English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

O ble ddaethon ni, i ble ‘dan ni’n mynd, lle ‘dan ni arn

Hugh Russell yn adrodd ar hynt yr ymgyrch i ddiweddu digartrefedd pobl ifanc yng Nghymru.

Mae Diweddu Digartrefedd Ieuenctid Cymru (DDIC) yn ffordd uchelgeisiol, glymbleidiol o fynd i’r afael ag un o broblemau cymdeithasol mwyaf Cymru – diflaniad rhwydweithiau cefnogaeth cymdeithasol sy’n arwain at ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Ein cred ni yw bod diweddu digartrefedd pobl ifanc yn gyfrifoldeb ar bawb, a’n nod yw creu newid cyfundrefol a diwylliannol i sicrhau na fydd yr un person ifanc heb rywle i’w alw’n gartref. Chwedl y Prif Weinidog wrth lansio DDIC, ‘Ni ddylai Ieuenctid a Digartrefedd fynd law yn llaw.’

Mae gan y mudiadau a sefydlodd DDIC, Llamau, a’i bartneriaid GISDA, Dewis a SYSHP, ddegawdau o brofiad rhyngddynt o helpu pobl i oresgyn y problemau personol a oedd yn arwain at ddigartrefedd, ond roedden nhw wedi mynd yn fwyfwy rhwystredig nad oedden nhw mewn sefyllfa i herio’r strwythur cyfan. Roedd y bobl ifanc a oedd yn dod atynt am gefnogaeth yn wynebu heriau mwyfwy cymhleth a sylweddolai’r holl fudiadau bod angen newid cyfundrefnol er mwyn atal y llif o bobl ifanc oedd yn cael eu gadael i lawer gan systemau sy’n aml ddim yn gweithio i’r bobl y bwriedir iddynt eu helpu.

Ganed DDIC pan ymunodd y partneriaid mewn clymblaid a ymgyrchodd, yn llwyddiannus, i roi terfyn ar yr arfer o gartrefu rhai 16 ac 17oed dros dro mewn llety gwely a brecwast. Dadleuai’r partneriaid nad oedd hon yn ffordd briodol o drin plant diymgeledd, ac y byddai’n aml yn arwain at ganlyniadau negyddol y gallesid fod wedi eu hosgoi. Am gost debyg, gellid darparu llety â chymorth â’r holl gyfarpar angenrheidiol, gan sicrhau canlyniadau llawer gwell ar gyfer pobl ifanc ddiymgeledd.

Denodd deiseb yr ymgyrch filoedd o enwau a, gyda chefnogaeth yr actor a’r gweithredwr Michael Sheen – cefnogwr brwd o’r cychwyn cyntaf sydd yn awr yn noddwr DDIC – llwyddodd yn y pen draw i ddarbwyllo Llywodraeth Cymru o fuddiannau newid y canllawiau er mwyn diogelu’r bobl ifanc ddiymgeledd yma.

Yn sgil llwyddiant yr ymgyrch ddechreuol hon, gweithiodd Llamau a Michael Sheen i adeiladu clymblaid DDIC ehangach ac ym mis Mehefin 2017, cafodd ymgyrch Diweddu Digartrefedd Ieuenctid Cymru ei lansio’n swyddogol. Ein nod, fel yr awgryma’r enw, yw rhoi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru erbyn 2027. Mae’n nod uchelgeisiol, ond rydym yn hyderus y gellir ei chyflawni, gyda’r gefnogaeth iawn.

Cafwyd y gefnogaeth honno ar raddfa hael iawn ac rydym yn hynod ddiolchgar am y cynhesrwydd, y meddwl agored a’r parodrwydd i ymgysylltu a welwyd ar draws sectorau a chymunedau yng Nghymru. Mae’r fath barodrwydd yn arwydd o ymwybyddiaeth glir ledled Cymru o’r angen brys am fynd at wraidd digartrefedd i sicrhau na fydd rhaid i’n pobl ifanc a chenhedloedd i ddod ddioddef perygl a chywilydd bod heb le y gall rhywun ei alw’n gartref.

Mynegodd y Prif Weinidog ei gefnogaeth, gan ddweud: ‘Credwn bod gennym gyfle gwych yma yng Nghymru i newid pethau’n wirioneddol. Os gallwn roi dyn ar y lleuad, does bosib na allwn roi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru.’

Roedd y diweddar Carl Sargeant yn gefnogol iawn i’r project ac rydym yn ddiolchgar am ei gymorth i gael y cwch i’r dŵr. Dangosodd Rebecca Evans AC ei bod hithau’n llawn mor gefnogol, gan gydnabod bod diweddu digartrefedd ieuenctid yn fenter traws-adrannol sy’n cwmpasu addysg, sgiliau, gwasanaethau cymdeithasol, cyfiawnder ieuenctid ac iechyd. Rydym yn cydweithio’n glòs â’i hadran hi, a gynrychiolir ar y pwyllgor llywio.

Ochr yn ochr â’r Prif Weinidog, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, y Comisiynydd Plant, arweinydd CLlLC a’n noddwr Michael Sheen oll wedi ymuno â grŵp strategaeth i gefnogi gwaith yr ymgyrch, tra bod pwyllgor llywio, yn cynnwys llu o asiantaethau, academyddion ac arbenigwyr polisi cymdeithasol sydd â chyfoeth o wybodaeth arbenigol, yn dod â lefel ychwanegol o gefnogaeth i’r glymblaid.

Bydd gwaith y tîm project, yn ymarferol, yn canolbwyntio ar hyrwyddo newid dramatig mewn mesurau ataliol sylfaenol. Gyda’r gefnogaeth iawn, ni welwn bod unrhyw reswm i unrhyw blentyn sydd wedi arddangos arwyddion cynnar y gallai fod mewn perygl o ddioddef digartrefedd (goddef chwalfa deuluol tra’n dal yn yr ysgol, er enghraifft, neu fagwraeth yn y system ofal) i fynd yn ddigartref. Bydd DDIC yn gweithio i sicrhau cyfundrefn effeithiol, gydlynnol, wedi ei seilio ar dystiolaeth er mwyn hynny.

Mae yna gynseiliau ar gyfer ymdrin â digartrefedd ieuenctid yn y modd hwn – aeth Project dylanwadol Geelong yn Awstralia i’r afael â’r broblem trwy ddull tebyg sy’n canolbwyntio ar ataliaeth, a sicrhau canlyniadau dramatig: gostyngiad o 40 y cant yn y nifer o bobl ifanc a geisiodd help gyda digartrefedd dros gynfod tair-blynedd a gostyngiad o 20 y cant yn y rhai a gefnodd ar addysg yn ystod yr un cyfnod. Mae tîm DDIC mewn cysylltiad â rhai sy’n ymwneud â’r project hwn, â rhai tebyg yng Nghanada ac UDA, i sicrhau ein bod yn dysgu gan eu profiadau nhw, a rhannu’n profiadau ninnau.

Mae blaenoriaethu gwaith sy’n ymgodymu â digartrefedd ieuenctid ataladwy yn allweddol i DDIC, a dyna lle bydd ein ffocws pennaf, ond bydd angen o hyd am gefnogaeth eilaidd a thrydyddol pan fydd argyfwng sydyn yn golygu fod person ifanc yn cael ei wneud yn ddigartref. Felly bydd DDIC hefyd yn ymgyrchu i sicrhau parhad gwasanaethau cefnogi eilaidd wedi eu cyllido’n ddigonol, a all gamu i mewn a cheisio yn ymarferol i atal digartrefedd pobl ifanc.

Bydd y rhain yn cynnwys gwaith y gwyddom ei fod yn effeithiol, fel cefnogaeth allgymorth ymwthgar, i flaenoriaethu gwasanaethau y dywed pobl ifanc â phrofiad o ddigartrefedd wrthym y byddent wedi eu helpu i oresgyn eu problemau’n llawer mwy effeithiol. Fel enghraifft o hyn, mae DDIC yn ceisio sicrhau y darperir llinell gymorth 24-awr, y dywed arbenigwyr-trwy-brofiad wrthym y byddai wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw. Dangosodd siarad â phobl ifanc a fu’n ddigartref nad oedd gan 76 y cant ohonynt ddim syniad ble i droi; mae angen i ni newid hyn, a dyna nod darparu llinell gymorth sydd ar gael bob amser. Mae angen cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o beth yw, a beth yw ystyr, bod ‘mewn perygl o ddigartrefedd’ a ‘bod ar fin mynd yn ddigartref’. Gall mwy o ddealltwriaeth a pherchenogaeth ar draws pob sector arwain at ymyriad cynharach ac arbedion enfawr, nid dim ond yn ariannol ond o ran arbed pobl ifanc rhag ofn a thrawma pellach. Mae gwrando a gweithredu ar brofiadau pobl ifanc yn egwyddor allweddol i DDIC.

Mae’r her sy’n ein hwynebu yn anferth, yn enwedig cynyddu cydnabyddiaeth bod yn rhaid ymgorffori ataliaeth sylfaenol trwy addysg, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd meddwl, cyfiawnder ieuenctid a’r trydydd sector.

Gyda rhyw 7,000 o bobl ifanc y flwyddyn yn dod ar alw awdurdodau lleol Cymru am help gyda digartrefedd, gwyddom bod gennym fynydd i’w ddringo, ond trwy wrando a gweithredu ar yr hyn mae’r bobl ifanc yma’n ei ddweud wrthym, trwy gydweithio â’n partneriaid, a thrwy bwyso am newid sefydliadol a chymdeithasol i ddull ataliol o fynd ati, gwyddom y gallwn fod yn llwyddiannus. Er mwyn ieuentid heddiw, rhaid i ni fod.

Hugh Russell yw rheolydd project Diweddu Digartrefedd Ieuenctid Cymru


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »