalaf ar gyfer tai yn 2020/21, a fydd yn gyfanswm o £2 biliwn o fuddsoddiad yn ystod y Cynulliad hwn.

Mae’r cyfanswm yn y Gyllideb Ddrafft a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr yn cynnwys grantiau, cyllid a glustnodwyd a benthyciadau a wnaed trwy drafodion ariannol, ac mae’n golygu y buddsoddir £400m y flwyddyn nesaf. Dywed gweinidogion eu bod ar y trywydd iawn i gyrraedd y nod o 20,000 o gartrefi newydd fforddiadwy yn nhymor y Cynulliad hwn.

O hyn, ymddengys mai cyllid grant yw’r pedair elfen uchaf, cyfanswm o £65m, tra bod y pedair isaf, cyfanswm o £113.4m, yn fenthyciadau neu drafodion ariannol.

Mae dadansoddiad gan Gartrefi Cymunedol Cymru yn amcangyfrif y bydd cyllid ar gyfer Grant Tai Cymdeithasol yn cynyddu o £188.2m yng Nghyllideb Atodol 2019/20 i £223.2m yn 2020/21 – cynnydd o 19 y cant. Bydd cyllid cyfalaf adfywio yn cynyddu o 81 y cant, o £28.6m i £51.8m.

Meddai Stuart Ropke, prif weithredydd CCC: ‘Mae Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, wedi blaenoriaethu datrys argyfwng tai Cymru, ac mae’r cyhoeddiad heddiw o £133m ar gyfer tai cymdeithasol yn hwb aruthrol i’n gwaith o adeiladu’r cartrefi gwirioneddol fforddiadwy mae ar Gymry gymaint o’u hangen.’

Croesawodd Katie Dalton, cyfarwyddydd Cymorth Cymru, y cynnydd mewn cyllid ar gyfer tai cymdeithasol, ond dywedodd ei bod yn siomedig nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r Grant Cefnogi Tai ar gyfer 2020/2021: ‘Mae gwasanaethau digartrefedd a chefnogaeth tai ar ymyl y dibyn, ac anogwn Lywodraeth Cymru i ailfeddwl ei dyraniad, a chynyddu’r Grant Cefnogi Tai yn ei chyllideb derfynol ym mis Chwefror.’

Bydd ‘sylw dyledus’ i’r hawl i dai yn y Mesur

Cadarnhaodd y gweinidog tai, Julie James, y byddai’r hawl i dai digonol yn ymddangos fel dyletswydd ‘sylw dyledus’ ym Mesur Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

Tra’n siarad yn y Senedd ym mis Tachwedd, cadarnhaodd yr hyn roedd eisioes wedi’i ddweud yn y pwyllgor, gan ddweud y câi’r dyletswydd ei gynnwys yn y canllawiau statudol a roddir i awdurdodau lleol os daw’r mesur yn ddeddf.

Er nad yw dyletswydd ‘sylw dyledus’ yn cynnwys hawl i dai digonol y gellir ei gorfodi, bydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddangos eu bod wedi meddwl am yr hawl fel rhan ganolog o’u prosesau polisi a phenderfynu, proses a all fod yn destun her mewn llys. Nod y ddyletswydd ‘sylw dyledus’ yw symbylu newid cadarnhaol a chanolbwyntio mwy o adnoddau ar dai.

Mynegodd gweinidog tai yr wrthblaid, y Ceidwadwr David Melding, ei siom na fydd yr hawl i dai digonol yn cael ei sgrifennu i mewn i gyfraith Cymru, a dadleuodd mai hwn oedd y cyfle i’w wneud yn y Cynulliad hwn

Mae STS Cymru, Tai Pawb, a Shelter Cymru, ynghyd â Dr Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe, wedi bod yn ymgyrchu o blaid ymgorffori’r hawl yn llwyr, ac yn gynharach eleni cyhoeddwyd astudiaeth ddichonoldeb.

Mewn cyd-ddatganiad, croesawodd y pedwar sefydliad gyhoeddiad y gweinidog a dweud: ‘Er nad yw mor effeithiol ag ymgorffori’n llawn, mae gan fabwysiadu dull “sylw dyledus” y potensial i ysgogi newid cadarnhaol a gweithredu fel catalydd i adnoddau pellach – gan arwain, gobeithio, at well canlyniadau i bobl sydd yn, neu mewn perygl o fod, yn ddigartref.’ Edrychwn ymlaen at fonitro hynt y bil ac at gymryd rhan mewn sesiynau tystiolaeth.’

Parhaodd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Mesur tan Ionawr 3.

Gallai Llywodraeth Cymru atal datblygiadau gwael

Gallai datblygiadau tai yng Nghymru nad ydynt o ansawdd uchel neu heb eu dylunio i helpu i greu cymunedau cryf, cynaliadwy gael eu hatal yn y dyfodol meddai’r gweinidog tai Julie James wrth gynhadledd gynllunio ym mis Rhagfyr.

Yng nghynhadledd y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghaerdydd, i nodi blwyddyn gyntaf Polisi Cynllunio Cymru y Llywodraeth, nododd sut y mae’n bwriadu gwireddu ei ddull o fynd ati i greu lleoedd.

Mae creu lleoedd, sydd bellach wrth graidd polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru, yn sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn ystyried pob agwedd ar lesiant ac yn creu datblygiadau newydd sy’n gynaliadwy ac yn ateb anghenion pobl.

Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys datblygiadau sydd

  • yn sicrhau’r cartrefi iawn yn y mannau iawn ar gyfer y bobl sydd â fwyaf o’u hangen
  • â llwybrau cerdded a beicio yn rhan ohonynt, gan roi dewis amgen i ddefnyddio ceir
  • wedi eu rhedeg a’u gwresogi gan ynni adnewyddadwy, ac yn ynni-effeithlon
  • yn cynnwys mannau gwyrdd agored
  • yn lleihau gwastraff i’r eithaf a meddwl yn glyfar am yr economi gylchol er mwyn lleihau costau a’r ôl-troed carbon

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried ar hyn o bryd pa newidiadau y gellir eu gwneud i alluogi gweinidogion i weld ceisiadau nad ydynt yn mabwysiadu’r agwedd newydd hon.

A dylid defnyddio’r cymorth ariannol mae’n ei ddarparu trwy gyfrwng mecanweithiau fel grantiau tai, Cymorth i Brynu a chyllid adfywio i gymell arfer da.

Papurau ymgynghori

  • Adolygiad rhan L o reoliadau adeiladu – https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2019-12/dogfen-ymgynghori-adolygiad-rhan-l-o-reoliadau-adeiladu.pdf

Ymatebion erbyn Mawrth 12.

 

CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW

 1)    A home for all: Understanding migrant homelessness in Great Britain

Crisis, Tachwedd 2019

www.crisis.org.uk/ending-homelessness/homelessness-knowledge-hub/types-of-homelessness/a-home-for-all-understanding-migrant-homelessness-in-great-britain-2019/

2)  Asesu buddion posibl byw mewn tai cydweithredol a/neu dai dan arweiniad y gymuned   

Canolfan Cydweithredol Cymru, Tachwedd 2019

wales.coop/wp-content/uploads/2019/11/CCLH-Report-2019-cy.pdf

3) Anchor Towns

Sefydliad Bevan, Tachwedd 2019

www.bevanfoundation.org/publications/anchor-towns/

4) Understanding landlords’ approaches to tenant participation

UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Rhagfyr 2019

housingevidence.ac.uk/publications/understanding-social-housing-landlords-approaches-to-tenant-participation/

5) Housing insecurity, homelessness and populism: Evidence from the UK

Prifysgol Warwick, Rhagfyr 2019

wrap.warwick.ac.uk/131016/

6) Valuing more than money: Social value and the housing sector

Institute for Public Policy Research, Tachwedd 2019

www.ippr.org/research/publications/valuing-more-than-money

7) The impact of Universal Credit – Examining the risk of debt and hardship among social housing residents

Peabody, Hydref 2019

www.peabody.org.uk/media/13678/universal_credit_report-lr.pdf

8) Housebuilding: a century of innovation

Sefydliad NHBC, Hydref 2019

www.nhbcfoundation.org/publication/house-building-a-century-of-innovation/

9) Rethinking Intergenerational Housing

Matter Architecture, Tachwedd 2019

www.matterarchitecture.uk/research/intergenerational-housing/

10)  Inequality Street – Housing and the 2019 general election

Sefydliad Resolution, Tachwedd 2019

www.resolutionfoundation.org/publications/inequality-street/

 

CYMRU

Tai Tarian i fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030

Mae Tai Tarian wedi ymrwymo i fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030 gyda chynllun gweithredu yn cynnwys mesurau perfformiad ynni ar gyfer ei 9,000 o gartrefi, troi at gludiant trydan a mesurau cymudo amgen, a phlannu coed.

Dechreuodd y sefydliad blannu coed yn helaeth a chychwyn ar raglen fioamrywiaeth ym mis Tachwedd gyda rhodd o 420 o goed gan Coed Cadw i’w plannu yn Nyffryn Afan.

Bydd Tai Tarian yn ymuno â disgyblion o Ysgol Gynradd Croeserw i blannu coed ym Mharc Croeserw, llwybr natur sydd newydd gael ei greu gan y darparwr tai.

Meddai’r prif weithredydd, Linda Whittaker: ‘Plannu coed yw un o’r ffyrdd mwyaf pwerus y gallwn leihau effaith newid hinsawdd, rhywbeth y mae gennym ymrwymiad anferth i fwrw ymlaen ag ef.’

Mae’n cynlluniau gweithredu o nawr tan 2030 yn cynnwys:

  • Buddsoddi’n helaeth mewn cartrefi, gan wella’r perfformiad ynni lle bynnag y bo modd
  • Defnyddio technoleg newydd i wneud cartrefi ac adeiladau masnachol yn glyfrach
  • Parhau i wneud ynni adnewyddadwy mewn cartrefi newydd yn gost-effeithiol
  • Cychwyn rhaglen helaeth o blannu coed a bioamrywiaeth
  • Newid cerbydau’r gymdeithas i redeg ar drydan yn raddol
  • Annog gweithwyr i ddefnyddio llai ar eu ceir trwy rannu ceir, beicio neu ddulliau eraill
  • Gweithio’n fwy hyblyg, naill ai o’r cartref neu o hybiau cymuned, gan leihau pellteroedd teithio
  • Rhannu gwersi i helpu cydweithwyr a chwsmeriaid i addasu eu hymddygiad.

 

Penododd Grŵp Cynefin bedwar aelod newydd i ymuno â’i fwrdd rheoli 10-aelod. Y bwrdd sy’n cyfarwyddo gwaith y gymdeithas, sy’n rheoli 4,800 o unedau eiddo ledled gogledd Cymru a’r Canolbarth. Yn y llun (chwith i’r dde) gwelir Geraint George, a dreuliodd fwy na 25 mlynedd gyda Chyngor Gwynedd ac a fu hefyd yn eistedd ar fwrdd Canllaw; Jane Lewis, a fu’n gweithio mewn cyllid yn y sector preifat ers mwy nag 20 mlynedd; Mike Corfield, a fu’n gweithio yn y sector tai cymdeithasol ers mwy na 30 mlynedd, ac sydd â chefndir mewn llywodraethiant; a Tony Jones, a fu’n ymwneud â thai cymdeithasol ers 15 mlynedd.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »