Shea Jones yn amlinellu project newydd gan y Sefydliad Materion Cymreig (SMC) sy’n edrych ar beth y gall ynni adnewyddadwy ei olygu i Gymru, â chysylltiadau â thai ac adfywio.
‘Fel cenedl, mae gennym gyfoeth o adnoddau ynni, ac mae hyn yn cynnig cyfle gwych i sbarduno ein hymgyrch dros Gymru decach a mwy llewyrchus, ac i sicrhau ansawdd bywyd gwell i’n cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol.’
Defnyddiodd y SMC y dyfyniad hwn fel datganiad agoriadol yn yr adroddiad swyddogol cyntaf a gyhoeddwyd nôl ym mis Ebrill o dan faner project Ail-egnïo Cymru.[1] Mae’n dod yn uniongyrchol o ragair y Prif Weinidog i adroddiad Llywodraeth Cymru, Ynni Cymru: Newid i Economi Carbon Isel.
Gyda gwraig a aned yn Llundain, gofynnir i mi yn aml beth sy’n gwneud Cymru’n unigryw a beth sy’n fy ngwneud yn falch o fod yn Gymro. Clywais pob math o atebion i’r cwestiynau hyn yn y gorffennol, o ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg i falchder am fod Cymro yn Lord of the Rings. I mi, a fagwyd yng Nghwm Aman, wrth droed cylch o fynyddoedd mawr, gwyrdd, îr, adnoddau naturiol enfawr Cymru sy’n fy nghyffroi fwyaf ac yn fy ngwneud yn fwyaf balch.
Wrth gwrs, gellir defnyddio’n hadnoddau naturiol i elwa ar bob math o fuddiannau yn gysylltiedig â thwristiaeth a chyfleoedd eraill. O ran cyflawni’r posibiliadau hyn i ddibenion cynhyrchu ynni adnewyddadwy, nid yw Cymru wedi gwireddu ei holl bosibiliadau ac, ar adegau, bu ar ei hôl hi o’i chymharu â gwledydd eraill y DU.
I ddibenion yr erthygl hon, ni fwriadaf dreulio gormod o amser yn pendroni am y rhesymau pam na wnaethom hynny; yn hytrach, fe ganolbwyntiaf ar y cyfleoedd sydd gan Gymru a sut mae gan broject Ail-egnïo Cymru gysylltiadau amlwg â thai ac adfywio. Thema gyson ar hyd fy erthygl yw’r gred y gallai’r sector cymdeithasau tai di-elw, yn enwedig, fod yn allweddol i ddatgloi gwir botensial ynni cymunedol trwy gynhyrchu ynni a defnyddio ynni i helpu i wireddu rhai o amcanion craidd y sector.
Y cwestiwn cyntaf y byddaf yn ei ofyn fel arfer yw beth yw’r broblem rydym yn ceisio’i datrys? Diffyg graddfa yn y sectorau lleol a chymunedol yw un o’r prif broblemau, ac mae gan y sector cymdeithasau tai y gallu i ysgogi sector cyfan i gyflawni pethau ar gyfer pobl a chymunedau.
Yn gyntaf, gair am y cefndir. Sefydlwyd Ail-egnïo Cymru o ganlyniad i adroddiad y SMC, An economic strategy for Wales? a danlinellai sut y gellid defnyddio adnoddau naturiol Cymru i hybu economi Cymru. Bydd y project, trwy gyfrwng chwe ffrwd waith wahanol a rhagor o bapurau byrion, yn darparu cynllun manwl a chyflawn i alluogi Cymru i gyflenwi ei gofynion ynni arfaethedig yn gyfangwbl o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, gan arwain at ostyngiad o 80% mewn allyriadau nwyon tŷ-gwydr sy’n gysylltiedig ag ynni.
Bydd y project, a gyllidir gan Sefydliad Hodge, Sefydliad Elusennol Friends Provident a Sefydliad Elusennol Polden-Puckham, yn dangos sut y gellir cyflawni hyn trwy ddefnyddio model gwasgaredig, sy’n cydnabod yr angen am brojectau cynhyrchu adnewyddadwy mawr ond sydd hefyd yn newid y berthynas rhwng pobl ac ynni, ac yn gwneud y defnydd gorau posibl o gyfraniad mentrau cymunedol a lleol.
Y cyfraniad hwn gan fentrau cymuned a lleol yw ffocws pedwerydd pecyn gwaith Ail-egnïo Cymru (gellir gweld rhestr o’r pecynnau gwaith ar wefan y SMC), ond mae’n greiddiol i’r holl broject yn ei ffocws ar helpu i feithrin economïau cryf a chyfrannu at gyfundrefn economaidd gynaliadwy a thecach. Mae hyn dwyn ynghyd arbenigwyr o wahanol feysydd i gynnig ateb i’r cwestiwn “Beth mae’n rhaid i ni ei wneud i alluogi projectau ynni adnewyddadwy cymunedol a lleol i ffynnu a mynd yn rhan o’r brif ffrwd yng Nghymru?” Os carech chi fwydo i mewn i’r pecyn gwaith hwn, sydd i fod i gael ei gwblhau erbyn mis Mai 2018, da chi, cysylltwch â fi.
Y pecyn gwaith hwn yw’r lle y teimlaf y gall y sectorau tai ac adfywio, yn enwedig, chwarae rhan mewn lleihau faint o ynni a gynhyrchir o danwydd ffosil, hyrwyddo cynhyrchu ynni adnewyddadwy a’r holl fuddiannau ehangach sy’n deillio o hynny. Mae hyn yn cynnwys gwireddu’r buddiannau economaidd ac amgylcheddol, a’r rhai cymdeithasol, fel mynd i’r afael â thlodi tanwydd. Er y gallai’r ffigyrau hyn fod fymryn yn wahanol yn 2017, dengys y siart isod cyn lleied o gyfraniad a wnaeth cynlluniau lleol a chymunedol yng Nghymru i’r cyfanswm o drydan adnewyddadwy a gynhyrchwyd yn ystod 2014/15. Gellwch weld y cyfraniad gan gymdeithasau tai fel enghraifft yn y siart. Gyda’r arbenigedd, y cydweithrediad a’r wybodaeth iawn, gall y sector cymdeithasau tai, yn enwedig, chwarae llawer mwy o ran yn y trawsnewidiad hwn i economi ynni adnewyddiadwy.
Pennodd Llywodraeth Cymru dargedau yn ddiweddar ar gyfer trydan adnewyddadwy. Mae’r rhain yn cynnwys bod Cymru’n cynhyrchu 70 y cant o’r trydan a ddefnyddir ganddi o ynni adnewyddadwy erbyn 2030, bod 1 GW o allu cynhyrchu trydan cynaliadwy Cymru i fod mewn perchenogaeth leol erbyn 2030 (cynhwysir cymdeithasau tai o fewn y diffiniad lleol hwn), a bod gan bob project ynni adnewyddadwy newydd o leiaf elfen o berchenogaeth leol erbyn 2020. Mae hyn yn fwy byth o gyfle i gymdeithasau tai chwarae rhan mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Boed trwy ‘wyrddu’ ein cyflenwadau trydan, gwres neu drafnidiaeth, mae yna ran i bobl a mudiadau cymunedol ei chwarae yn yr holl feysydd hyn. Dyma rai enghraifftiau o beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn.
Swyddogaeth Clybiau Ynni Lleol
Mewn sector lle mae lefelau cymhorthdal yn syrthio, ac amrywiaeth o ffactorau eraill, yn cynnwys trethi busnes uwch, yn her i brojectau, mae dyfeisgarwch yn allweddol. Dydy busnes fel arfer ddim yn gweithio bellach. Mae cynlluniau Ynni Lleol arloesol[2] yng ngogledd Cymru, y cyntaf ohonynt ym Methesda, wedi bwrw ymlaen i arbrofi â model marchnad ynni lleol chwyldroadol sy’n caniatáu iddynt dderbyn tâl uwch am gynhyrchu ynni adnewyddadwy o gynllun trydan-dŵr 100kW lleol ar afon Berthen pan fydd y gymuned leol yn ei ddefnyddio. Ar yr un pryd, gall hyn leihau biliau ynni’r gymuned yn ddramatig a darparu ynni glân wedi ei gynhyrchu’n lleol, sy’n cwtogi ar allyriadau carbon. Caiff yr elw ei ailfuddsoddi yn y gymuned ac mewn projectau amgylcheddol lleol.
Mae Cyd Ynni, rhwydwaith o gwmnïau ynni cymunedol lleol yng ngogledd Cymru, newydd dderbyn £250,ooo gan Gronfa’r Loteri Fawr i gyflogi dau berson a fydd yn datblygu projectau ynni adnewyddadwy pellach ledled cymunedau Cymru.
Byddwn yn annog unrhyw un â diddordeb i gysylltu â mi er mwyn chwarae rhan mewn mentrau pellach gyda’r clybiau Ynni Lleol hyn. Dyma enghraifft wych o sut y gall cymdeithasau tai weithio gyda grwpiau cymuned, gan y gellir cyfuno gwahanol sgiliau ac arbenigedd y naill ochr a’r llall, yn amrywio o godi arian, sicrhau mynediad i dir ac yn y blaen er mwyn adeiladu’r cynllun cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y lle cyntaf, yr holl ffordd hyd at gydweithredu i sefydlu clybiau.
Mae arwyddion calonogol bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn effeithio ar brosesau tendro a chynllunio, gan ysgogi buddiannau’r gymuned yn y sector ynni, a gallai hyn fod o fudd ymarferol i gyrff lleol a chymunedol.
Cynhyrchu gwres adnewyddadwy
Mae cartrefi yn y DU yn gyfrifol am ryw draean o’r ynni a ddefnyddir a 15 y cant o’r holl allyriadau carbon diocsid. Gwresogi gofod yw’r prif alw am ynni yn anheddau’r DU o hyd, ac mae’n gyfrifol am oddeutu 60 y cant o’r galw.Mae effeithlonrwydd ynni wrth gwrs yn allweddol, ochr yn ochr â chynhyrchu ynni adnewyddadwy. Cymerwch bympiau gwres fel enghraifft. Mae digon o dystiolaeth o allu pwmp gwres i ddefnyddio ynni’n effeithlon a chynhyrchu ynni adnewyddadwy, o’i ddylunio a’i weithredu’n gywir.
Mae Western Power Distribution a Wales & West Utilities wrthi’n arbrofi â rhaglen FREEDOM (Defnydd Gorau a Rheoli’r Galw am Effeithlonrwydd Ynni Preswyl Hyblyg), er mwyn deall yn well a yw systemau gwres cymysgryw, sy’n gallu rhedeg ar nwy a thrydan ar yn ail, yn dechnegol effeithiol, yn fforddiadwy ac yn ddeniadol i gwsmeriaid fel ffordd o wresogi cartrefi wrth ddarparu gwasanaethau sy’n ymateb yn hyblyg i’r galw. Cadwch lygad ar y datblygiad hwn.
Bydd ein pecyn gwaith cyntaf, a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni, yn rhoi darlun o’r galw cyfredol am ynni ledled Cymru (er mwyn deall faint o her yw darparu cyflenwad adnewyddadwy) a hefyd yn ystyried newidiadau tebygol mewn galw yn y dyfodol, fel trydaneiddio gwres. Bydd projectau fel FREEDOM o gymorth o safbwynt cynnig ffyrdd o ddatrys problemau rheoli galw mewn modd hyblyg, ac awgrymu sut y gallwn leihau ein galw am ynni.
Os na wnaethoch eisoes, dysgwch hefyd am y cyfleoedd sy’n dal i fodoli o dan y rhaglen Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy[3] a’r cyfleoedd a geir o dan Raglen Byw yn Glyfar Llywodraeth Cymru, sydd ag amrywiaeth o raglenni peilot yn ymwneud â rhwydweithiau gwres ymhlith pynciau eraill.
Cludiant
Mae her dad-garboneiddio cludiant yn un sylweddol, a fydd yn cynnwys cynyddu effeithlonrwydd ynni cerbydau confensiynol, gwneud mwyfwy o ddefnydd o gerbydau trydan a mathau eraill yn lle rhai confensiynol, a newid ymddygiad teithwyr mewn gwahanol ffyrdd (gan annog ffyrdd iach o deithio fel cerdded a beicio, wrth gwrs).
Mae’n werth galw sylw at y newid i geir/faniau trydan batri a phlygio-mewn fel enghraifft. Mae cofrestriadau cerbydau trydan yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, yn llawer cyflymach nag unrhyw ehangu a newid yn y rhwydwaith. Fodd bynnag, mae cymorth sylweddol ar gael gyda’r newid hwn gan y Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel,[4] yn enwedig. Gyda chostau technoleg batri (ac, o ganlyniad, storio ynni) yn disgyn, mae llawer o sefydliadau yn deall yr achos busnes o blaid wrth ystyried opsiynau ar gyfer eu cerbydau busnes. Gallai hwn fod yn gyfle i’r sectorau tai ac adfywio.
Gyda chymaint o bethai’n ysgogi’r newid hwn, yn cynnwys pryderon am ansawdd yr aer a’r newid yn ein hinsawdd, rhaid gweithredu’n gyflymach yng Nghymru i sicrhau ein bod yn barod am y newid, a’r hyn sy’n allweddol yn hyn oll yw bod â’r isadeiledd iawn yn ei le. Mae diffyg gwefrwyr cyflym ledled Cymru, yn enwedig yn y Canolbarth. Gwyddom am ymdrechion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ac eraill i ddatblygu rhwydwaith o bwyntiau gwefru cefn gwlad, ac mae’r cyfle hwn ar gael i amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru. Mewn rhai achosion, dylai pwyntiau gwefru fod wedi eu cysylltu â mentrau cynhyrchu ynni adnewyddadwy cymunedol.
Mae’n werth edrych ar gymunedau sydd eisoes wedi eu sefydlu yng Nghymru sy’n ceisio darparu budd i’r gymuned trwy sefydlu pwyntiau gwefru a chynlluniau eraill, yn cynnwys mentrau fel Ynni Tal-y-bont ar Wysg[5] a chlybiau ceir fel REV Cymru.[6] Mae’n hanfodol bod y trydan a ddefnyddir i yrru cerbydau yn dod o gynhyrchu ynni adnewyddadwy cyn belled ag y bo modd, fel bod y ddadl CO2, yn enwedig, yn ddilys pan ystyrir faint o CO2 a gynhwysir yn y broses o adeiladu cerbydau trydan.
Ystyrir y materion hyn ym mhecyn gwaith dau, a gyhoeddir yn gynnar yn 2018. Gwyliwch y gofod hwn hefyd am fanylion digwyddiad cerbydau allyriadau-isel mae’r SMC wrthi’n ei drefnu gyda phartneriaid, i’w gynnal yn chwarter cyntaf 2018, mae’n debyg. O fewn Llywodraeth Cymru, mae diddordeb cynyddol mewn cerbydau trydan yng nghyd-destun Dinasoedd Clyfar.
Mae’r ffocws ar gysylltu asedau ynni o fewn ardal Bargen Dinas Bae Abertawe yn ddigidol yn gyfle da i fod yn weithgar yn y maes hwn hefyd. Noder y pwyslais ar adeiladu gorsaf bŵer o fewn y fargen ddinesig, a fydd o ddiddordeb i’r rheini sy’n codi adeiladau newydd.
Sylwadau i gloi
Mae Ail-egnïo Cymru yn broject uchelgeisiol, ond credwn ei fod yn amserol ac o fewn gafael Cymru. Ochr yn ochr â’r pecynnau gwaith y cyfeiriwyd atynt uchod, byddwn yn parhau i bwyso am weithredu argymhellion o’n hadroddiad Funding renewable energy projects in Wales, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.
Galwyd ar Gronfeydd Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru i fuddsoddi’n uniongyrchol mewn projectau ynni adnewyddadwy lleol. Mae hwn yn gyfle i ddylanwadu ar fuddsoddi’r cronfeydd pensiwn wrth iddynt gyfuno yng Nghymru. Mae ymateb ymgynghori a sgrifennwyd gan gadeiryddion pwyllgorau pensiwn yr wyth cronfa bensiwn llywodraeth leol yng Nghymru yn cynnwys manylion am sefydlu Pŵl Cymru. Awgryma y dylid cynyddu’r ymrwymiad cyfredol i isadeiledd o 0.3 y cant tuag at 5 ac o bosibl 10 y cant yn y tymor hir, gan awgrymu buddsoddiad ychwanegol posibl o ryw £1bn mewn isadeiledd. Gallai hyn olygu buddsoddi mewn projectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy neu brojectau tai carbon-isel, er enghraifft.
Un her neilltuol yw nad yw hynny, ar hyn o bryd, yn golygu y caiff yr arian ei wario’n lleol, o anghenraid. Gallai cyfran sylweddol o gyd-fuddsoddiad cronfeydd pensiwn Cymru – gwerth mwy na £13bn o asedau – gael ei fuddsoddi’n fyd-eang. Oni hoffem ni oll weld hyn wedi ei fuddsoddi’n lleol ar brojectau ynni a phrojectau tai fel datblygiadau SPECIFIC/Grŵp Pobl?[7]
Un peth sy’n sicr yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016, sy’n pennu targedau lleihau allyriadau statudol, yn cynnwys o leiaf 80% o ostyngiad mewn allyriadau erbyn 2050, a chyllidebu carbon i gefnogi hynny. Rydym yn sicr o weld effeithiau hyn yn treiddio i mewn i benderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru.
Y cwestiwn yn awr yw a all ymarferwyr adfywio a thai fod ar flaen y gad er mwyn darparu ymateb i faintioli’r her a sicrhau canlyniadau clir ar gyfer pobl Cymru.
Shea Jones yw cydlynydd projct Ail-egnïo Cymru. Os carech ragor o wybodaeth am y project, cysylltwch ag ef yn shea@iwa.org.uk
[1] www.iwa.wales/news/2016/04/re-energizing-wales/
[2] www.energylocal.co.uk/
[3] www.ofgem.gov.uk/environmental-programmes/domestic-rhi
[4] www.gov.uk/government/organisations/office-for-low-emission-vehicles
[5] talybontenergy.co.uk/