Mae’r rhifyn Haf hwn o WHQ yn dilyn un o’r cyfnodau polisi prysuraf y gallaf ei gofio ym maes tai yng Nghymru.
Ers cyhoeddi’r adolygiad annibynnol o’r cyflenwad tai fforddiadwy ar 1 Mai tan doriad yr Haf ar 22 Gorffennaf, mae pob wythnos fel pe bai wedi dod â chyhoeddiad, ymgynghoriad neu adolygiad newydd, a hyn oll yn erbyn cefnlen o ddigwyddiadau y tu allan i Gymru a fydd yn effeithio ar bopeth a wnawn: y ras i fod yn brif weinidog newydd yn San Steffan, a’r aros i weld beth a wna hwnnw ynghylch y dyddiad cau diweddaraf ar gyfer Brexit, Hydref 31.
dlewyrchir hyn oll mewn cyfweliad eang ei gwmpas a wnaed gyda’r gweinidog tai a llywodraeth leol Julie James yn union cyn y toriad. Caiff ei holi am bopeth, o droi tenantiaid allan i Tai yn Gyntaf, o renti i ddatgarboneiddio, a dylai fod o ddiddordeb beth bynnag y bo’ch gwaith yn y maes tai.
Mae’r ffocws mewn mannau eraill ar ganlyniad dau adolygiad annibynnol. Cafodd WHQ air gyda Chris Jofeh, cadeirydd adolygiad Llywodraeth Cymru ar ddatgarboneiddio cartrefi Cymru, ar ddiwrnod lansio adroddiad sy’n mynd i fod yn gefnlen i bopeth fydd yn digwydd yn y maes tai am ddegawdau i ddod.
Ac fe edrychwn yn fanwl ar yr adolygiad tai fforddiadwy. Ar ôl misoedd o waith caled gan aelodau’r panel, beth yw’r argoelion ar gyfer eu hargymhellion ac a gânt eu gweithredu? Yn ogystal â’r ymateb gan Lywodraeth Cymru, cawn adwaith y Cyng. Andrea Lewis o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Stuart Ropke, Cartrefi Cymunedol Cymru a Ross Thomas, Tai Pawb, a Bonnie Navarra o Swyddfra Comisynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i osod yr adolygiad mewn cyd-destun ehangach. Ac mae Peter Williams yn edrych ar rai o wersi Adolygiad Essex yn 2008, yr adolygiad diwethaf o dai fforddiadwy yng Nghymru.
Yn y rhifyn hwn hefyd, clywn gan Bob Smith o Fwrdd Rheoleiddio Cymru am ei waith ar ôl clywed llais y tenantiaid, a’r hyn y mae bellach yn ei ddisgwyl gan landlordiaid.
Mae Ceri Breeze yn craffu’n fanwl ar y buddiannau a all ddeillio o waith ar y cyd rhwng tai, iechyd a gofal cymdeithasol, tra bod Jenny Preece yn ystyried y berthynas gymhleth rhwng ansicrwydd tai ac iechyd meddwl.
Wrth i Gymru ymgynghori ar ymestyn y cyfnod o rybudd ar gyfer troi allan heb fai, mae Natasha Miller yn adrodd ar brofiad yr Alban o ddiwygio’r sector rhentu preifat.
Mae ein colofnau rheolaidd yn cynnwys y diweddaraf yn ein cyfres ar y Rhaglen Tai Arloesol, John Puzey ar ddiweddu angen blaenoriaethol, a Tamsin Stirling ar Gymru fel cenedl noddfa.
Byddwn yn ôl ym mis Hydref gyda ffocws mawr ar dai a’r economi sylfaenol, ond dwi’n siwr bod llawer mwy i ddod yn dilyn rhuthr cyhoeddiadau’r Haf yma.
Jules Birch, Golygydd, WHQ