English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol – Gwnaed yng Nghymru

Mae’r rhifyn Gwanwyn hwn o WHQ yn dathlu ugain mlwyddiant datganoli ac etholiadau cyntaf y Cynulliad.

Er mor anodd dychmygu hynny nawr, cyn Mai 1999 roedd polisi tai heb ei ddatganoli, a doedd y gweinidogion a’i pennai weithiau ddim hyd yn oed yn ASau Cymreig. Yn ei gyfnod fel ysgrifennydd gwladol Cymru, roedd AS Wokingham John Redwood yn enwog am

wneud traed moch o eiriau’r anthem genedlaethol, ond defnyddiodd y wlad hon hefyd fel labordy ar gyfer syniadau Thatcheraidd am dai.

Dechreuodd hynny newid gydag ethol y Cynulliad cyntaf, a byddwn yn olrhain datblygiad y setliad datganoli ac effaith hynny ar dai yn y rhifyn hwn mewn erthyglau gan Gareth Hughes, Daran Hill a Matt Dicks. Cawn safbwyntiau gwleidyddol hefyd gan Mike Hedges, Llafur, David Melding, Ceidwadwyr, a Leanne Wood, Plaid Cymru. A chawn bersbectif ehangach gan Auriol Miller ar sut olwg allai fod ar bolisi ynni datganoledig, a pha ran y gallai tai ac adfywio ei chwarae yn hynny o beth.

Mae’r mater yn codi ar foment a allai fod yn un allweddol yn natblygiad polisi tai’r dyfodol, gyda’r adolygiad annibynnol o’r cyflenwad tai fforddiadwy a gadeiriwyd gan Lynn Pamment i’w gyhoeddi ddechrau Mai. Rhoddir sylw llawn i hynny ar wefan WHQ gyda llawer mwy o ddadansoddi i ddilyn yn y rhifyn print nesaf, ond am y tro, dyma fwrw golwg yn ôl at yr adolygiad annibynnol diwethaf o dai fforddiadwy – adolygiad Essex yn 2008.

Mae ein prif nodwedd arall yn edrych ar gynllun arall sy’n gynnyrch polisi datganoledig, y Rhaglen Tai Arloesol, wrth i Gayna Jones asesu ei llwyddiant a’r gwersi a ddysgwyd, a byddwn yn bwrw golwg dros rai o cynlluniau sydd ar y gweill ledled y wlad.

Ceir nifer o erthyglau hefyd ar ddigartrefedd, wrth i Pat McArdle fyfyrio ar drawsnewidiad Ymddiriedolaeth Mayday fel sefydliad. Mae Katie Dalton yn edrych ar y paratoadau ar gyfer y Grant Cefnogi Tai newydd, ac Alex Osmond yn nodi’r eliffant yn y stafell o ran Tai’n Gyntaf, a Joy Williams a Bill Rowlands yn ein diweddaru ar waith y Rhwydweithiau Tai.

Rydym yn canolbwyntio ar Gymdeithasau Tai, gydag erthyglau ar Renti Byw a’r uniad arfaethedig rhwng Tai’r Canolbarth a Thai Ceredigion, ac ar awdurdodau lleol, wrth i ni barhau i ddathlu can mlynedd o dai cyngor gydag adroddiad o Sir Ddinbych.

Yn olaf, ond yn sicr nid lleiaf, mae rhifyn mis Ebrill o WHQ yn golygu bod TAI rownd y gornel. Mae’r rhifyn yma’n cynnwys arweiniad naw-tudalen i’r brif gynhadledd, yr arddangosfa, yr ŵyl tai a’r datblygiad. Efallai y byddwn hyd yn oed yn gwybod beth sy’n digwydd gyda Brexit erbyn hynny. Gobeithio eich gweld yno.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »