Mae momentwm yn cynyddu y tu ôl i’r economi sylfaenol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Debbie Green sy’n disgrifio’r sefyllfa.
Fel gwlad fechan ag ymrwymiad i weithredu deddf arloesol Llesiant a Chenhedlaethau’r Dyfodol, mae Cymru eisoes mewn sefyllfa dda i feddwl am wneud pethau’n wahanol. Ac ar adeg pan mae hi’n amlwg bod cryn anfodlonrwydd cyhoeddus ynghylch ein sefydliadau democrataidd, pryderon am ‘lefydd wedi cael eu gadael ar ôl’ ac anghydraddoldeb cynyddol, mae Cymru’n bachu ar y cyfle i feddwl yn wahanol am bolisi economaidd
Mae cwestiynau’n cael eu gofyn ynglŷn â sut mae economi dda yn edrych ac yn teimlo i ddinasyddion yng Nghymru, a sut mae creu ffyrdd ystyrlon o fesur gweithgaredd economaidd, yn ychwanegol at y Cynnyrch Domestig Gros (GDP) a’r Gwerth Ychwanegol Gros (GVA), sy’n llawn gydnabod y cysylltiad rhwng yr economi, gweithgaredd ystyrlon, creu cyfalaf cymdeithasol, a llesiant.
Yn 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Economaidd newydd, a’r pwrpas penodol o ‘gefnogi creu Ffyniant i Bawb’. Yn ei weledigaeth ar gyfer twf cynhwysol, mae’n disgrifio nod deublyg o dyfu’r economi a lleihau anghydraddoldeb. Ceisia’r ddogfen ‘sbarduno buddsoddi cyhoeddus â phwrpas cymdeithasol’ ac mae’n cynnwys gofynion penodol ar fusnesau, megis cytuno i agenda gwaith teg, hybu iechyd, llesiant ac addysg mewn gwaith, ac ymrwymiad i ddatgarboneiddio.
Yn arwyddocaol, am y tro cyntaf mewn dogfen bolisi economaidd brif-ffrwd gan lywodraeth, cynhwyswyd yr economi sylfaenol hefyd. Roedd hyn yn cydnabod yn benodol bod yna ran (a anwybyddir neu a esgeulusir yn aml) o’r economi ‘sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol ac yn chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl a chymunedau’. Aeth y ddogfen ymlaen i sôn am ‘nifer gyfyngedig o sectorau sylfaen, twristiaeth, bwyd, manwerthu a gofal’. Achosodd y dull hwn o fynd ati fesul sector, er mai dyma ymateb traddodiadol llywodraeth i ymyriad economaidd, rywfaint o ddryswch i economegwyr sylfaenol, a welai’r agenda fel un a oedd yn gofyn am feddwl a gweithredu arloesol a rhyng-gysylltiedig ar draws yr holl weithgaredd sylfaenol.
Cydnabuwyd bod symud o theori academaidd, i bolisi, i weithredu yn debygol o fod yn her wrth gyflawni agenda a oedd yn wahanol i’r paradeimau presennol. Felly yn 2018, yn ogystal â sefydlu Bwrdd Cynghori Gweinidogol i fwrw ymlaen â’r Cynllun Gweithredu Economaidd, sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Bwrdd Cynghori Gweinidogol ar yr Economi Sylfaenol. Magodd hwnnw fomentwm ychwanegol pan ymunodd Lee Waters, y dirprwy weinidog dros yr economi, â’r grŵp ddiwedd 2018, ac ehangu aelodaeth y grŵp.
Bellach mae’r aelodau’n dod o bob rhan o’r sector preifat, y sector menter cymdeithasol a’r trydydd sector, ac o blith arbenigwyr mewn diwydiant, yn ogystal ag elwa ar academyddion, TUC Cymru a chyrff eraill. Ehangwyd cwmpas y gwaith hefyd i edrych ar yr economi sylfaenol yn ei chrynswth, yn hytrach na’i gyfyngu i’r pedwar sector a nodwyd uchod. Cynulliwyd y grŵp er mwyn cynnig safbwyntiau’n seiliedig ar wybodaeth ac arbenigedd unigolion, i ategu ac ychwanegu gwerth at ffynonellau cyngor presennol a ddarperir gan y gwasanaeth sifil ac eraill. Mae’r grŵp hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i hyrwyddo cydlyniad strategol ar draws adrannau’r llywodraeth a thu hwnt.
Un o gamau cynnar y grŵp gorchwyl a gorffen oedd gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnal digwyddiad ar yr economi sylfaen yn gynnar yn 2019 ar gyfer gweision sifil a budd-ddeiliaid perthnasol. Fe’i mynychwyd gan nifer da. Ymhlith eraill, clywyd gan ymarferwyr sy’n gweithio yn unol ag egwyddorion economi sylfaenol yn Barcelona, Preston, y sector gofal, ac ym maes caffael, yn ogystal â chan nifer o endidau yn cynnwys micro-gwmnïau sylfaenol a busnesau bach a chanolig, yn y sectorau gwneud-elw a di-elw ill dau.
Yn dilyn hyn, er mwyn helpu i droi polisi’yn weithredu, ym mis Mai 2019 lansiwyd Cronfa Her Economi Sylfaenol gwerth £3 miliwn. Anelir y gronfa at rai sy’n ymwneud â gweithgareddau busnes sylfaenol, er enghraifft, gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth a manwerthu ar y stryd fawr. Cynigid cyllid o hyd at £100,000 i gynorthwyo sefydliadau i arloesi o fewn yr economi sylfaenol ac i helpu gyda dysgu ‘beth sy’n gweithio’, a denodd ymhell dros 200 o geisiadau. Y gobaith yw y bydd y sefydliadau a’r projectau hynny y dyfernir cyllid iddynt yn darparu gwersi gwerthfawr am yr hyn sydd eisoes yn gweithio ac y gellir ei efelychu, a’r hyn y gall y llywodraeth naill ai barhau i’w wneud, dechrau ei wneud, neu roi’r gorau i’w wneud, i helpu’r economi sylfaenol yng Nghymru i dyfu’n gryfach.
Dyddiau cynnar yw’r rhain o hyd o ran ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r economi sylfaenol er budd i Gymru ond mae llawer o ewyllys da a chytundeb ar bwysigrwydd hyn. Rydym yn dal i ystyried beth y mae’n ei olygu yn ymarferol, ac mewn perthynas â chysoni agendâu ar draws y llywodraeth, ond mae hwn yn ddechrau addawol.
Debbie Green yw prif weithredydd Grŵp Tai’r Arfordir a chadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Bwrdd Cynghori Gweinidogol ar yr Economi Sylfaenol