Mae rhifyn yr Hydref o WHQ yn ffocysu ar swyddogaeth ehangach tai yng nghymunedau Cymru.
Mae’n prif nodwedd yn edrych ar bopeth ynglŷn ag ynni. Mae Shea Jones yn esbonio’r cefndir i broject ynni adnewyddadwy newydd a Rob Procter yn archwilio’r hyn sy’n ymddangos fel dyfodol disglair ynni cymunedol. A oes rhan bosibl i sefydliadau tai yn y naill faes a’r llall?
Mae gwaith ar ynni effeithiol yn cynnig cyfle i landlordiaid cymdeithasol greu swyddi a dod â budd i’w tenantiaid ar yr un pryd wrth iddynt gyfrannu at dargedau cynaliadwyedd cenedlaethol. Dywed David Bolton bod pethau’n symud ymlaen yn dda, ond mae angen gwneud mwy eto.
Mae cywaith rhwng Grŵp Pobl a Phrifysgol Abertawe yn arbrofi â’r cysyniad o gartrefi newydd â digon o dechnoleg ynddynt i weithio fel gorsfaoedd pŵer, ar ddablygiad yng Nghastell-nedd. Hola Kevin Bygate a allai 16 ‘Cartref Egnïol’ fod yn gychwyn rhywbeth ar raddfa lawer mwy.
Un elfen ym Margen £1.3 biliwn Dinas Bae Abertawe yw’r syniad o Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer ac mae’n prif erthygl yn canolbwyntio ar ffordd newydd o feddwl am economi’r ardal.
Mae’r economi sefydliadol – y rhannau hynny o’r sectorau cyhoeddus a phreifat sy’n gwneud bywyd bob-dydd yn bosibl, fel iechyd, addysg, archfarchnadoedd a chyfleustodau – yn cyflogi hyd at 45 y cant o unrhyw weithlu lleol.
Yn sgil adroddiad gan CREW ar botensial dull newydd o fynd ati sy’n canolbwyntio ar yr economi sefydliadol yn hytrach na phrojectau isadeiledd mawr, mae Joe Earle, Debbie Green a Karel Williams yn dadlau bod cymdeithasau tai mewn safle delfrydol i chwarae rhan allweddol.
Mewn rhannau eraill o’r rhifyn hwn, mae’r Monitor Digartrefedd diweddaraf gan Shelter yn dod i’r casgliad bod deddfwriaeth Cymru yn arwain y ffordd yn y DU. Eglura Beth Watts pam mae cymaint o ddiddordeb o gyfeiriadau eraill, a’r pethau sy’n dal yn destun pryder yma.
Yn ychwanegol at ein diweddariad cyson gan Fwrdd Rheoleiddio Cymru, ceir cyfres o erthyglau eraill sy’n edrych ar reoleiddio a llywodraethiant.
Mae Nick Ramsay yn egluro casgliadau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus parthed rheoleiddio cymdeithasau tai.
Mae Joy Kent, sy’n ystyried y ddadl parthed talu aelodau bwrdd, o blaid man cychwyn gwahanol.
Ac mae Mike Gaskell a Tom Wainwright yn gofyn a allai model cydfuddiannol arloesol Cartrefi Cymoedd Merthyr helpu cymdeithasau i gynnal eu diben cymdeithasol ac awdurdodau lleol i gadw’u dylanwad gyda throsglwyddiadau stoc.
Ar ben hynny i gyd, ynghyd â’n herthyglau nodwedd rheolaidd, cawn gipolwg slei hefyd ar rai o’r sesiynau a drefnir yng nghynhadledd flynyddol Cartrefi Cymunedol Cymru. Gobeithio eich gweld yno ym mis Tachwedd.
Jules Birch
Golygydd, WHQ