Yn y rhuthr at Gytundebau Dinas a Phŵerdy Gogledd Lloegr, sut y gall sefydliadau tai lleol bychain a’u gweithwyr a’u tenantiaid barhau fod â llais yn eu dyfodol? Dyma Mike Owen and Gareth Swarbrick yn dadlau achos mentrau cydweithredol.
Cyhoeddodd Cyllideb 2016 George Osborne gytundeb Prifddinas-ranbarth newydd gwerth £1.2 biliwn ar gyfer Caerdydd a’i pherfeddwlad. Mae de Cymru yn dilyn arweiniad Manceinion Fwyaf trwy greu cytundeb datganoli dinas-ranbarth.
Rhoddir mwy o ryddid a hyblygrwydd i ddeg awdurdod lleol, o Ben-y-bont hyd at Drefynwy a’r cymoedd i dyfu’r economi leol. Nod arfaethedig llywodraeth y DU yw rhoi i’r dinas-ranbarthau hyn y pŵer a’r hyblygrwydd i ddatblygu eu dulliau ei hunain o ysgogi twf economaidd ar draws clymdrefi a thrwy hynny wrthbwyso pŵer economaidd Llundain a de-ddwyrain Lloegr.
Manceinion Fwyaf a’r Pŵerdy Gogleddol bondigrybwyll sydd ar y blaen o blith rhanbarthau Lloegr, gyda thrydydd cytundeb datganoli newydd ei gyhoeddi yng Nghyllideb y Canghellor yn ogystal â datganoli cyllideb iechyd a gofal cymdeithasol gwerth £6 biliwn y flwyddyn y llynedd.
Her aruthrol i’r dinas-ranbarthau hyn yw parhau i ysgogi twf economaidd tra’n sicrhau bod y rhanbarth ehangach yn elwa, ac nad yw trefi, cymdogaethau a phobl yn cael eu gadael ar ôl. Mae’r symiau a grybwyllir yn anferth ac i Gymru, dichon bod cymaint â £3 biliwn o dan ystyriaeth. Yr her i gymdeithasau tai yw bod â chynllun cydlynol i’w gynnig i’r llywodraeth ganol a’r penderfynwyr allweddol – bod yn rhan o’r newid. Mae hynt y cytundebau arfaethedig hyn mewn termau polisi a llywodraethiant yn frawychus o gyflym. Yn ne Cymru mae’r cynigion yn cael eu datblygu gan arweinwyr awdurdod lleol pwerus sy’n tynnu cynghorau a chynghorwyr ar eu hôl. Ni all neb fforddio peidio â bod yn rhan o hyn ond pa beth a all cymdeithasau tai cymharol fychan a lleol ei gynnig?
Diben mentrau cydfuddiannol Cartrefi Cymoedd Merthyr a Rochdale Boroughwide Housing oedd i bobl ddechrau cymryd rheolaeth yn ôl, gyda thai yn fan cychwyn. Felly ble mae’r mudiadau sy’n cynnwys rheolaeth leol a ffordd newydd o weithredu yn ffitio? Sut y gallant gynnig unrhyw beth i gytundeb dinas-ranbarth sgleiniog â phatrymau economaidd newydd? Sut y gallant gynnig mwy o berchenogaeth tai? Sut y gallant weithio gyda rhanbarthau mawr sy’n dymuno gweithio gyda sefydliadau sy’n fodlon mentro a sefydliadau tai mawr ag adnoddau dilyffethair wrth gefn a sylfaen gref o asedau?
Mae yna debygrwydd diamheuol rhwng Manceinion Fwyaf a rhanbarthau cymoedd de Cymru. Mae Caerdydd a Manceinion ill dwy yn ddinasoedd cryf, llewyrchus gyda thwf mewn cyflogaeth, masnach ac eiddo yn y ddwy ardal ddinesig. Bu ffrwydrad o adeiladu fflatiau a datblygiadau masnachol ynddynt tra bod eu perfeddwlad yn dal i fod â phroblemau. Mae hyn yn arbennig o wir am y bwrdeistrefi hynny ar draws cylchran ogleddol Manceinion Fwyaf. Gallai Rochdale a Merthyr Tudful fod yn efeilldrefi.Yn Rochdale y ganed y mudiad cydweithredol a Merthyr oedd cartref y mudiad llafur, ill dwy yn eu hanterth yn drefi diwydiannol cryf. Ac y maent ill dwy o fewn taith gymudo fer o ganol y dinasoedd mwy.
Mae’n amlwg na fydd gan Drysorlys dan arweiniad George Osborne ddiddordeb mewn cynigion gan gymdeithasau tai o fwy o lety ar rent, i gymryd lle eiddo hŷn darfodedig, neu hyd yn oed Grant Tai Cymdeithasol uwch i ysgogi projectau lleol. Mae eisiau cynigion newydd, gan ragweld y twf economaidd hwn yn cael ei ddarparu trwy economi nad yw’n ddibynnol ar y wladwriaeth, a lle mae lefelau budd-dal yn amherthnasol gan fod pawb yn gweithio. Rhaid i ddarparwyr tai ymateb i hynny, ond mewn ffyrdd a fydd yn cynhyrchu canlyniadau go iawn yn eu bröydd, ac ar gyfer y cymunedau a wasanaethir ganddynt.
Un o’r datbygiadau pwysicaf yn llywodraethiant cymdeithasau tai yn y blynyddoedd diwethaf oedd ymddangosiad model cydfuddiannol newydd – sy’n dwyn tenantiaid a gweithwyr ynghyd fel cyd-berchenogion. Arloeswyd yn hyn o beth yng Nghymru gan Gartrefi Cymoedd Merthyr a ddilynodd yn ôl-troed Rochdale Boroughwide Housing. Mae a wnelo’r dull cydfuddiannol hwn o drefnu yn y maes tai â dileu’r rhwystrau rhwng darparydd a derbynnydd, a datblygu model economaidd newydd lle mae tenantiaid a gweithwyr cyflog yn rhannu pŵer ac yn gweithio ynghyd i gyflawni nodau ac amcanion cyffredin.
Penderfynodd Cartrefi Cymoedd Merthyr fynd yn gorff cydfuddiannol am yr union reswm hwn. Mae cymaint o aelwydydd ymhell o fod â rheolaeth dros eu bywydau. Yn achos rhai, gwneir pob penderfyniad drostynt, o iechyd, trwy addysg, hyd at les a thai. Efallai mai ‘o’r crud i’r bedd’ a seiniai’r utgorn wedi’r rhyfel, ond mae llawer o bobl wedi ymddieithrio oddi wrth y wladwriaeth ac oddi wrth gymdeithas. Dydyn nhw ddim yn ei gweld fel gwladwriaeth sy’n gweithio drostynt. Maent heb lais mewn cyfundrefn sy’n rheoli eu bywydau. Mae Merthyr yn newid, gyda mwy o denantiaid oed-gwaith yn rhai mewn swyddi ond yn derbyn budd-dal nag o rai sy’n ddi-waith.
Aeth Rochdale Boroughwide Housing yn gydfuddiannol yn 2012. Mae’n gweithio gyda dros 20 o ddarparwyr tai eraill ym Manceinion Fwyaf i lunio a helpu i ddarparu eu ffordd o fynd i’r afael â thwf a diwygio gwasanaethau cyhoeddus. Mae darparwyr tai yn gweithio gydag Awdurdod Cyfunedig Manceinion Fwyaf ar Femorandwm o Ddealltwriareth sy’n egluro sut y mae hyn i ddigwydd. Yn y cyd-destun hwn, mae Rochdale Boroughwide Housing yn ceisio cryfhau ei swyddogaeth fel mudiad angori cymunedol, gan ailategu ei ymrwymiad i Rochdale – y bobl a’r lle. Mae’n golygu gofyn cwestiynau dwys parthed sut y gall Rochdale Boroughwide Housing, mewn cyfnod anodd a llym, wneud y cyfraniad gorau posibl ar lefel leol tra’n cynnig rhywbeth i ddatblygiadau ledled Manceinion Fwyaf. Tenantiaid ac aelodau cyflogedig yn Rochdale sydd wrth galon y drafodaeth hon – sy’n digwydd wrth iddynt gwtogi ar eu costau rhedeg blynyddol o £6 miliwn wedi’r toriad rhent 4-blynedd a orfodwyd arnynt gan y llywodraeth ganol.
Un o’r gwersi sydd wedi deillio o dwf economaidd Llundain yw nad yw wedi bod yn unffurf, ac nad yw pob cymuned wedi elwa. Mae gan lawer o fwrdeistrefi Llundain ardaloedd lle mae tlodi ac amddifadedd yn dal i fod gyda’r uchaf yn y DU. Mae felly o bwys hanfodol bod pobl sy’n byw a gweithio yn y cymunedau sydd bellaf oddi wrth economïau newydd y dinas-ranbarthau yn cael y cyfle gorau. Un o beryglon datganoli lleol yw bod twf wedi ei gydgrynhoi yng nghanol y dinasoedd a bod anghydraddoldeb, o ganlyniad, yn cynyddu.
Mae tenantiaid a gweithwyr ym Merthyr yn dylunio’u gweledigaeth gorfforaethol newydd eu hunain; fel yn Rochdale, y nod fydd ceisio pontio’r bwlch rhwng atebion marcroeconomig oddi uchod, a rhoi rheolaeth i bobl leol. Mae gan Gartrefi Cymoedd Merthyr dystiolaeth eisoes y denir budsoddi i mewn yn gyflymach pan fudsoddir yn ein cymdogaethau. Yn y pum mlynedd diwethaf, cynyddodd prisiau tai mewn cymunedau fel Gellideg, Trefechan, Mandeg a’r Gurnos oll bron ddwywaith cyn gyflymed â’r gyfradd ar gyfer y bwrdeistref. Mae RBH yn gweithio’n galed i sicrhau bod ei raglenni buddsoddi yn cefnogi buddsoddi economaidd ehangach, yn enwedig yng nghanol Rochdale ei hun.
Ym Merthyr a Rochdale, mae’r ffordd gydfuddiannol newydd hon o weithredu yn gyfle i bontio’r bwlch rhwng y rhanbarth a’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn rhai o’r cymdogaethau mwyaf anodd. Gyda’i gilydd, bydd tenantiaid a staff cyflogedig yn dal i ddylunio rheolaeth leol well a mwy effeithlon, dylanwadu ar fuddsoddi cyfalaf, a sicrhau bod buddsoddi mewnlifol yn parhau i ychwanegu gwerth. Byddant yn parhau i gysylltu hyfforddiant a phrentisiaethau â’r bobl a fydd yn elwa fwyaf arnynt. Gall mentrau cydfuddiannol nid yn unig helpu i bontio’r bwlch ond gallant hefyd sicrhau bod llais eu haelodau’n cael ei glywed ar y lefel dinas-ranbarth newydd hwn.
Mike Owen yw prif weithredydd Cartrefi Cymoedd Merthyr a Gareth Swarbrick yw prif weithredydd Rochdale Boroughwide Housing. Byddant yn siarad yn sesiwn ‘Our mutual friends – co-operative and mutual housing’ ar ddiwrnod cyntaf TAI