Mae rhifyn y Gaeaf o WHQ yn dychwelyd eto fyth i’r mater a fu ar frig yr agenda dai ar hyd y degawd yma: diwygio lles.
Daeth diwedd 2017 â mymryn o newyddion da. Mae tro-pedol llywodraeth y DU ynglŷn â’r cap ar Lwfans Tai Lleol (LTLl) yn dileu bygythiad dirfodol i dai cymdeithasol a llety â chymorth yng Nghymru, ac er nad yw’r consesiynau ar Gredyd Cynhwysol yn mynd yn ddigon pell, maent i’w croesawu serch hynny.
Mae ein nodwedd arbennig yn cychwyn â throsolwg gennyf fi a Hayley MacNamara ar y sefyllfa ddiweddaraf yn y DU ac yng Nghymru.
Dilynir hynny gan erthyglau gan Jen Griffths, Ceri Doyle, Claire Pearce-Crawford, John Doyle ac Ian Simpson ar y broses o gyflwyno gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn mewn sawl rhan o Gymru.
Dydy’r newyddion ddim yn ddrwg i gyd, ond ceir darlun cyffredinol o gynnydd mewn ôl-ddyledion rhent, tlodi a defnydd o fanciau bwyd, a system sy’n dal heb allu ymdopi er gwaethaf rhybuddion lu am y problemau a allai godi.
Yn y cyfamser, mae Jennifer Ellis yn ein hatgoffa bod llawer mwy o broblemau gyda LTLl na dim ond y cap. Sut mae rhewi cyfraddau LTLl (ers pedair blynedd) yn effeithio ar waith gyda’r sector rhentu preifat ac ar atal digartrefedd yn Rhondda Cynon Taf?
Mae diwygio lles yn rhan o’r cefndir i ddwy o’n prif erthyglau eraill hefyd.
Mae Ian Wilson yn datgelu canlyniadau dadansoddiad newydd o’r problemau sy’n wynebu darparwyr cartrefi ar gyfer pobl ar incwm isel yn y Cymoedd. Pa werth yw tai cymdeithasol na all tenantiaid cymdeithasol eu fforddio?
Dadl Douglas Haig yw bod yr hyn sy’n digwydd i LTLl ond yn un o gyfres o bolisïau anghyson ar y sector rhentu preifat a fydd yn golygu llai o gartrefi i’w rhentu’n breifat ar gyfer y bobl sydd ag arnynt fwyaf o’u hangen.
Mewn mannau eraill yn y rhifyn hwn, ceir erthyglau yn amrywio o ddadansoddiad o’r mesur dadreoleiddio cymdeithasau tai i lansio Hyb Cymru y Ganolfan Gydweithrediadol ar Dystiolaeth Tai, a ffordd newydd o fynd ati i ymgysylltu â thenantiaid yn Sir Fynwy.
Ac rydym hefyd yn dathlu’r enillwyr yn y ddwy seremoni wobrwyo fawr ar ddiwedd y flwyddyn: Gwobrau Tai Cymru a’r Gwobrau Hyrwyddo Annibyniaeth.
Ni fyddai’r rhifyn hwn yn gyflawn heb oedi am ennyd i fyfyrio ar y newyddion ysgytwol a effeithiodd mor ddwys ar bawb yn y maes tai yng Nghymru a thros y ffin, a chofio am Carl Sargeant a’i etifeddiaeth fel gweinidog.
Jules Birch, Golygydd, WHQ