Mae’r rhifyn hwn o Welsh Housing Quarterly yn ystyried yr hyn a fydd yn flwyddyn hollbwysig i dai yng Nghymru – a thu hwnt i Glawdd Offa.
Mae’n hadran arbennig ar Etholiad 2016 yn cynnwys manylion am Cartrefi i Gymru, ymgyrch ar y cyd i roi tai yn ei briod le ar yr agenda wleidyddol ynghyd ag erthyglau gan ddau o gefnogwyr mwyaf tai yn y Cynulliad. Mae Jocelyn Davies a Sandy Mewies ill dwy yn sefyll i lawr yn yr etholiad yma, ond maent yn cynnig myfyrdod personol ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn a chyngor i ACau y dyfodol. Yn y rhifyn hwn hefyd, mae Aaron Hill yn dadansoddi newidiadau i’r setliad datganoli a allai effeithio ar ein gallu i lunio polisi tai yng Nghymru.
Bydd pwy bynnag sy’n fuddugol yn yr etholiad yn wynebu her darparu mwy o gartrefi newydd nag a godwyd ers 20 mlynedd, yn ôl ymchwil gan y diweddar Alan Holmans.
Nid dim ond Cymru fydd yn ethol arweinwyr newydd. Mae’r Alban hithau yn pleidleisio ar Fai 5 a chafodd ymgyrchwyr tai yno lwyddiant aruthrol eisoes. Mae Graeme Brown, Shelter Scotland, yn amlinellu’r gwaith caled a arweiniodd at addewid y Prif Weinidog i gyllido 50,000 o gartrefi fforddiadwy (yn cynnwys 35,000 ar rent cymdeithasol) yn ystod pum mlynedd y senedd nesaf.
Cynhelir yr holl etholiadau hyn wrth i effeithiau Etholiad Cyffredinol y DU 2015 ddal i ddirgrynu. Llwyddodd ymgyrch Cartrefi i Brydain i alw mwy o sylw at dai y llynedd, ond mae newidiadau radicalaidd ac ymrannol i bolisi tai ar y gweill ers tro yn Lloegr wrth i’r llywodraeth Geidwadol roi’r flaenoriaeth i berchentyaeth a thywys tai cymdeithasol ar hyd llwybr cwbl wahanol i’r un rydym yn ei ddilyn yng Nghymru.
Gosodir y cyd-destun ar gyfer hynny oll gan Peter Williams mewn erthygl yn seiliedig ar ei ddarlith ym Mhrifysgol Caerdydd i nodi 100fed rhifyn WHQ. Mae’n cymryd golwg hirdymor ar bolisi tai o 1990 i 2040 er mwyn dadansoddi’r hyn a gyflawnwyd gyda thai yn ystod oes WHQ ac i ble y gallem fod yn mynd yn y 25 mlynedd nesaf.
Ar ôl pleidlais o fath gwahanol, uchafbwynt pendant yn 2016 fydd creu’r fenter gydfuddiannol gyntaf yng Nghymru yn cynnwys tenantiaid a staff. Mae Nicola Evans yn egluro sut yr esgorwyd ar gymdeithas gydfuddiannol Cartrefi Cymoedd Merthyr a beth fydd yn digwydd nesaf.
Gallwch weld hyn i gyd ynghyd â mwy o newyddion a blogiau ar wefan newydd WHQ. Da chi, ewch i whq.org.uk i weld mwy.
Jules Birch
Golygydd WHQ