Mae mawr angen newid agwedd negyddol y cyfryngau at denantiaid os ydym i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru, meddai Samantha Shaw.
Mae’r portread negyddol o denantiaid tai cymdeithasol gan rai o’r cyfryngau mewn rhaglenni fel Benefits Street, Skint a How to Get A Council House yn gyfystyr, yn fy marn i, â difenwi torfol.
Rhaid wrth ddrama i wneud rhaglenni teledu’n ddiddorol a gafaelgar, felly mae cynhyrchwyr teledu yn chwilio am y preswylwyr tai cyngor rhyfeddaf a’u cynrychioli fel y norm.
Mae lens gwyrdroadol y rhan fwyaf o deledu realiti rhad yn chwilio am y tenantiaid mwyaf problematig er mwyn sicrhau cynnwys dramatig, gan gamddarlunio’r mwyafrif helaeth o denantiaid a phreswylwyr tai cymdeithasol.Caiff termau difrïol fel CHAV, ystadau sinc ac is-ddosbarthiadau eu sathru i mewn i’n geirfa ac i mewn i’r seici torfol.
Pur anaml, os o gwbl, y caiff y ffaith mai pobl gyffredin yw tenantiaid tai cymdeithasol, sy’n byw eu bywydau, yn gweithio a magu teulu ac sydd, yn llawer amlach na pheidio, yn gaffaeliad i’n cymunedau, ei ddangos yn y cyfryngau.
Yn groes i gamdybiaethau poblogaidd, mae’r mwyafrif helaeth o breswylwyr tai cymdeithasol mewn gwaith cyflog, gyda llawer yn cyflawni gweithredoedd da, yn gwirfoddoli ac yn cyfranogi mewn mentrau lleol o fudd i’w cymunedau.
Gan y rhoddir blaenoriaeth i’r ymgeiswyr mwyaf diymgeledd wrth ddyrannu tai, mae’n anorfod y bydd ymddygiad canran fechan o’r ymgeiswyr yn heriol neu’n wrth-gymdeithasol, fel a welir ledled cymdeithas yn gyffredinol.
Anogwyd gwerthu stoc tai ein cynghorau a hybwyd perchentyaeth cartrefi gan lywodraeth Margaret Thatcher, ac esgorodd y polisi Hawl i Brynu (a ddilewyd yn ddiweddar yng Nghymru) ar gred y dylem oll ddeisyfu bod yn berchen ein cartrefi ein hunain.
Mae’r agwedd mai perchentyaeth yw’r delfryd, ynghyd â’r diffyg tai fforddiadwy, yn gadael llawer o denantiaid cymdeithasol yn teimlo fel methiant am nad ydynt yn berchen ar eu cartref, fel pe dylsem fod wedi gweithio’n galetach neu fod â mwy o uchelgais.
Gall y lluniau a’r iaith negyddol a ddefnyddir i ddisgrifio tenantiaid tai cymdeithasol mewn rhai o’r cyfryngau gael ei fewnoli, gyda phobl yn teimlo wedi eu barnu neu o dan anfantais oherwydd eu cod post.
Dylai’r pardduo sy’n deillio o bortread y cyfryngau o stadau dadfeiliedig yn llawn rafins di-waith, a chyffuriau a throseddu yn rhemp, gael ei herio; mae angen cyfleu darlun tecach a mwy realistig o fywydau go iawn y rhan fwyaf o denantiaid cymdeithasol.
Mae yna argyfwng prinder tai yng Nghymru, gyda chynnydd affwysol mewn digartrefedd, a miloedd o bobl yn byw mewn eiddo gorlawn neu anaddas tra ar restrau aros am dai.
Mae angen datblygu llwyth o dai cymdeithasol ar fyrder, ond ag ystyried yr holl sylw negyddol mae’r tenant tai cymdeithasol yn ei dderbyn, dim rhyfedd bod y nifer o wrthwynebiadau cynllunio wedi cynyddu’n aruthrol!
Mae pawb yn cytuno bod arnom angen mwy o dai, ond ‘Dim yn fy Iard Gefn I’ (neu ‘NIMBY’) yw’r ymateb yn aml i ddatblygiadau tai cymdeithasol newydd, oherwydd y camargraff cyffredin y bydd preswylwyr y tai newydd yn niweidiol i’r ardal.
Datgelodd arolwg gan One Poll a gomisiynwyd gan Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yn ddiweddar bod dau-draean o’r NIMBYs sy’n gwrthwynebu datblygiadau tai newydd yn eu hardal yn teimlo’n rhwystredig ar yr un pryd na all y genhedlaeth nesaf fforddio prynu eu cartrefi eu hunain. Mae angen buddsoddi’n helaeth hefyd i wella’r stoc tai cymdeithasol presennol, i ailddatblygu a gwella ansawdd y llety a, lle bo modd, i elwa i’r eithaf ar bosibiliadau pob eiddo a phob darn o dir.
Sut all cyngorau a chymdeithasau tai gael caniatâd i godi’r cartrefi fforddiadwy mae cymaint o’u hangen os gwrthodir ceisiadau o achos canfyddiad negyddol NIMBYs, a hyrwyddir gan rai o’r cyfryngau er mwyn cynhyrchu rhaglenni ‘porn tlodi’ teledu realiti rhad?
Mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru, darparwyr tai cymdeithasol, cynllunwyr tref a datblygwyr tai i adeiladu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ond mae NIMBY-aeth yn faen tramgwydd i’r broses.
Er mwyn gwanhau gwrthwynebiadau cynllunio, dylai rhannau o’r datblygiadau ddarparu ystod o gyfleusterau lleol sydd o fudd i’r gymuned ehangach, megis ysgolion newydd, siopau, parciau a chanolfannau cymunedol.
Mae mawr angen newid y ffordd y portreadir tenantiaid tai cymdeithasol yn y cyfryngau … i roi golwg ar denantiaid drwy lens mwy positif, nid un lliw-rhosyn, ond un clir.
Mae Samantha Shaw ar hyn o bryd yn rhiant-lywodraethreg ysgol, yn drefnydd gŵyl ac ar Banel Craffu Tai Taf. Cyn hynny roedd yn gyflwynydd radio cymunedol