English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol

Gall golygu cylchgrawn chwarterol eich gadael ar drugaredd newidiadau carlamus. Ond hyd yn oed â chaniatáu ar gyfer popeth a all newid o fewn tri mis, mae’n teimlo fel pe bai popeth wedi troi â’i ben i waered yn ystod cylchdro diwethaf WHQ.

Bwriwch eich meddwl yn ôl at ddechrau Mehefin, ac roedd y DU yn rhan gadarn o’r Undeb Ewropeaidd, roedd David Cameron yn brif weinidog, a chymdeithasau tai yn rhan o’r sector preifat. Roedd yna hyd yn oed rai a fynnai bod Lloegr yn well na Chymru ar y maes pêl-droed.

Ceisia’r rhifyn hwn wneud synnwyr o rai o’r newidiadau anferthol hyn. Mae Victoria Winckler a Duncan Forbes yn ystyried dyfodol Cymru wedi Brexit a beth y gall bywyd y tu allan i’r UE ei olygu i dai ac adfywio. Rydym hefyd yn ymdrin â rhai o’r newidiadau o dan gyfundrefn Dorïaidd newydd Theresa May a dadansoddi oblygiadau ailddosbarthu’r cymdeithasau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r dewisiadau ar gyfer dadreoleiddio.

Ond po fwyaf mae rhai pethau’n newid, mwyaf oll mae eraill yn aros yr un fath. Ers degawdau, buom yn gofyn sut y gall iechyd a thai (a gofal cymdeithasol) weithio gyda’i gilydd. Bu cyswllt clòs rhyngddynt erioed, wrth gwrs. Pryderon am iechyd y cyhoedd oedd un o’r prif resymau dros dwf tai cyngor. Aneurin Bevan oedd y gweinidog dros y ddau faes yn llywodraeth Lafur 1945, yn esbonio’i syniadau am ei ‘dapestri byw o gymunedau cymysg’ yn yr amser oedd ganddo’n rhydd o fod wrthi’n sefydlu’r GIG.

Mae’r rhifyn hwn yn edrych ar beth sy’n digwydd yn awr a beth a allai ddigwydd yn y dyfodol mewn iechyd a thai. Cyflwynir ein nodwedd arbennig gan Andrew Goodall, prif weithredydd GIG Cymru, gydag enghreifftiau o bob rhan o Gymru o weithio ar y cyd rhwng y gwahanol sectorau i gynhyrchu canlyniadau mwy effeithiol i bawb.

Ar agenda WHQ hefyd ceir adfywio ym Mro Morgannwg, swyddogaeth asiantaethau tai mewn ymdrin â thlodi, rhannu mewn tai cymdeithasol, a’r rhan y gallai mentrau cymdeithasol ei chwarae mewn trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus.

Ac, yn ôl yn Ewrop, dyma edrych ar ddau broject na fyddai wedi digwydd heb gyllid gan yr UE: diweddariad ar adeiladu tai yng Nghymru o goed Cymreig, a phen Cymru o broject Ewropeaidd i amddiffyn dinasyddion symudol digartref.

Mae hyn oll, ynghyd â’n nodweddion rheolaidd, yn gwneud hwn yn rhifyn gorlawn ac amrywiol. Byddwn yn ôl ym mis Ionawr, ond peidiwch ag anghofio y gallwch gadw mewn cysylltiad â beth sy’n digwydd yn ystod y tri mis nesaf yn whq.org.uk.

Jules Birch, Golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »