English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

Y DU

San Steffan yn addo trefn gyllido newydd ar gyfer tai â chymorth

Cyhoeddodd llywodraeth y DU drefn gyllido newydd ar gyfer tai â chymorth, ond cododd datganiad ysgrifenedig gan yr ysgrifennydd gwaith a phensiynau Damian Green gymaint o gwestiynau ag o atebion.

Cafodd cyflwyno terfyn ar y LTLl a’r gyfradd llety a rennir eu gohirio tan 2019/20 ar gyfer tai â chymorth. Gallai llochesau, hosteli a mathau eraill o lety tymor-byr iawn gael eu heithrio o hyd.

Ond datgelwyd wythnos wedi’r datganiad y bydd y drefn newydd yn cynnwys pob tenant o 2019 ymlaen. O dan y cynnig gwreiddiol, dim ond tenantiaid newydd fyddai wedi eu heffeithio.

Wedi 2019 caiff cyllid ei ddatganoli i’r Alban, Cymru ac i awdurdodau lleol Lloegr ar gyfer taliadau ychwanegol i ddarparwyr i adlewyrchu costau uwch darparu tai â chymorth yn hytrach na thai anghenion cyffredinol.

Yn Lloegr, gallai hynny olygu ailddyfeisio Cefnogi Pobl, a ddilewyd cyn gynted ag yr ataliwyd cyllido neilltuedig yn 2010. Cadwodd Cymru ei rhaglen Cefnogi Pobl, a dylai allu defnyddio trefniadau lleol sy’n bodoli eisoes.

Cadarnhaodd Green hefyd y byddai’r gostyngiad o 1% mewn rhenti tai cymdeithasol yn Lloegr bellach yn cynnwys tai â chymorth hefyd.

Mae’n dal yn aneglur faint fydd y cyllid ar gyfer taliadau ychwanegol. Yn ôl Green, byddai’r drefn gyllido newydd yn sicrhau bod ‘y sector yn parhau i gael ei chyllido ar lefelau cyfredol, gan ystyried effeithiau polisi’r Llywodraeth ar renti’r sector cymdeithasol.’

Mae’r geiriad hwnnw’n awgrymu nad oes gwarant y bydd y cyllid yn cynyddu gyda chwyddiant, a gallai hyd yn oed gyrraedd lefel rhenti cymdeithasol yn Lloegr. Mae llywodraeth San Steffan yn dal yn benderfynol o sicrhau arbedion effeithlonrwydd ar dai â chymorth.

Disgwylir mwy o fanylion pan gaiff dogfen ymgynghori ac arolwg o’r dystiolaeth eu cyhoeddi cyn hir.

Meddai Stuart Ropke, prif weithredydd CCC:

‘Bydd sicrwydd cyllid hir-dymor yn golygu parhad cynlluniau presennol ac y gall rhai newydd ddatblygu. Byddwn yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ar fanylion y cynllun datganoledig er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau ar gyfer rhai sydd ag angen tai â chymorth ledled Cymru.’

SYG yn ailddosbarthu cymdeithasau tai fel cyrff sector cyhoeddus

Cadarnhaodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) y cyfrifir cymdeithasau tai yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gorfforaethau anghyllidol cyhoeddus bellach yn hytrach na chyrff sector preifat.

Roedd pawb yn disgwyl y penderfyniad yn sgîl ailddosbarthu cymdeithasau Lloegr i’r sector cyhoeddus y llynedd. Disgwylir i’r llywodraethau datganoledig ddilyn Lloegr yn awr a deddfu i ddadreoleiddio cymdeithasau a darbwyllo’r SYG i newid ei phenderfyniad.

Byddai gan fethiant i wneud hynny oblygiadau mawr i’r ddyled wladol ac i allu cymdeithasau i godi arian preifat a gweithredu’n annibynnol.

Mae’r ailddosbarthiad wedi ei ddyddio yn ôl i ddyddiadau deddfwriaeth tai arwyddocaol: 2001 yn yr Alban, 1996 yng Nghymru a 1992 yng Ngogledd Iwerddon.

Addawodd Llywodraeth yr Alban Fil a fydd yn newid pwerau Rheoleiddiwr Tai’r Alban er mwyn i’r SYG fedru ailddosbarthu cymdeithasau i’r sector preifat. Byddai hyn yn sicrhau y gallant barhau i fenthyca arian yn breifat yn ogystal â derbyn buddsoddiadau cyhoeddus.

Dywedodd Llywodraeth Gogledd Iwerddon y byddai’n ceiso newid penderfyniad y SYG, yn cynnwys newid deddfwriaeth lle bo’n briodol. Dywedodd y gweinidog cyllid Máirtín Ó Muilleoir y byddai tai cymdeithasol a fforddiadwy yn wynebu diffyg blynyddol o bron £100 miliwn oni ellid newid y penderfyniad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymchwilio i ateb deddfwriaethol i broblem ailddosbarthiad ac y gallai cymdeithasau tai fod yn hyderus y câi’r mater ei ddatrys.

LLOEGR

Barwell yn newid y pwyslais ar berchentyaeth yn unig

Mae’r gweinidog tai newydd Gavin Barwell wedi awgrymu y bydd y llywodraeth Geidwadol yn ceisio cefnogi mathau eraill o ddeiliadaeth yn ogystal â pherchentyaeth.

Bu polisi ers yr etholiad yn ddarostyngedig i ymrwymiadau maniffesto ar ehangu’r Hawl i Brynu i gynnwys tenantiaid cymdeithasau tai, ac adeiladu 200,000 o gartrefi cychwynnol i’w gwerthu i brynwyr tro-cyntaf ar ostyngiad o 20 y cant.

Yn dilyn y Ddeddf Tai a Chynllunio, telir am ostyngiadau Hawl i Brynu trwy orfodi cynghorau i werthu eu cartrefi drutaf, ac ymddengys bod tai cychwynnol yn mynd i gymryd lle cartrefi ar rent fforddiadwy a gyllidir trwy’r system gynllunio. Caiff y rhan fwyaf o’r gyllideb tai fforddiadwy ei gwario ar gartrefi cychwynnol a chyd-berchenogaeth.

Mae’r cynlluniau hyn yn dal mewn grym, ond ni chyhoeddwyd llawer o’r manylion allweddol a’r rheoliadau hyd yma.

Awgrymodd Barwell y newid pwyslais yn ei areithiau cyntaf fel gweinidog tai. Dywedodd wrth gynhadledd y Ffederasiwn Tai ym mis Medi: ‘Y gwir amdani yw bod angen mwy o gartrefi ar werth, mwy i’w rhentu’n breifat a mwy o gartrefi gwerth is na’r farchnad i’w rhentu.’

YR ALBAN

Sturgeon yn addo cyfundrefn nawdd cymdeithasol Albanaidd

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Nicola Sturgeon Fil Nawdd Cymdeithasol a fydd yn manteisio ar bwerau newydd yr Alban dros fudd-daliadau fel rhan o’r Rhaglen Lywodraethu newydd.

Bydd y Bil yn creu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer nawdd cymdeithasol yn yr Alban ac yn sefydlu Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol newydd. Mae ymgynghoriad eang ar y gweill.

Bydd Bil (Diwygio) Tai yn sicrhau bod cymdeithasau tai yn dal i gael eu dosbarthu fel cyrff sector preifat (gweler newyddion y DU) trwy ddiwygio pwerau Rheoleiddiwr Tai’r Alban.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn cynnwys Biliau ar dlodi plant, camdrin domestig, a chydbwysedd rhywiau ar fyrddau cyhoeddus.

GOGLEDD IWERDDON

Gweinidog yn addo newidiadau yn y maes tai

Mae’r gweinidog cymunedau Paul Givan wedi addo y bydd ei adran newydd yn dod â newid positif i unigolion a chymunedau ledled Gogledd Iwerddon.

Crewyd yr Adran Cymunedau ym mis Mai gyda chyfrifoldebau sy’n cynnwys tai, adfywio a nawdd cymdeithasol.

Yn ei ymddangosiad cyntaf yn Stormont ddiwedd mis Mehefin, dywedodd y gweinidog ei fod yn benderfynol o sicrhau bod tai o ansawdd da o fewn cyrraedd pobl am gost resymol. Ehangir y rhaglen tai cymdeithasol, a bydd yn adran hefyd yn ‘ystyried anghenion tenantiaid presennol a helpu’n pobl fwyaf diymgeledd.’

LLYWODRAETH CYMRU

Y prif weinidog yn ymrwymo i nod o 20,000 o gartrefi fforddiadwy

Dadlennodd Carwyn Jones Raglen Lywodraethu newydd ym mis Medi yn ymrwymo’i lywodraeth i nod o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol rhwng 2016 a 2021.

Mae hyn yn dyblu’r nifer o 10,000 o gartrefi fforddiadwy a gwblhawyd yn nhymor diwethaf y Cynulliad, ond mae’n cynnwys 6,000 o gartrefi a ddarperir trwy gyfrwng Help i Brynu.

Mae addewidion eraill am dai yn y Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys cynllun ‘rhentu i berchenogi’ newydd, archwilio ffyrdd o atal bancio tir, a pharhau â’r cydweithio hir-dymor gydag adeiladwyr tai.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys Tasglu Gweinidogol i’r cymoedd, gwireddu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, datblygu bargen debyg ar gyfer Abertawe a Bargen Dwf i Gymru.

Mae’r rhaglen ddeddfu yn cynnwys Bil i ddileu’r Hawl i Brynu a Bil Treth Trafodiadau Tir a fydd yn disodli treth dir y dreth stamp â’r dreth Gymreig gyntaf ers bron 800 o flynyddoedd.

Blwyddyn gyntaf lwyddiannus o ran atal digartrefedd

Dangosai’r ystadegau ar gyfer 12 mis cyntaf y gyfundrefn newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Tai 2014 lwyddiant o ran atal a lliniaru digartrefedd. Er bod angen gofal wrth ddehongli’r data, ac er na ellir eu cymharu’n uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol, mae’r arwyddion yn bositif:

– Aseswyd bod 7,128 o deuluoedd yng Nghymru mewn perygl o golli eu cartref o fewn 56 dydd yn 2015-16. Llwyddwyd i arbed 4,599 (65%) ohonynt rhag digartrefedd am o leiaf 6 mis.

– Aseswyd bod 6,891 o deuluoedd yn ddigartref, ac yn destun dyletswydd i’w helpu i sicrhau llety. O’r rhain, llwyddwyd i arbed 3,108 (45 y cant) rhag digartrefedd a’u helpu i sicrhau llety a oedd yn debygol o bara am 6 mis o leiaf

– Aseswyd bod 1,563 o deuluoedd yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen blaenoriaethol, ac felly’n destun dyletswydd i sicrhau llety ar eu cyfer. O’r rhain, derbyniodd 1,245 y cynnig o lety parhaol.

Mae’r data cyflawn ar gael yn www.gov.wales/statistics-and-research/homelessness/?lang=cy

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru landlordiaid preifat yn nesáu

Mae gan landlordiaid preifat hyd at Dachwedd 23 i gofrestru eu hunain a’u heiddo gyda Rhentu Doeth Cymru.

Mae gan landlordiaid ac asiantiaid sy’n gosod a rheoli eiddo tan hynny i sicrhau trwydded hefyd. Erbyn diwedd Awst, roedd 20,000 o landlordiaid preifat wedi cofrestru ac roedd 34,000 o landlordiaid neu asiantaethau gosod eiddo wedi agor cyfrif (y cam cyntaf yn y broses). Ond amcangyfrifir bod rhwng 70,000 a 130,000 o landlordiaid preifat yn gweithredu yng Nghymru.

Anogodd yr ysgrifennydd cymunedau a phlant, Carl Sargeant, landlordiaid i gofrestru cyn gynted â phosib, gan ychwanegu: ‘Mae’r gyfraith yn mynnu fod pob landlord yn cofrestru a phob asiant a landlord sy’n rheoli eu heiddo yn cael trwydded. O’r 23 Tachwedd 2016 ymlaen gall unrhyw un nad yw’n ufuddhau i’r gyfraith gael cosb benodedig, neu os bydd achos llys, gallant gael dirwy.”

Am fwy o wybodaeth, gweler www.rhentudoeth/llyw/cymru/cy

Cyllido cyngor ariannol

Mae’r ysgrifennydd cymunedau a phlant, Carl Sargeant, wedi cymeradwyo mwy na £320,000 o gyllid i alluogi Cyngor ar Bopeth Cymru i barhau i ddarparu cyngor ariannol wyneb-yn-wyneb.

Dywedodd y gweinidog bod y mudiad yn darparu cyngor amhrisiadwy ar ddyled ac arweiniad ariannol i bobl ledled Cymru. ‘Heb gymorth ariannol, ni allai’r gwasanaeth barhau, a fyddai’n golygu na fyddai 400 o bobl yn derbyn help wyneb-yn-wyneb bob mis.’

Meddai Fran Targett, cyfarwyddydd Cyngor ar Bopeth Cymru: ‘Rydym wrth ein bod bod Llywodraeth Cymru wedi deall ei bod hi’n hanfodol parhau i gefnogi’r gwaith o ddarparu cyngor ariannol wyneb-yn-wyneb er mwyn helpu pobl i elwa i’r eithaf ar hynny o arian sydd ganddynt a chynllunio ar gyfer y dyfodol. O ganlyniad i’r penderfyniad hwn, gallwn gynnig cymorth rhad ac am ddim i bobol ddiymgeledd ledled Cymru a’u helpu i ddeall a rheoli eu harian yn well. Gall y cyngor ariannol diduedd yma eu helpu i fagu hyder, rheoli eu sefyllfa ariannol, deall eu dewisiadau a phenderfynu beth sydd orau iddynt.’

CYHOEDDIADAU: 10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW

1) The Economics of Housing and Health: The role of housing associations

The King’s Fund and NHS Alliance for National Housing Federation, Medi 2016

www.kingsfund.org.uk/publications/economics-housing-health

2) Making welfare work for Wales: Should benefits for people of working age be devolved?

Sefydliad Bevan, Mehefin 2016

www.bevanfoundation.org/publications/making-welfare-wales-benefits-people-working-age-devolved/

3) Assessing and sustaining social tenancies: exploring barriers to homelessness prevention

Shelter Cymru, Hydref 2016

sheltercymru.org.uk/wp-content/uploads/2015/02/Accessing-and-sustaining-social-tenancies-exploring-barriers-to-homelessness-prevention.pdf

4) Devolving Stamp Duty and Landfill Tax to Wales: Mitigating the Budget Risks after ‘Switching On’ Wales’ First Home-Grown Taxes

Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, Gorffennaf 2016

sites.cardiff.ac.uk/wgc/files/2013/10/Devolving-Stamp-Duty-and-Landfill-Tax-to-Wales.pdf

5) UK Poverty: Causes, costs and solutions

Sefydliad Joseph Rowntree, Medi 2016

www.jrf.org.uk/report/uk-poverty-causes-costs-and-solutions

6) Wales after Brexit: An agenda for a fair, prosperous and sustainable country

Sefydliad Bevan, Awst 2016 (gweler tud. 8)

www.bevanfoundation.org/publications/wales-brexit-agenda-fair-prosperous-sustainable-country/

7) Feasibility study of the prospect of developing a viable housing model for those entitled only to access the shared accommodation

Canolfan Ymchwil Tai a Chynllunio Caergrawnt, ar gyfer CCC a CLlLC, Mehefin 2016 (gweler tt. 36-37)

www.cchpr.landecon.cam.ac.uk/Projects/Start-Year/2016/Feasibility-study-develop-viable-housing-model-those-entitled-only-access-shared-accommodation-rate/Final-Report

8) Homelessness

Pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol Ty’r Cyffredin, Awst 2016

www.publications.parliament.uk/pa/cm201617/cmselect/cmcomloc/40/40.pdf

9) Homes for All

Renewal, Medi 2016

www.renewalgroup.org.uk/wp-content/uploads/2014/11/DSKJ4421_Homes_for_All_Report_010916.pdf

10) The economic circumstances of different generations

Institute for Fiscal Studies, Medi 2016

www.ifs.org.uk/publications/8583

CYMRU

Datblygiad cyntaf Trivallis

trivallis-springfield-launch

Mae Trivallis newydd lansio’i ddatblygiad cyntaf ar ei newydd wedd. Newidiwyd enw cyn-Gymdeithas Tai RhCT ym mis Gorffennaf.

Daeth staff a phartneriaid ymgynghori ynghyd i ddathlu agor Springfield Court, datblygiad tai mawr sy’n cynnwys 40 eiddo, ym Mhentre’r Eglwys.

Yn 2014, penderfynodd Trivallis i ailddatblygu Springfield Court oherwydd y galw mawr am dai fforddiadwy yn yr ardal.

Fel yr eglura Julie Vellucci, cyfarwyddydd darblygiad busnes Trivallis:

‘Dyma’r cynllun tai cymdeithasol cyntaf i ni ei ddarparu fel Trivallis. Crewyd cartrefi o ansawdd uchel sy’n defnyddio ynni’n effeithiol, a gellir eu haddasu i ateb anghenion ein cwsmeriaid os bydd newid yn eu hamgylchiadau.’

Gweithiodd Gwasanaethau Project Jehu gyda Trivallis i godi’r 40 cartref fforddiadwy newydd, cymysgedd o fflatiau a thai o wahanol feintiau.

Cafodd un o’r tai ei addasu ar gyfer teulu sydd â phlentyn ifanc ag anghenion arbennig.

Yn ystod yr agoriad, daeth cynrychiolwyr CBSRhCT, Cyfreithwyr Hugh James, Penseiri Tony King, Partneriaeth Austin, Cynllunio Asbri, Strongs, a Bwrdd Trivallis i gael golwg ar y safle newydd ei gwblhau.

Pennaeth newydd ar gyfer United Welsh

Penodwyd Lynda Sagona yn brif weithredydd newydd United Welsh.

Hi yw cyfarwyddydd tai a chymunedau cyfredol y gymdeithas sydd â’i swyddfa yng Nghaerffili, gyda mwy na 5,500 o gartrefi ar draws 11 ardal awdurdod lleol yn ne Cymru. Bydd Lynda’n cymryd lle’r prif weithredydd blaenorol, Anthony Whittaker, a gyhoeddodd ei fod yn rhoi’r gorau iddi yn gynharach eleni.

Dywedodd: ‘Dwi wedi gwir fwynhau fy amser yma, gan ddweud erioed mai fi oedd ag un o’r swyddi gorau yn y byd, felly mae cael fy mreintio â swydd prif weithredydd sefydliad rwy’n ei edmygu gymaint yn gwneud i mi deimlo’n wylaidd ac yn gyffrous iawn ar yr un pryd.’

Cymdeithasau’n cyfuno

Cwblhaodd Tai Cantref ei uniad â Wales & West Housing ym mis Medi, yn sgîl cymeradwyaeth cyfranddalwyr.

Bu’r gymdeithas o Gastell Newydd Emlyn yn chwilio am bartner cyfuno ar ôl arolwg gan Lywodraeth Cymru o’i gweithrediad a’i llywodraethiant, ond wynebodd y cytundeb gryn feirniadaeth cyn cael ei gymeradwyo.

Meddai prif weithredydd Wales & West, Anne Hinchey: ‘Mae gan WWH record brofedig ardderchog o ymgysylltu â phreswylwyr a gwella a chynnal boddhad preswylwyr o flwyddyn i flwyddyn. Anghenion ein preswylwyr a’r gymuned sy’n ein hysgogi. Mae cyfuno’n dau sefydliad yn gyfle anhygoel i wneud gwahaniaeth o safwynt ateb anghenion tai pobl yng ngorllewin Cymru.’

Troi allan o dai cymdeithasol

Gwnaed mwy na 500 o blant yn ddigartref y llynedd wedi i’w teuluoedd gael eu troi allan o dai cymdeithasol yn ôl adroddiad gan Shelter Cymru. Amcangyfrifai’r elusen ddigartrefedd i landlordiaid cymdeithasol droi allan 914 o deuluoedd yn 2015/16. Roedd bron draean (301) yn deuluoedd â phlant.

Mae’r adroddiad yn amcangyfrif cost o £7.9 miliwn mewn costau uniongyrchol i landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, a £24.3 miliwn i’r economi yn ei chrynswth.

Y rheswm mwyaf cyffredin oedd ôl-ddyledion rhent ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Achoswyd yr ôl-ddyledion fel arfer gan broblemau gyda budd-dâl tai a diffyg cefnogaeth a amharodd ar allu tenantiaid i ymgysylltu â’u landlord. Canfu Shelter waith ataliol ardderchog a wnaed gan rai landlordiaid, ond mae’n galw am reoliadau i sicrhau fod pob tenant yn derbyn triniaeth deg a chydradd.

Mae’r adroddiad ar gael yn www.bit.ly/2dmvRcv

Cyllid newydd ar gyfer cartrefi cydweithredol

Mae Sefydliad Nationwide yn rhoi cyllid ychwanegol o £130,000 i Ganolfan Gydweithredol Cymru a ddefnyddir i gynyddu’n sylweddol nifer y mentrau tai cydweithredol ac opsiynau tai fforddiadwy ledled Cymru. Bydd ar arian yn cynnal 40 o grwpiau cydweithredol a sefydlir yn ystod y tair blynedd nesaf.

Mae’r cyllid newydd yn dilyn llwyddiant y grant gyntaf a roddwyd yn 2014. Arweiniodd grant flaenorol Sefydliad Nationwide, ynghyd ag arian gan Lywodraeth Cymru, at gwblhau tri chynllun tai cydweithredol newydd, gyda phedwar arall bron â’u cwblhau a chwe chynllun pellach ar y gweill.

Cymorth Cymru yn penodi cyfarwyddydd dros-dro

Bydd Katie Dalton yn cymryd drosodd fel cyfarwyddydd dros-dro Cymorth Cymru pan fydd ei rhagflaenydd, Auriol Miller, yn ymadael i fynd yn gyfarwyddydd y Sefydliad Materion Cymreig.

Mae Katie Dalton, cyn-lywydd NUS Cymru, ar secondiad o Gofal, lle y bu’n rheolydd polisi a materion cyhoeddus ers 2011. Meddai: ‘Trwy weithio i aelod o Cymorth Cymru, gwelais y dylanwad a’r effaith a gawsant ar ein rhan, ac mae’n gyffrous cael y cyfle i wneud yr un fath.’


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »