Fel Hillsborough, King’s Cross, Valley Parade ac Aberfan, fe gofir Tŵr Grenfell nid yn unig am farwolaeth cymaint o bobl, ond hefyd fel symbol o system sydd wedi methu.
Mae gweld gweddillion yr adfail llosg fry uwchlaw stad gyngor wedi ei hamgylchynu gan rai o ardaloedd mwyaf cyfoethog Llundain yn codi cwestiynau anorfod am anghydraddoldeb a rhaniadau cymdeithasol, a difaterwch swyddogol tuag at dai cymdeithasol a’u preswylwyr
Y cwestiynau sy’n pwyso nawr yw pam yr aeth y tŵr ar dân mor gyflym, ble mae ailgartrefu’r trigolion, a sut mae atal y fath beth rhag digwydd byth eto. Mae’r rhain eisoes yn destun ymchwiliad gan yr heddlu ac ymchwiliad cyhoeddus.
Mae erthygl y clawr yn edrych ar ganlyniadau’r drychineb a beth sy’n digwydd yng Nghymru, ac mae’n cynnwys ymateb gan yr ysgrifennydd cymunedau, Carl Sargeant. Er bod sylw wedi canolbwyntio’n anochel ar flociau tŵr gyda math tebyg o gladin i’r hyn a ddefnyddiwyd yn Grenfell, mae llawer o gwestiynau eraill y mae angen eu hateb.Yn y rhifyn hwn hefyd, edrychwn ar effaith dau fesur diwygio lles arall gan San Steffan sydd ar y gorwel. Mae gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn ar fin cychwyn ledled y wlad, ond fe ddigwyddodd gyntaf yn Sir y Fflint, ac mae Jen Griffiths yn ystyried yr effaith. Yna, mae Paul Langley a Katie Dalton yn asesu’r oblygiadau o safbwynt y terfyn ar Lwfans Tai Lleol ar gyfer tai cymdeithasol a thai â chymorth.
Wrth i’r Cynulliad ystyried deddfwriaeth i ddileu’r Hawl i Brynu, mae Rhianon Passmore AC Plaid Lafur Cymru a David Melding AC Ceidwarwyr Cymru yn dadlau’r achos o blaid ac yn erbyn.
Mewn dyddiau mwy dedwydd, efallai y byddai clawr WHQ yn darlunio’r hyn mae landlordiaid cymdeithasol a’r diwydiant adeiladu yn ei wneud ynglŷn â sgiliau a hyfforddi, pwnc sy’n rhan annatod o’r cytundebau cyflenwi a arwyddodd Llywodraeth Cymru gyda’r ddau.
Mae ein nodwedd arbennig yn cynnwys erthyglau ar brinder sgiliau adeiladu tai, a sut i unioni hynny, ac ymdrechion i ddenu mwy o fenywod i mewn i waith cynnal a chadw tai cymdeithasol. Edrychwn hefyd ar beth mae landlordiaid yn ei wneud i ddarparu buddiannau cymunedol, gan ofyn os yw Cymru mewn perygl o lithro’n ôl.
Gydag erthyglau eraill ar bynciau’n amrywio o atal digartrefedd i godi tai cydweithredol, mae rhifyn yr Haf yn adlewyrchu rhywfaint o’r hyn rydym yn ei wneud yn iawn yng Nghymru. Ni allai dim fod yn atgof mwy dwys o pam mae hynny mor bwysig na’r hyn a aeth o’i le mor drychinebus yn Nhŵr Grenfell ar Orffennaf 14.
Jules Birch
Golygydd, WHQ