English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Ble nesa gydag ‘adfywio’?

Duncan Forbes yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol CREW a’i swyddogaeth mewn adfywio o dan arweiniad y gymuned.

Gyda llywodraeth newydd wedi ei hethol i Gymru, mae’n adeg briodol i fyfyrio am ennyd ar ddulliau cyfredol o fynd ati, gan ofyn ai nhw yw’r ateb ar gyfer mwyafrif pobl a chymunedau Cymru, a dweud mwy wrthoch ynglŷn â dyfodol CREW, a pham mae’n bwysig.

Ychydig cyn etholiadau’r Cynulliad, roedd dathlu eang ynglŷn â sicrhau Bargen Ddinesig Caerdydd ar gyfer Cymru. Yn ne Cymru, gwelir y buddsoddiad seilwaith yn ffordd liniaru’r M4, deuoli Ffordd Blaenau’r Cymoedd, a thrydaneiddio rheilffyrdd y cymoedd oll fel ffyrdd o hybu economi Cymru. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd ffocws gweinidogion, uwch-gynghorwyr ac uwch-swyddogion llywodraeth Cymru a llywodraeth leol ar y cynlluniau mawr hyn. Fel pob cynllun mawr, byddant yn magu eu momentwm eu hunain, gyda gormod wedi ei fuddsoddi eisoes i neb fedru cwestiynu a ddylent fynd yn eu blaen neu a fyddant yn darparu’r atebion. Yn wir, caiff y cwestiynau gwreiddiol yn aml eu hanghofio wrth ddathlu’r llwyddiant.

Felly, beth yw’r cwestiynau y dylem fod yn eu gofyn? Y cyntaf yw a fydd y cynlluniau hyn o fudd i economi Cymru. Dichon bod achos cryf o’u plaid ar y sail yma, ar yr ystyr y gall y wlad elwa o ran cynnydd yn ein CMC (GDP) cenedlaethol. Yr ail gwestiwn, llawn mor bwysig, yw a fydd y buddiannau economaidd hyn yn cael eu rhannu ar draws cymunedau Cymru ac ymhlith pobl Cymru. Mewn geiriau eraill, a fydd incwm aelwydydd yn cynyddu o ganlyniad i hyn, a pha beth a welir gan bobl yn deillio o’r mentrau hyn? Yn y fan hon, does nemor ddim tystiolaeth. Fel y dywed y Dr Mark Lang mewn arolwg diweddar o Fetro Caerdydd ar gyfer Ffederasiwn y Busnesau Bychain: ‘Mae’r amlygiad . . . yn debyg o ddilyn blaenoriaethau’r rhesymeg dra-arglwyddiaethol, a gall fethu cyfleoedd pwysig i dyfu economïau lleol a dosbarthedig ledled de-ddwyrain Cymru.’ (Lang, 2016) Mae’r cynlluniau hyn yn mynd rhagddynt yn hyderus ar y sail y bydd yr effeithiau’n ‘llifo i lawr’: y gwir amdani yw bod llawer o gymunedau ac aelwydydd yng Nghymru wedi gweld yr effeithiau’n ‘llifo heibio’ iddynt, a hwythau heb elwa nemor ddim ar y llu o fentrau adfywio economaidd.

Ledled Cymru, mae cymunedau’n dirywio neu’n dechrau dirywio. Gwelir hyn mewn trefi gwledig a glan-môr, pentrefi cefn gwlad, cymunedau Blaenau’r Cymoedd a chymunedau canol-dinas. Mae arian yn cael ei sugno allan o gymunedau trwy doriadau mewn budd-daliadau, mae cludiant yn mynd yn fwy anodd, mae swyddi’n pelláu. Mae’r ffigyrau wedi eu cuddio mewn tueddiadau poblogaeth oherwydd dim ond y ffigyrau fesul awdurdod lleol a ddangosir, ond rydym yn eu gweld yn y gostyngiad cyson yn y niferoedd sydd am fyw mewn tai cymdeithasol yn rhai o’n cymunedau.

Ochr yn ochr â hyn, mae llawer o aelwydydd unigol eisoes dan bwysau gwirioneddol. Mae’r dreth stafell wely eisoes wedi gorfodi pobl i ddewis rhwng gwresogi a bwyta. Bydd y terfyn is ar fudd-daliadau, dileu budd-dâl tai ar gyfer rhai o dan 21, a’r terfyn ar renti cymdeithasol ar lefelau lwfans tai lleol yn cynyddu’r nifer yr effeithir arnynt yn aruthrol. Rydym yn gweld llawer o bobl ag iselder lefel-isel a phroblemau iechyd meddwl sydd, dim rhyfedd, wedi eu gorlethu gan eu hamgylchiadau.

Mae arnom angen strategaeth adfywio newydd ar gyfer Cymru sy’n dadansoddi’r data a’r tueddiadau hyn a’n galluogi i ddeall yn drylwyr effeithiau lleol unrhyw newidiadau yn yr hinsawdd economaidd. Dylai ein galluogi i weithio gyda phobl leol i ddatblygu cynlluniau lleol ar gyfer adfywio, a chynnig atebion lleol. Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, dylai sicrhau bod llais cymunedau yn cael ei glywed a’i adlewyrchu o’r dechrau wrth gynllunio unrhyw fentrau seilwaith cenedlaethol, i sicrhau bod rhannu’r buddiannau yn eang yn un o amcanion allweddol y fenter o’r cychwyn cyntaf.

Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o waith Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru (CREW) www.regenwales.org/w-index.php Tan yn ddiweddar, fe’i cyllidwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Ym mis Ebrill, aeth Bron Afon, Grŵp Tai’r Arfordir a Chartrefi Conwy yn gyfranddalwyr CREW a’r Bwrdd. Gwnaethom hyn nid am ein bod yn credu mai mater yn ymwneud â thai yn unig yw adfywio (dydyn ni ddim yn credu hynny), ond am fod goroesiad ein tenantiaid a’n sefydliadau yn dibynnu ar gynaliadwyedd cymunedau ledled Cymru yn y dyfodol. Mae’n tai wedi eu lleoli yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig sy’n wynebu’r her fwyaf. Rydym am i CREW ddychwelyd at ei wreiddiau, fel mudiad sy’n gweithio gyda chi a phartneriaid eraill o bob sector i ddatblygu a rhannu’r arfer adfywio gorau o dan arweiniad cymunedau, wedi ei seilio ar y dystiolaeth ac wedi ei ddarparu’n lleol, yn elwa ar syniadau ac arbenigedd ymarferwyr ac ymchwilwyr academaidd o bedwar ban. Dwi am i CREW lefaru dros ddull amgen o fynd ati.

Duncan Forbes yw prif weithredydd Tai Cymuned Bron Afon ac un o gyfarwyddwyr CREW

Lang, M. (2016) On the right track? A consideration of the potential local and socio-economic impacts of the proposed Cardiff Capital Region Metro. Ffederasiwn Busnesau Bychain Cymru.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »