Datblygiadau polisi mewn rhannau eraill o’r DU
Y DU
Dim newyddion am rewi budd-daliadau yn y rownd wariant
Yn ei rownd wariant ym mis Medi, cyhoeddodd Canghellor y DU, Sajid Javid, y gwelir cynnydd mewn cyllidebau adrannol yn unol â chwyddiant o leiaf yn 2020/21.
Disodlodd y rownd wariant yr adolygiad gwariant aml-flwyddyn a ddisgwylid, a bydd yn esgor ar £600 miliwn ychwanegol i Gymru o ganlyniad.
Fodd bynnag, doedd gan y canghellor ddim i’w ddweud ynglŷn â’r cwestiwn tai allweddol ledled y DU, sef beth fydd yn digwydd i fudd-daliadau, yn cynnwys Lwfans Tai Lleol (LTLl).
Daw’r cyfnod pedair-blynedd o rewi’r mwyafrif o fudd-daliadau oed-gwaith i ben yn 2020 a bu galwadau eang am ei wrthdroi trwy adfer y cysylltiad rhwng LTLl a rhenti.
Yn lle hynny, yr unig gyhoeddiad ar fudd-dâl tai yn y rownd wario oedd £40 miliwn ychwanegol ar gyfer Taliadau Tai Dewisol, sydd i fod i liniaru effaith toriadau, yn cynnwys rhewi budd-daliadau.
LLOEGR
Y Torïaid yn addo hawl i gyd-berchenogi
Caiff tenaniaid cartrefi cymdeithas tai newydd hawl i gyd-berchenogi mewn cynlluniau a gyhoeddwyd yng nghynhadledd y Ceidwadwyr gan yr ysgrifennydd tai, Robert Jenrick.
Dywedodd nad oedd gan 2.6 miliwn o deuluoedd sy’n byw mewn cartrefi cymdeithas tai gefnogaeth uniongyrchol i fynd yn berchentywyr. Tra bod 64 y cant am brynu eu cartref, dim ond 25 y cant sy’n disgwyl gallu gwneud hynny.
‘Dyna pam rydym am weithio gyda chymdeithasau tai ar sail wirfoddol i ganfod beth y gellir ei gynnig i’r rheini sy’n byw mewn eiddo cymdeithas tai presennol. Caiff tenantiaid mewn stoc newydd hawl otomatig i brynu cyfran o’u cartref, o gyn lleied â 10 y cant, gyda’r gallu i gynyddu’r gyfran honno dros amser hyd at berchenogaeth lawn.
‘Mae’r Blaid Geidwadol ar eu hochr nhw, ac mae’n falch o allu ymestyn y freuddwyd o fod yn berchen cartref i denantiaid cymdeithasau tai.’
Cyhoeddodd yr ysgrifennydd tai bapur gwyrdd hefyd ar gyflymu’r broses gynllunio ar gyfer cartrefi newydd, ac ar ymestyn y drefn ddatblygu ganiataëdig ddadleuol i gynnwys ymestyn eiddo i fyny ac ailddatblygu canol trefi.
YR ALBAN
Galw ar y cyd am hawl i dai
Mae sefydliadau tai wedi ymuno i alw am i’r hawl i dai gael ei gwneud yn hawl ddynol yn yr Alban.
Mae cyd-bapur a gyhoeddwyd i nodi Dydd Tai yr Alban ym mis Medi yn galw am ymgorffori deddfwriaeth hawliau dynol yng nghyfraith yr Alban er mwyn sicrhau bod gan bawb yr hawl i gartref diogel, fforddiadwy. Fe’i cefnogir gan Sefydliad Tai Siartredig yr Alban, Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban, Shelter yr Alban, Cymdeithas Prif Swyddogion Tai yr Awdurdodau Lleol, Cymdeithas Landlordiaid yr Alban, a Gwasanaeth Cynghori Cyfranogol Tenantiaid yr Alban.
Mae’r papur yn nodi y gallai deddfu o blaid hawliau dynol mewn deddfwriaeth ddomestig gynnig modd i ddinasyddion herio cynghorau, landlordiaid a’r llywodraeth pe baent yn tramgwyddo set leiafsymiol o hawliau, ac yn dadlau y byddai’r fath ymgorfforiad yn peri i ddarparwyr gwasanaethau adlewyrchu hawliau dynol yn well yn eu trafodaethau polisi.
Yn benodol, mae’r papur yn galw am well cysondeb ym mhrofiadau pobl mewn gwahanol fathau o ddeiliadaethau tai, boed yn rhentu cymdeithsol, rhentu preifat neu berchentyaeth. Noda hefyd, tra bod angen gwelliannau o ran argaeledd, fforddiadwyedd a hygyrchedd tai ar draws pob sector, bod llawer o broblemau tai ynghlwm â phrinder cartrefi fforddiadwy.
Croesawyd y papur gan yr ysgrifennydd cymunedau, Aileen Campbell ASA, a ddywedodd: ‘Mae tai yn rhan gynhenid o gymaint o’r hyn rydym am ei gyflawni, yn cynnwys dileu tlodi a digartrefedd, ymgodymu ag effeithiau newid hinsawdd, a hyrwyddo twf cynhwysol. Mae’n bryd i ni ddod ynghyd i lunio cyfundrefn tai gydnerth sydd yn ymateb i’r heriau hyn. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddasom ddrafft o weledigaeth ar gyfer ein cartrefi a’n cymunedau yn 2040 ac egwyddorion cynhaliol hynny, yn cynnwys yr hawl i gartref digonol. Yn y misoedd sydd i ddod, byddwn yn casglu barn amrywiaeth eang o bobl ynglŷn â sut i wireddu hyn.’
GOGLEDD IWERDDON
Gadewch i fesurau lliniaru lles barhau, meddai ASau
Galwodd dau bwyllgor dethol o ASau ar i lywodraeth y DU ymyrryd i ymestyn mesurau i liniaru toriadau mewn budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon am bedair blynedd arall.
Esgorwyd ar y cynllun lliniaru presennol gan lywodraeth ddiwethaf Stormont yn union cyn iddi chwalu yn 2017, i amddiffyn tenantiaid rhag y terfyn ar fudd-daliadau a’r dreth stafell wely. Daw’r cynllun i ben ym mis Mawrth 2020 ac fel y mae pethau, bydd miloedd o denantiaid yn wynebu toriadau i’w hincwm, heb lywodraeth yng Ngogledd Iwerddon o hyd.
Galwyd am hyn ym mis Medi mewn adroddiad ar cyd gan Bwyllgor Gwaith a Phensiynau a Phwyllgor Materion Gogledd Iwerddon San Steffan.
Dywedodd Nigel Mills, AS Ceidwadol Amber Valley a chadeirydd ymchwiliad y pwyllgorau: ‘Ni ellir gadael hawlwyr yng Ngogledd Iwerddon i ysgwyddo baich costau stoc tai annigonol ac effeithiau deifiol y Trafferthion.’
‘Mae miloedd o hawlwyr yn dibynnu ar y pecyn lliniaru nawdd cymdeithasol – ni ellir gadael iddo ddiweddu’n sydyn am fod coridorau a meinciau Stormont yn dal i sefyll yn wag.
‘Mae ein cyd-adroddiad heddiw yn galw ar yr ysgrifennydd gwladol i gydnabod difrifoldeb y sefyllfa hon, ac i gyflwyno deddfwriaeth ar fyrder yn San Steffan i ymestyn y pecyn lliniaru y tu hwnt i fis Mawrth 2020.’
CYMRU A LLOEGR
22 y cant yn fwy o farwolaethau ymhlith y digartref
Amcangyfrifwyd y bu 726 o bobl ddigartref farw yng Nghymru a Lloegr yn 2018, y cyfanswm uchaf ers i’r Swyddfa Stadegau Genedlaethol (ONS) ddechrau casglu data yn 2013.
Mae’r cyfanswm hwnnw’n gynnydd o 22 y cant ar farwolaethau yn 2017, a 55 y cant dros y chwe blynedd diwethaf.
Roedd rhyw 641 o’r marwolaethau yn 2018 ymhlith dynion (88 y cant o’r cyfanswm). Yr oedran marw ar gyfartaledd oedd 45 i ddynion a 43 i fenywod – o’i gymharu â 76 ac 81 yn y boblogaeth yn gyffredinol.
Dywedodd yr ONS bod 294 o’r marwolaethau yn 2018 (40 y cant) i’w priodoli i wenwyno gan gyffuriau, a bod y nifer o farwolaethau o’r achos hwn 55 y cant yn uwch nag yn 2017.
Amcangyfrifir mai Llundain (148) a Gogledd-orllewin Lloegr (148) oedd â’r nifer mwyaf o farwolaethau ymhlith pobl ddigartref. Cymru a welodd y cynnydd mwyaf yn 2018, gydag amcangyfrif o 34 o farwolaethau o’i gymharu â 13 yn 2017 a 26 yn 2016.
Mae marwolaeth unrhyw berson digartref yn drasiedi. Mae’r ffigurau ar gyfer y llynedd yn amcangyfrif i 34 o bobl farw tra’n ddigartref yng Nghymru. Dyna 34 o bobl sy’n frawd neu’n chwaer, yn rhiant neu’n blentyn i rywun, a fu farw cyn cael y cymorth roedd ei angen arnynt.
Meddai Lindsay Cordery-Bruce, prif weithredydd y Wallich:
‘Dengys y stadegau nad dim ond problem aeaf yw hon, ac nad am ei bod hi’n oer yn unig y mae pobl yn marw. Mae nhw’n marw ar hyd y flwyddyn gron am amrywiaeth o achosion y gellid eu hatal, fel afiechydon yr afu a’r galon, niwmonia, gwenwyno â chyffuriau a hunan-laddiad.
‘Mae achosion y marwolaethau trasig hyn yn tanlinellu’n gryf yr angen am wasanaethau â hyddysg mewn seicoleg i gefnogi pobl ddiymgeledd, a phwyslais ar leihau niwed, nid gwneud troseddwyr o bobl. Caredigrwydd a thosturi sydd eu hangen, nid collfarnu.’
‘Mae angen cofnodi’n well hefyd, i sicrhau ein bod yn cael darlun cyflawn o’r bobl y tu ôl i’r stadegau hyn, ac atebolrwydd gan y rhai a fethodd eu diogelu, er mwyn y rhai sydd allan ar y stryd y funud hon.’
LLYWODRAETH CYMRU
Is-adran Tir yn barod i ddatgloi posibiliadau tir cyhoeddus
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu is-adran newydd er mwyn cynyddu’r nifer o gartrefi a godir ar dir cyhoeddus yng Nghymru.
‘Bydd yr Is-adran Tir newydd yn hyrwyddo gwaith ar y cyd rhwng cyrff sector cyhoeddus er mwyn datgloi posibiliadau datblygu ein tir cyhoeddus’, dywedodd y gweinidog cyllid Rebecca Evans wrth y Senedd. ‘Y dasg yw sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael, a darparu mecanwaith ar gyfer rhannu gwybodaeth arbenigol er mwyn gweld cyd-ymateb gan y sector cyhoeddus i’r prinder tai cymdeithasol, ac i ddatblygu tir cyhoeddus er budd mewn meysydd polisi ehangach.’
Fe’i disgrifiodd fel ‘arwydd clir gan y Llywodraeth ein bod o ddifri ynglŷn â chyflymu’r broses o ddatblygu tir sector cyhoeddus.’
‘Mae sicrhau bod y cyhoedd yn elwa i’r eithaf o’n heiddo wedi bod yn rhan o’r broses honno. Rydym wedi archwilio sut y gallwn reoli ein hasedau ein hunain mewn modd mwy strategol. Mae a wnelo rhan o’r gwaith hwnnw ag ailddiffinio sut rydym yn meddwl am werth am arian. Mae hyn yn cynnwys ystyried ein cyfrifoldebau o ran newid hinsawdd a diogelu bioamrywiaeth, er enghraifft, ac ystyried beth fyddai’r manteision ehangach o bosib i gymunedau lleol ledled Cymru.’
Bydd yr is-adran newydd yn mynd yn gyfrifol am nifer o safleoedd sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, er mwyn hyrwyddo blaenoriaethau ehangach y llywodraeth. Byddai hyn yn cynnwys ‘ffocws cryf ar ddefnyddio’r asedau hynny i helpu i ddarparu mwy o dai cymdeithasol yng Nghymru’.
Bydd hefyd yn arwain ar Strategaeth Rheoli Asedau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer asedau tir ac adeiladau.
Meddai’r gweinidog: ‘Er bod nodi a daparu tir ar gyfer tai yn bwysig, bydd yr is-adran hefyd yn gyfrifol am gyflymu ac ehangu’r gwaith sydd eisoes ar y gweill drwy gyfrwng ‘Ystadau Cymru’ sydd â’r cyfarwyddyd i “Gydweithio i wneud y defnydd gorau o’r ystad gyhoeddus”. Mae’n annog rhagoriaeth wrth reoli ystad y sector cyhoeddus yng Nghymru drwy gydweithio strategol a mynd ati fesul lleoliad i wneud y defnydd gorau o’n hasedau cyfunedig.’
Hwb i’r cynllun Tir ar gyfer Tai
Mae’r Gweinidog Tai Julie James wedi cyhoeddi £20 miliwn ychanegol ar gyfer cynllun i helpu cymdeithasau tai i brynu tir ar gyfer cartrefi newydd ledled Cymru.
Mae’r cynllun Tir ar gyfer Tai yn rhoi benthyciadau i gymdeithasau tai i’w galluogi i brynu tir i ddatblygu tai fforddiadwy a thai i’r farchnad agored. Caiff yr arian ei ailgylchu pan gaiff benthyciadau eu had-dalu, fel y gellir prynu mwy o dir a chodi mwy o gartrefi. Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £10 miliwn ychwanegol yn 2019/20, yn ogystal ag arian eilgylch o ad-daliadau benthyciadau blaenorol.
Cyhoeddodd y Gweinidog y cyllid newydd ar ymweliad â datblygiad Pobl yng Herbert Road, Casnewydd, lle’r adeiladwyd 20 o gartrefi eisoes ar gyn-safle diwydiannol ar lannau afon Wysg, a chaiff cyfanswm o 215 eu codi yn y pedair blynedd nesaf. Meddai: ‘Gan mai cynllun benthyca yw hwn, pan ad-delir yr arian, rydym yn ailfuddsoddi mewn projectau newydd gan greu gwerth llawer mwy na’r £52m a fuddsoddwyd. Mae’n enghraifft wych o’r ffordd rydym yn gweithio gyda chymdeithasau tai i godi cartrefi a gwella bywydau pobl Cymru.
Hwb i gynlluniau digartrefedd ieuenctid
Caiff projectau i fynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc £3.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru, cyhoeddodd y gweinidog tai Julie James.
Mae’r 25 cynllun yn cynnwys:
- dros £88,000 ar gyfer prosiect Tai yn Gyntaf ar gyfer Ieuenctid ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n cael ei redeg gan Gaer Las a Chyngor Sir Pen-y-bont;
- Bydd Cymdeithas Gofal yn derbyn £79,000 i ddarparu prosiect Tai yn Gyntaf ar gyfer pobl ifanc yng Ngheredigion;
- Bydd Cyngor Sir Ynys Môn a Digartref Cyf yn derbyn mwy na £54,000 i weithio gyda’r sector preifat i ddarparu llety ar gyfer pobl ifanc sy’n barod i symud i fyw’n annibynnol;
- Bydd Dewis yn derbyn dros £42,000 i ddarparu tai i bobl ifanc sy’n agored i niwed oherwydd anabledd, pobl ifanc sy’n gadael gofal neu sydd wedi bod yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghastell-nedd;
- Bydd Llamau a Chynghorau Abertawe a Rhondda Cynon Taf yn derbyn £333,000 i ddatblygu cynlluniau Tai yn Gyntaf ar gyfer Ieuenctid;
- Yng Nghaerffili a Thorfaen, bydd Llamau’n darparu llety â chymorth i bobl ifanc ddigartref gyda dros £84,000 o gyllid;
- Mwy na £188,000 i Gyngor Sir Powys i gynnig cymorth dwys a chynlluniau Tai yn Gyntaf ar gyfer pobl ifanc;
- Bydd Carchar Parc a rhaglen Pobl yn derbyn mwy na £109,000 i ddod o hyd i lety a chynnig cymorth i bobl ifanc ddiymgeledd sy’n gadael carchar
Mae’r projectau’n rhan o ‘r Gronfa Arloesi Digartrefedd Ymhlith Ieuenctid gwerth £4.8 miliwn, rhan o’r £10 miliwn a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog blaenorol.
Meddai Julie James: ‘Dwi am rwystro pobl rhag profi digartrefedd o gwbl, ond lle bydd yn digwydd, dwi am iddo fod yn beth prin, byrhoedlog, na chaiff ei ailadrodd. I bobl ifanc, gall diffyg cartref sefydlog olygu dyfodol go ddu, un anghyfiawn lle na cheir cyfleoedd addas.’
CYMRU
Ymgyrch recriwtio newydd gan CCC
Mae cymdeithasau tai wedi cychwyn ymgyrch recriwtio heddiw er mwyn symbylu’r sgiliau sydd eu hangen ar Gymru i adeiladau 75,000 o gartrefi newydd.
Y nod yw creu 150,000 o swyddi newydd erbyn 2036 i sicrhau bod ganddynt y sgiliau a’r swyddi iawn i’w helpu i gyflawni’r nod.
Bydd ‘Dyma’r Sector Tai’, gan Cartrefi Cymunedol Cymru, yn dathlu’r bobl sy’n gweithio i gymdeithasau tai Cymru ac yn arddangos yr amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa a gynigir gan y sector tai cymdeithasol.
Cyflogir mwy nag 11,000 o bobl mewn 200 o swyddogaethau gwahanol yn y cymdeithasau, a wariodd fwy na £1 biliwn yng Nghymru yn 2018.
Meddai Phillipa Knowles, cyfarwyddydd adnoddau a datblygiad sefydliadol Cartrefi Cymunedol Cymru: ‘mae 65% o’r bobl sy’n gweithio yn y sector yn mwynhau eu gwaith am eu bod yn gwneud gwahaniaeth. Mae gan y sector amrywiaeth anferth o swyddi, o gyfrifeg i waith rheng-flaen, ac mae’n cynnig cyfleoedd ar gyfer cynnydd a datblygu sgiliau.’
‘Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio i gymdeithas tai i ymweld â’n gwefan Dyma’r Sector Tai i ganfod mwy.’
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â https://thisishousing.wales/cy/catref/
Caerdydd am ddysgu gan Glasgow a Helsinki
Ymwelodd dirprwyaeth o Gaerdydd â Glasgow a Helsinki ym mis Medi i weld beth a wneir yno i atal cysgu allan ac ymateb i anghenion iechyd pobl ddigartref ddiymgeledd.
Ymunodd cynghorwyr a swyddogion cyngor â phartneriaid o’r gwasanaeth iechyd a’r trydydd sector i weld gwaith clodwiw’r ddwy ddinas drosynt eu hunain.
Roedd yr ymweliadau’n rhan o arolwg sy’n parhau o wasanaethau digartrefedd ar gyfer pobl sengl yng Nghaerdydd, er mwyn sicrhau bod y cymorth gorau posib ar gael i helpu unigolion i ailadeiladu eu bywydau.
Dywedodd yr aelod Cabinet dros dai a chymyunedau, y Cyng. Lynda Thorne: ‘Roedd ein ymweliadau’n addysgiadol iawn a gwelsom enghreifftiau o arfer da a dulliau arloesol o fynd i’r afael ag anghenion cymhleth.Er nad yw’r naill ddinas na’r llall wedi datrys y broblem, dysgasom gryn dipyn a chael ein hysbrydoli gan y gwaith sy’n mynd rhagddo yno.’
Ymwelodd y ddirprwyaeth â chanolfan asesu digartrefedd a chanolfan argyfwng cyffuriau yn yr Alban; yn y Ffindir, dysgwyd am wahanol raglenni sy’n ymdrin â digartrefedd, yn cynnwys eu cynllun Tai’n Gyntaf, sy’n sicrhau tai i fenywod a chyfleoedd gwaith ar gyfer tenantiaid.
Hwb i dai cyngor
Mae STS Cymru yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i gynyddu’r gyfradd o dai cyngor sy’n cael eu hadeiladu.
Mae’r cynllun yn dilyn argymhelliad allweddol yn yr arolwg annibynnol o’r cyflwenwad tai fforddiadwy yng Nghymru, a datblygiadau diweddar ymhlith awdurdodau lleol, yn cynnwys dileu’r terfyn benthyca HRA, y cynnig y dylid rhoi mynediad i awdurdodau i’r grant tai cymdeithasol, a’r posibiliadau a gynigir gan ddulliau adeiladu modern
Cafodd yr ymgynghorydd Simon Inkson ei gyflogi i ymgymryd â rhaglen waith i gefnogi awdurdodau lleol sy’n dal i fod â stoc tai i ymbaratoi ar gyfer darparu cartrefi cyngor newydd ar raddfa eang ar fyrder.
Dywedodd cyfarwyddydd STS Cymru, Matt Dicks: ‘Os ydym am gyflawni’r uchelgais o sicrhau bod gan bawb le diogel, fforddiadwy i’w alw’n gartref, ni ellir gorddweud y rhan y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ei chwarae trwy ddefnyddio’u pwerau benthyca a’u gwybodaeth arbenigol i ddarparu cartrefi fforddiadwy.’
Meddai’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: ‘Gyda chodi’r terfyn benthyca mae cyfle enfawr i gynghorau ddechrau adeiladu eto yn gyflym ac ar raddfa eang. Mae llawer i’w wneud i sicrhau hyn, a bydd Simon yn cydweithio’n glòs gyda’r 11 cyngor sydd â stoc dai i’w helpu i ymateb i’r her.’
Dywedodd Simon Inkson: ‘Er ei bod hi’n gynnar iawn yn y prosiect, mae’n amlwg bod sawl her yn wynebu’r 11 awdurdod o ran paratoi i adeiladu niferoedd sylweddol o dai, ond dwi’n hyderus y gellir eu goresgyn yn effeithiol trwy gyd-ddysgu, gweithio mewn partneriaethau a chydweithredu.’
NCH yn llwyddo i ailgyllido
Llwyddodd Cartrefi Dinas Casnewydd (NCH) i ailgyllido’i bortffolio trysorlys yn sylweddol ym mis Awst, gyda chefnogaeth gan amrywiaeth o gyfranddalwyr.
Mae’r ailgyllido llawn yn golygu bod NCH wedi lleihau ei gostau cyllido parhaus yn sylweddol ac wedi amrwio ei ffynonellau cyllid.
Defnyddiwyd y taliad preifat o £95 miliwn gan Legal & General Investment Management Real Assets (LGIM Real Assets) i ad-dalu benthyciad ar y cyd gan dri benthycwr. Mae’r taliad preifat hefyd yn cynnig buddiannau ychwanegol ar ffurf cyfamodau pwrpasol sy’n darparu diogelwch cyfradd-llog tymor-hir gyda chyfradd cwpon a chyfnod aeddfedu deniadol iawn ar gyfartaledd.
Darperir ar gyfer hylifedd yn y dyfodol gan gyfleusterau credyd newydd pum-mlynedd a deng-mlynedd, cyfanswm o £30 miliwn ar delerau deniadol, gan ailosod y berthynas gyda dau fanc hir-sefydlog, Barclays a NatWest.
CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW
1) Llesiant Pobl Ifanc,
Swyddfa Archwilio Cymru, Medi 2019
https://www.audit.wales/cy/system/files/publications/well-being-of-young-people-welsh.pdf
2) Rethinking allocations
Y Sefydliad Tai Siartredig, Medi 2019
www.cih.org/resources/Rethinking allocations.pdf
3) The experience and impact of stigma of living in social housing – Views of tenants across England, 2019
Benefit to Society, Medi 2019
benefittosociety.co.uk/time-to-see-the-person/
4) Bleak houses – Tackling the crisis of family homelessness in England
Comisiynydd Plant Lloegr, Awst 2019
www.childrenscommissioner.gov.uk/publication/bleak-houses/
5) Tackling the UK housing crisis, is supply the answer?
UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Sefydliad Tony Blair, Awst 2019
housingevidence.ac.uk/publications/tackling-the-uk-housing-crisis-is-supply-the-answer
6) Beyond Generation Rent – understanding the aspirations of private renters aged 35-54
UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Awst 2019
housingevidence.ac.uk/publications/beyond-generation-rent/
7) From the frontline – Universal Credit and the broken housing safety net Shelter, Awst2019
8) Housing that works – can employers help solve the housing crisis?
Centre for Social Justice, Awst 2019
9) Briefing: how many people need a socially rented home?
National Housing Federation, Medi 2019
10) Scottish Housing Day report: housing as a human right
STS Yr Alban, SFHA, Shelter yr Alban, ALACHO, SAL, TPAS yr Alban, Medi 2019