Andrew Goodall, prif weithredydd GIG Cymru, yn gosod ei agenda ar gyfer iechyd, tai a gofal cymdeithasol.
Aeth 18 mis heibio ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) dderbyn Cydsyniad Brenhinol, ac mae’n amlwg bod iechyd, tai a gofal cymdeithasol yn bartneriaid allweddol mewn cyflawni’r uchelgeisiau a gofnodir yn ei thudalennau. Rydym mewn safle da yng Nghymru gan fod perthynas gref rhwng y sectorau hyn eisoes, ond dylem fod yn mynd yn llawer pellach, yn llawer cyflymach.
Mae llawer o’r blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru a nodir yn Law yn Llaw at Iechyd – er enghraifft, ysgafnhau’r pwysau ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, gwella ansawdd bywyd pobl ag anhwylderau cronig, cryfhau gofal iechyd lleol – wedi bod yn fwy effeithiol pan aethpwyd i’r afael â nhw trwy drefniadau gwaith effeithlon a ffrwythlon a phartneriaethau ar draws sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys darparwyr tai a darparwyr gofal a chymorth yn y cartref. Mewn sawl ffordd, mae blaenoriaethau iechyd yn gyd-flaenoriaethau. Mae sefydliadau tai yn darparu llawer mwy na llety, yn cynnwys gofal ychwanegol, gofal nyrsio, gofal seibiant, a gofal iechyd meddwl arbenigol.
Yr her allweddol yw sut i atgyfnerthu’n trefniadau gwaith partneriaeth a chyd-sicrhau’r gwell canlyniadau rydym oll am eu gweld mewn oes o lymdra parhaus. Dylem ddefnyddio’r gofynion hyn fel cyfle i sbarduno’r gwaith rydym yn ei wneud i ddod o hyd i atebion ar y cyd i gyd-broblemau fel demograffiaeth, baich afiechydon ac aml-afiachusrwydd.
Arweinyddiaeth dorfol yn y gwasanaethau cyhoeddus
Deil y rhain i fod yn amserau anodd i bawb sy’n gweithio i wasanaethu’r cyhoedd – yn y GIG a gofal cymdeithasol rydym yn cydbwyso gwerthoedd fel sicrhau ansawdd, gwelliannau a phrofiad da i gleifion gydag amgylchedd o gyfyngu ar adnoddau, a newid carlamus mewn arfer a thechnoleg, oll yng nghyd-destun galw cynyddol, nid lleiaf gan boblogaeth hŷn sy’n byw yn hwy, gyda mwy o flynyddoedd o fywyd iach, a disgwyliadau uwch arnom gan y cyhoedd i ddarparu a sicrhau cynnydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau.
Gwn fod hyn yn taro tant gyda chydweithwyr yn y maes tai. Dyna sydd wrth wraidd lansio’r system addasiadau uwch ‘Hwyluso – Cymorth i Fyw’n Annibynnol’ yn ddiweddar, i esgor ar gydweithio closach byth rhwng adrannau tai awdurdodau lleol a mudiadau fel Gofal a Thrwsio i wella’r ffordd y bydd pobl sydd ag angen addasiadau i’w cartrefi yn eu derbyn. Mae’r system yn dda ond fe fydd hyd yn oed yn well. Swyddogaeth rheolwyr ac arweinwyr yw mabwysiadu agwedd ‘medraf’ tuag at bwysau a newidiadau mewn gwasanaethau – ymateb a gwneud i bethau ddigwydd.
Un enghraifft o’r ffordd yma o fynd ati yw’r gwaith a wnaed yng Ngwent trwy’r rhaglen Mewn Un Lle. Roedd cydweithredu’n effeithiol a dileu rhwystrau, er mwyn gallu darparu llety person-ganoledig a chefnogaeth i unigolion, yn allweddol i lwyddiant y gwaith.
Mae’r datblygiad Mewn Un Lle diweddaraf yn caniatáu i bum person ag anghenion cymhleth i fyw’n annibynnol tra’n derbyn cefnogaeth 24-awr ar y safle. Esgorwyd ar y cynllun trwy gydweithrediad clòs rhwng Cymdeithas Tai Sir Fynwy, Cyngor Sir Fynwy, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. O ganlyniad, cafodd defnyddwyr gwasanaethau a fuasai’n gleifion mewnol mewn ysbytai am amser maith gyfle i fyw yn eu cartrefi eu hunain, ac mae’r niferoedd sy’n cael eu derbyn i ysbytai wedi gostwng yn aruthrol ar gyfer y grŵp hwn o bobl.
Mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu ar sail enghreifftiau o’r fath ar fyrder, gan ddylunio gwasanaethau gyda’n dinasyddion ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Y Dyfodol
Wrth symud ymlaen, credaf bod cyfrifoldeb arnom i ymateb i’r problemau sy’n gyrru’r galw yn ein gwasanaethau. Rhan o’n hetifeddiaeth iechyd yng Nghymru yw bod gennym gyfran uwch o bobl hŷn. Mae hyn yn golygu cyd-drefnu modelau o wasanaeth ar gyfer pobogaeth sy’n heneiddio, lle mae rhai wedi goroesi canser, ac eraill yn byw gydag afiechyd, anabledd, dementia a llesgedd. Dylem weithio’n egnïol i ganfod sut, er gwaethaf llesgedd, y gellir cefnogi annibyniaeth a darparu gofal, cyn belled ag sy’n bosibl, yn agosach at y gymuned a’r cartref.
Rhaid i ni barhau i adolygu’n ffordd o fynd ati ym meysydd iechyd a gofal trwy lens ‘gofal iechyd darbodus’. Mae’r egwyddorion hyn yn berthnasol ledled y gwasanaethau cyhoeddus, ac yn canu cloch gyda’r sectorau iechyd, tai a gofal wrth i ni ymdrechu i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau i ddod. Rydym am i Gymru ddangos yn glir ei bod yn cynnig gwell gwerth, ansawdd a chanlyniadau trwy ddilyn egwyddorion darbodus ym mhob peth a wnawn. Mae angen i ni newid ein cwestiwn i’n defnyddwyr gwasanaethau o ‘Be fedra i ei wneud i chi?’ i ‘Beth sy’n bwysig i chi?’
Dylai cynlluniau’r dyfodol barhau i wneud gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn brif ffocws cyswllt ar gyfer y mwyafrif helaeth o gleifion yng Nghymru. Does dim rhaid i’r GIG wasanaethu iechyd cleifion trwy gyfrwng ysbyty traddodiadol yn unig.
O safbwynt y GIG, dylem sicrhau bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn hyrwyddo cydweithio closach gyda gofal cymdeithasol. Yng nghyd-destun ein system ofal, yn hytrach na dim ond y GIG, dylem fod yn cydweithio’n llawer closach gyda’r sector cartrefi gofal fel rhan allweddol o’n capasiti.
Mae o fudd i ni bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn glòs. Rydym yn adnabod ein gilydd ac mae hynny’n magu’r ymddiriedaeth a’r berthynas sy’n allweddol i’n llwyddiant. Braint i bob un ohonom yw bod mewn swyddi sy’n cefnogi gwasanaeth cyhoeddus, gyda’r gallu i ddylanwadu’n bositif ar iechyd a llesiant ein dinasyddion, a hynny mewn ffordd sy’n unigryw i Gymru.