English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

LLOEGR

Golau gwyrdd i’r newidiadau tai

Daeth diwygiadau dadleuol sy’n helpu mwy o bobl i brynu, a chael cartrefi wedi eu hadeiladu’n gyflymach, i rym yn Lloegr wedi i’r Ddeddf Tai a Chynllunio dderbyn Cydsyniad Brenhinol.

Mewn brwydr estynedig yn Nhŷ’r Arglwyddi trechwyd llywodraeth Geidwadol San Steffan sawl gwaith ar fanylion, ond goroesodd y cynigion sylfaenol. Mae diwygiadau allweddol yn cynnwys:

  • Cyllido ehangu’r Hawl i Brynu i denantiaid cymdeithasau tai trwy gyfrwng toll ar werthu tai cyngor ‘gwerth uwch’ wrth iddynt ddod yn wag
  • Rhenti ‘Talu i Aros’ uwch gorfodol ar denantiaid cyngor sy’n enill mwy na £31,000 (£40,000 yn Llundain)
  • Tenantiaethau tymor-penodol gorfodol ar gyfer tenantiaid cyngor newydd
  • Newid y diffiniad o ‘dai fforddiadwy’ i gynnwys cartrefi cyntaf a werthir ar ostyngiad o 20 y cant, y bydd dyletswydd ar awdurdodau cynllunio lleol i’w hyrwyddo o hyn ymlaen

Bydd y diwygiadau hyn yn debyg iawn o gyflymu tranc tai cymdeithasol, gyda’r Sefydliad Tai Siartredig yn rhybuddio y gellid colli 350,000 o gartrefi cymdeithasol erbyn 2020.

Caiff y manylion eu hegluro mewn rheoliadau yn ystod y misoedd nesaf, ond gorfodwyd y llywodraeth i ildio ar rai materion yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Er enghraifft, bydd cyfradd raddoledig o 15c yn y bunt ar gyfer Talu i Aros, fel bod tenantiaid yn talu £150 y flwyddyn yn fwy o rent am bob £1,000 a enillant uwchlaw’r trothwy. Caiff cynghorau ymestyn tenantiaethau cyfnod-penodol pum-mlynedd i ddeng mlynedd ar gyfer tenantiaid anabl a hyd at 19 blynedd ar gyfer rhai sydd â phlant yn yr ysgol.

Mae’r Ddeddf yn pennu bod rhaid adeiladu cartref newydd am bob un a werthir (dau am bob un yn Llundain) ond heb unrhyw ofyniad y dylai hynny fod yn ‘debyg am debyg’. Yn llai dadleuol, ceir hefyd:

  • Llai o reoliad ar gymdeithasau tai (rhan o ymateb y llywodraeth i ailddosbarthu)
  • Mesurau i ymdrin â landlordiaid preifat diegwyddor, gyda mwy o bwerau i awdurdodau lleol
  • Diwygiadau i gyflymu a symleiddio cynllunio cymdogaeth a sicrhau bod gan bob awdurdod lleol gynllun lleol.

Dywedodd y gweinidog tai, Brandon Lewis: ‘Bydd ein Deddf Tai a Chynllunio yn helpu’r neb sy’n dyheu am fod yn berchen cartref i wireddu eu breuddwyd.

‘Bydd yn cynyddu’r cyflenwad tai ochr yn ochr â chynyddu perchentyaeth, trwy’r rhaglen adeiladu tai fforddiadwy fwyaf er y 1970au.’

 YR ALBAN

Sturgeon yn addo 50,000 o gartrefi fforddiadwy

Ailategodd Nicola Sturgeon ymrwymiad llywodraeth yr SNP i godi tai cymdeithasol a fforddiadwy yn ei haraith gyntaf i Senedd newydd yr Alban.

Yn etholiadau mis Mai, cafodd ei hailethol yn Brif Weinidog llywodraeth leiafrifol. Dywedodd wrth Senedd newydd yr Alban: ‘Fe sicrhawn y cwblheir o leiaf 50,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y senedd hon – yn cynnwys o leiaf 35,000 ar rent cymdeithasol. Os gallwn fynd ymhellach, fe wnawn. Bydd y tai newydd hyn yn helpu i sicrhau bod cartrefi fforddiadwy, da o fewn cyrraedd unigolion a theuluoedd ledled y wlad.’

‘Ond cynhyrchir buddiannau economaidd hefyd. Bydd eu hadeiladu yn creu gwaith cyfwerth â rhyw 14,000 o swyddi llawn-amser a gwerth ryw £1.8 biliwn o weithgaredd economaidd.’

Mae cynlluniau’r llywodraeth newydd yn cynnwys Mesur Cartrefi Cynnes hefyd, gan elwa ar bwerau sy’n bodoli eisoes i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, a Chynllun Gweithredu Alban Decach i weithredu ar dlodi ac anghydraddoldeb.

Bydd y tymor seneddol hwn yn gweld Llywodraeth yr Alban yn cael pwerau newydd dros nawdd cymdeithasol hefyd. Dywedodd y Prif Weinidog y bydd y gwaith o sefydlu Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol yr Alban yn cychwyn, ac addawodd: ‘Byddwn yn dileu’r dreth stafell wely, byddwn yn newid sut y gellir talu’r credyd cynhwysol, yn ymestyn taliadau tanwydd gaeafol i deuluoedd â phlant difrifol o anabl, a byddwn yn adfer yr hawl i gymorth tai i rai 18-21 oed yn ein gwlad.’

GOGLEDD IWERDDON

Llywodraeth newydd yn targedu ‘straen tai’

Bydd llywodraeth newydd Stormont yn gweithio i gynyddu’r cyflenwad o dai addas er mwyn lleihau ‘straen tai’ o dan ei Drafft o Raglen ar gyfer Fframwaith Llywodraeth 2016 i 2021.

Mae ‘straen tai’ yn cyfeirio at ymgeiswyr ar y rhestr aros am dai cymdeithasol sydd â 30 neu fwy o bwyntiau o dan y cynllun dethol cyffredin. Dengys y stategau diweddaraf 39,000 o deuluoedd ar restr Gweithrediaeth Dai Gogledd Iwerddon, gyda 22,000 ohonynt mewn straen tai. O blith y rheini, mae 11,000 yn statudol ddigartref.

Dywed y Fframwaith bod y dangosyddion hyn yn bwysig oherwydd: :‘Mae cymdeithas deg â chymunedau cryf, hydwyth yn ateb anghenion tai ei holl ddinasyddion, yn cynnwys y mwyaf diymgeledd. Mae hyn yn golygu sicrhau cyflenwad o dai addas trwy ymateb i’r dangosyddion twf tai, gwella’r cyflenwad o dai cymdeithasol ar gyfer y rhai mwyaf anghenus, a mynd i’r afael â chyflwr tai. Bydd methu ymdrin â’r problemau craidd hyn yn effeithio ar yr economi ehangach (adeiladu, prisiau tai, ac ati) ac ar y mwyaf diymgeledd. Mae’r rheini sydd heb lety sefydlog yn llai abl i gyfrannu at yr economi ac elwa ar gyfleoedd gwaith neu hyfforddiant. Maent hefyd yn debycach o ddioddef iechyd gwael.’

LLYWODRAETH CYMRU

Carl Sargeant yn dychwelyd i’r swydd dai

Penodwyd y cyn-weinidog tai, Carl Sargeant, yn ysgrifennydd y cabinet dros gymunedau a phlant yn Llywodraeth newydd Cymru yn sgil etholiadau’r Cynulliad.

Bu’r AC dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn weinidog tai ac adfywio poblogaidd o Fawrth 2013 tan fis Medi 2014 cyn mynd yn weinidog adnoddau naturiol. Mae’n disgrifio’i flaenoriaethau yn ei swydd newydd ar dudalen 15 o’r rhifyn hwn.

Aeth y cyn-weinidog cymunedau a threchu tlodi, Lesley Griffiths yn ysgrifennydd y cabinet dros yr amgylchedd a materion gwledig.

Mae’r penodiadau’n dilyn etholiadau’r Cynulliad ym Mai a’r negydu rhwng y pleidiau a welodd Lafur yn ffurfio llywodraeth gyda 29 o’r 60 o seddi Cynulliad, un yn llai nag o’r blaen. Enillodd Plaid Cymru 12 (un yn fwy), y Ceidwadwyr 11 (tair yn llai), UKIP saith (saith yn fwy) a’r Democratiaid Rhyddfrydol un (pedair yn llai).

Ymunodd y Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams â’r llywodraeth Lafur fel ysgrifennydd y cabinet dros addysg wedi Cytundeb Blaengar rhwng y ddwy blaid i weithio gyda’i gilydd mewn llywodraeth. Mae’r cytundeb yn cynnwys dwy o flaenoriaethau allweddol ei phlaid ar dai: cyllido 20,000 o dai fforddiadwy, a model tai ‘Rhentu i Berchenogi’ newydd.

Addawodd Carl Sargeant i ddarparu 20,000 arall o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn, pan ymwelodd â datblygiad Hen Orsaf Dân Bargoed United Welsh ym mis Mehefin.

Penodiadau eraill y Prif Weinidog yn ysgrifenyddion cabinet a gweinidogion oedd:

  • Ken Skates –economi a seilwaith
  • Vaughan Gething – iechyd, llesiant a chwaraeon
  • Mark Drakeford – cyllid a llywodraeth leol
  • Jane Hutt – Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip
  • Julie James – gweinidog dros sgiliau a gwyddoniaeth
  • Alun Davies – gweinidog y Gymraeg a dysgu gydol oes
  • Rebecca Evans – gweinidog iechyd y cyhoedd a gwasanaethau cymdeithasol

Cyhoeddi gwerthusiad o dai cydweithredol

Mae gwerthusiad gan Lywodraeth Cymru wedi ymateb yn bositif i ddatblygiadau tai cydweithredol yng Nghymru.

Astudiodd y gwerthusiad, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Mawrth, wyth cynllun dan arweiniad dinasyddion, a ysgogwyd gan aelodau o’r cyhoedd yn hytrach na sefydliad, ac wyth dan arweiniad cymdeithasau tai. Dylai dau o’r cyntaf a chwech o’r cynlluniau dan arweiniad LCC fod yn barod erbyn diwedd 2016.

Roedd aelodau o fentrau cydweithredol yn yr ymchwil yn dod o’r sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru:

  • Barhau i gefnogi cynlluniau LCCiaid – gall offeryn ariannol fel benthyciad neu grant i wrthbwyso costau tymor byr annog mwy o gyfranogiad gan gymdeithasau tai
  • Codi ymwybyddiaeth am dai cydweithredol a deall pwysigrwydd ‘ffactorau gwthio’ – er enghraifft, y cymhellion i aelodau cydweithredol gyfranogi
  • Ystyried a yw’r contract cefnogi yn cynnig y sgiliau sydd eu hangen ar grwpiau dan arweiniad dinasyddion – er enghraifft, efallai bod diffyg sgiliau o ran codi arian ar y cyd, caffael tir a gweinyddu
  • Helpu cynlluniau dan arweiniad dinasyddion i ganfod partneriaid – gall fod mai’r ffordd orau o ymdrin â rhai problemau a wynebir yw trwy gydweithio â datblygwyr neu LCCiaid
  • Parhau i fonitro’r cynlluniau tai yn erbyn y mesurau llwyddiant – roedd rhai’n dal yn eu llencyndod, a dylai’r Grŵp Rhanddeiliaid fonitro cynnydd.

Mae crynodeb o’r adroddiad llawn ar gael yn: www.gov.wales/statistics-and-research/evaluation-co-operative-housing-developments/?lang=cy

Ymgynghoriadau

CYMRU

Y gwanwyn yn dod â newidiadau i gymdeithasau Cymru

Gwelodd y tri mis diwethaf newid yn rhengoedd uchaf cymdeithasau tai Cymru.

Ym mis Ebrill, lansiwyd Grŵp Pobl yn sgîl y trafodaethau cyfuno rhwng Seren a Gwalia a drafodwyd yn WHQ 100, gydag Amanda Davies yn brif weithredydd a’r Athro Andrew Davies yn gadeirydd.

Yn yr un mis, cyhoeddodd Tai Cantref bod trafodaethau ar y gweill gyda Chymdeithas Tai Wales & West ynglŷn â chynlluniau i gyfuno. Penderfynodd Cantref ddod o hyd i bartner i gyfuno ag ef yn sgîl arolwg o’i weithrediadau a’i lywodraethiad a wnaed ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Dywedodd bod sefydliadau ledled Cymru wedi mynegi diddordeb, ond mai Wales & West oedd ei bartner dewisol.

Yn ddigon priodol, ar Galan Mai yr aeth Cartrefi Cymoedd Merthyr yn fenter gydfuddiannol tenantiaid a gweithwyr gyntaf Cymru. Fel yr adroddodd WHQ101, mae’r cam yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig hanesyddol ym mis Tachwedd 2015. Ym mis Mai hefyd, penododd Cartrefi RhCT Paul Davies yn brif weithredydd newydd, i gychwyn yn yr hydref. Paul yw cyfarwyddwr eiddo ac asedau Tai Cymuned Tai Calon, a chyn hynny bu’n brif weithredydd Cheltenham Borough Homes yn Lloegr.

‘Gwn fy mod yn ymuno â’r sefydliad ar adeg ddiddorol iawn i Gartrefi RhCT ac i’r maes tai yng Nghymru’, meddai. ‘Rwy’n edrych ymlaen at fwrw ati â’r gwaith a dod i ddeall y bobl, y llefydd a’r cyfleoedd sy’n gwneud Cartrefi RhCT yr hyn ydyw heddiw.’

Ym Mehefin, penododd Tai Calon Joe Logan yn brif weithredydd. Yn brif weithredydd Poole Housing Partnership ar hyn o bryd, bydd yn dod i’r swydd yn y misoedd nesaf. Meddai: ‘Bwriadaf ddefnyddio fy mhrofiad mewn adfywio ardal strategol i weithio ar y cyd â budd-ddeiliaid fel y gall Tai Calon chwarae rhan allweddol mewn datblygu gwasanaethau ehangach, fel addysg, iechyd a chyflogaeth i sicrhau y caiff y weledigaeth gorfforaethol o gymdogaethau sy’n ffynnu lle mae pobl yn falch o fyw ei gwireddu.’

Mae newid ar y gweill ar reng uchaf dwy gymdeithas arall hefyd. Ddiwedd Mai gadawodd Paul Diggory swydd prif weithredydd Tai Gogledd Cymru. Meddai: ‘Penderfynais ers tro y byddai pethau’n newid pan fyddwn yn 60. Dwi ddim am ymddeol ond byddaf yn gweithio ar draws y sectorau tai a menter cymdeithasol ar sail lawrydd, gan neilltuo mwy o amser ar gyfer rhai o’m diddordebau eraill.’ Owen Ingram yw’r prif weithredydd dros-dro nes y recriwtir pennaeth newydd parhaol y disgwylir y bydd yn ymgymryd â’r swydd nes ymlaen eleni.

Yn olaf, cyhoeddodd Anthony Whittaker, prif weithredydd United Welsh, y bydd yn ymadael tuag at ddiwedd y flwyddyn. Wedi 40 mlynedd yn y maes tai, yn cynnwys 23 blynedd wrth y llyw gydag United Welsh, dywedodd ei fod yn credu ei bod yn bryd newid cywair.

Teuluoedd yn dathlu cartrefi fforddiadwy newydd yng nghefn gwlad

Mae menter a lansiwyd gan bartneriaeth o gymdeithasau tai, cynghorau lleol ac awdurdod parc cenedlaethol yn helpu i ddarparu tai fforddiadwy a threchu tlodi mewn ardaloedd gwledig.

Mae hwyluswyr tai gwledig yn helpu teuluoedd i mewn i dai fforddiadwy o ansawdd ac yn aml yn eu helpu i aros yn eu cynefin.

Daw cyllid ar gyfer y fenter oddi wrth Grŵp Cynefin, Cartrefi Conwy a Thai Gogledd Cymru, cynghorau Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Un teulu a elwodd yw Catherine Jones, ei phartner Tony Poulton a’u tri phlentyn. Soniodd Catherine am ei llawenydd wrth ymgartrefu yn ei chartref delfrydol yng Ngwynedd, yng nghalon y gymuned y magwyd hi ynddi.

Symudodd y pâr i mewn i’w cartref tair-llofft ym Mhant yr Eithin, Harlech yr haf diwethaf, ddeng diwrnod cyn dyfodiad eu trydydd plentyn.

Cyn hynny, buasant yn byw mewn fflat ddwy-lofft, laith lle by ei plentyn dwyflwydd oed, Yvonne, yn dioddef o symptomau tebyg i asthma.

Meddai Catherine, 27, gweithreg siop yn Harlech: ‘Mae’n cartref yn wych, fedren ni ddim gofyn am le gwell. Dwi’n nabod llawer o’nghymdogion gan i ni dyfu i fyny yn yr ardal gyda’n gilydd, ac mae gan bawb deuluoedd ifanc felly gallwn helpu’n gilydd.

‘Mae’r merched wrth eu bodd hefyd gan fod cymaint o le, ac mae ganddyn nhw ardd nad oedd gynnon ni o’r blaen. Mae yna le diogel hefyd lle gall yr holl blant chwarae gyda’i gilydd.’

‘Mae’n biliau’n llawer rhatach hefyd. Yn y fflat roedden ni’n talu £50 yr wythnos mewn trydan. Yn fuan wedi i ni symud yma cawsom fil am £40 am chwe wythnos, ac roedden ni’n credu ei fod yn gamgymeriad!’

‘Does dim asthma ar Yvonne rwan – dwi’m yn credu mai dyna oedd arni, dwi’n credu mai effaith byw mewn lle tamp oedd o.’

Gweithiodd yr hwylusydd tai gwledig gyda’r cyngor bro lleol i ganfod yr angen am dai teuluol trwy arolwg a anfonwyd at bob aelwyd yn yr ardal. Bu’n gweithio wedyn gyda Grŵp Cynefin, Cyngor Gwynedd a Chyngor Tref Harlech i ddatblygu’r safle.

Meddai Arfon Hughes, yr Uwch Hwylusydd Tai Gwledig: ‘Rydym yn wirioneddol falch ein bod, trwy weithio ynghyd â phartneriaid, wedi gallu sicrhau pecyn cyllid sy’n galluogi gwasanaeth yr Hwyluswyr Tai Gwledig i fod ar gael i gymunedau ledled de-orllewin Cymru.’

‘Ein blaenoriaeth yw sicrhau fod tai o fewn cyrraedd pobl mewn ardaloedd gwledig sy’n eu galluogi i aros o fewn cymunedau fel Harlech a chyfrannu. Mae hyn yn bwysig o ran sicrhau dyfodol a chynaliadwyedd hir-dymor cymunedau mewn ardaloedd gwledig ledled gogledd Cymru.’

Menter gymdeithasol biometreg yn anelu am dwf

Menter technoleg fiometrig newydd ei sefydlu o Abertawe yw’r fenter gymdeithasol gyntaf i ymuno â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.

Sefydliad nid-er-elw yw Alpha Trust (Global) Cyf. sydd wrthi’n creu gwaith ar gyfer tîm o bobl ag anableddau dysgu o’r enw Y Cydosodwyr. Mae’r tîm yn adeiladu ac yn gwneud profion ar nwyddau biometrig a’u hanfon allan, gan ddod â thechnoleg olion bysedd i ddrysau cartrefi ledled Cymru. Bydd y rhaglen yn darparu pecyn cefnogi i helpu’r tîm i ymgysylltu â chymdeithasau tai, landlordiaid cymdeithasol a chynghorau Cymru. Byddant yn eu hannog i ddechrau defnyddio technoleg fiometrig a allai gynyddu diogelwch tenantiaid ac arbed miloedd o bunnau bob blwyddyn.

Bydd y gefnogaeth yn rhoi’r cyfle i’r Cydosodwyr fanteisio at wasanaethau cynghori proffesiynol i gefnogi twf y cwmni a phosibiliadau allforio. Yr ymgynghorwyr Asiant Capital, sydd â phrofiad o helpu cwmnïau trydydd-sector i dyfu ac ehangu ei gweithrediad, sy’n darparu’r cyngor hwn.

Meddai sylfaenydd yr Alpha Trust, Devi Sohanta: ‘Dwi’n credu y gall y dechnoleg hon newid bywydau. Mae biometreg yn hawdd ei defnyddio ac yn hynod ddiogel, sy’n ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer cartrefi gofal ac eiddo cymdeithasau tai. Arbrofwyd â’r dechnoleg gyda thenantiaid Cymdeithas Tai’r Teulu, Grŵp Tai’r Arfordir a Gwalia. Gosodwyd yr uned Connective Touch Flexi a chafodd y tenantiaid, a oedd oll ag anableddau dysgu, ei bod yn hawdd iawn ei defnyddio a theimlent yn fwy diogel â’r ddyfais ar eu drws.’

‘Bob tro y bydd tenant cymdeithas tai yn colli allwedd, neu’n symud allan o eiddo, tanseilir diogelwch y cartref. Mae rheoliadau adeiladu newydd a menter Secured by Design yr heddlu yn golygu nad yw mor syml â newid clo bellach. Rhaid gosod drws a chlo newydd. Mae technoleg olion bysedd yn newid hyn i gyd. Does dim allwedd i’w cholli, a phan fydd tenant yn symud, does ond rhaid dileu’r hen fanylion ac ychwanegu manylion y tenant newydd. Mae biometreg, sy’n defnyddio olion bysedd i ddatgloi drysau, yn ateb cyflym, tra diogel a pharhaol sy’n gwneud bywyd yn haws i denantiaid a chymdeithasau tai.’

Gweledigaeth £20 miliwn Conwy ar gyfer cartrefi newydd

Dadlennodd Cartrefi Conwy gynlluniau uchelgeisiol i godi mwy na 300 o gartrefi newydd ledled gogledd Cymru, yn cynnal cannoedd o swyddi.

Yn ogystal â darparu tai cymdeithasol, mae Cartrefi Conwy bellach hefyd yn adeiladu o’r newydd ac yn ailwampio tai fforddiadwy lle mae’r rhenti 20% yn is na’r gyfradd farchnad gyfredol.

Datgelwyd y newyddion gan David Kelsall (yn y llun), rheolydd datblygu a busnes newydd Cartrefi Conwy, tra’n siarad ar safle ei ddatblygiad £3.4 miliwn yn Llanfairfechan, lle mae’r adeiladu 28 o gartrefi newydd, yn cynnwys tai a fflatiau, o gwmpas cul-de-sac tirluniedig yn Ffordd Penmaenmawr. Bydd pump o’r unedau ar gael ar lefel rhent canolradd sy’n golygu y bydd rhenti 20 y cant yn is na’r gyfradd farchnad gyfredol yng Nghonwy.

Mae’r cyfleoedd cyflogaeth yn cael eu cefnogi mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru, gyda rhan o’r cyllid yn dod o’r Grant Tai Cymdeithasol.

Meddai David Kelsall:

‘Mae cynllun Llanfairfechan yn rhan o’n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, a sicrhawyd £5 miliwn ychwanegol yn ddiweddar oddi wrth ein cyllidwyr er mwyn gwireddu ein gweledigaeth.’

‘Mae gennym bellach fwy nag £20 miliwn ar gael ar gyfer datblygu fel rhan o’n cynllun busnes pum-mlynedd. Gyda chyllid grant ychwanegol, gallai’r ffigwr hwn ddyblu bron, a gallai hynny olygu ychwanegu mwy na 300 o gartrefi newydd a chartrefu bron 1,000 o bobl.’

 Cymorth tai? Mae ap ar gyfer hynny

Lawnsiodd Shelter Cymru ap newydd o’r enw Cymorth Tai sy’n cynnig cyngor i bobl ar bob math o broblemau tai.

Yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho ar ffonau a thabledi Apple, Android a Windows, mae’n cynnig gwybodaeth a chyngor ar amrywiaeth o broblemau tai a digartrefedd yn cynnwys ôl-ddyledion morgais a rhent, a phroblemau dyled, atgyweirio a thenantiaeth.

Mae’r ap hefyd yn cynnwys gwybodaeth am holl gymorthfeydd Shelter Cymru ledled Cymru a gellir defnyddio’r ap i ddysgu sut i gysylltu’n uniongyrchol, boed ar y ffôn, wyneb-yn-wyneb neu trwy ebost.

Meddai John Puzey, cyfarwyddydd Shelter Cymru: ‘Rydym wrth ein bodd bod ap Cymorth Tai Shelter Cymru ar gael fel adnodd gwybodaeth a chyngor newydd. Caiff llawer hi’n anodd dod o hyd i gyngor rhad ac am ddim ac annibynnol ar broblemau tai a digartrefedd, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’n gwasanaethau. Gobeithio hefyd y bydd yr ap o ddefnydd i bobl sy’n gweithio yn y sector tai – ar flaenau eu bysedd, yn rhad ac am ddim ac ar gael heb fynd ar-lein.’

I lawrlwytho’r ap, ewch i’r App Store a chwilio am Shelter Cymru.

Give & Gain_1

Cymerodd mwy na 120 o staff Cartrefi RhCT ynghyd â chefnogwyr o fusnesau lleol ran mewn digwyddiad gwirfoddoli undydd ledled Rhondda Cynon Taf. Mae Dydd Rhoi ac Ennill Busnes yn y Gymuned yn ddigwyddiad gwirfoddoli Prydeinig a rhyngwladol. Y nod yw gwella golwg cymdogaethau a datblygu’r berthynas rhwng staff y sefydliad tai a thrigolion lleol. Mae’r projectau’n cynnwys gwella cyfleusterau chwaraeon, gofodau glas ac ysgol ynghyd â Dydd Chwyldro Bwyd, menter bwyta iach mewn pum ysgol. Roedd AC y Rhondda, Leanne Wood (yn y llun) yn bresennol yn y digwyddiad yn y Maerdy.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »