English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

Y DU

Dileu terfynau benthyca ar gyfer tai cyngor

Defnyddiodd y Prif Weinidog Theresa May ei haraith arweinydd yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol i gyhoeddi y byddai terfynau benthyca ar Gyfrifon Refiniw Tai (HRA) awdurdodau lleol yn cael eu dileu.

Gosodwyd terfynau benthyca ar gynghorau yn Lloegr pan ddaeth hunan-gyllido i rym yn 2012, er i’r Trysorlys gynyddu’r terfynau hynny ddwywaith.

Bu ymgyrchwyr tai a llywodraeth leol yn cwyno ers tro fod y terfynau yn atal cynghorau rhag adeiladu cartrefi newydd a’u hatal rhag cyfrannu at nod llywodraeth San Steffan o 300,000 o gartrefi newydd y flwyddyn yn Lloegr.

Disgwylir mwy o fanylion yn y gyllideb ar ddiwedd mis Hydref, ond mae dadansoddiad gan Savills yn awgrymu y dylai cynghorau Lloegr allu adeiladu 15,000 o gartrefi newydd y flwyddyn, neu gyfanswm o 100,000, o ganlyniad i’r cam hwn.

Wrth i WHQ fynd i’r wasg, ni chafwyd cadarnhad swyddogol y caiff terfynau benthyca eu dileu yng Nghymru hefyd, ond bu setliad hunan-gyllido cyffelyb mewn grym gyda chynghorau Cymru ers Ebrill 2015.

Does dim terfynau yn yr Alban, a chwblhaodd cynghorau yno 1,320 o gartrefi newydd yn 2017/18.

LLOEGR

San Steffan yn newid cywair ar dai cymdeithasol mewn papur gwyrdd.

Cyhoeddodd llywodraeth San Steffan y bydd diwygio sylweddol ar safonau defnyddwyr ym maes rheoleiddio tai cymdeithasol, gan awgrymu cynrychiolaeth gryfach ar gyfer tenantiaid ar lefel genedlaethol.

ae papur gwyrdd mis Awst ar dai cymdeithasol yn newid cywair y drafodaeth am dai cymdeithasol yn sylweddol yn sgil tân Tŵr Grenfell, ac yn addo mynd i’r afael â’r stigma a wynebir gan denantiaid cymdeithasol.

Mae hefyd yn cynnwys dau dro-pedol sylweddol parthed polisïau a gyflwynwyd yn 2016. Bellach, ni weithredir y cynlluniau i orfodi cynghorau i dalu ardoll yn seiliedig ar werthu eu stoc drud ac i greu tenantiaethau tymor-penodol.

Fodd bynnag, mae’r llywodraeth yn parhau i fynnu bod diwygio lles yn ‘ymbweru tenantiaid fel defnyddwyr’ ac y dylai tai cymdeithasol fod yn ‘esgynfa tuag at berchentyaeth’.

 Gweinidog yn cadarnhau’r gwaharddiad ar ddeunyddiau llosgadwy

Yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol, cyhoeddodd y gweinidog tai James Brokenshire y gwaherddir deunyddiau llosgadwy mewn blociau o fflatiau, ysbytai, cartrefi gofal a llety myfyrwyr dros 18m o uchder.

O ganlyniad i ymgynghoriad gan lywodraeth San Steffan, rhaid i unrhyw ddeunyddiau a ddefnyddir ar waliau allanol adeilad – nid dim ond y cladin – fod o Safon A1 neu A2 (ddim yn llosgadwy neu â llosgadwyedd cyfyngedig).

Fodd bynnag, golyga hyn y gellir parhau i ddefnyddio deunydd llosgadwy ar adeiladau fel cartrefi gofal preswyl ac ysbytai sy’n llai na 18m o uchder.

Caeodd ymgynghoriad cyffelyb yng Nghymru ar y bwriad i wahardd deunyddiau llosgadwy ar adeiladau preswyl uchel ym mis Medi.

YR ALBAN

Gweinidog yn galw am derfyn ar rewi budd-daliadau

Galwodd yr ysgrifennydd nawdd cymdeithasol Shirley-Anne Somerville ar lywodraeth y DU i roi’r gorau i rewi budd-daliadau wedi amcangyfrif y bydd toriadau San Steffan yn golygu £3.7 biliwn yn llai o wariant ar nawdd cymdeithasol yn yr Alban erbyn 2021.

Yn ôl yr Adroddiad Diwygio Lles blynyddol, rhewi budd-daliadau fydd yn effeithio fwyaf, gan dorri £190 miliwn o wariant yn y flwyddyn gyfredol, yn codi i £370 miliwn erbyn 2020/21.

Dangosodd yr adroddiad hefyd y cwtogwyd ar incwm 3,500 o aelwydydd yn yr Alban gan y terfyn ar fudd-daliadau ers y gostyngwyd ef 2016. Roedd gan 89 y cant o’r rheini blant, ac mae 45 y cant yn colli £2,600 y flwyddyn neu fwy.

Meddai Shirley-Anne Somerville: ‘Mae’r adroddiad manwl hwn yn creu darlun moel o realiti bywyd i lawer o bobl yn yr Alban. Mae’n dystiolaeth ddamniol yn erbyn rhaglen gyfredol yr AGP o doriadau lles, sydd ond yn mynd i waethygu.’

LLYWODRAETH CYMRU

Drafft y Gyllideb yn diogelu cymorth tai

Caiff cyllid ar gyfer cefnogaeth tai ei warchod ar hyd gweddill tymor y Cynulliad hwn o dan gynlluniau Drafft y Gyllideb a gynigwyd gan yr ysgrifennydd cyllid, Mark Drakeford.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu cyfuno deg o grantiau’r Llywodraeth, yn cynnwys Cefnogi Pobl, mewn un ‘uwch-grant’ ar gyfer Ymyriad Cynnar, Ataliaeth a Chefnogaeth yn 2019/20.

Esgorodd hynny ar ofnau y gellid colli arian a gawsai ei glustnodi’n flaenorol ar gyfer gwasanaethau cefnogaeth tai o dan Cefnogi Pobl ac atal digartrefedd, fel a ddigwyddodd yn Lloegr pan roddwyd y gorau i glustnodi.

Yn Nrafft y Gyllideb, derbyniodd Llywodraeth Cymru gynnig gan yr ymgyrch Materion Tai a arweinir gan Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru y dylid rhannu’r uwch-grant yn ddwy, gydag un grant yn canolbwyntio ar dai yn unig.

Ceir un Grant Cefnogi Tai warchodedig o fis Ebrill 2019, a fydd yn cynnwys Cefnogi Pobl, y Grant Atal Digartrefedd a chyllid gweithredu Rhentu Doeth Cymru, tra bydd Grant Plant a Chymunedau yn talu am raglenni yn cynnwys Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf.

Penderfynwyd ar hyn yn sgil profion ar y gyfundrefn grantiau newydd a thystiolaeth o ardaloedd braenaru, a thrafodaethau gyda budd-ddeiliaid ac awdurdodau lleol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad gwerthuso interim, a dywed y caiff y trefniadau newydd eu monitro a’u gwerthuso’n ofalus er mwyn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad a Swyddfa Archwilio Cymru.

Cadarnhaodd Drafft y Gyllideb £35 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y Grant Tai Cymdeithasol hefyd.

Roedd cynlluniau gwario adrannol manwl i fod i gael eu cyhoeddi ar Hydref 23.

Am fwy o fanylion, gweler erthygl Katie Dalton, Let’s make the Housing Support Grant a success.

Ymatebion i’r Arolwg Tai Fforddiadwy yn crybwyll grantiau, rhenti, safonau a hawliau

Ymatebodd nifer o sefydliadau tai blaenllaw i’r Arolwg Annibynnol o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy, gan godi amrywiaeth eang o faterion polisi.

Galwodd Cartrefi Cymunedol Cymru yn ei gyfraniad am fwy o hyblygrwydd gyda phennu rhenti, ansawdd datblygu a’r modd y dosberthir y grant.

Dadleuodd STS Cymru o blaid gweithredu ledled y gyfundrefn tai ac am archwilio dull o ddarparu cartrefi sy’n seiliedig ar hawliau.

Rhoddai Shelter Cymru gefnogaeth gref i nod Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, ond pwysleisiai’r angen am iddynt fod yn wirioneddol fforddiadwy, ac am fwy o gymorth gyda sicrhau a chynnal tenantiaethau cymdeithasol.

Pwysleisiodd Tai Pawb yr angen am gyflenwi’r galw gan grwpiau yn cynnwys ffoaduriaid a phobl anabl a hŷn, ac am ddarparu Cartrefi am Oes.

Mewn ymateb ar y cyd yn dilyn eu hadroddiad ar gyflenwad tai fforddiadwy’r cymoedd, galwodd Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree am well dealltwriaeth o angen, mesur cliriach o fforddiadwyedd, a mwy o amrywio ar lefelau grant rhwng ardaloedd â galw is a rhai â galw uwch.

Cydymffuriaeth â SATC yn cyrraedd 91%

Cynyddodd y gyfran o dai cymdeithasol sy’n cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) o bum pwynt canran, i 91 y cant yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth.

Targed Llywodraeth Cymru yw bod holl stoc y cynghorau a’r cymdeithasau tai yn cydymffurfio’n llwyr â SATC erbyn 2020. Meddai’r gweinidog tai, Rebecca Evans:‘Mae tai o ansawdd da yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru am fod hynny’n hanfodol i’n hiechyd a’n lles. Dengys gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru bod tai gwael yn costio £67m y flwyddyn i’r GIG, felly mae hwn yn fuddsoddiad yn iechyd pobl, yn fuddsoddiad mewn atal tlodi tanwydd ac yn fuddsoddiad i wella bywydau pobl.’

 ‘Mae’n dda gennyf weld y fath gynnydd yn erbyn y targed hwn, a disgwyliaf i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai gyrraedd y targed hwn erbyn 2020.’

Mae’r ffigwr o 91 y cant yn cynnwys methiannau derbyniol, sy’n golygu nad yw’n bosibl  cyrraedd y safon ar gyfer elfen unigol. Gall hyn fod oherwydd cost neu amseru’r gwaith, cyfyngiadau corfforol ar y gwaith neu breswylwyr sy’n dewis peidio â chael gwaith wedi’i wneud.

Roedd 99 y cant o gartrefi cymdeithasau tai yn cydymffurio, a 77 y cant o gartrefi awdurdodau lleol.

Papurau ymgynghori

Mae papurau ymgynghori agored o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:

CYMRU

Credyd Cynhwysol yn bwrw tenantiaid i mewn i ddyled

Mae tenantiaid cymdeithasau tai Cymru sydd ar Gredyd Cynhwysol bellach mewn dyled o £2.3 miliwn – cynnydd o 150 y cant ers mis Rhagfyr 2017. Dengys ymchwil ar gyfer Cartrefi Cymunedol Cymru gyda 7,000 o bobl bod ôl-ddyledion rhent ar gyfartaledd wedi cynyddu o £420 i £434 dros yr un cyfnod, ac nad oedd 23 y cant o denantiaid sydd bellach mewn ôl-ddyledion wedi methu taliad rhent cyn symud i’r budd-dâl newydd.

Daeth y newyddion wrth i’r canghellor Philip Hammond ddod o dan bwysau cynyddol i ganfod mwy o arian ar gyfer Credyd Cynhwysol yng Nghyllideb yr Hydref, ac addefiad yr ysgrifennydd gwaith a phensiynau Esther McVey y byddai pethau’n waeth ar rai pobl.

Dim ond 11 y cant o hawlwyr yng Nghymru sydd ar Gredyd Cynhwysol hyd yma, ond bwriedir trosglwyddo 350,000 o aelwydydd eraill rhwng Gorffennaf 2019 a 2023.

Dywedodd Will Atkinson, rheolwr polisi a rhaglenni STS Cymru: ‘Mae tenantiaid yn brwydro i glirio ôl-ddyledion rhent a achoswyd gan effaith cychwynnol hawlio Credyd Cynhwysol, er i gymdeithasau tai wneud eu gorau glas i gefnogi tenantiaid gyda chymorth a chyngor ar gyllidebu.’

‘Anogwn yr AGP i ailystyried cynlluniau i ymestyn Credyd Cynhwysol i’r 350,000 o hawlwyr presennol yng Nghymru, i sicrhau na fydd y newid hwn yn peri anfantais ariannol i neb.’

Rhybudd ynghylch cynlluniau ‘dargyfeirio rhoi’

Mae Crisis a Shelter Cymru uno i alw ar awdurdodau lleol i feddwl eto ynglŷn â chefnogi cynlluniau sy’n annog y cyhoedd i beidio â rhoi arian i bobl sy’n cardota.

Daw’r apêl wrth i fwyfwy o gynghorau yng Nghymru sefydlu cynlluniau ‘dargyfeirio rhoi’ sy’n annog pobl i roi iddyn nhw yn hytrach nag yn uniongyrchol i bobl ar y strydoedd.

Mae cynlluniau eisoes yn rhedeg yng Nghastell-nedd Port Talbot, Caerdydd ac Abertawe a rhai eraill ar y gweill. Rhaid i bobl ddigartref wneud cais i’r cynllun, gan esbonio ar gyfer beth mae angen arian arnynt, a pham.

Dywed y ddwy elusen bod y cynlluniau dargyfeirio yn codi nifer o broblemau nad yw’r cyhoedd efallai yn gwbl ymwybodol ohonynt:

  • Mae’n hynod o anodd i bobl sy’n ddigartref ar y stryd wneud cais heb fynd trwy weithiwr cymorth, sy’n golygu nad yw’r arian yn cyrraedd y rhai mwyaf eithriedig
  • Gall hysbysebion ar gyfer y cynlluniau roi’r argraff weithiau ei bod hi’n hawdd i bobl sy’n cardota gael mynediad i lety a chymorth; mewn gwirionedd, mae’n llawer mwy anodd.
  • Gallai’r cynlluniau wneud y cyhoedd yn llai goddefgar o bobl sy’n cardota neu’n cysgu allan.

Meddai John Puzey, cyfarwyddwr Shelter Cymru: ‘Rydym yn annog y cyhoedd i ddefnyddio synnwyr cyffredin wrth benderfynu p’run ai i roi arian i bobl sy’n cardota. Y gwir amdani yw nad oes gennych syniad pa mor galed y gall eu bywyd fod. Os penderfynwch gyfrannu, rhowch yr arian fel rhodd ddiamod, gan y naill ddinesydd i’r llall. Efallai y dewiswch roi bwyd neu eitemau defnyddiol eraill. Unwaith eto, parchwch ddewisiadau pobl. Gofynnwch iddynt beth sydd ei angen arnynt.’

Datgelu’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Tai Cymru

Cyrhaeddodd mwy na 40 o brojectau, sefydliadau ac unigolion restr fer Gwobrau Tai Cymru 2018.

Mae’r rhestr lawn o’r rhai sydd ar y rhestr fer ar gyfer yr 11 gwobr wahanol ar gael ar wefan WHQ: www.whq.org.uk/2018/10/01/welsh-housing-awards-shortlist-revealed/

Datgelir enwau’r enillwyr ar Dachwedd 23 ac fe’u cynhwysir yn rhifyn nesaf WHQ.

 

CYHOEDDIADAU: 10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW

  • UK Housing Review, Papur Cefndir yr Hydref 2018

Y Sefydliad Tai Siartredig/Prifysgol Heriot Watt, October 2018

www.cih.org/publication-free/display/vpathDCR/templatedata/cih/publication-free/data/UK_Housing_Review_2018_Autumn_briefing_paper

  • Addasiadau Tai: Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Y Cynulliad Cenedlaethol, Gorffennaf 2018

www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld11703/cr-ld11703-w.pdf

  • Yn Gaeth ar y Stryd – Deall Cysgu Allan yng Nghymru

Shelter Cymru, Gorffennaf 2018

https://sheltercymru.org.uk/wp-content/uploads/2018/09/Yn-Gaeth-ar-y-Strydd-Executive-Summary.pdfk

  • The Evolving Private Rented Sector: Its contribution and potential

Prifysgol Efrog/Sefydliad Nationwide, Medi 2018

www.nationwidefoundation.org.uk/wp-content/uploads/2018/09/Private-Rented-Sector-report.pdf

  • Scoping Study: The impact of welfare reforms on housing associations

UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Awst 2018

housingevidence.ac.uk/publications/scoping-study-the-impact-of-welfare-reforms-on-housing-associations/

  • Reframing Homelessness in the United Kingdom

Frameworks Institute/Crisis, Mai 2018

frameworksinstitute.org/assets/files/crisis_messagememo_2018_reframing_homelessness.pdf

  • A New Deal for Social Housing – papur gwyrdd ar dai cymdeithasol

Yr Adran Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Awst 2018

www.gov.uk/government/consultations/a-new-deal-for-social-housing

  • Supported Lodgings – Exploring the feasibility of long-term community hosting as a response to youth homelessness in Scotland

Prifysgol Heriot Watt/Shelter Yr Alban, Awst 2018

www.scotland.shelter.org.uk/__data/assets/pdf_file/0009/1561878/Supported_Lodgings_Feasibility_Study.pdf/_nocache

  • The ‘Frustrated’ Housing Aspirations of Generation Rent

UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Awst 2018

housingevidence.ac.uk/publications/the-frustrated-housing-aspirations-of-generation-rent/

  • Green, Pleasant and Affordable

Onward, Awst 2018, Mehefin 2018

www.ukonward.com/new-policy-paper-green-pleasant-and-affordable-by-neil-obrien-mp/


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »