Yr hanesydd cymdeithasol John Boughton, awdur y llyfr a’r blog Municipal Dreams, yn cyflwyno nodwedd arbennig WHQ ar dai cyngor gyda chipolwg yn ôl ar 1919.
Efallai nad ynganodd Lloyd George y geiriau ‘Homes for Heroes’ erioed (er iddo addo prin 12 diwrnod wedi’r Cadoediad y byddai’n gwneud Prydain yn wlad gymwys i arwyr fyw ynddi), ond buan iawn yr aeth yr ymadrodd yn ddihareb.[i]Ac yn Neddf Tai a Chynllunio Trefol 1919 ymddangosai – am gyfnod byr, o leiaf – y câi’r addewid ei wireddu.
Roedd y Ddeddf (sy’n fwy cyfarwydd i lawer fel Deddf Addison ar ôl Christopher Addison, y gweinidog iechyd a thai Rhyddfrydol egnïol a delfrydgar a oruchwyliodd hynt a gweithrediad y ddeddf) yn mynnu i ddechrau fod pob awdurdod lleol yn archwilio anghenion tai lleol ac, yn hollbwysig, yn paratoi a gweithredu cynlluniau pendant i’w diwallu. O safbwynt pwerau deddfu a pheirianwaith gwladol, roedd Deddf 1919 yn adeiladu ar yr hyn a oedd yn bod eisoes, ond lle na chodwyd ond 24,000 o gartrefi cyn y rhyfel, câi mwy nag 1.1 miliwn eu cwblhau cyn yr un nesaf. Roedd y gofyniadar i gynghorau adeiladu yn weddnewidiol.
Ail elfen hanfodol Deddf 1919 oedd yr ansawdd a fynnai. Yn hynny o beth roedd y Report of the Committee Appointed to Consider Questions of Building Construction in Connection with the Provision of Dwellings for the Working Classes a gyhoeddwyd ym 1918 yn ganolog. Mae hwn yn fwy adnabyddus fel Adroddiad Tudor Walters.
Argymhellai’r adroddiad, a luniwyd gan y diwygwr tai Raymond Unwin yn bennaf, gartrefi parlwr – â dwysedd o ddim mwy na 12 yr erw – â dwy ystafell wely o leiaf, o ‘ymddangosiad bwthyn’, â gerddi blaen a chefn, a stafell ymolchi a phantri. Adlewyrchai ddelfrydau’r Dinasoedd Gerddi a hyrwyddwyd yn egnïol gan Ebenezer Howard cyn y rhyfel, a daeth y stadau cynnar ôl-ryfel yn agos at wireddu delfrydau esthetig Howard, os nad ei freuddwyd o hunan-ddigonolrwydd. Cyfundrefnwyd yr adroddiad ar ffurf y Manual in the Preparation of State-Aided Housing Schemes swyddogol a gyhoeddwyd ar gyfer cynghorau ym 1919 fel patrymlun ar gyfer cynlluniau lleol.
Yn drydydd, darparparai Deddf 1919 gymorth ariannol digyffelyb o hael ar gyfer gwaith adeiladu’r awdurdodau lleol. Ac eithrio’r hyn y gellid ei godi’n lleol trwy geiniog ar y trethi lleol, telid yr holl gostau cychwynnol gan y Trysorlys. (Dylid nodi, er mwyn ateb honiadau o gymhorthdal gwladol, bod y cymorth ariannol hwn ar ffurf benthyciadau ar log a ad-delid yn llawn, gyda rhenti tenantiaid wedi eu hamcangyfrif i sicrhau’r ad-daliad hwn.)Yr haelioni cymharol hwn – ynghyd â chost annisgwyl o uchel adeiladu wedi’r rhyfel mewn cyfnod o brinder llafur a deunyddiau a phwysau chwyddiant (roedd tai a gostiai £300 i £400 i’w hadeiladu cyn y rhyfel bellach yn costio tipyn mwy na £800) – a achosodd atal y rhaglen ar ôl dwy flynedd. Er i Lloyd George addo 500,000 o gartrefi newydd o fewn tair blynedd, dim ond rhyw 213,000 a gwblhawyd erbyn 1921 pan achosodd toriadau dybryd mewn gwariant cyhoeddus i’r rhaglen gael ei dileu.
Ymddiswyddodd Addison ei hun mewn protest, a mynd ymlaen i ddilyn gyrfa lewyrchus yn rhengoedd y blaid Lafur. Golygai ansawdd a chost tai Addison, fel y gelwid nhw, bod rhenti’n gymharol uchel, gan eu cyfyngu, gydag ambell eithriad, i’r dosbarth gweithiol mwy cefnog. Bu’n rhaid aros tan y 1930au am y cyrch yn erbyn y slymiau a’r ymdrech lew i ailgartrefu’r dosbarth gweithiol tlotach a drigai ynddynt.
Cawsai’r Ddeddf ei hun ei rhagweld.Ym mis Gorffennaf 1917, addawodd Cylchlythyr Bwrdd Llywodraeth Leol 86/1917, Housing after the War, ‘gymorth ariannol sylweddol o’r pwrs cyhoeddus’ i gynghorau lleol a oedd yn fodlon gweithredu rhaglenni tai dosbarth-gweithiol cymeradwy. Roedd rhai awdurdodau’n ddrwgdybus, ac ychydig iawn oedd yn barod.
Roedd Cyngor Bwrdeistref Abertawe yn eithriad. Chwalwyd ei gynlluniau ar gyfer datblygiad tai mawr newydd – er gwaethaf ei brotestiadau – pan dynnwyd cefnogaeth benthyca yn ôl ym 1915. Gallodd Abertawe ailwampio’r cynlluniau hynny a chyflwyno cynllun ar gyfer 500 o gartrefi erbyn Medi 1917. Roedd ffurf Stad Townhill a ddeilliodd o hynny, ac a gwblhawyd o dan Ddeddf Addison, yn ganlyniad dyluniad cyn y rhyfel gan Raymond Unwin.[ii]Ledled Prydain, derbyniodd y Bwrdd Llywodraeth Leol gynigion ar gyfer tua 42,000 o gartrefi awdurdod lleol cyn y daeth mandad a lefel cefnogaeth ariannol Addison yn hysbys.
Roedd rhagflaenwyr mewn mannau eraill hefyd, yn enwedig yng nghynlluniau’r Swyddfa Waith ar gyfer gweithwyr arfau mewn ardaloedd lle’r oedd prinder tai. Yn hyn o beth, mae Stad Well Hall yn Eltham, de Llundain, ger y Woolwich Arsenal yn sefyll allan: codwyd 1,500 o dai mewn arddull celf a chrefft ar gynllun Dinas Erddi o fewn blwyddyn yn unig, sef 1915: rhagflaenydd i, ac enghraifft eglur o’r delfrydau a’r ansawdd a goleddid gan Tudor Walters.
Mae’r cartrefi hyn yn cynnig un esboniad cryno o achosion a chymhelliant deddfwriaeth 1919 – rhyfel. Diau bod yr ‘Home for Heroes’ diweddarach yn adlewyrchu awydd i wobrwyo’r rheini – y rhai a fu byw, o leiaf, ond hefyd y gweddwon a’r teuluoedd amddifad – a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ond roedd gwleidyddiaeth yn gyffredinol yn fwy cymhleth. Roedd ofnau gwirioneddol y ceid aflonyddwch dosbarth-gweithiol, acaeth hyn yn bwnc llosg gyda hanes y chwyldro yn Rwsia. Codi bwganod, efallai, ond rhoddwyd peth sylwedd i’r pryder gan y twf enfawr mewn undebaeth lafur – cynnydd o 4.1 miliwn o aelodau ym 1914 i 6.5 miliwn ym 1918 – ac ymddangosiad mudiad stiwardiaid siop milwriaethus yn ystod y rhyfel.
Wedi Etholiad Cyffredinol 1918, y cyntaf lle roedd gan bob dyn mewn oed (yn ogystal â menywod hŷn) bleidlais, Llafur oedd yr wrthblaid swyddogol bellach. Roedd Addison ei hun, wrth gyflwyno’i fesur tai i’r senedd, yn hollol siŵr o’i ‘bwysigrwydd eithriadol o safbwynt nid yn unig lles corfforol ein pobl, ond ein sefydlogrwydd cymdeithasol a’n bodlonrwydd diwydiannol’.[iii]
Yn gefndir i’r wleidyddiaeth ddyrys yma roedd realiti ymarferol iawn system tai fenter-rhydd a oedd ar fin y dibyn. Roedd gwaith cynnal a chadw ac adeiladu tai newydd wedi dod i ben wrth i lafur a deunyddiau fynd i’r ymdrech ryfel bron yn llwyr. Soniodd Addison am ddiffyg o ryw 350,000 o gartrefi dosbarth-gweithiol eisoes yn deillio o’r terfyn ar adeiladu newydd, cyn nodi hefyd y niferoedd enfawr o bobl a oedd hwythau’n byw mewn tai gwael a gorlawn.Wrth i fwlch trychinebus dyfu rhwng cyflenwad a galw yn ystod y rhyfel, cynyddodd rhenti preifat nes i streic rhent ffrwydro yn Glasgow. Erbyn Tachwedd 1915, roedd rhyw 20,000 o deuluoedd yn cymryd rhan. Ymatebodd y Llywodraeth trwy reoli rhenti (a’u cyfyngu i’w lefel cyn y rhyfel) y mis canlynol. Gwarchododd y ddeddfwriaeth – a ymestynnwyd wedi’r rhyfel – gynhyrchiant adeg-rhyfel, ond sicrhaodd nad oedd cymhelliant ariannol gan adeiladwyr a landlordiaid i fuddsoddi yn y sector rhentu preifat ar ddiwedd y rhyfel. Yn y cyd-destun hwn, derbyniwyd ar draws y sbectrwm gwleidyddol bod ymyriad y wladwriaeth yn anochel.
Roedd Deddf Addison, felly, yn adlewyrchu moment brin ac unigryw. Byddai ail Ryfel Byd a’i effeithiau yn cynnig ffactorau tebyg, ond â gwleidyddiaeth asgell-chwith fwy amlwg. Yn 1919, roedd consensws eang yn derbyn bod rhoi rôl sylweddol i’r wladwriaeth mewn adeiladu tai yn angenrheidiol ac i’w groesawu, ond roedd cydbwysedd y cymhellion yn amrywio – o’r rhai ar y dde a’i gwelai fel anghenraid anffodus a thros-dro, i’r rhai ar y chwith a gredai bod rôl y wladwriaeth mewn darparu tai teilwng a fforddiadwy yn briodol, ac a obeithiai y byddai’n barhaol. Er tynnu cymorth gwladol hael Deddf Addison yn ôl yn fuan, a glastwreiddio’i delfrydau dylunio, pleidwyr achos tai cyhoeddus – o leiaf tan 1979 – a gariodd y dydd.
Ymgorfforai Deddf 1919 gred yn nyletswydd y wladwriaeth i sicrhau tai teilwng i bawb a phennodd feincnod o ran ansawdd a reolodd wleidyddiaeth tai am y saith degawd nesaf. O achos yr etifeddiaeth honno a’i gwersi, sy’n ymddangos mor berthnasol heddiw ag erioed, mae’n briodol iawn ein bod yn dathlu canmlwyddiant y Ddeddf eleni.
Hanesydd cymdeithasol yw John Boughton. Ceir ei flog sy’n dathlu ymdrechion a llwyddiant diwygwyr trefol cynnar yn municipaldreams.wordpress.com a chyhoeddir ei gyfrol, Municipal Dreams – the Rise and Fall of Council Housing, gan Verso.
[i]Araith yn Wolverhampton: ‘Mr Lloyd George on his Task’ The Times, 23 Tachwedd 1918.
[ii]Ynglŷn â hyn ac am fwy ar hanes tai cynnar Abertawe, gweler Nigel Alan Robins, Homes for heroes: Early twentieth-century council housing in the County Borough of Swansea(Dinas Abertawe, 1992). Gellir gweld lluniau cynnar o Stad Townhill mewn ffilm a gynhyrchwyd gan y Bwrdeistref yn 2010 sydd ar gael ar YouTube [https://www.youtube.com/watch?v=vfN71L_1yF8].
[iii]Addison yn cyflwyno Ail Ddarlleniad y mesur yn Nhŷ’r Cyffredin, 7 Ebrill 1919 [https://api.parliament.uk/historic-hansard/commons/1919/apr/07/statement-by-dr-addison]