Y gweinidog tai a llywodraeth leol, Julie James, yn dweud wrth Jules Birch am ei blaenoriaethau yn sgil yr adolygiadau annibynnol o’r cyflenwad tai fforddiadwy a datgarboneiddio tai.
Mae’r cyfnod cyn toriad yr haf bob amser yn un prysur i weinidogion wrth i ddeciau gael eu clirio ac addewidion am gyhoeddiadau disgwyliedig gael eu gwireddu. Fodd bynnag, wrth nesáu at y toriad hwn, mae pethau’n wallgof o brysur.
Mae’r pythefnos cyn cyfweliad WHQ gyda Julie James wedi cynnwys cynnig ymateb swyddogol i’r adolygiad annibynnol o’r cyflenwad tai fforddiadwy, ymgynghoriad mawr ar ymestyn y cyfnod rhybudd cyn troi allan yn y sector rhentu preifat, a chyfarfod cyntaf y Grŵp Gweithredu newydd ar Ddigartrefedd. Caiff yr adroddiad pwysig ar ddatgarboneiddio tai ei lansio y diwrnod wedyn ac mae’r cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig ynglŷn â rhenti tai cymdeithasol ar fin cael ei wneud. Hyn oll tra bod un digwyddiad anferth y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru yn effeithio ar bopeth mae’n ei wneud.
Etifeddodd yr AC dros Orllewin Abertawe y portffolio tai gan Rebecca Evans ym mis Rhagfyr a buan y daeth yn adnabyddus am siarad yn ddi-flewyn ar dafod. Dechreuais trwy ei holi am ‘sosialaeth yr 21ain ganrif’, syniad sy’n ganolog i weledigaeth y prif weinidog Mark Drakeford ar gyfer Cymru. Beth mae hynny’n ei olygu o ran tai?
‘I mi, ystyr hynny yw cyfiawnder cymdeithasol’, meddai. ‘Cefais fy magu mewn tŷ cyngor, a mam-gu oedd y person cyntaf i symud i mewn i’r tŷ, a bu’n sôn ar hyd ei hoes am ba mor hyfryd oedd y tŷ a chymaint gwell na lle roedden nhw’n byw o’r blaen. Cafodd peth o hynny ei sgubo ymaith gan Thatcher a Deddf Tai 1989. Nawr, mae gennyf y fraint o fod mewn sefyllfa lle mae’r rheolau a ddaeth i rym bryd hynny, y bûm yn ymladd yn eu herbyn mor daer, wedi cael eu dileu. Am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, gallwn ddechrau adeiladu’r tai cymdeithasol a fydd yn golygu y gall cenhedlaeth yr 21ain ganrif ymfalchïo yn y lle maen nhw’n byw a dweud, ‘mawredd, fyddech chi ddim yn credu lle rôn i’n byw o’r blaen.’
Ymddengys hyn oll yn briodol iawn ym mlwyddyn canmlwyddiant y tai cyngor cyntaf, ac mae hi’n cytuno. ‘Gwir iawn, ac mae’n eironig braidd ein bod wedi troi’n ôl at wneud hyn eto, gan sylweddoli’r fath gamgymeriad oedd cefnu ar hynny, a chredu bod yn rhaid i bawb fod yn berchen ar eu cartref eu hunain i fod o werth mewn cymdeithas’, meddai. ‘Yr hyn mae pobl ei eisiau yw tŷ o safon derbyniol a diogel, y gallant ei alw’n gartref iddyn nhw, a deiliadaeth sicr.’
Yma, mae’n cyfeirio at y Ddeddf Rhentu Cartrefi, a fydd, meddai, yn newid y cydbwysedd rhwng landlordiaid sector preifat a thenantiaid yng Nghymru yn sylfaenol. Mae’r Ddeddf a basiwyd yn 2016 yn cyflwyno ystod o fesurau newydd i ddiogelu tenantiaid ond nid yw mewn grym eto. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn ymgynghori ar ymestyn y cyfnod o rybudd ar gyfer troi allan heb fai o ddau i chwe mis.
‘Dydyn ni ddim wedi gallu gweithredu’r Ddeddf, sy’n gryn rwystredigaeth, oherwydd anawsterau gyda system TG y llysoedd’, mae’n esbonio. ‘Rydym bellach wedi dod o hyd i ateb i hynny – yn y bôn, rydym yn talu am newid y system – ac felly gallwn weithredu’r ddeddf, sy’n wych. Un o’r pethau rydym am ymgynghori yn ei gylch yw a ddylai cyfnod rhybudd adran 173 o’r Ddeddf, sy’n caniatáu i landlord adfeddiannu tŷ, fod yn hwy. Rydym yn ymgynghori ar ei ymestyn i chwe mis er mwyn rhoi hanner blwyddyn i rywun allu cael trefn ar bethau iddyn nhw a’u plant ac ati.’
Dydy ymestyn y cyfnod rhybudd ddim yn llwyr fodloni dyheadau ymgyrchwyr a alwodd am ddileu’r hawl yn llwyr, fel yr addawodd y llywodraeth Geidwadol y byddai’n ei wneud yn Lloegr. Fodd bynnag, mae’r gweinidog yn dadlau bod y cyd-destun cyfreithiol yn wahanol. Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar ddileu Adran 21 o Ddeddf Tai 1988, tra bod y Ddeddf gyfan yn cael ei diddymu yng Nghymru.
Mae landlordiaid wedi galw’r estyniad yn ‘warthus’, gan ddadlau y bydd yn cwtogi ar y cyflenwad o gartrefi rhentu preifat ond dywed hithau na fydd yn eu hatal rhag cael gwared ar denant sy’n torri cytundeb. ‘Mae cyfyngiadau ar hyn. Ni fydd gan landlord sy’n ymddwyn yn dda unrhyw broblem ac ni fydd gan denant sy’n ymddwyn yn dda unrhyw broblem. Ond os bydd gan denant ôl-ddyledion, yna eir drwy’r prosesau arferol.’
Mae hyn yn arwain yn ddigon naturiol at bwnc arall a gododd yn ddiweddar, sef landlordiaid cymdeithasol yn troi pobl allan. Amlygwyd hyn gyntaf mewn gwaith a wnaed i Lywodraeth Cymru y llynedd ar ddyled i wasanaethau cyhoeddus. ‘Roedden ni’n tybio mai ôl-ddyledion treth gyngor fyddai’r swm mwyaf, ond gwelsom mai rhent cymdeithasol oedd y rhan fwyaf ohono’, meddai. ‘Mae hynny wedi symbylu ein ffordd o feddwl ers hynny. Yn 2016/17 cafodd bron 800 o bobl eu troi allan o dai cymdeithasol yng Nghymru, ond cychwynwyd ar y broses gyda bron 4,000 o bobl. Felly, o ystyried y trawma a achosodd hynny i denantiaid, hyd yn oed heb fynd trwy’r holl beth, a’u hymwneud wedyn â gwasanaethau cyhoeddus eraill a ddarperir gennym, meddygon teulu, iechyd meddwl ac yn y blaen, dydy hynny ddim yn dderbyniol. Dyw hi ddim yn ffordd gall o fynd ati i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.’
Yn dilyn ymchwil mwy diweddar ar ran Llywodraeth Cymru sy’n dangos anghysondeb mawr rhwng gwahanol gynghorau a chymdeithasau tai, meddai: ‘Rydym am gael sgwrs gyda’r sector, am yr hyn maen nhw’n ei wneud a pham maen nhw’n ei wneud a beth yw’r angen am wneud hynny, ac a oes canlyniadau anfwriadol i’r hyn a wneir. Pam mae landlordiaid cymdeithasol yn gwneud hynny? Wrth droi rhywun allan o dai cymdeithasol, rydych chi i bob diben yn eu gwneud yn ddigartref. Does dim synnwyr yn hynny.’
Mae cysylltiad uniongyrchol yma â’i hagenda ar ddigartrefedd. ‘Yr ochr arall i’r geiniog yw ein bod yn awyddus iawn i weithredu Tai yn Gyntaf. Felly bydd angen i ni grynhoi set o wasanaethau o gwmpas pobl sydd wedi cael eu hunain yn ddigartref ar y stryd, efallai am amser maith, ac sydd bellach yn ôl mewn llety, ond sydd ag angen help i fagu sgiliau ac ymgeisio am fudd-dal neu sicrhau cyflogaeth neu gymorth iechyd meddwl neu beth bynnag sydd ei angen. Felly rydym am weithio gyda’r LCCiaid i sicrhau bod y mesurau hynny yn eu lle fel na chaiff neb eu troi allan. Oherwydd pan gaiff teulu ei droi allan, i ble maen nhw’n mynd?
Dyma’r gweinidog yn cyfeirio am y tro cyntaf at rywbeth a fydd yn thema gyson yn ystod y cyfweliad: gwneud cysylltiadau rhwng y setliad rhent a blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru.
‘Mae angen i ni ehangu ei gwmpas [Tai yn Gyntaf] ond bydd yn rhaid i’r LCCiaid ein helpu gyda hynny neu fedrwn ni byth mo’i wneud. Wrth bennu’r polisi rhent yn y dyfodol, dwi am weld pa hyblygrwydd y gallwn ei gynnwys ar gyfer landlordiaid sy’n ymddwyn yn iawn, a llai o hyblygrwydd i’r rhai nad ydynt, fel bod modd gwobrwyo a chosbi o fewn y system hefyd.’
Mae’r sôn am droi allan a Tai yn Gyntaf yn codi rhai cwestiynau ynglŷn â’i ffordd ehangach o fynd i’r afael â digartrefedd. A ydy hi’n credu ei bod hi’n bosibl cael gwared o ddigartrefedd yng Nghymru? A beth ddylai’r blaenoriaethau fod?
‘Ydw, dwi’n credu ei fod yn bosibl. Dwi ddim yn credu ei fod yn bosibl ar unwaith. Gofynnwyd i mi droeon i ddweud na fydd neb yn ddigartref ar y strydoedd y Nadolig yma, a fedra’i ddim dweud hynny, gan nad oes gennym y systemau i allu sicrhau hynny. Byddwn yn sicr yn creu llety argyfwng a byddaf yn gwneud yn hollol siŵr bod gan bobl le i fynd iddo oddi ar y strydoedd, a phopeth arall. Ond dweud y byddwn yn gallu datrys y broblem honno mewn pedwar mis, allwn ni ddim, a dydw i ddim yn arfer rhoi addewidion na allaf eu cadw. Yr hyn y gallwn ei wneud yw dechrau ailgyfeirio ein gwasanaethau oddi wrth bethau nad ydynt wedi profi eu hunain yn y tymor hwy i mewn i bethau sydd yn profi eu hunain. Mae’n ymddengos bod dulliau Tai yn Gyntaf yn gweithio. Maen nhw’n ddrutach yn y lle cyntaf, ond yn llawer mwy effeithiol yn y pen draw.’
Mae’n mynegi ei rhwystredigaeth nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros yr holl gyfarpar polisi – yn enwedig y gyfundrefn les a Chredyd Cynhwysol – ond yn dadlau mai’r hyn y gall ei wneud yw ‘sicrhau nad ydym yn gwneud pethau’n waeth yn anfwriadol drwy ein polisïau ni hefyd’ a ‘gwneud i’n gwasanaethau gydweithio’n well ‘.
Rhaid i hyn ddechrau, gellid tybio, trwy fod â chartrefi ar gael ar gyfer Tai yn Gyntaf? ‘Rhaid. Mae angen codi tai i greu’r cyflenwad hwnnw. Yn ffodus, rydym mewn sefyllfa, o’r diwedd, i allu dechrau adeiladu tai cymdeithasol, yn gyflym ac ar raddfa eang. Bûm ar daith galonogol iawn o gwmpas Cymru yn siarad â phobl ac maen nhw’n frwd iawn o blaid gwneud hynny.’
Rydym yn siarad yng nghyd-destun adolygiad tai fforddiadwy a sefydlwyd er mwyn canfod ffyrdd o ddarparu mwy o gartrefi o fewn yr adnoddau presennol. Thema allweddol drwy’r holl adolygiad, ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo, yw gwerth am arian. Sut mae hi’n gweld hynny?
‘Mae angen dod o hyd i’r cydbwysedd cywir, on’d oes? Dwi’n deall yn iawn beth oedd wrth wraidd pryder y panel; beth maen nhw’n ei ddweud yw, os oes gennym bolisi rhent â nenfwd arno, ac LCC sydd wedi cyrraedd y nenfwd hwnnw a heb wneud dim ynglŷn â’u costau, gweinyddiaeth, neu unrhyw beth arall, yna dydy’r tenantiaid hynny ddim yn cael gwerth am arian. Os ydyn nhw, ar y llaw arall, yn gweithio gyda’u tenantiaid i sicrhau bod y rhenti ar y lefel gywir ac ati, wel, maen nhw’n cael gwerth am arian. Gallai’r rhent fod yr un fath, mae’n dibynnu llwyr ar yr hyn rydych chi’n ei ddarparu am yr arian hwnnw.’
Beth bynnag yw’r union fformiwla mewn perthynas â CPI, mae’n amlwg y bydd y cyhoeddiad polisi rhent hwn yn wahanol.
‘Rydyn ni am ddigon o hyblygrwydd i allu gwobrwyo’r mathau o ymddygiad rydym am eu gweld, a pheidio â gwobrwyo ymddygiad nad ydym am ei weld’, meddai. ‘Dwi ddim am enwi enwau yma, ond mi wn bod rhai LCCiaid wedi gosod y polisi ar y lefel uchaf un, a rhoi’r bai wedyn ar Lywodraeth Cymru. Wel, ddwedson ni ddim wrthyn nhw am godi’r lefel uchaf, dim ond dweud mai dyna’r mwyaf y gallent ei godi mewn unrhyw amgylchiadau. Mae angen i mi weithio gyda phobl i sicrhau eu bod yn deall nad targed mo hwn, ond nenfwd.’
Felly beth allai’r polisi hwnnw ei olygu’n ymarferol? ‘Byddaf yn anelu at fwy o hyblygrwydd i bobl sy’n ymddwyn yn dda ac yn gwneud y peth iawn, a llai i rai nad ydyn nhw’n gwneud y peth iawn. Dyna pam dwi braidd yn amharod i ddweud pryd dwi am ei gyhoeddi oherwydd mae’n fwy cymhleth na dim ond dweud “dyma rif”. Rhaid cael y manion yn iawn.’
A beth allai’r ystyriaethau eraill fod? ‘Nifer o bethau, felly, gwasanaethau i denantiaid, sut lais sydd gan y tenant, a ydych chi’n adeiladu ai peidio, a ydych chi’n defnyddio’r llif rhent i gynyddu’r stoc tai cymdeithasol, beth yw eich polisi adeiladu. Cyfaddawd yw hyn, ynte? Dyma’r llif incwm mae pobl yn ei ddefnyddio i fenthyca’r arian i adeiladu’r llwyth nesaf o dai cymdeithasol felly, o dan yr amgylchiadau hynny, rydych chi am iddyn nhw allu gwneud hynny. Ond nid pob LCC sy’n adeiladu ac nid pob cyngor sy’n adeiladu.’
Gwêl gysylltiad rhwng datgarboneiddio a’r setliad rhent hefyd. ‘Efallai y lluniwn bolisi rhent mewn sawl rhan’, meddai. ‘Gallwn ddweud ein bod wedi pennu rhif nenfwd ond peidiwch â chael ein twyllo, bydd nifer o linynnau ynghlwm wrth hynny, i’w cyhoeddi ychydig yn nes ymlaen. Dwi’n deall bod pobl eisiau sicrwydd ynglŷn â hyn, maen nhw am gael trefn ar eu gwaith, ond dwi hefyd eisiau cynhyrchu cryn dipyn o’r system. Does gyda ni ddim cymaint â hynny o fesurau rheoli, felly rydym am eu defnyddio i greu’r fantais fwyaf. Dwi ddim yn mynd yn groes i’r sector yn y fan yma. Mae pawb arallo am wneud hyn hefyd, felly rydym yn gytûn. Chwrddais i â neb sy’n dweud wrthyf nad dyma’r hyn y dylem fod yn ei wneud. ’
Dywed ei bod yn edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad datgarboneiddio yn fanwl dros yr Haf. ‘Dwi eisiau gweld beth maen nhw’n ei ddweud am ble y cawn ni’r arian i wneud hynny, beth rydyn ni’n ei ddisgwyl ar gyfer tenantiaid, beth sydd angen i ni ei wneud gyda lwyfansys atgyfweirio gwaddol a mawr, a beth rydyn ni’n mynd i’w wneud â Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) pan fyddwn wedi ei gyrraedd.’
Gyda disgwyliadau y ceir WHQS 2, mae hynny’n codi holl gwestiwn costau. Wrth iddi wawrio ar landlordiaid cymdeithasol faint o’u hadnoddau y gallai fod yn rhaid eu neilltuo i ddatgarboneiddio eu stoc bresennol, sut mae hi’n gweld y cyfaddawd rhwng hynny â buddsoddi mewn cartrefi newydd?
‘Rhaid i ni ddod i gasgliad ynglŷn â hynny. Mae’n rhaid i ni gael y sgyrsiau hynny ynglŷn â beth yw’r cyfaddawd rhwng adeiladu newydd a’r stoc hŷn. Ar ba bwynt y byddwch chi’n penderfynu nad yw’n werth diwygio’r hen stoc a’ch bod am ei ddymchwel? Beth yw’r ôl-troed carbon sy’n deillio o hynny? Ac yna, holl fater cartrefi fel gorsafoedd pŵer. Beth sy’n digwydd os rhown ni baneli ffotofoltäig ar doeon ein tai cymdeithasol? Beth fydd effaith hynny ar y tenantiaid? Beth allwn ni ei wneud â’r rhenti? Pwy sy’n elwa? Os ydych chi wedi inswleiddio’r cartref hwnnw’n iawn, gall hynny ei oeri yn yr haf a’i gynhesu yn y gaeaf ac mae biliau tenantiaid yn lleihau. Mae ‘na lawer o bethau da y gellir eu gwneud.’
Cyn mentro ar weddill yr agenda orlawn hon, galwodd y panel adolygu tai fforddiadwy am fuddsoddi mewn digon o adnoddau yn adran dai Llywodraeth Cymru i allu gweithredu argymhellion fel y fframwaith grant newydd arfaethedig. Mae datgarboneiddio a’r gobaith o setliad rhent newydd â llinynnau ynghlwm wrtho yn tanlinellu’r pwynt hwnnw yn fwy byth. Ond mae codi cwestiwn adnoddau yn dod â ni’n syth at y digwyddiad enfawr hwnnw sydd y tu hwnt i reolaeth Cymru.
‘Yn sicr mae’n rhywbeth rydyn ni’n edrych arno ac fe dderbynion ni’r argymhelliad’ meddai. ‘Ond nawr mae’n rhaid i ni siarad am y gair Brexit hyll. Ar hyn o bryd mae adnoddau Llywodraeth Cymru wedi eu hymestyn i’r eithaf gyda cheisio trefnu cymaint ag y gallwn oherwydd y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, a fyddai’n drychinebus. Rydyn ni’n wirioneddol brin o adnoddau, yn fwy nag y buom erioed. Felly dwi’n credu bod gennym ni’r ewyllys i wneud hyn, rydyn ni’n derbyn y ddadl yn llwyr, ond ar y foment rydyn ni’n delio ag argyfwng arall. A dwi’n credu y byddai’n anonest dweud dim byd arall.’