Mae’r rhifyn hwn o WHQ yn dathlu’r hyn sydd, i bob pwrpas, yn ganmlwyddiant tai cyngor a hefyd rai datblygiadau mwy diweddar sy’n golygu y gallwn ganolbwyntio ar y dyfodol yn ogystal â’r gorffennol.
Er i awdurdodau lleol adeiladu cartrefi cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Deddf Tai Christopher Addison a basiwyd ym mis Gorffennaf 1919 yn foment allweddol ar gyfer tai cyngor. Am y tro cyntaf, roedd disgwyl i awdurdodau lleol asesu anghenion tai lleol a pharatoi cynlluniau i’w diwallu, a chawsant gymorth ariannol hael i adeiladu cartrefi i safonau uchel.
Ni pharodd hynny’n hir. Er i’r cymorth ddod ar ffurf benthyciadau i’w had-dalu o renti, ataliodd y Trysorlys y rhaglen ym 1921, a dim ond 213,000 o’r 500,000 o dai cyngor a gawsai eu haddo a adeiladwyd. Ymddiswyddodd Addison mewn protest.
Ond sefydlwyd yr egwyddorion tai cyngor sy’n gyfarwydd i ni a braenarwyd y tir ar gyfer twf yn ystod (y rhan fwyaf o’r) 20fed ganrif. Adroddir yr hanes yng nghyd-destun y DU gan John Boughton a Mark Swenarton ac yng nghyd-destun Cymru gan Stephen Kay tra bod Matt Dicks yn cysylltu’r dathliadau â dyfodol y sector.
Er gwaetha’r dirywiad er 1980, creodd dau ddatblygiad diweddar optimistiaeth o’r newydd. Yn gyntaf, daeth yr hawl i brynu i ben yng Nghymru o’r diwedd wrth i’r rhifyn hwn o WHQ gael ei gyhoeddi, er ei fod wedi ei ohirio eisoes mewn sawl ardal. Yn ail, dilewyd y terfyn benthyca sydd wedi llesteirio gallu cynghorau i adeiladu cartrefi newydd yng Nghymru a Lloegr.
Cawn glywed gan Abertawe, Caerdydd, Sir Gâr ac Ynys Môn am asesiad o gyflwr tai cyngor yn 2019. Er gwaethaf peth rhwystredigaeth a’r rhwystrau i gynnydd sy’n parhau, ceir nid yn unig optimistiaeth ynglŷn â’r dyfodol ond ymgais benderfynol i edrych y tu hwnt i niferoedd ar ansawdd, effeithlonrwydd ynni a fforddiadwyedd ac i ganolbwyntio ar y maes tai yn ei grynswth yn eu hardaloedd.
Tra bod rhifynnau blaenorol o WHQ wedi dathlu llwyddiant cymdeithasau tai y trosglwyddwyd stoc iddynt, mae’r ffocws y tro hwn yn gyfan gwbl ar dai cyngor. Clywn hefyd gan Rondda Cynon Taf ar swyddogaeth tai awdurdodau lleol ar ôl trosglwyddiad.
Ceir hefyd yn y rhifyn hwn erthyglau ar ddigartrefedd ieuenctid, yr ymgyrch i atal Rhyw am Rent, ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Wedi’r cyhoeddiadd ar renti cymdeithasol ar gyfer eleni, edrychwn ymlaen at yr arolwg annibynnol o’r cyflenwad tai fforddiadwy. Gyda hyn holl, ynghyd â’n nodweddion rheolaidd, dyma ddymuno iechyd da i 2019.
Jules Birch, Golygydd, WHQ