English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol

Ar ôl i nifer dda fynychu rali Cartrefi i Gymru ym mis Mawrth, mae llygaid pawb bellach ar etholiadau’r Cynulliad ar Fai y 5ed.

Fel y noda WHQ, cymerodd cannoedd o gefnogwyr ran yn y rali yn y Bae a’r orymdaith i ganol y ddinas i alw ar y llywodraeth nesaf i gynhoeddi cynllun uchelgeisiol ar gyfer tai, ac adeiladu Cymru gryfach.

Roedd y digwyddiad yn fwy amlwg ac yn agosach at y cyhoedd na’r rali Cartrefi i Brydain a gynhaliwyd cyn etholiad San Steffan y llynedd, a gobeithio y bydd y canlyniadau’n wahanol hefyd. Canlyniad y bleidlais honno oedd llywodraeth Geidwadol y cred llawer ei bod â’i bryd ar ddatgymalu tai cymdeithasol yn Lloegr. Diolch byth, mae gwleidyddiaeth Cymru’n fwy cydsyniol fel y dangosodd yr atebion a roddwyd gan y prif bleidiau i’r cwestiwn: ‘sut y byddai’ch plaid chi yn datrys argyfwng tai Cymru?’

Gan aros gyda’r etholiad, mae Steve Clarke o Denantiaid Cymru yn galw am raglen fwy beiddgar ar gyfer tai, tra bod gan Robin Staines o Arweinyddiaeth Tai Cymru faniffesto amgen na fydd yn costio’r un geiniog.

Mae’r rhifyn hwn o WHQ hefyd yn cynnwys rhagolwg ar TAI 2016. Am flas ar yr hyn y dylech edrych allan amdano yng nghynhadledd eleni yn Stadiwm SWALEC o Ebrill 26-28, gweler:

  • Mike Owen a Gareth Swarbrick ar y dewis cydweithredol
  • Serena Jones ar sut mae rhannu data yn helpu Tai Arfordirol i gefnogi ei denantiaid
  • Lisa McKenzie yn rhoi llais i drigolion stad warthnodedig yn Nottingham allu adrodd eu hanes eu hunain
  • Kellie Beirne yn egluro’r syniad y tu ôl i Gytundeb Dinas Prifddinas-ranbarth Caerdydd

Mae Rebecca Jackson a Peter Mackie yn cymryd golwg hirdymor ar ddigartrefedd hefyd, tra bod Victoria Winckler yn edrych ar ddyfodol y gyfundrefn les yng Nghymru.

Dywed Helen White, cadeirydd Bwrdd Rheoleiddio annibynnol newydd Cymru, bod gan y sector gyfle gwirioneddol i feddwl yn wahanol ynglŷn â’r cyfraniad y gall rheoleiddio ei wneud o ran cynnig gwell gwerth am arian i denantiaid a chymunedau.

Gweler hefyd erthyglau ar yr angen am well data tai a chymhlethdod cynnwys amcanestyniadau tai mewn Cynlluniau Datblygu Lleol, ar yr hyn y gall yr Alban a Chymru ei ddysgu gan ei gilydd am gynhwysedd digidol, ac ar gynlluniau uchelgeisiol Sir Gâr ar gyfer cartrefi fforddiadwy.

Ceir y cwbl uchod a llawer mwy yn y rhifyn hwn o WHQ, yn cynnwys ein holl erthyglau nodwedd rheolaidd. Edrychaf ymlaen at weld llawer ohonoch yn TAI.

Jules Birch

Golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »