English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol

Mae ar Gymru angen mwy o gartrefi i gyflenwi’r galw – ond sut fath o gartrefi ddylai’r rhain fod, ac ar gyfer pwy?

Yn y tair blynedd ers i WHQ ystyried sut i gyflenwi cartrefi newydd, mae’r broblem wedi tyfu yn ymwybyddiaeth y cyhoedd ac mewn gwleidyddiaeth a pholisi. Fel y dengys erthyglau yn y rhifyn hwn, mae adeiladwyr tai a landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru wrthi’n mynd i’r afael â’r sefyllfa, a does dim diffyg syniadau ac arloesedd. Mae targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy – 6,000 ar werth gyda chefnogaeth Cymorth i Brynu Cymru – eisoes yn canolbwyntio sylw ar yr hyn ddylai ddigwydd.

Ond mae pontio’r bwlch rhwng y cyflenwad cyfredol a’r galw a fydd yn y dyfodol yn dal i fod yn her anferthol. Mae’n rhan o broblem ehangach a fydd yn mynnu syniadau newydd, ac yn golygu adeiladu nid yn unig mwy o gartrefi ond rhai gwell. Mae ein herthygl ar gyflenwad yn cynnwys safbwyntiau amrywiaeth o gyfranwyr gwahanol.

Caiff Robin Staines rywfaint o newydd da yn y cynnydd a fu mewn cartrefi newydd yn y tair blynedd ers cyhoeddi adroddiad y tasglu gweinidogol a gadeiriwyd ganddo. Daw i’r casgliad bod angen dal i weithredu ar y cyd ar draws pob maes.

Yn ôl Mark Harris o Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai, mae’r allbwn cyfredol yn dal yn druenus o annigonol, ac mae’n dadlau bod angen gweithredu i ddiwygio cynllunio a rheoleiddio a chynyddu sgiliau.

Mae Ed Green, un o awduron adroddiad diweddar ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn edrych at y tymor hwy ac anghenion cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal â’r rhai presennol. Mae’r dadlau bod dulliau adeiladu tai traddodiadol yn annhebygol o allu darparu’r cartrefi angenrheidiol, ond bod dulliau dylunio amgen eisoes yn profi eu gwerth.

Un model newydd yw Rhentu i Berchenogi. Hayley MacNamara sy’n edrych ar argoelion cynllun sy’n gynnig dihangfa i 1,000 o deuluoedd o fod yn rhan o’r Genhedlaeth Rentu.

Yn y rhifyn hwn hefyd, gyda golwg ymhell o Gymru, mae Tamsin Stirling yn adrodd ar fudiad ‘Tiny House’ yr UD ac ar ei hymweliad â phroject yn Detroit sy’n gweithio gyda phobl ddigartref neu ar incwm isel.

Edrychwn hefyd ar y cynnydd mewn cysgu ar y stryd yng Nghymru. Mia Rees sy’n dadansoddi pam, a beth ddylai ddigwydd nesaf, a Sarah McGill sy’n esbonio strategaeth Dim Noson Gyntaf Allan cyngor Caerdydd.

Cyhoeddir WHQ yn union cyn TAI 2017. Cawn gipolwg o flaen llaw ar rai o’r sesiynau ond mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys amserlen lawn y gynhadledd ac arweiniad i’r arddangosfeydd. Gobeithio y gwelaf nifer ohonoch yno.

Jules Birch, golygydd, WHQEditorial


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »