Daw’r rhifyn haf hwn o WHQ rhwng dwy bleidlais: etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai a refferendwm mis Mehefin ar yr Undeb Ewropeaidd.
Gyda’r cyntaf, dim newid. Mae Llafur yn parhau i redeg Llywodraeth Cymru ond, dan Gytundeb Blaengar gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda Kirsty Williams yn ymuno â’r cabinet.
Daeth yr ad-drefnu ôl-etholiadol ag wyneb cyfarwydd yn ôl i’r swyddogaeth dai gyda phenodi Carl Sargeant yn ysgrifennydd y cabinet dros gymunedau a phlant. Mae’n gosod allan ei flaenoriaethau ar gyfer tai ar d. 15, yn cynnwys ymrwymiad i godi 20,000 o gartrefi fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf ac – yn y man – Mesur i ddileu’r Hawl i Brynu.
Fodd bynnag, dim ond un rhan yw tai ac adfywio o bortffolio llawer mwy sy’n cynnwys cymunedau a phlant a blynyddoedd cynnar. Mae’r gweinidog hefyd â’i lygad ar gysylltiadau tai ag agenda bolisi ehangach, yn cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni, ac iechyd a gofal cymdeithasol.
Roedd canlyniad y refferendwm yn dal yn y fantol wrth i WHQ fynd i’r wasg. Tra bod pleidlais i Aros yn edrych yn fwy tebygol, câi effeithiau pleidlais i Adael eu teimlo am flynyddoedd lawer. Ymhlith y materion a godwyd yn nadl WHQ ar yr UE yn TAI oedd cwestiwn hollbwysig beth fyddai’n digwydd i gyllid cymdeithasol ac adfywio Ewropaidd yng Nghymru yn sgîl Brexit.
Ac adfywio yw prif ffocws llawer o’r rhifyn hwn. Wrth gyflwyno cyfres o erthyglau mae Duncan Forbes yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol CREW a’i ran mewn adfywio cymunedau. Mae gennym erthyglau ar adfywio yn y Barri, y Fflint a’r Caerau, tra bod cyn-brif weithredydd CREW, Dave Adamson yn cymharu ffyrdd o fynd ati yng Nghymru a New South Wales.
Mae dull Cymru o fynd ati i atal digartrefedd yn denu sylw ledled y DU, gan Loegr yn enwedig. Gyda’r system newydd ychydig dros flwydd oed, mae Jennie Bibbings yn ystyried beth ddylai Cymru ei wneud nesaf.
Mewn ffoto-ysgrif am ei milltir sgwâr hi o Gaerdydd, mae Tamsin Stirling yn ystyried effaith llety myfyrwyr ac yn dod ar draws tŷ 18-llofft – ie, 18 llofft – ar werth.
Mae Gayna Jones yn egluro pam bod tai yn un o flaenoriaethau Comisiwn Dylunio Cymru, mae Brett Sadler yn esbonio camau diweddaraf taith ddigidol Tai Gogledd Cymru, a Julie Nicholas yn datgelu ei gobeithion ar gyfer tai yn y Pumed Cynulliad wrth iddi ymadael â STS Cymru.
Jules Birch
Golygydd, WHQ