English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

Y DU

Y CU yn galw am ddileu toriadau i fudd-daliadau

Cyhuddodd swyddog o’r Cenhedloedd Unedig Lywodraeth y DU o lywyddu dros ‘dlodi cynyddol systematig ymhith cyfran sylweddol o boblogaeth Prydain’.

Mewn adroddiad di-flewyn-ar-dafod, dywedodd Yr Athro Philip Alston, rapporteur arbennig y CU ar dlodi eithafol, fod canlyniadau toriadau’r llywodraeth mewn lles ‘yn amlwg i unrhyw rai sy’n agor eu llygaid’.

Dywedodd bod ‘ailbeiriannu cymdeithasol sylfaenol’ wedi erydu llawer o’r glud a oedd wedi dal cymdeithas ynghyd ers yr Ail Ryfel Byd a rhoi yn ei le ‘ethos llym a didrugaredd’.

Roedd Credyd Cynhwysol fel ‘fersiwn digidol diheinitiedig o wyrcws y 19eg ganrif a gafodd amlygrwydd yng ngwaith Charles Dickens’.

Tra’n cydnabod bod yr ysgrifennydd gwaith a phensiynau Amber Rudd wedi lliniaru rhai o elfennau llymaf y budd-dâl newydd, canfu ‘ddatgysylltiad trawiadol a llwyr’ rhwng yr hyn a glywsai ac a welsai ymhlith pobl ledled y DU a’r darlun a beintiwyd gan y llywodraeth.

Ac argymhellodd y dylid gwrthdroi ‘mesurau neilltuol o atchweliadol’ fel rhewi budd-daliadau, eu cyfyngu i ddau blentyn, y cap ar fudd-dâl, a’r gosb am fod â stafell sbâr.

Dywedodd yr Adran Waith a Phensiynau fod yr adroddiad yn ‘gwbl anghywir’ ac yn ‘ddogfeniad anghredadwy bron’ o Brydain a oedd yn ‘un o’r gwledydd hapusaf yn y byd i fyw ynddi’.

LLOEGR

May yn clodfori record ei llywodraeth ar dai

Ymffrostiodd y cyn-Brif Weinidog Theresa May am ei gwaddol yn y maes tai gyda ‘chanlyniadau sy’n siarad drostynt eu hunain’.

Mewn araith yng nghynhadledd y Sefydliad Tai Siartredig ym Manceinion, clodforodd record y llywodraeth ar adeiladu tai a gweithredu i adfer ‘y freuddwyd o fod yn berchen cartref’.

Ond cafwyd y ‘diwygiadau gwirioneddol radical, sy’n cefnu’n llwyr ar y gorffennol, yn ein gwaith i gefnogi’r rheini sy’n rhentu’.

Dywedodd bod y llywodraeth yn ‘ail-gydbwyso’r berthynas rhwng tenant a landlord’ gyda chyfyngu ar flaendal rhentu, dileu ffïoedd asiantiaid, a’r addewid i roi terfyn ar droi allan o dan Adran 21.

A dywedodd y cyhoeddid cynllun gweithredu ac amserlen ar gyfer diwygiadau mewn tai cymdeithasol ym mis Medi, gan gynnwys rheoliadau cryfach i ddefnyddwyr ac ‘ymrwymiad i gynnydd pellach yn y cyflenwad o dai cymdeithasol o ansawdd uchel’.

Galwodd hefyd am safonau gofod gwladol ar gyfer cartrefi newydd, ond gan gydnabod mai ‘cyfrifoldeb fy olynydd fydd delio â hyn’.

Wrth i WHQ fynd i’r wasg, roedd y frwydr rhwng  Boris Johnson a Jeremy Hunt i’w holynu yn tynnu at ei therfyn.

YR ALBAN

Newidiadau i fwriadusrwydd a phrofion cysylltiad lleol ar gyfer digartrefedd

Caiff pobl ddigartref yn yr Alban eu hamddiffyn yn well o dan ddeddfwriaeth newydd sy’n dod i rym eleni.

Mae dau newid allweddol yn dilyn argymhellion gan y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd a Chysgu Allan ac ymgynghoriad gan Lywodraeth yr Alban.

Mae’r cyntaf yn disodli’r dyletswydd presennol ar awdurdodau lleol i asesu a yw cais gan rywun digartref yn un bwriadol, gyda disgresiwn i ymchwilio i fwriadusrwydd. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i bobl â phroblemau yn eu bywydau, fel rhai ariannol neu iechyd meddwl, i dderbyn cymorth.

Mae’r ail yn diddymu’r gofyniad ar bobl sy’n wynebu digartrefedd i ddangos bod ganddynt gysylltiad lleol ag ardal cyngor neilltuol cyn y gallant dderbyn cefnogaeth gan yr awdurdod lleol hwnnw.

Caiff manylion y newidiadau eu datblygu ar y cyd â chynghorau ac eraill.

Meddai’r gweinidog tai, Kevin Stewart: ‘Mae gan yr Alban rai o’r hawliau digartref cryfaf yn y byd a bydd y newidiadau hyn i’r gyfraith yn caniatáu i fwy o bobl elwa ar y gefnogaeth sydd ar gael. Rydym am wneud yn siŵr fod unrhyw rai sy’n wynebu digartrefedd yn cael eu cefnogi i symud i mewn i lety parhaol, diogel sy’n ateb eu hanghenion cyn gynted ag sy’n bosibl.’

GOGLEDD IWERDDON

Cynllun ar gyfer diffiniad ehangach o dai fforddiadwy

Lansiodd yr Adran dros Gymunedau ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i’r diffiniad o dai fforddiadwy.

Nod y cam hwn yw cynnig gwell mynediad i lety addas a lleihau straen yn ymwneud â thai, yn sgil cydnabyddiaeth yn y Rhaglen ar gyfer Llywodraethu bod yr her yn ehangach na dim ond tai cymdeithasol.

Cafodd y diffiniad cyfredol o dai fforddiadwy ei ddrafftio i adlewyrchu’r mathau o lety fforddiadwy a oedd ar gael ar y pryd y cafodd ei ddatblygu, sef tai cymdeithasol a thai mewn cyd-berchenogaeth.

Mae’r Adran am weld diffiniad diwygiedig o dai fforddiadwy sy’n cynnwys ystod ehangach o fathau canolradd o lety.

Ni fydd y diffiniad newydd o dai fforddiadwy yn effeithio ar fynediad i dai cymdeithasol, ond gallai diffiniad newydd ac ehangach o dai fforddiadwy ystyried anghenion amrywiaeth eang o grwpiau, yn cynnwys rhai nad yw eu hanghenion yn cael eu hateb yn ddigonol gan y farchnad ar hyn o bryd.

Byddai hefyd yn darparu fframwaith fel y gall cymdeithasau tai a phartneriaid eraill a allai ddarparu tai fforddiadwy fynd ati i ddatblygu mathau newydd o dai fforddiadwy a fyddai, yn ei dro, yn galluogi’r llywodraeth i ddiwallu mwy o anghenion a galw am dai, gan leihau straen yn ymwneud â thai.

Dyma’r diffiniad newydd arfaethedig:

‘Tai fforddiadwy yw tai a ddarperir i’w gwerthu neu i’w rhentu y tu allan i’r farchnad gyffredinol, i rai nad yw’r farchnad yn diwallu eu hanghenion. Rhaid i dai fforddiadwy a gyllidir gan y Llywodraeth aros  yn fforddiadwy; fel arall, rhaid bod darpariaeth ar gyfer ad-dalu’r cymhorthdal ​​cyhoeddus neu ei ailgylchu trwy ddarparu tai fforddiadwy newydd.’

LLYWODRAETH CYMRU

Adolygiad yn cefnogi gwell polisi rhenti

Daeth adoliad o bolisi rhenti ar ran Llywodraeth Cymru i’r casgliad bod y system gyfredol yn cyflawni ei hamcanion, yn cael ei derbyn gan ystod o fudd-ddeiliaid ac y dylid ei chadw.

Dywed casgliadau cyntaf tîm dan arweiniad Prifysgol Heriot-Watt nad oes llawer o fudd mewn ailystyried egwyddorion gwaelodol pennu rhenti, ond y dylid cadw golwg ar elfennau o ddyluniad a gweithrediad y polisi, a’u gwella.

Gwrthododd yr adolygiad y galw am i gymdeithasau tai gael rheolaeth dros eu rhenti eu hunain, gan ddadlau ei bod yn anodd gweld sut y gellid sicrhau cysondeb a thegwch heb rywfaint o gydlyniad.

Disgrifiai’r cynnydd blynyddol mewn rhenti cymdeithasol fel ‘dewis gwleidyddol yn ei hanfod’ ond dadleuai y byddai unrhyw gynnydd o fwy na CPI plws 0.5 y cant yn golygu rhenti uwch yng Nghymru nag yng ngogledd a chanolbarth Lloegr, a byddai hyd yn oed cynnydd CPI-yn-unig yn gweld rhenti’n dal i gynyddu’n fwy nag enillion.

Rhybudd rheoleiddio i Lywodraeth Cymru

Clywodd Lywodraeth Cymru bod y trefniadau cyfredol ar gyfer rheoleiddio tai yng Nghymru yn ‘anghynaladwy’ ac mewn perygl o gael eu tanseilio gan ddiffyg adnoddau, mewn adroddiad perfformiad newydd ei gyhoeddi gan Fwrdd Rheoleiddio Cymru (BRhC). Dywed bod angen trafodaeth sylfaenol ynglŷn â chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Dywed yr adroddiad: ‘Cred BRhC bod adnoddau rheoleiddio yn is na’r  isafswm angenrheidiol er mwyn parhau i ddarparu’r fframwaith presennol yn ddiogel ac addasu i anghenion a gofynion rheoliadol.’

Mae hefyd yn rhybuddio bod yna ‘anghysondeb ac anghydraddoldeb a gydnabyddir fwyfwy yn natur rheoleiddio tai rhwng y sectorau awdurdod lleol a chymdeithasau tai, a ystyrir yn gynyddol anfanteisiol i gyfranogiad a mynediad tenantiaid awdurdodau lleol’.

Cynllun i ymestyn hyd cyfnod rhybudd Adran 21

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ymestyn cyfnod y rhybudd ar gyfer troi allan heb fai ar gyfer rhentwyr preifat o ddau i chwe mis.

Byddai’r cynllun, a gyhoeddwyd gan y gweinidog tai Julie James yng nghynhadledd Shelter Cymru yn Abertawe, yn golygu gwelliant i Adran 173 y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Adran 21 yn y ddeddfwriaeth flaenorol).

Arwyddodd y prif weinidog Mark Drakeford ymrwymiad i ddiweddu troi allan heb fai ym mis Ebrill. Byddai hynny’n dilyn eisampl yr Alban a sefydlodd denantiaethau preifat diogel ar ddiwedd 2017, a chyfateb i’r hyn y bwriedir ei wneud yn Lloegr, lle addawodd Theresa May ddileu Adran 21 yn ystod ei hwythnosau olaf fel prif weinidog.

Fodd bynnag, ystyrir bellach bod ymestyn y cyfnod rhybudd yn bolisi haws ei gyflawni ar gyfer Cymru. Eglurodd Julie James y byddai gweithredu’n amgen yn golygu oedi pellach cyn gweithredu’r ddeddfwriaeth Rhentu Cartrefi a’r buddiannau eraill a ddaw i rentwyr yn ei sgil.

Rydym am wneud rhywbeth nawr’, meddai. ‘Gallaf wneud hyn, yn bendant. Dydyn ni ddim yn mynd i adael i’r perffaith beryglu’r hyn sy’n dda.’

Meddai cyfarwyddwr Shelter Cymru John Puzey: ‘Rydym yn croesawu’r hyn y gobeithiwn fydd yn fesur dros-dro, i ymestyn cyfnod y rhybudd o droi allan heb fai o ddau fis i chwech. Bydd hyn yn cynnig mesur o sicrwydd ychwanegol i denantiaid a dylai ysgogi awdurdodau lleol i gychwyn ar waith i atal digartrefedd mewn da bryd.

‘Fodd bynnag, byddwn yn parhau i alw am derfyn llwyr ar droi allan heb fai. Credwn mai dyna’r ffordd fwyaf effeithiol o gynyddu sicrwydd pobl mewn cartrefi a rentir yn breifat a helpu i greu cymunedau sefydlog.

‘Credwn hefyd y dylai terfynu troi allan heb fai gynnwys tai cymdeithasol, lle defnyddir rhybuddion Adran 21 i droi tenantiaid allan ym mlwyddyn gyntaf eu tenantiaethau heb orfod darparu tystiolaeth o reswm dros droi allan i’r llys.’

Fodd bynnag, dywedodd cyfarwyddwr Cymru Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl, Douglas Haig: ‘Mae’n gam gwarthus sydd, i bob pwrpas, yn cyflwyno cytundebau 12 mis fel y norm.

‘Gallai creu sefyllfa lle na ellir adfeddiannu eiddo o fewn y chwe mis cyntaf, ac yna cyflwyno cyfnod pellach o chwe mis o rybudd, achosi problemau anferth i landlordiaid. Byddant yn gwbl ddiymadferth yn wyneb tenantiaid sy’n broblem, a fydd â hawl gyfreithiol i aros yn yr eiddo am flwyddyn. Os nad yw tenantiaid yn talu rhent, gallai ôl-ddyledion anferth grynhoi yn yr amser hwn.

 ‘Byddwn yn rhybuddio’r llywodraeth y gallai’r cam hwn wneud niwed difrifol i hyder landlordiaid ac i argaeledd cartrefi i’w rhentu yng Nghymru, ar adeg pan fo’r galw yn parhau  i gynyddu.’

Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd yn dechrau ar ei waith

Mae Jon Sparkes, prif weithredwr Crisis, yn cadeirio Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd a fydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ddigartrefedd a chysgu allan.

Bydd yr agenda’n cynnwys sut i fynd ati i ddileu digartrefedd yng Nghymru a sut i weithredu i leihau’r niferoedd sy’n cysgu allan, ac atal hynny’n llwyr, yn ogystal â sicrhau ailgartrefu chwim a pharhaol a chydweithio ar atal digartrefedd.

Dywedodd y gweinidog tai Julie James: Mae gennym ymrwymiad i ddileu digartrefedd. Carwn fod yn glir mai ein strategaeth gyntaf a phennaf yw ei atal rhag digwydd.  Os na ellir atal digartrefedd, rhaid  sicrhau ei fod yn brofiad byr, prin, nad yw’n digwydd eto.’

Bydd y grŵp yn cwrdd 12 gwaith rhwng Mehefin a Mawrth 2020 gan adrodd wrth y gweinidog yn uniongyrchol ar bwyntiau allweddol yn ystod ei waith, ond bydd yn gweithio’n annibynnol i argymell dulliau gweithredu ac atebion angenrheidiol.

Meddai Jon Sparkes: ‘Dwi’n argyhoeddedig bod modd rhoi terfyn ar ddigartrefedd gyda’r polisïau cywir a’r arfer cywir o du’r llywodraeth i atal a mynd i’r afael â digartrefedd. Dwi’n gwbl grediniol y gellir gwneud hyn yng Nghymru ac edrychaf ymlaen at gydweithio’n fuan iawn gyda holl aelodau’r Grŵp Gweithredu.’

Aelodau’r grŵp yw:

  • Jon Sparkes – cadeirydd, prif weithredydd, Crisis
  • Peter Mackie – Prifysgol Caerdydd
  • Katie Dalton – cyfarwyddydd, Cymorth Cymru
  • John Puzey – prif weithredydd, Shelter Cymru
  • Tamsin Stirling – arbenigwraig lawrydd ar dai
  • Naomi Alleyne – cyfarwyddydd gwasanaethau cymdeithasol a thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Lindsay Cordery-Bruce – prif weithredydd, Y Wallich
  • Frances Beecher – prif weithredydd, Llamau
  • Bonnie Navarra – Comisiynydd Cynorthwyol Heddlu a Throsedd De Cymru, secondiwyd i Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Glynne Roberts – rheolydd rhaglenni, Gogledd Cymru Iach, BIPBC
  • Clare Budden – PSG, Cymdeithas Tai Pennaf
  • Clarissa Corbisiero Peters – cyfarwyddydd polisi, Cartrefi Cymunedol Cymru

Angen llethol am gartrefi fforddiadwy

Dengys amcangyfrifon newydd Llywodraeth Cymru o alw am dai y dylai bron hanner y tai a adeiledir yng Nghymru yn y pum mlynedd nesaf fod yn rhai fforddiadwy.

Mae’r amcangyfrifon o alw am dai yng Nghymru fesul deiliadaeth (ar sail 2018) wedi ei rhannu’n amcangyfrifon o’r galw am dai marchnad (perchentyaeth a’r sector  rhentu preifat) a thai fforddiadwy (rhenti canolradd a chymdeithasol).

Maent yn cynnwys anghenion presennol nas diwallwyd a galw newydd ac fe’u cynhyrchwyd ar gyfer y pum mlynedd cyntaf o amcangyfrifon (2018/19 i 2022/23). Mae angen rhagolygon o dwf incwm teuluol yn y dyfodol a newid yn y dyfodol i gost rhentu preifat i gynhyrchu’r rhaniad fesul deiliadaeth.

O dan y gwahanol fathau o ragamcanion aelwydydd, mae’r galw blynyddol a amcangyfrifir am dai marchnad yn amrywio o 3,400 (dim mewnfudo) i 5,200 (mewnfudo 10-mlynedd) bob blwyddyn. Mae unedau tai fforddiadwy yn amrywio o 3,300 (dim mewnfudo ac amrywiad is) i 4,400 (mewnfudo 10-mlynedd).

O dan yr amcangyfrifon canolog, byddai angen rhyw 4,400 o unedau tai marchnad a 3,900 o unedau tai fforddiadwy ar gyfartaledd bob blwyddyn o 2018/19 i 2022/23.

CYMRU

Galw ar y cyd am yr hawl i dai digonol

Mae tri o sefydliadau tai blaenllaw Cymru yn galw am i’r hawl i dai gael ei gydnabod yng nghyfraith Cymru.

Lansiodd Tai Pawb, STS Cymru a Shelter Cymru adroddiad a gyd-gomisiynwyd ganddynt, sy’n edrych ar effeithiau positif ymgorffori’r hawl i dai digonol a arddelir gan y CU, o ran helpu Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Daw’r alwad ddwy flynedd ar ôl trasiedi Tŵr Grenfell, lle collodd 72 o bobl eu bywydau o ganlyniad uniongyrchol i fod mewn llety annigonol.

Lansiwyd yr adroddiad mewn digwyddiad yng Nghaerdydd dan nawdd John Griffiths AC, cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd. Mae’r adroddiad, gwaith Dr Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe, yn dadlau achos cryf o blaid cydnabod hawl i dai yng Nghymru gan ddangos sut y byddai hynny’n helpu i ddatrys problemau allweddol fel digartrefedd a’r prinder dybryd o dai fforddiadwy a hygyrch.

Dengys yr adroddiad sut y byddai hawl i dai yn helpu i ddatrys problemau fel y diffyg tai hygyrch, trwy fynnu y dylid canolbwyntio ar y rheini sydd â mwyaf o angen tai.

Wrth fabwysiadu ffordd seiliedig-ar-hawliau o fynd ati, byddai Cymru’n dilyn nifer gynyddol o wledydd lle mae’r hawl i dai yn egwyddor gyfansoddiadol, yn cynnwys y Ffindir, lle mae digartrefedd wedi gostwng o 35 y cant ers 2010. Yn yr un cyfnod, mae digartrefedd yng Nghymru wedi cynyddu o 63 y cant.

Adroddiad yn tanlinellu costau iechyd tai gwael

Mae tai o ansawdd wael yn costio mwy na £95 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru am driniaeth feddygol i bobl, a gallai gweithredu i ddatrys y broblem gynhyrchu elw ar y buddsoddiad o fewn chwe blynedd.

Dyna yw casgliadau adroddiad a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, a’r Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) sy’n edrych ar effaith ansawdd tai, cartrefi anaddas, a digartrefedd ar iechyd a llesiant yng Nghymru, ac yn nodi meysydd gweithredu blaenoriaethol sy’n cynnig gwerth am arian.

Mae rhyw 18 y cant o gartrefi yng Nghymru yn risg annerbyniol i iechyd, ac mae tai gwael yn costio mwy na £1biliwn y flwyddyn i gymdeithas, meddai. Mae tystiolaeth gref bod tai gwael yn gysylltiedig ag iechyd corfforol ac iechyd meddwl gwael.

Mae’r adroddiad hefyd yn tanlinellu arbedion sylweddol a allai ddeillio o fuddsoddi mewn atal digartrefedd, yn ogystal â lleihau’r gost ddynol. Gallai hyn arwain at arbedion o ryw £9,266 y person o’i gymharu â gadael rhywun yn ddigartref am 12 mis. Gallai pob £1 a fuddsoddir mewn codi pobl allan o ddigartrefedd arwain at £2.80 o elw ar y buddsoddiad, yn ôl yr adroddiad.

Dywedodd Louise Woodfine, prif arbenigwraig iechyd cyhoeddus sy’n arwain ar dai gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru:

‘Fu’r achos dros fuddsoddi mewn tai er mwyn gwella iechyd a llesiant erioed yn gryfach. Gan Gymru y mae’r stoc tai hynaf yn y DU, ac ar gyfartaledd y costau triniaeth uchaf sy’n gysylltiedig â thai gwael.

‘Fodd bynnag, mae hyn yn golygu bod yna gyfleoedd gwirioneddol i ni yng Nghymru i wella iechyd a llesiant yn sylweddol trwy roi’r flaenoriaeth i weithredu yn y sector tai.’

Mae’r adroddiad ar gael yn:

icc.gig.cymru/newyddion-a-chyhoeddiadau/cyhoeddiadau/gwneud-gwahaniaeth-tai-ac-iechyd/icc-gwneud-gwahaniaeth-tai-ac-iechyd-yr-achos-dros-fuddsoddi-crynodeb-gweithredol-pdf/

Bydd Trivallis yn adeiladu 16 cartref newydd yn ogystal ac uwchraddio chwech eiddo presennol yn Pentre, Y Rhondda,  er mwyn darparu cartrefi fforddiadwy a modern yn yr ardal. Dechreuwyd datblygu eiddo yn Llewellyn Place a Forge Lane ym mis Ebrill 2019 a bydd y gwaith i ddymchwel y Pentre Hotel ddadfeiliedig yn cychwyn yn ystod yr haf, gyda’r bwriad o ddechrau gweithio ar y safle yn gynnar yn 2020. Cafodd datblygiadau Forge Lane a Pentre Hotel grant tai cymdeithasol a bydd Trivallis yn gweithio ar y cyd â’r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cartrefi newydd.

CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW

1 Yr Hawl i Dai Digonol yng Nghymru: Adroddiad Dichonoldeb

Tai Pawb, STS Cymru, Shelter Cymru, Mehefin 2019

www.taipawb.org/wp-content/uploads/2019/06/RightToHousing-Full-WELSH.pdf

2 Datganiadau Ariannol 2018 Cymdeithasau Tai Cymru

Cartrefi Cymunedol Cymru, Mai 2019

chcymru.org.uk/uploads/general/CHC_Global_Accounts_2018.pdf   

3 Deall achosion o droi allan o dai cymdeithasol yng Nghymru

Llywodraeth Cymru, Gorffennaf 2019

llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2019-07/deall-achosion-droi-allan-dai-cymdeithasol-yng-nghymru_0.pdf

4 Forms and Mechanisms of exclusion in contemporary housing systems

CaCHE, Mehefin 2019

housingevidence.ac.uk/publications/https-housingevidence-ac-uk-wp-content-uploads-2019-06-forms-and-mechanisms-of-exclusion-in-contemporary-housing-systems-june-2019-pdf   

5 Scaling up social lettings? Scope, impact and barriers

Sefydliad Joseph Rowntree, Mehefin 2019

www.jrf.org.uk/report/scaling-social-lettings-scope-impact-and-barriers-0

6 Cover the Cost: how gaps in local housing allowance are impacting homelessness

Crisis, Mai 2019

www.crisis.org.uk/media/240399/cri0226_cover_the_cost_report_aw_web.pdf

7 Shining a Spotlight on the Hidden Housing Market

Housing LIN a Shakespeare Martineau, Mehefin 2019

www.housinglin.org.uk/Topics/type/Shining-a-Spotlight-on-the-Hidden-Housing-Market/

8 Defining and measuring housing affordability – an alternative approach

Y Comisiwn Tai Fforddiadwy, Mehefin 2019

www.affordablehousingcommission.org/news/2019/6/6/ defining-and-measuring-housing-affordability-an-alternative-approach

9 Grounds for Change – essay collection
Shelter, Mehefin 2019 england.shelter.org.uk/professional_resources/policy_and_research/policy_library/policy_library_folder/report_grounds_for_change

10 Capital cities. How the planning system creates housing shortages and drives wealth inequality

Centre for Cities, Mehefin 2019

www.centreforcities.org/reader/capital-cities-how-the- planning-system-creates-housing-shortages-and-drives- wealth-inequality/


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »