English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

Y DU

Ras i ymchwilio i dân Grenfell

Ysgogodd y tân arswydus mewn bloc tŵr yn Llundain yr awdurdodau i weithredu mewn sawl maes yn Lloegr ac yng ngwledydd eraill y DU.

Wrth i WHQ fynd i’r wasg, cadarnhaodd yr heddlu bod 80 o bobl wedi marw yn Nhŵr Grenfell yn Kensington, gyda’r nifer hwnnw’n debyg o gynyddu, a dywedai trigolion lleol y byddai’r cyfanswm terfynol yn llawer uwch. Roedd yr heddlu’n ymchwilio i dramgwyddau troseddol posibl, yn cynnwys dynladdiad a thorri cyfreithiau a rheoliadau.

Roedd ymchwiliad annibynnol dan gadeiryddiaeth Syr Martin Moore-Bick, cyn-farnwr Llys Apêl, i fod i gychwyn ymholi i achosion y tân a’r modd y lledaenodd mor gyflym, a gweithio ar argymhellion i atal y fath beth rhag digwydd eto yn y dyfodol.

Fodd bynnag, roedd sylw wedi ei ffocysu eisoes ar y cladin alwminiwm a’r deunydd inswleiddio a osodwyd yn ystod gwaith adnewyddu ar y tŵr, gyda landlordiaid cymdeithasol o bobman yn anfon samplau o’u cladin i ganfod pa mor llosgadwy ydoedd. Wrth i WHQ fynd i’r wasg, roedd pob sampl o Loegr wedi methu. Methodd samplau o saith bloc yn Abertawe a Chasnewydd hefyd ond roedd profion mwy cynhwysfawr ar y gweill a dywedodd Cyngor Abertawe bod ei system wedi pasio.

Fodd bynnag, roedd sylw’n symud y tu hwnt i dai cymdeithasol i’r sector preifat, llety myfyrwyr, gwestai, ysgolion ac ysbytai hefyd.

Roedd nifer o landlordiaid cymdeithasol hefyd yn symud i osod chwistrelli dŵr yn eu blociau ond erys yn aneglur a fydd y llywodraeth ganolog yn talu am y gwaith hwn neu am ailosod cladin.

Codwyd pryderon eraill hefyd ynglŷn ag elfennau eraill diogelwch tân mewn blociau tŵr yn cynnwys drysau tân, pibellau nwy, a chyngor i denantiaid aros yn eu cartrefi.

Roedd Rheoliadau Adeiladu Lloegr a systemau rheoli adeiladu a chyhoeddi tystysgrifau tân yn destun archwiliad manwl hefyd.

Menter etholiadol y Ceidwadwyr yn methu

A fydd y senedd grog yn San Steffan yn cynyddu’r posibilrwydd o gyfaddawd ar rai materion sy’n effeithio ar dai ledled y DU?

Dyna un o’r llu o gwestiynau sy’n deillio o fethiant menter Theresa May pan alwodd etholiad ar fyr rybudd gan feddwl cynyddu ei mwyafrif.

Negydodd y Ceidwadwyr gytundeb gyda’r 10 AS o Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd Gogledd Iwerddon i sicrhau bod ganddynt ddigon o bleidleisiau i basio Araith y Frenhines fain iawn ei chynnwys a’r Gyllideb sydd eto i ddod.

Y pris oedd £1 biliwn mewn gwariant ychwanegol ar gyfer Gogledd Iwerddon, ond ni fydd hynny’n ysgogi mwy o arian ar gyfer gweddill y DU o dan Fformiwla Barnett. Er gwaethaf cwynion gan Gymru a’r Alban, dadleuodd gweinidogion eu bod eisoes yn elwa ar wariant y Fargen Ddinesig sydd y tu allan i Barnett.

Fodd bynnag, mae’r rhifyddeg seneddol yn San Steffan yn codi’r posibilrwydd o droeon pedol ar rai polisïau dadleuol, fel y terfyn ar gyflogau sector cyhoeddus.

Ac o safbwynt tai, gallai hynny olygu mwy o hyblygrwydd gyda pholisïau fel cyllido llety â chymorth yn y dyfodol.

Argymhellodd dau bwyllgor dethol holl-bleidiol Lwfans Tai â Chymorth newydd fel cynllun amgen i fwriad llywodraeth y DU i gyfyngu budd-dâl tai i gyfraddau’r Lwfans Tai Lleol, gyda chronfa atodol ddatganoledig i dalu costau ychwanegol.

Dweud eich dweud ar gynllun i roi terfyn ar ddigartrefedd

Lawnsiodd yr elusen ddigartrefedd Crisis ymgynghoriad mawr er mwyn canfod beth sydd ei angen er mwyn rhoi terfyn ar y mathau gwaethaf o ddigartrefedd unwaith ac am byth.

Mae’r ymgynghoriad, a gynhelir am chwe mis yn Lloegr, yr Alban a Chymru, yn gwahodd pobl sy’n gweithio ym maes digartrefedd neu sydd â phrofiad ohono, a rhai mewn meysydd cysylltiedig megis tai, cyfiawnder troseddol, addysg, iechyd a lles i rannu eu harbenigedd a helpu i lunio cynllun gweithredu.

Mae’r ymgynghoriad – Dweud eich Dweud ar Gynllun i Roi Terfyn ar Ddigartrefedd – yn rhan o flwyddyn hanner canmlwyddiant Crisis, a’r nod yw darganfon atebion ymarferol i atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng ngwledydd Prydain, gan ffocysu’n neilltuol ar y grwpiau sydd â mwyaf o angen cymorth: cysgwyr ar y stryd; syrffwyr soffa; rhai mewn llochesau argyfwng a llochesau menywod; mewn hosteli; yn swatio; mewn adeiladau masnachol anaddas; neu lety dros-dro anaddas.

Bydd y cynllun a ddaw o hyn yn cael ei ddatblygu ar hyd y flwyddyn a’i gyhoeddi yn Ebrill 2018 â’r nod o gael llywodraethau canolog a lleol, elusennau a gwasanaethau cyhoeddus i gyfranogi.

LLOEGR

Gweinidog tai newydd arall yn San Steffan

O fewn dyddiau i ddyrchafu Alok Sharma yn chweched gweinidog tai Lloegr mewn saith mlynedd, a’r 15fed ers 2000, newidiodd tân Tŵr Grenfell bopeth bron ynglŷn â’i swydd.

Bu’r AS dros Reading West yn weinidog iau gynt yn y Swyddfa Dramor a does ganddo nemor ddim profiad blaenorol o dai ar wahân i record o wrthwynebu cynlluniau ar gyfer cartrefi newydd yn ei etholaeth. Tynnodd allan o araith arfaethedig ar ddiwrnod olaf cynhadledd y Sefydliad Tai Siartredig ym Manceinion.

Collodd y cyn-weinidog tai, Gavin Barwell, ei sedd yn yr etholiad, ond fe’i penodwyd yn bennaeth staff Theresa May. Ynghyd â chyn-weinidogion eraill, mae’n wynebu cwestiynau ynglŷn â’r oedi cyn cynnal arolwg a gawsai ei addo o Reoliadau Adeiladu Lloegr

Grenfell bydd y prif fater sy’n wynebu Alok Sharma, ond ar ei ddesg hefyd mae ariannu tai â chymorth, ffioedd asiantiaid gosod eiddo, ac a ddylid bwrw ymlaen â gwerthiant gorfodol tai cyngor er mwyn talu am estyniad i’r Hawl i Brynu.

 YR ALBAN

Cyflwyno Mesur i ddatganoli budd-daliadau

Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ddeddfwriaeth hanesyddol er mwyn gweithredu ar nawdd cymdeithasol, sydd wedi ei ddatganoli’n rhannol o San Steffan.

Mae Deddf Nawdd Cymdeithasol (Yr Alban) yn cynnwys 11 budd-dâl, cyfanswm o £2.9 biliwn mewn taliadau blynddol, yn cynnwys budd-daliadau afiechyd ac anabledd a lwfans gofalwyr.

Y pwysicaf o safbwynt tai yw taliadau tai disgresiynol a rhai pwerau dros Gredyd Cynhwysol, er enghraifft, i rannu’r taliadau rhwng aelodau o’r teulu.

Meddai’r gweinidog nawdd cymdeithasol, Jeane Freeman: ‘Mae hon yn foment bwysig i’r Alban ac yn hanes datganoli, Mae’n rhoi’r cyfle i’r Llywodraeth hon a’r Senedd hon i ddewis llwybr gwahanol – ac mae’n dangos y gallwn greu cymdeithas decach a mwy cyfiawn trwy gymryd yr awennau ein hunain.’

GOGLEDD IWERDDON

Adeiladu llai o dai cymdeithasol

Bydd y cyfwng gwleidyddol yn Stormont yn cyfyngu ar nifer y tai cymdeithasol a gaiff eu hadeiladu yng Ngogledd Iwerddon eleni.

Wrth i WHQ fynd i’r wasg, doedd dim cytundeb o hyd ar rannu pŵer rhwng yr Unoliaethwyr Democrataidd a Sinn Féin, a olygai na ellid ffurfio llywodraeth ddatganoledig.

Golyga’r argyfwng y bydd cwtogi ar gyllidebau ac oedi, ac mae effeithiau hynny’n golygu y caiff llai o gartrefi cymdeithasol newydd eu hadeiladu yn 2017/18, 1,750 yn lle 2,000.

Meddai Nicola McCrudden, cyfarwyddydd Sefydlaid Tai Siartredig Gogledd Iwerddon: ‘Mae’n siom aruthrol y gostyngwyd y targed ar gyfer y nifer o dai cymdeithasol newydd eleni – y gwir amdani yw y bydd yn rhaid i 250 o deuluoedd aros yn hwy i hael eu hailgartrefu. Mae’r rhwystrau gweleidyddol wedi effeithio ar gyllidebau a chynlluniau, gan leihau’r arian sydd ar gael ar gyfer tai cymdeithasol newydd a gohirio gwaith pwysig sy’n sail i bolisi tai cymdeithasol.’

LLYWODRAETH CYMRU

Mesurau ar ffioedd rhentwyr a diwygio rheoliadol

Mae gwaharddiad ar ffioedd annheg i rentwyr preifat a diwygio rheoliadol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol ymhlith blaenoriaethau deddfu Llywodraeth Cymru yn 2017/18.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai’r llywodraeth yn cyflwyno Mesur i atal landlordiaid a gwerthwyr tai rhag codi ffioedd annheg o flaen llaw ar denantiaid a darpar-denantiaid yn y sector rhentu preifat.

Dywedodd bod tystiolaeth gynyddol bod y ffioedd cyfredol – a all fod mor uchel â £700 – yn rhwystr i bobl sydd am rentu eu lle eu hunain, ac yn atal pobl rhag symud. Bydd y Mesur yn ‘darparu eglurdeb ar gyfer rhentwyr preifat ynglŷn â chostau ac yn sicrhau bod y system yn deg ac yn gynaliadwy.’

Bydd y llywodraeth hefyd yn dwyn deddfwriaeth gerbron yn y 12 mis nesaf i ddiwygio rheoliadau ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, yn sgil ailddosbarthu LCCiaid i’r sector cyhoeddus ym mis Medi 2016.

Eglurai datganiad y Prif Weinidog: Oni fydd hyn yn cael sylw, gallai’r newid gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) gyfyngu ar ddatblygiad tai cymdeithasol fforddiadwy newydd a chyfyngu ar ein gallu i ariannu projectau seilwaith cyfalaf eraill. Mae Mesur Llywodraeth Cymru’n cynnig diwygio rheolaethau llywodraeth leol a’r llywodraeth ganol dros LCCiaid, gan alluogi’r SYG i ailystyried yr ailddosbarthiad, a’u dychwelyd i’r sector preifat.’ 

Bydd deddfwriaeth i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru hefyd ‘i sefydlu perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, creu mwy o dryloywder yn y broses o wneud penderfyniadau a sicrhau mwy o gydweithio drwy drefniadau gweithio rhanbarthol gorfodol.

Llywodraeth Cymru ac adeiladwyr yn arwyddo cytundeb

Lawnsiodd yr ysgrifennydd cymunedau a phlant, Carl Sargeant gytundeb gyda Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi (HBF) a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr (FMB) i helpu i gynyddu’r cyflenwad tai yng Nghymru.

Mae’r cytundeb yn rhestru nifer o ymwymiadau ar gyfer pob parti a fydd yn helpu i gyflawni’r targedau tai. Mae’n adeiladu ar sail y Rhaglen Ymgysylltu ag Adeiladwyr Tai a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru a’r HBF yn 2014. Gwahoddwyd yr FMB i ymuno â’r bartneriaeth i gynrychioli’r rheini sy’n adeiladu ar raddfa lai.

Meddai Carl Sargeant: Bydd y Cytundeb hwn, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â’r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a’u haelodau, yn helpu i gyflawni’n hymrwymiad i gynyddu’r cyflenwad tai.

Dywedodd Stewart Basely, cadeirydd gweithredol y FfAC: ‘Gyda’n gilydd, rhaid i ni greu amgylchedd sy’n caniatáu i’r diwydiant fuddsoddi yn y tir, y bobl a’r cadwyni cyflenwi angenrheidiol er mwyn cynhyrchu mwy i ateb y galw dybryd am dai.’

Papurau ymgynghori

Mae’r papurau ymgynghori agored o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:

Canllawiau a fframwaith canlyniadau drafft Rhaglen Cefnogi Pobl – Ymatebion erbyn Awst 4

Gweithredu systemau draenio cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd – Ymatebion erbyn Awst 11

Cyfradd y comisiwn ar gartrefi mewn parciau – Ymatebion erbyn Awst 17

Mae ymgynghoriadau arlein yn www.ymgynghoriadau.llyw.cymru/consultations/  

CYMRU

Pennaf yn sicrhau bond gwerth £250m

Grŵp Tai Pennaf yw’r darparydd gwasanaethau tai cyntaf yng Nghymru i sicrhau bond sector cyhoeddus gan y marchnadoedd cyfalaf.

Cydweithiodd y gymdeithas tai o Llanelwy yn glòs gydag ymgynghorwyr ariannol arbenigol i sefydlu is-gwmni newydd – Cyllid Tai PenArian ccc. Mae hwn wedi denu £250 miliwn o fuddsoddiad gan y marchnadoedd cyfalaf trwy gynnig bond cyhoeddus, sydd yn ei alluogi i leihau costau gweithredu, diogelu swyddi a sicrhau y darperir mwy o stoc tai fforddiadwy o safon uchel yn y tymor hwy.

Bwriad y Grŵp yw defnyddio £160 miliwn i ad-dalu’r rhan fwyaf o’r cyllid a ddarparwyd gan fanciau a chostau cysylltiedig, yn ogystal â darparu cyllid i ddatblygu cartrefi newydd o fewn y cymunedau lle y mae’n gweithio. Defnyddir y £90 miliwn sy’n weddill fel adnodd cyllido fel y gellir manteisio ar gyfleoedd datblygu yn y dyfodol.

Disgrifiodd prif weithredydd Grŵp Pennaf, Graham Worthington, y cynnig bond llwyddiannus fel ‘cryn orchest, sy’n sicrhau dyfodol cryf i’r Grŵp’ ac fel ‘glasbrint ar gyfer darpariaeth hir-dymor er mwyn gallu ateb anghenion tai ledled y gogledd a’r canolbarth.’

Adeiladu mwy o gartrefi ym Mhowys o goed cynhenid

Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi polisi a fydd yn creu cartrefi a swyddi lleol ym Mhowys trwy ddefnyddio pren a gynhyrchwyd yn lleol a chefnogi gweithgynhyrchu lleol.

Cafodd Polisi Annog Defnyddio Coed Powys, y cyntaf o’i fath yng Nghymru a’r DU, ei lawnsio yng Nghynhadledd Woodbuild Wales 2017 yn Llandrindod ym mis Mehefin.

O dan y polisi, bydd pob project tai cyngor newydd yn ceisio defnyddio pren fel ei ddewis ddefnydd adeiladu ac at ddibenion dodrefnu.

Datblygwyd y dull arloesol hwn o fynd ati fel rhan o’r Bartneriaeth Catrefi Cynhenid a sefydlwyd i gefnogi coedwigaeth a chynhyrchu nwyddau, i ddiogelu swyddi a chreu rhai newydd, ac i adeiladu tai gwell a mwy ynni-effeithiol.

Meddai’r Cyng. Jonathan Wilkinson, aelod cabinet Cyngor Sir Powys dros dai: ‘Mae lawnsio’r Polisi Annog Defnyddio Coed yn tanlinellu swyddogaeth pren lleol fel cyfraniad pwysig tuag at adeiladu mwy o gartrefi, ac mae’n cydnabod pwysigrwydd coedwigaeth i economi Powys.’

Mae’r Bartneriaeth Cartrefi Cynhenid yn dwyn ynghyd Wasanaethau Tai ac Adfywio Cyngor Sir Powys, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â’r darparwyr tai cymdeithasol lleol, Cymdeithas Tai Wales and West, Grŵp Cynefin, Tai’r Canolbarth, Grŵp Tai Newydd, Grŵp Pobl, Grŵp Tai Pennaf a Cartrefi Melin.

Cyllidwyd y project hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Ddatblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

Enillodd Katie Howells o Cartrefi Cymoedd Merthyr (ail ar y chwith) wobr Gweithiwr Tai Newydd cyntaf Sefydliad Tai Siartredig (STS) Cymru ar ôl gornest derfynol fywiog yn TAI 2017. Gofynnwyd i’r cystadleuwyr terfynol i sgrifennu ar gyfer gwefan y STS, croesawu aelod o banel beirniaid i’w gweithle, a chymryd rhan mewn cyfweliadau fideo yn amlinellu eu barn am ddyfodol tai yng Nghymru, yn ogystal â chyflwyno yng nghynhadledd flynyddol STS Cymru.Gyda Katie, gwelir y cystadleuwyr eraill (o’r chwith i’r dde): Claire Twamley, Cartrefi Conwy; David Roberts, Cartrefi Dinas Casnewydd; Abdul Hafeez, Tai Taf. Gwelir hefyd ysgrifennydd y cabinet Carl Sargeant AC a chyfarwyddydd STS Cymru, Matt Dicks.

 

 

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »