Dylai’r Llywodraeth ohirio’r broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol er mwyn datrys problemau systemig, meddai Ian Simpson.
Rai blynyddoedd yn ôl, sgrifennais ddarn yn WHQ ynglŷn â rhan Bro Afon ym mhroject arddangos taliadau uniongyrchol yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP) a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2013.
Roedd tystiolaeth y projectau arddangos mor glir â’r grisial. Nodai’r adroddiadau gwerthuso a gomisiynwyd gan yr AGP y byddai tri o bob 10 tenant cymdeithasol yn cael trafferth gyda thaliadau uniongyrchol ac y byddai angen cymorth tymor-hir sylweddol ar ryw draean, a danlinellwyd gan y ffaith y newidiwyd 34 y cant o denantiaid Bron Afon yn ôl i system talu i’r landlord.
Pwysleisient mai dim ond 5 y cant o denantiaid oedd â chynilion wrth gefn i’w helpu â biliau annisgwyl neu fylchau yn eu hincwm. Arweiniodd y canlyniadau hyn at gyhoeddiad gweinidogol y byddai trefniadau talu amgen yn nodwedd o ddyluniad Credyd Cynhwysol ac y byddid yn penderfynu a ddylai tenantiaid dderbyn taliadau uniongyrchol ar y cyd â landlordiaid cymdeithasol. Dychwelaf at y pwyntiau hyn yn nes ymlaen ar ôl crynodeb byr o sut mae’r gwasanaeth llawn wedi bod yn achos Bron Afon a’n tenantiaid.
Yn y pum mis tan ganol Rhagfyr, hawliodd 519 o denantiaid Bron Afon wasanaeth llawn, sef rhyw 25 y cant o holl gwsmeriaid CC Torfaen, felly byddwn yn derbyn tua 100 o hawliadau newydd bob mis. Roedd gan lu o denantiaid ôl-ddyledion rhent eisoes ac erbyn diwedd y cyfnod hwn roedd naw o bob 10 mewn dyled i ni. Amcangyfrifir bod tua £ 51,000 o’u dyled yn deillio o Gredyd Cynhwysol – £109 yr un ar gyfartaledd, o’i gymharu â dim ond £23 ddwy wythnos cyn hynny. Y duedd a amlygir yw bod lefel y ddyled sy’n gysylltiedig â Chredyd Cynhwysol yn amrywio dros gylch tair-wythnos. Mae’n rhy gynnar i ddweud a fydd y patrwm yn parhau ond mae’n sicr yn effeithio ar lif arian.
Dros yr un cyfnod gwnaed cais am drefniadau talu amgen ar gyfer 111 o’n carfan ar wasanaeth llawn. Rydym wedi ymatal rhag gofyn am rai eraill, gan ganolbwyntio ar sefydlu debydau uniongyrchol yn lle hynny oherwydd yr oedi â thaliadau sy’n deillio o ddiffygion cydnabyddedig yn system brosesu’r AGP. Pe bai’r gwelliannau a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi bod yno o’r cychwyn cyntaf, mae’n debyg y byddem yn gweld yr un lefel o daliadau i landlord ag a welwyd yn y project arddangos.
Doedd neb yn synnu bod Gorffennaf yn fis gwael! Roedd ôl-ddyledion oherwydd CC y 23 tenant cyntaf ar wasanaeth llawn yn £329 ar gyfartaledd. Gorfu i rai ddisgwyl am naw wythnos a mwy am eu taliad dechreuol – gwarthus!
Mae CAB Torfaen yn llunio bwletin rheolaidd ar sail eu gwaith achosion, sy’n rhoi mewnwelediad i’r caledi gwirioneddol a dwys y mae teuluoedd diymgeledd yn ei ddioddef wrth drosglwyddo i CC:
- Mae gan 30 y cant o gwsmeriaid CC y CAB anhwylder iechyd meddwl, problem iechyd dymor-hir neu anabledd sy’n eu llyffetheirio
- Roedd 99% yn ceisio cymorth gyda’i hawliad dechreuol, a rhyw dri o bob 10 gydag elfen tai CC hefyd
- Mae nifer y talebau bwyd a ddefnyddiwyd yn Nhorfaen wedi cynyddu o 50 y cant ers cyflwyno’r gwasanaeth llawn
Gallwn ddweud mwy ond maddeuwch i mi os gadawaf y gwaith o gynhyrchu’r gyfrol swmpus ddiweddaraf am effeithiau CC yn nwylo galluog Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin.
Mae’n anodd anghytuno â beth mae CC yn ceisio’i gyflawni mewn egwyddor, sef symleiddio system fudd-daliadau lawer rhy gymhleth, cymell pobl i weithio, a chynyddu cyfrifoldeb personol. Sut mae’n gwneud hynny yw’r broblem.
Yn ôl at y project arddangos, felly. Rhagwelwyd llawer o’r hyn rydym wedi ei weld a’i brofi yn adroddiadau’r AGP ei hun. Aeth ein sector cyn belled â rhoi help llaw trwy gyd-ddylunio’r cysyniad o statws partner dibynadwy gyda swyddogion yr AGP dair blynedd yn ôl.
Mae’n gwbl annerbyniol i ni weld – wedi ei ysgogi gan ffigyrau ac, mi fentra’i, ar orchymyn y Trysorlys – lansio gwasanaeth hanner llawn, heb nemor ddim ystyriaeth o’i effaith ar bobl. Gwnaed llawer o sŵn gan weinidogion yr AGP ynglŷn â symud at fethodoleg ystwyth wrth ddylunio’r system pan ddaeth hynt project y CC yn destun pryder i’r llywodraeth yn wreiddiol. Ddim hanner digon ystwyth meddaf innau.
Croesawn gyhoeddiadau diweddar y Canghellor ynglŷn â gwelliannau mae mawr angen amdanynt i’r system (nodyn i’r Trysorlys – yr hyn a heuir a fedir) ond ni fyddai eu hangen pe bai holl noddwyr y project wedu rhoi’r ystyriaeth ddyledus i’r effaith ar gwsmeriaid yn y lle cyntaf.
Felly, ble mae hyn oll yn ein gadael ni?
Wel, yma yn Nhorfaen, rydym yn ffodus ein bod yn perthyn i bartneriaeth ddiwygio lles aml-asiantaeth ragweithiol iawn, a arweinir yn fedrus gan y cyngor, ac sydd â chysylltiadau da â swyddogion lleol yr AGP. Mae hyn yn ein galluogi i ddyfeisio a chyd-drefnu ymatebion strategol a gweithredol i ddrwg-effeithiau cymdeithasol ac ariannol penderfyniadau pellennig San Steffan, er enghraifft, trwy’r cysyniad sydd ar fin cael ei wireddu o leoli gwasanaethau cefnogi yn ein Canolfannau Gwaith lleol.
A beth am Lywodraeth y DU? Wel, fel adduned Blwyddyn Newydd, beth am ohirio’r ymgyrch a chyfeirio adnoddau at ddatrys yr holl broblemau systemig hysbys (a gweithredu gwelliannau sy’n bod eisoes fel statws partner dibynadwy a phorth landlord) mewn mannau lle mae’r system eisoes yn ‘fyw’, i ddarparu gwasanaeth gwirioneddol lawn y gellir ei ddyblygu mewn llefydd eraill pan fydd wedi ei brofi.
Does bosib nad yw’r cyfle i weld pawb ar eu hennill – cwsmeriaid, yr Adran Gwaith a Phensiynau a landlordiaid cymdeithasol – yn un y gellir ei wrthod!
Ian Simpson yw cyfarwyddwr tai a chefnogaeth cymunedol Tai Cymunedol Bron Afon