DATBLYGIADAU POLICI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU
Y DU
ASau Cymreig benben â’i gilydd ar waith a phensiynau
Aeth Stephen Crabb yn ysgrifennydd gwaith a phensiynau yn dilyn ymddiswyddiad dramatig Iain Duncan Smith.
Cafodd cyn-ysgrifennydd Cymru ac AS Preseli Penfro ei fagu mewn tŷ cyngor wedi i’w fam wahanu oddi wrth ei dad treisgar. ‘Gwelais drosof fy hun fy mam yn mynd o fod yn gwbl ddibynnol ar les – rhywun mewn argyfwng, yn magu tri bachgen ar ei phen ei hun mewn tŷ cyngor, ar ei siwrnai – yn gweithio i ddechrau am bedair neu bum awr yr wythnos, a dyna oedd ei cham yn ôl tuag at fywyd o annibyniaeth economaidd llwyr’ meddai y llynedd.
Gorchwyl cyntaf Crabb oedd datrys yr argyfwng a ysgogwyd gan gynlluniau’r Gyllideb i gwtogi ar fudd-daliadau i bobl anabl.
Mae’r penodiad yn golygu yr arweinir dwy ochr y ddadl ynglŷn â nawdd cymdeithasol a diwygio lles gan ASau Cymreig. Yn wynebu Crabb ar feinciau’r wrthblaid yn San Steffan mae ysgrifennydd gwaith a phensiynau’r wrthblaid, Owen Smith, AS Llafur Pontypridd.
Penodwyd Alun Cairns, AS Ceidwadol Bro Morgannwg, yn ysgrifennydd gwladol newydd Cymru.
Y Trysorlys yn dyblu’r amcangyfrif o effaith y terfyn ar LTLl
Heblaw am y gostyngiad yn nhollau Pont Hafren, y newyddion da i Gymru yng Nghyllideb Mawrth George Osborne oedd na fyddai toriadau newydd mewn budd-dâl tai.
Fodd bynnag, mae manylion yn y dogfennau cefndir yn datgelu bod y Trysorlys bellach yn disgwyl arbed bron ddwywaith cymaint ag a ragwelai o’r terfyn LTLl ar fudd-dâl tai i denantiaid cymdeithasol.
Ar adeg Arolwg Gwariant mis Tachwedd, dywedodd y Trysorlys y byddai’n arbed £515 miliwn trwy’r mesur rhwng 2016/17 a 2019/20. Yr amcangyfrif newydd yw £990 miliwn.
Mae hynny er gohirio’r terfyn ar denantiaethau tai â chymorth newydd am flwyddyn, tra’n disgwyl arolwg tystiolaeth y llywodraeth o’r effaith. Mae hynny’n awgrymu bod y llywodraeth wedi tan-amcangyfrif yn ddifrifol beth fyddai effaith y mesur ar lety â chymorth a thai gwarchod yn ogystal ag ar dai cymdeithasol prif-ffrwd.
Mae arolwg gan Gartrefi Cymuned Cymru (gweler t. 39) yn amcangyfrif bod y rhenti ar fwy na thri-chwarter y tenantiaethau llety penodedig a thraean tenantiaethau tai cymdeithasol yn uwch na’r gyfradd LTLl leol.
Cyfyngir budd-dâl tai pobl sengl o dan 35 mewn tai cymdeithasol i’r gyfradd rhannu-stafell ar gyfer unrhyw denantiaeth newydd neu un a adnewyddir o fis Ebrill ymlaen.
LLOEGR
Arolwg yn dweud yr ataliwyd y gostyngiad mewn perchentyaeth
Prysurodd gweinidogion i groesawu ffigyrau a ddangosai mai 2014/15 oedd y flwyddyn gyntaf er 2003 pan na ddisgynnodd y gyfradd berchentyaeth yn Lloegr.
Dangosodd Arolwg Tai Lloegr hefyd ostyngiad mewn rhentu preifat am y tro cyntaf er 1999, gyda hyd yn oed pobl ifanc 24-34 oed yn gweld newid yn eu hargoelion perchenogaeth.
Croesawodd y gweinidog tai Brandon Lewis y ffigyrau fel tystiolaeth bod y llywodraeth yn ‘newid cyfeiriad y farchnad dai’ gyda pholisïau fel Cymorth i Brynu.
Fodd bynnag, nodwyd gan feirniaid bod y gyfran o bobl yn prynu â morgais yn dal i ddisgyn yn 2014/15. A dadleuent y gallai’r gostyngiad ymddangosiadol adlewyrchu nam yn y ffigyrau, yn sgil cynnydd serth mewn rhentu preifat y flwyddyn flaenorol.
YR ALBAN
Diwygio rhentu preifat
Caiff rhentwyr preifat denantiaethau symlach yn cynnig mwy o sefydlogrwydd a sicrwydd o dan Fesur newydd a basiwyd gan Senedd yr Alban ym mis Mawrth. Dywed Llywodraeth yr Alban y bydd mesurau allweddol yn y Mesur Tai Preifat (Tenantiaethau) (Yr Alban) yn golygu:
- Gwell sicrwydd ar gyfer tenantiaid fel na ellir gofyn iddynt adael eu cartref ddim ond am fod cytundeb tenantiaeth wedi dod i ben
- Rhesymau cadarn a chynhwysfawr dros adfeddiannu sy’n galluogi landlordiaid i adennill meddiant o’u heiddo mewn amgylchiadau rhesymol
- Y cyfle i awdurdodau lleol osod terfynau ar renti mewn ardaloedd lle bu cynnydd gormodol mewn rhenti
- Cyfundrefn fwy syml heb rybuddion cyn-denantiaeth dryslyd, a gyda model o gytundeb tenantiaeth haws-ei-ddeall
Meddai’r gweinidog tai, Margaret Burgess:‘Ymrwymasom i ddatrys problem angen a fforddiadwyedd tai mewn ffyrdd cynaliadwy, tymor-hir. Dywed landlordiaid a thenantiaid ill dau wrthym y bydd y ddeddf newydd hon yn golygu sector modern, cymwys at ei ddiben. Bydd ei fesurau’n sicrhau sector wedi ei reoli’n well, yn symlach, ac yn llwyddiannus ar gyfer pawb yn y sector rhentu preifat. Rwyf wrth fy modd bod y Mesur wedi llwyddo gyda chefnogaeth draws-bleidiol.’
Meddai Jon Sparkes, prif weithredydd Crisis:‘Bydd y mesur hwn yn golygu y gall tenantiaid preifat deimlo’n llawer mwy sicr ynglŷn â chreu cartref, yn enwedig gyda diwedd yr hyn a elwir yn “droi allan heb fai”.’
GOGLEDD IWERDDON
Mesur yn cyflwyno trwyddedu gorfodol ar gyfer TAai
Mae Cynulliad Iwerddon wedi pasio Mesur sy’n rhoi gwell mesurau amddiffyn i denantiaid tai mewn amlfeddiant (TMAai)
Bydd y Mesur Tai mewn Amlfeddiant (TMAai) yn cyflwyno trefn drwyddedu newydd orfodol sy’n mynnu bod landlordiaid yn bodloni safonau ansawdd a diogelwch pwysig cyn gosod TMA. Cyplysir y drefn drwyddedu hon â chynllunio, er mwyn rheoli crynodiadau o TMAai.
Bydd trwyddedu a rheoleiddio yn gyfrifoldeb awdurdodau lleol. Mae’r cynllun trwyddedu gorfodol yn adeiladu ar sail arfer da mewn rhannau eraill o’r DU.
Meddai’r gweinidol datblygu cymdeithasol, yr Arglwydd Lord Morrow: ‘Bydd y drefn reoleiddio newydd hon yn golygu bod gan landlordiad ac asiantiaid sy’n rhentu eiddo gyfrifoldeb cyfreithiol i’r tenantiaid i gadw fflatiau a thai yn ddiogel ac mewn cyflwr da.’
Mae’r rheoleiddio cyfredol yng Ngogledd Iwerddon yn dibynnu ar gamweddau troseddol. Mae’r Mesur newydd yn cynnwys cosbau penodedig o hyd at £5,000 am beidio ag ufuddhau i’r drefn drwyddedu. Yr uchafswm am beidio â bod â thrwydded yw £20,000.
LLYWODRAETH CYMRU
Gallai cytundeb Dinas Caerdydd agor y drws i fwy
Galwodd y Prif Weinidog Carwyn Jones Gytundeb Dinas gwerth £1.2 biliwn ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn ‘hwb economaidd anferthol’.
Mae’r Cytundeb Dinas yn dwyn ynghyd ddeg awdurdod lleol ac yn cynnwys mwy na £500 miliwn o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru tuag at wella isadeiledd trafnidiaeth.
Cadarnhaodd y Canghellor George Osborne gyfraniad llywodraeth y DU o £500 miliwn i gronfa fuddsoddi’r cytundeb. Mae hyn yn cynnwys cefnogi trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd, rhan allweddol o’r project Metro.
Meddai Carwyn Jones: ‘Yr hyn sy’n ganolog i lwyddiant y Cytundeb Dinas yw’r cydweithio clos a’r bartneriaeth rhwng y deg awdurdod lleol. Mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy ddod ynghyd er lles ein Prifddinas-ranbarth.’
Ychwanegodd y byddai’r cytundeb yn agor y drws i rai pellach ar gyfer Cymru. Yn y Gyllideb, dywedodd George Osborne y byddai llywodraeth y DU yn agor trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol ar Gytundeb Dinas arfaethedig ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe a chytundeb twf ar gyfer gogledd Cymru i wella ei heconomi ac elwa i’r eithaf ar ei chysylltiadau â Phŵerdy bondigrybwyll Gogledd Lloegr.
Ffon fesur i werthuso Cymorth i Brynu
Daeth gwerthusiad gan Lywodraeth Cymru o Cymorth i Brynu Cymru i’r casgliad y bu effaith y cynllun benthyciadau ecwiti yn un positif.
Cafodd y gwerthusiad bod 75 y cant o’r rhai a helpwyd yn brynwyr tro-cyntaf. Dywedodd rhyw 89 y cant o’r rhai a holwyd i’r cynllun ddylanwadu arnynt i brynu eiddo, yn cynnwys 84 y cant o brynwyr eildro a nododd eu bod wedi prynu tŷ drutach neu fwy o faint oherwydd y cynllun.
Dywedodd ymchwilwyr bod y dystiolaeth yn arddangos ychwanegedd, o’r safbwynt y prynwyd mwy o eiddo newydd nag a fyddai wedi digwydd heb y cynllun.
Fodd bynnag, roedd rhywfaint o dystiolaeth ei bod hi bellach yn fwy anodd gwerthu ‘tai cychwynnol’ llai o faint, ac awgrymai’r adborth bod lle i wella o ran y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg ac angen hyrwyddo’r cynllun ymhellach ymhlith prynwyr, datblygwyr a chyfreithwyr.
Cyhoeddwyd ail gyfnod Cymorth i Brynu – Cymru, a fydd yn rhedeg tan 2021, ym mis Rhagfyr.
Ymgynghoriadau
- Cynigion yn ymwneud â Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd ar gyfer y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
www.gov.wales/consultations/planning/proposals-relating-to-the-statement-of-public-participation-for-the-national-development-framework/?lang=cy – dyddiad cau Ebrill 25
- Adolygiad Cynaliadwyedd Rheoliadau Adeiladu
www.gov.wales/consultations/planning/building-regulations-sustainability-review/?lang=cy
– dyddiad cau Mai 24
CYMRU
Gwobr Dementia i gartref gofal
Mae staff Gwalia a Seren yn Cwmgelli Lodge wedi rhoi clod i bobl y Coed Duon am eu helpu i sicrhau bod y cyfleuster dementia blaenllaw yn ennill statws Cymuned Dementia-gefnogol.
Datblygwyd cartref gofal cyntaf Cymru ar gyfer pobl iau gan Seren mewn partneriaeth â Gwalia, a chafodd ei gydnabod yn gyhoeddus fel Cymuned Dementia-gefnogol gan Gymdeithas Alzheimer’s.
Mae’r cartref yn darparu dewis amgen, yn lle cartref gofal traddodiadol ar gyfer pobl hŷn, i rai sy’n datblygu dementia yn gynnar (dros 50 oed).
Er mwyn derbyn y wobr, roedd yn rhai i Cwmgelli Lodge ddangos pa gamau a gymerwyd ganddynt i gynyddu ymwybyddiaewth a dealltwriaeth o dementia o fewn y gymuned, dangos sut roedden nhw’n llwyddo i roi llais i rai â dementia, a helpu i nodi beth sy’n gweithio a ble y gellid gwella.
Meddai rheolydd gofal Cwmgelli Lodge, Carole Rees-Williams: ‘Mae’n cymdogion wedi bod yn wych. Maent wedi bod yn gefnogwyr pybyr o’r cychwyn cyntaf. Maent wedi’n cefnogi mewn dyddiau agored a mentrau ymwybyddiaeth lleol ac, yn bwysicach, wedi dilyn cwrs hyfforddiant dementia mewn ymgais i ddeall yn well yr her sy’n wynebu ein preswylwyr yn feunyddiol.’
Llun, o’r chwith i’r dde: Kerry Phelps o Gymdeithas Alzheimer’s, Carole Rees-Williams, a Joanna Jordan, cyfarwyddydd iechyd meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG.
Catrefi â chymorth yn helpu tenantiaid i fyw’n annibynnol
Mae cynllun llety â chymorth newydd yn Harlech yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau unigolion ag anableddau dysgu sy’n darganfod eu hannibyniaeth am y tro cyntaf. Mae Pant yr Eithin, Harlech a ddatblygwyd gan Grŵp Cynefin ar safle hen gartref gofal, yn helpu tenantiaid i fyw’n annibynnol gyda chymorth hyd-braich wrth law.
Mae’r datblygiad, sef chwe byngalo un-llofft a adeiladwyd i safonau ‘Cartrefi am Oes’, wedi eu haddasu’n arbennig ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu.
‘Mae hwn yn gysyniad arloesol, a phleser o’r mwyaf yw gweld tenantiaid yn ymgartrefu’n dda yn y cartrefi a ddylunwiyd yn arbennig. Mae’n wych gallu arwain datblygiad y cynllun hwn yn Harlech’, esboniodd Walis George, prif weithredydd Grŵp Cynefin.
Y rhai sy’n gweithio ar y cyd â Grŵp Cynefin ar y safle 13-eiddo yw Cyngor Gwynedd, Corff Galluogi Tai Gwledig Gwynedd, a Chyngor Bro Harlech. Yn ychwanegol at y saith cartref pwrpasol ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu, mae’r datblygiad hefyd yn darparu chwe chartref fforddiadwy ar gyfer teuluoedd lleol.
CYHOEDDIADAU
10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW
1) UK Housing Review 2016
Y Sefydliad Tai Siartredig, Mawrth 2016
Ar gael oddi wrth cih.org a gweler hefyd www.york.ac.uk/res/ukhr/
2) The Uneven Impact of Welfare Reform: The financial losses to places and people
Prifysgol Sheffield Hallam, Mawrth 2016
www.shu.ac.uk/research/cresr/sites/shu.ac.uk/files/welfare-reform-2016_1.pdf
3) Astudiaeth ddichonoldeb cysylltu data Cefnogi Pobl
Llywodraeth Cymru, Mawrth 2016
www.gov.wales/statistics-and-research/supporting-people-data-linking-feasibility-study/?lang=cy
4) Highly Valued, Hard to Value: Towards an integrated measurement of real estate development
Trowers & Hamlins, Mawrth 2016
www.trowers.com/resources/thoughtleadership/highlyvalued
5) Report of the Special Rapporteur on adequate housing as a component of the right to an adequate standard of living, and on the right to non-discrimination in this context
Swyddfa’r Comisiynydd dros Hawliau Dynol, Y Cenhedloedd Unedig, Rhagfyr 2015
ap.ohchr.org/documents/dpage_e.aspx?si=A/HRC/31/54
6) How Does Housing Affect Work Incentives for People in Poverty?
Sefydliad Joseph Rowntree, Chwefror 2016
www.jrf.org.uk/report/how-does-housing-affect-work-incentives-people-poverty
7) Childcare Policy Options for Wales
Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, Chwefror 2016
www.ppiw.org.uk/ppiw-report-publication-childcare-policy-options-for-wales/
8) Uneven City Growth: Tackling city decline
Sefydliad Joseph Rowntree, Chwefror 2016
www.jrf.org.uk/report/uneven-growth-tackling-city-decline
9 Closing the Gap: Creating a framework for tackling the disability employment gap in the UK
Sefydliad y Farchnad Gymdeithasol, Chwefror 2016
www.smf.co.uk/publications/disability-employment-gap/
10) Home Improvements: A social justice approach to housing policy
Y Ganolfan dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Chwefror 2016