English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

Datblygiadau polisi mewn rhannau eraill o’r DU

Y DU

Rhai dan-22 yn colli’r hawl i gefnogaeth tai

Er gwaethaf y dyfalu eang y byddai’n newid ei meddwl, bwriodd Llywodraeth y DU ymlaen i ddileu hawl otomatig rhai 18-21 oed i gefnogaeth tai ledled y DU.

Yn ôl y rheoliadau a gyhoeddwyd fis cyn i’r toriad ddod i rym ddechrau Ebrill dim ond yn ardaloedd ‘gwasanaeth llawn’ y credyd cynhwysol y bydd yn digwydd. Shotton yw’r unig un yng Nghymru hyd yma, ond disgwylir y bydd y toriad yn weithredol ym mhobman erbyn Medi 2018.

Mae’r eithriadau yn y rheoliadau yn cynnwys achosion lle mae hawliwr yn gyfrifol am blentyn neu heb rieni yn y wlad a lle mae rhywun yn ennill swm cyfwerth â’r Cyflog Lleiafswm am 16 awr yr wythnos. Bydd pobl sy’n wynebu ‘risg sylweddol’ o niwed os ydynt yn byw gyda’u rhieni neu lle byddai hyn yn ‘amhriodol’ yn cael eu heithrio hefyd.

Fodd bynnag, yn ôl elusennau, nid yw’r eithriadau’n ddigon eang a gallai 9,000 o bobl ifanc fod mewn perygl o ddigartrefedd. Cafodd arolwg gan Gymdeithas y Landlordiaid y byddai 76 y cant o’i haelodau o landlordiaid preifat yn annhebygol o rentu i rai o dan 22 yn y dyfodol.

Dywed yr Adran Waith a Phensiynau y bydd y mesur yn sicrhau na fydd pobl ifanc ‘yn llithro yn syth i mewn i fywyd ar fudd-daliadau’.

Gweler erthyglau gan Frances Beecher (t. 9) a Paul Langley (t. 42).

LLOEGR

Javid yn addo trwsio’r farchnad tai

Cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan Bapur Gwyn â’r nod o drwsio’r hyn mae’n ei alw’n ‘farchnad tai doredig’.

Dywedodd yr ysgrifennydd Cymunedau, Sajid Javid, i’r blynyddoedd weld cynnydd mewn tai newydd a mwy o bobl yn esgyn i’r ysgol dai. Ond aeth yn ei flaen: Mae angen mynd ymhellach – yn llawer pellach – a chyflawni’n dyletswydd i godi llawer mwy o dai o’r math mae pobl am fyw ynddynt, yn y llefydd mae pobl am fyw ynddynt. Dyna’n union a gynigir gan y Papur Gwyn hwn.

‘Bydd yn helpu tenantiaid heddiw sy’n wynebu rhenti uwch, ffioedd annheg a thenantiaethau ansicr; bydd yn helpu perchentywyr yfory i gael mwy o’r math iawn o gartrefi wedi eu codi yn y mannau iawn; a bydd yn helpu’n plant a phlant ein plant trwy atal degawdau o ddirywiad a thrwsio ein marchnad dai doredig.’

Mae’r cynigion allweddol yn cynnwys:

  • Disodli addewid maniffesto i adeiladu 200,000 o gartrefi cyntaf ag addewid i greu 200,000 o berchentywyr newydd trwy amrywiaeth o gynlluniau perchenogi, a gollwng y gofyniad y dylai cartrefi cyntaf ffurfio 20 y cant o’r cartrefi ar bob datblygiad newydd
  • Gosod allan safon rhent newydd ar gyfer landlordiaid cymdeithasol ar ôl 2020 ‘maes o law’

·       Ymestyn Hawl i Brynu i gynnwys tai fforddiadwy a adeiladwyd gan gwmnïau tai lleol cynghorau

  • Hawliau pwrcasu gorfodol newydd i gynghorau er mwyn cyflymu’r broses o adeiladu tai

·       Cyflwyno dull safonol o asesu angen tai mewn cynlluniau lleol·       Annog rhoddi tenantiaethau preifat hwy ar y safleoedd Adeiladu i Rentu a chyflwyno categori newydd o ‘rent preifat fforddiadwy’ a fydd yn cyfrif fel tai fforddiadwy yn y system gynllunio.

 YR ALBAN

Holyrood yn galw am atal credyd cynhwysol

Gwnaeth gweinidogion Llywodraeth yr Alban gais am atal cyflwyno fersiwn ‘gwasanaeth llawn’ credyd cynhwysfawr oherwydd pryderon ei fod yn gwthio pobl i mewn i ddyled a chaledi.

Mae’r ffordd y telir y budd-dâl newydd yn golygu bod rhaid i hawlwyr newydd aros am chwe wythnos am eu taliad cyntaf, gyda thenantiaid yn mynd i ôl-ddyledion rhent a chael eu gwthio i geisio taliadau argyfwng neu galedi o’r herwydd.

Achosodd oedi gyda thaliadau drafferthion ariannol i landlordiaid, yn cynnwys cymdeithasau tai, gyda chynghorau’n nodi’r ôl-ddyledion rhent uchaf erioed.

Meddai’r ysgrifennydd cymunedau a nawdd cymdeithasol, Angela Constance: ‘Mae’n glir nad yw’r system yn gweithio ac nid yw Llywodraeth y DU yn fodlon gwneud y newidiadau angenrheidiol.

‘Mae’r chwe wythnos o oedi cyn derbyn taliad – gyda rhai’n gorfod aros hyd yn oed yn hwy – yn sefyllfa gwbl annerbyniol, sydd â’r posibilrwydd o wthio teuluoedd ar incwm isel i mewn i galedi pellach a digartrefedd.’

Dywedodd Adran Gwaith a Phensiynau’r DU ei bod wedi bod ‘yn cyflwyno credyd cynhwysfawr yn raddol fel bod gennym amser i sicrhau ei fod yn gweithio yn y ffordd iawn ar gyfer pawb.’

 GOGLEDD IWERDDON

Mwy o gartref, mwy o ddigartrefedd

Cafwyd newyddion cymysg ynglŷn â thai a digartrefedd wrth i Ogledd Iwerddon ddisgwyl cadarnhau llywodraeth newydd yn sgil etholiadau’r Cynulliad.

Dangosai’r Northern Ireland Housing Bulletin a gyhoeddwyd ym mis Chwefror gynnydd o 12 y cant mewn tai a gwblhawyd yn y chwarter Gorffennaf-Medi o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Fodd bynnag, bu cynnydd o 16 y cant hefyd ar y chwarter blaenorol yn y nifer o deuluoedd sydd yn ddigartref ac yn gymwys i dderbyn cymorth llawn. Meddai Nicola McCrudden, cyfarwyddydd y STS yng Ngogledd Iwerddon:‘Mae ystadegau heddiw yn dangos dwy ochr wahanol iawn i’n marchnad tai. Mae mwy o dai yn cael eu hadeiladu ond mae nifer gynyddol o bobl yn methu cynnal cartref.

‘Rydym yn debygol o weld mwy o bobl yn colli eu cartref oni weithredir ar frys. Mae’r Weithrediaeth Tai yn gyfrifol am fynd i’r afael â’r broblem, ond mae angen newid yn y gyfraith, nid yn unig i fynd i’r afael â digartrefedd, ond i’w atal rhag digwydd yn y lle cyntaf gyda mwy o adnoddau ar gyfer ymyriad cynnar a chefnogaeth i bobl ddiymgeledd.’

LLYWODRAETH CYMRU

Lansio Mesur i ddod â’r Hawl i Brynu i ben

Cyflwynodd yr ysgrifennydd Cymunedau Carl Sargeant fesur i ddiddymu’r Hawl i Brynu yng Nghymru yn y Cynulliad.

Bydd Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a’r Hawliau Cysylltiedig (Cymru) yn dileu’r Hawl i Brynu i denantiaid a’r Hawl i Gaffael a’r Hawl i Brynu a Gadwyd i denantiaid cymdeithasau tai.

Y nod yw gwarchod y stoc tai cymdeithasol rhag gostyngiad pellach, gan sicrhau ei fod ar gael i ddarparu cartrefi diogel, sicr a fforddiadwy i bobl nad ydynt yn gallu manteisio ar y farchnad dai i brynu neu rentu cartref.

Gyda chefnogaeth Llafur a Phlaid Cymru, dylai’r Mesur gwblhau ei daith drwy’r Cynulliad erbyn diwedd y flwyddyn. Byddai’r Hawl i Brynu yn dod i ben ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol.

Os gwna, bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu cynghorau a landlordiaid cymdeithasol o fewn mis i’r Cydsyniad Brenhinol, a bydd yn rhaid i’r rheini hysbysu tenantiaid o fewn mis arall. Bydd gan denantiaid cymwys ddeg mis pellach i benderfynu p’run ai i wneud cais i brynu.

Byddai Darpariaeth arall yn y Mesur yn diogelu rhaglenni datblygu trwy derfynu’r Hawl i Brynu tai newydd o fewn dau fis i’r Cydsyniad Brenhinol. Y nod yw helpu landlordiaid cymdeithasol i adeiladu heb ofni y bydd yn rhaid iddynt werthu’r cartrefi cyn gynted ag y cânt eu hadeiladu.

Mae’r Hawl i Brynu eisoes wedi cael ei diddymu yn yr Alban, a gallai Gogledd Iwerddon roi terfyn ar yr hawl gyfatebol i denantiaid cymdeithasau tai. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, mae llywodraeth Lloegr wedi cynyddu gostyngiadau ac addo ymestyn y cynllun Hawl i Brynu i denantiaid cymdeithasau tai, gan werthu tai cyngor i dalu amdano.

Fel y dengys y graff, mae landlordiaid cymdeithasol Cymru wedi gwerthu 139,000 o gartrefi – bron hanner y stoc tai – ers dyfodiad yr Hawl i Brynu.

Cyn cyflwyno’r Mesur, dywedodd yr ysgrifennydd cymunedau Carl Sargeant: Mae ein tai cymdeithasol yn adnodd gwerthfawr, ond mae o dan bwysau sylweddol. Mae maint y stoc wedi gostwng yn sylweddol ers 1980 pan ddaeth yr Hawl i Brynu i rym. Mae nifer y tai a werthwyd yn cyfateb i 45 y cant o’r stoc o dai cymdeithasol yn 1981. O ganlyniad, mae pobl sy mewn angen tai – a nifer yn eu plith yn ddiymgeledd – wedi gorfod aros yn hwy i gael cartref y gallent ei fforddio.

‘Rwy’n cydnabod bod y cynnig yn effeithio ar denantiaid presennol, a byddwn yn sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o effaith y Bil mewn da bryd cyn diddymu’r hawliau. Bydd y Bil yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth, y bydd rhaid i landlordiaid cymdeithasol yn eu tro ei darparu i bob tenant yr effeithir arnynt, o fewn dau fis i’r Cydsyniad Brenhinol’.

Fodd bynnag, dywedodd David Melding, llefarydd y Ceidwadwyr ar gynllunio a thai, wrth y Cynulliad: ‘Mae hwn yn ddiwrnod trist iawn i Gymru. Wedi’r cwbl, elwodd bron 140,000 o deuluoedd ar yr hawl i brynu ers 1980, ac mae bod yn berchen cartref yn ddyhead gan ddegau o filoedd ledled Cymru o hyd. Yn awr, bydd llwybr pwysig tuag at hynny wedi ei gau.’

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Dai ac arweinydd grŵp Plaid Cymru:‘Yn ystod cyfnod o brinder mawr o dai rhent cymdeithasol, a gyda miloedd o bobl ar restri aros am dai ar hyn o bryd, mae’r cynnig gan Lywodraeth Cymru i ddiddymu’r hawl i brynu yn gam i’w groesawu er mwyn mynd i’r afael â phroblem gynyddol yng Nghymru. Mae’n hanfodol bod pobl yn gallu rhentu tai rhent cymdeithasol o ansawdd da, nid yn unig i wella bywydau pobl, ond hefyd i adfywio cymunedau lleol.’

Hanerwyd uchafswm y gostyngiad Hawl i Brynu yng Nghymru i £8,000 yn 2015.

Gwnaeth pedwar cyngor – Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Ynys Môn ac, yn ddiweddaraf, Sir y Fflint – gais llwyddiannus i atal gwerthu am bum mlynedd yn eu hardal o dan ddeddfwriaeth flaenorol. Mae Caerdydd a Sir Ddinbych hefyd wedi gwneud cais am atal dros dro a gallai awdurdodau lleol eraill, yn cynnwys y rhai sydd wedi trosglwyddo stoc, wneud cais hefyd os mynnant.

Dywedodd Matt Dicks, cyfarwyddydd STS Cymru: ‘Mae prinder tai fforddiadwy dybryd yng Nghymru ac mae STC Cymru yn cefnogi unrhyw fesurau i atal colledion pellach o’r stoc tai cymdeithasol, sef bwriad y mesur yma.

‘Fodd bynnag, y brif broblem yw ein methiant i adeiladu digon i gymryd lle’r stoc tai cymdeithasol a gollwyd eisoes i gynlluniau fel Hawl i Brynu. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod adeiladu cartrefi newydd, a chael y gymysgedd o gartrefi newydd yn iawn, yn dal i fod ar frig ei hagenda wrth fynd rhagddom, yn enwedig os ydym i allu cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi newydd fforddiadwy.

‘Gall fod hefyd effaith uniongyrchol ar lawer o’n haelodau o sector yr awdurdodau lleol a throsglwyddo stoc ar ffurf llifeiriant posibl o geisiadau yn ystod y flwyddyn cyn i’r mesur ddod i rym, a bydd yn rhaid i ni weithio’n glòs gyda nhw i ddileu unrhyw effaith negyddol ar adnoddau.’

Cartrefi arloesol yn cael £20m

Cyhoeddodd yr ysgrifennydd cymunedau a phlant Carl Sargeant raglen newydd i ddarparu modelau arloesol o dai er mwyn helpu i gynyddu’r nifer o gartrefi a adeiledir yng Nghymru.

Bydd y rhaglen, a gyllidir i ddechrau gan £20 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf, yn cyfrannu at y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu eu darparu yn ystod tymor y llywodraeth. Y gobaith yw y bydd y cartrefi arloesol yn helpu i gwtogi’n hallt ar filiau tanwydd, neu eu dileu yn llwyr, ac yn hysbysu’r Llywodraeth o’r math o gartrefi y dylai eu cefnogi yn y dyfodol.

Gwnaeth yr ysgrifennydd cabinet y cyhoeddiad yn y gynhadledd ar Ddylunio Tai Arloesol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Chwefror. Cynhaliwyd y digwyddiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chartrefi Cymuned Cymru.

Papurau ymgynghori

Mae paprau ymgynghori Llywodraeth Cymru o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:

• Cylchlythyr drafft ar gyfer cynllunio safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a siewmyn – Ymatebion erbyn Mai 22

• Newidiadau i amlder cyhoeddi allbynnau ystadegol Cymorth i Brynu – Cymru – Ymatebion erbyn Mai 24

• Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 – Canllawiau ar gyfer Llety â Chymorth – Ymatebion erbyn Ebrill 28

Ymgynghoriadau ar-lein yn https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/

CYMRU

Agorwyd y Ganolfan Cynghori ar Dai yng Nglyn Ebwy yn swyddogol gan Faer Blaenau Gwent, y Cynghorydd Barrie Sutton ym mis Chwefror.

Mae’r ganolfan, a redir ar y cyd gan United Welsh, Linc, Tai Calon, Melin a Hafan Cymru,yn siop un-stop sy’n cynnig cyngor tai i bobl sy’n byw ym Mlaenau Gwent ac sydd â’r cyfleusterau i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau a chyngor.

Buasai’r ganolfan ar gau ers mwy na 15 mlynedd, ond fe’i dygwyd yn ôl i fywyd diolch i raglen sylweddol o adnewwyddu. Trawsnewidiwyd yr adeilad gan fuddsoddiad o fwy na £400,000, yn cynnwys cyllid oddi wrth Swyddfa Gyllido Ewropeaidd Cymru a’r cymdeithasau tai sy’n rhan o’r project.

  

Ymwelodd y gweinidog sgiliau a gwyddoniaeth, Julie James, â datblygiad tai newydd yng Nghaerdydd i gwrdd â phobl ifanc a oedd yn cymryd eu camau cyntaf tuag at yrfa yn y diwydiant adeiladu trwy raglen Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Mae’r datblygwyr tai Lovell, Grŵp Tirion a Chymdeithas Tai Cadwyn wedi mynd yn bartneriaid gyda’r elusen ieuenctid er mwyn helpu pobl leol ddiwaith rhwng 18 a 25 oed i lansio’u gyrfaoedd mewn adeiladu.

Y Felin, Treganna – datblygiad tai £100 miliwn gydag 800 o dai ar werth ac i’w rhentu ar gyn-safle Melin Bapur Arjo Wiggins yng ngorllewin Caerdydd.

 CYHOEDDIADAU: 10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW

1) 2017 UK Housing Review

Y Sefydliad Tai Siartredig, Mawrth 2017

www.ukhousingreview.org.uk

2) The Experience of Universal Credit: A tenant’s perspective

Cartrefi Cymunedol Cymru/Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Mawrth 2017

chcymru.org.uk/uploads/general/The_Experience_of_Universal_Credit_03.17.pdf

3) Faulty Towers: Understanding the impact of overseas corruption on the London property market

Transparency International, Mawrth 2017

www.transparency.org.uk/publications/faulty-towers-understanding-the-impact-of-overseas-corruption-on-the-london-property-market/

4) Second Overview of Housing Exclusion in Europe 2017

FEANTSA/Fondation Abbé Pierre, Mawrth 2017

www.feantsa.org/en/report/2017/03/21/the-second-overview-of-housing-exclusion-in-europe-2017

5) No One Should Have No One – tackling loneliness and isolation in Wales

Age Cymru, Mawrth 2017

www.ageuk.org.uk/cymru/policy/age-cymru-policy-publications-1/no-one-should-have-no-one-tackling-isolation/

6) Tai i’r dyfodol: diwallu dyheadau pobl hŷn Cymru

Grŵp Arbenigol ar Ddarparu Tai ar gyfer Poblogaeth sy’n Heneiddio, Mawrth 2017

gov.wales/topics/housing-and-regeneration/housing-supply/expert-group-on-housing-an-ageing-population/?lang=cy

7) Homelessness Monitor England

Crisis/Sefydliad Joseph Rowntree, Mawrth 2017

www.jrf.org.uk/report/homelessness-monitor-england-2017

8) English Housing Survey 2015 to 2016: headline report

Y Swyddfa Ystadegau Wladol, Chwefror 2017

www.gov.uk/government/statistics/english-housing-survey-2015-to-2016-headline-report

9) New Civic Housebuilding

Shelter, Mawrth 2017

england.shelter.org.uk/professional_resources/policy_and_research/policy_library/policy_library_folder/report_new_civic_housebuilding

10) Living standards, poverty and inequality in the UK: 2016-17 to 2021-22

Institute for Fiscal Studies/Sefydliad Joseph Rowntree, Mawrth 2017

www.jrf.org.uk/report/living-standards-poverty-and-inequality-uk-2016-17-2021-22


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »