English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Etholiad 2016 – Gwersi ar gyfer y dyfodol

Bydd nifer o Aelodau Cynulliad yn sefyll i lawr ar achlysur yr etholiad ym mis Mai, yn cynnwys dau o’r eiriolwyr gorau dros dai: y cyn-ddirprwy weinidog tai, Jocelyn Davies, Plaid Cymru, a chadeirydd y Grŵp Tai Trawsbleidiol, Sandy Mewies, o’r blaid Lafur. Dyma’r ddwy yn myfyrio ar yr hyn a gyflawnodd y Cynulliad hyd yma ac yn cynnig cyngor i ACau y dyfodol.

Yr her o’n blaenau – Jocelyn Davies

Byddaf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 17 mlynedd pan fyddaf yn sefyll i lawr adeg yr etholiad ym mis Mai.

Braint fu cael bod yn rhan o dwf ein sefydliad yn ystod cyfnod o newid aruthrol i Gymru fel cenedl. Bûm yn dyst i ddatblygiad y Cynulliad o fod yn sefydliad corfforaethol heb ddim pwerau deddfu sylfaenol na phwerau cyllidol, i fod â’r pŵer i greu ein deddfwriaeth sylfaenol ein hunain. Yn awr, wrth i Gymru baratoi i gasglu ei threthi ei hunan am y tro cyntaf ers 800 mlynedd, edrychaf ymlaen at wylio to newydd o ACau yn ymateb i her a chyfleoedd y bennod nesaf hon yn hanes ein gwlad.

Yn nyddiau cynnar y Cynulliad, byddem yn cynnal dadleuon mynych ar dai ond heb y pwerau i wneud unrhyw beth. Wrth i bwerau’r Cynulliad dyfu, ac wrth i dai fynd yn fater gwleidyddol mwyfwy amlwg, aeth tai yn rhan ganolog o’r gwaith rydym yn ei wneud.

Yn 2007, euthum yn ddirprwy weinidog dros dai yn Llywodraeth Glymblaid Cymru’n Un. Rwyf yn ymfalchïo yn yr hyn a gyflawnais yn y swydd: am y tro cyntaf, daeth tai yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Un o’r pethau pwysicaf a wneuthum oedd sefydlu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Dai Fforddiadwy, o dan arweiniad Sue Essex. Cynhyrchodd y grŵp hwn adroddiad a alwai am newid sylfaenol mewn agweddau tuag at y sector tai yng Nghymru. O ganlyniad i’w argymhellion, cyraeddasom ein targed tai fforddiadwy, a oedd yn tystio i waith caled ac ymroddiad yr awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac eraill yn y sector y bûm yn gweithio gyda nhw.

Ers ymadael â’r Llywodraeth a mynd yn llefarydd gwrthblaid Plaid Cymru ar dai, fe’m siomwyd gan ddiffyg uchelgais ffordd Llywodraeth Lafur Cymru o fynd ati. Mae’r Cynulliad wedi deddfu ddwywaith mewn perthynas â thai yn y blynyddoedd diwethaf: Deddf Tai (Cymru) 2014 a Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2015. Daeth y ddwy ddeddf â gwelliannau i’r sector tai yng Nghymru heb gynnig y newid sylfaenol y bydd ei angen arnom er mwyn mynd i’r afael o ddifri â’r argyfwng tai.

Gyda nifer fwyfwy o bobl yn cael bod eu cartrefi bellach yn y sector rhentu preifat, rhaid i’r Llywodraeth gynllunio i ddiwygio’r deddau tai yn sylfaenol er mwyn sicrhau bod cartref cysurus sy’n gweddu i’w hanghenion o fewn cyrraedd i bawb. Hoffwn weld tenantiaethau hwy gyda mwy o sicrwydd, rheolaeth ar renti, a gwaharddiad ar daliadau gosod annheg gan asiantiaid.

Roedd y darpariaethau digartrefedd yn Neddf Tai (Cymru) yn siom neilltuol. Ni ddilewyd y prawf bwriadusrwydd, fel yr addawyd i ni. Ymgorfforodd Llywodraeth Cymru ‘Brawf Pereira’ ar gyfer diffinio pwy sy’n ddiymgeledd yn y ddeddfwriaeth am y tro cyntaf hefyd. Deilliai’r prawf hwn o ddyfarniad Uchel Lys ym 1998, ac mae’n diffinio person digartref diymgeledd –sydd felly â hawl i gymorth tai gan awdurdod lleol – fel rhywun nad yw’n gallu gofalu amdano/amdani’i hun cystal â pherson digartref cyffredin. Yn wyneb y caledi a wynebir gan bobl ddigartref, sy’n aml yn ei gwneud yn agored iawn i niwed, mae’r prawf yn gosod safon bron yn amhosib o uchel ar gyfer derbyn cymorth.

Ychydig fisoedd wedi i Lywodraeth Cymru wneud Prawf Pereira yn rhan o’r gyfraith yng Nghymru, cafodd ei ddiddymu yn Lloegr gan y Goruchaf Lys am ei fod yn anghyfiawn. Dwi’n dal heb glywed esboniad dilys gan Lywodraeth Cymru parthed pam na ddylai Cymru wneud yr un fath, a diddymu’r prawf darfodedig hwn cyn gynted ag y bo modd.

Weithiau, gall AC deimlo’n rhwystredig iawn. Un o’r rhesymau dros benderfynu sefyll i lawr cyn yr etholiad nesaf oedd sylweddoli fy mod wedi gweld pum ymholiad gan y Cynulliad i’r ddarpariaeth addasiadau i gartrefi pobl anabl a phobl hŷn, a dangosai pob un amrywiaeth sylweddol yn y gwasanaeth o ardal i ardal. Bu gwelliannau, ond mae’r broblem yn dal heb ei datrys yn llwyr. Gall deimlo fel pe baech yn rhedeg o gwmpas mewn cylchoedd.

Fy nghyngor i unrhyw ACau yn y dyfodol sydd â thai’n rhan o’u portffolio yw bod y gallu i wireddu unrhyw bolisi tai yn dibynnu ar y cyllid. Nid yw tai fel meysydd eraill mewn polisi cyhoeddus, gan na fedrwch ddim ond deddfu, er enghraifft, i warantu nifer arbennig o dai fforddiadwy. Yn hytrach, mae’n rhaid gweithio gyda’r sector, gwrando ar rai sy’n gwybod mwy na chi, a gweithio’n galed i sicrhau bod y cyllid angenrheidiol ar gael. Bydd llawer o ffactorau y tu allan i’ch rheolaeth: prisiau tir, argaeledd morgeisiau, newid mewn rheoliadau adeiladu. Yn y pen draw, os nad yw’r rhifyddeg yn gweithio, bydd eich polisi yn methu.

Mae sawl her sylweddol o’n blaenau. Mae diwygiadau lles y llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus Cymru. Cafodd Archwilydd Cyffredinol Cymru bod y dreth stafell wely wedi effeithio’n anghymesur ar denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru o’i gymharu â gwledydd eraill y DU. Bydd ymdopi ag effeithiau’r newidiadau hyn mewn cyfnod lle mae cyllidebau’n crebachu beunydd yn anodd i’r Llywodraeth a’r awdurdodau lleol.

Fodd bynnag, rydym ni yng Nghymru mewn gwell sefyllfa nag erioed o’r blaen i dorri’n cwys wleidyddol ein hunain a gosod ein blaenoriaethau ein hunain. Fy ngobaith i yw y bydd yr ACau a etholir i’r Cynulliad ym mis Mai yn parhau i ddewis cyfeiriad polisi ar gyfer tai sy’n fwyfwy gwahanol, radicalaidd a chymwys i ateb gofynion unigryw Cymru.

Jocelyn Davies yw AC Plaid Cymru dros Dde-ddwyrain Cymru. Hi oedd y dirprwy weinidog ar gyfer tai ac adfywio yn y Trydydd Cynulliad, o 2007 i 2011

Adeiladu consensws – Sandy Mewies

Roedd lansio System Drwyddedu Landlordiaid Rhentu Doeth Cymru yn ddiweddar yn fy atgoffa o ba mor bell y daethom o ran deddfwriaeth tai yn y Pedwerydd Cynulliad hwn.

Yn fy atgoffa, oherwydd mai yn union cyn Etholiadau Cynulliad 2011 y cyhoeddwyd adroddiad arloesol ar y sector rhentu preifat gan y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant (bryd hynny) yr oeddwn i’n ddigon ffodus i’w gadeirio.

Testun balchder yw gallu dweud i’r adroddiad hwnnw helpu i osod rhai o’r sylfeini ar gyfer yr hyn a ddilynodd. Credai aelodau’r pwyllgor bod ein hymchwiliad bryd hynny wedi goroleuo nifer o feysydd lle gellid gwella’r sector rhentu preifat yng Nghymru er mwyn darparu gwell llety a gwell safonau rheolaeth. Roedd ein hargymhellion yn cynnwys effeithiolrwydd posibl cynllun trwyddedu, a hefyd yn datblygu canllawiau i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddod â chartrefi gwag yn ôl at ddefnydd, gan ddefnyddio system o fenthyciadau eilgylch.

Cafodd yr argymhellion hyn eu gwireddu diolch, i raddau helaeth, i’r dystiolaeth a’r cydweithrediad a gawsom ni, fel Aelodau Cynulliad, gan unigolion a sefydliadau o’r sector tai, a hefyd gan y dirprwy weinidog tai ar y pryd, Jocelyn Davies. Credaf y cafodd yr ysbryd hwn o bartneriaeth ei ddatblygu ymhellach ers hynny trwy Grŵp Tai Trawsbleidiol y Cynulliad, y cefais y fraint o’i gadeirio er ei sefydlu.

Ymlaen at 2014 , a fedyddiwyd yn Flwyddyn Tai yng Nghymru gan yr arbenigwr tai Keith Edwards, cyfarwyddydd STS Cymru ar y pryd, ac ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol.

Roedd Keith, gyda phob cyfiawnhad, wedi sylweddoli blwyddyn mor aruthrol bwysig oedd hi i dai yng Nghymru, gyda’r Ddeddf Tai (Cymru) hir-ddisgwyliedig yn derbyn Cydsyniad Brenhinol. Roeddem wedi teithio ymhell ers 2011 yn ein hymdrechion i wella’r cyflenwad tai a’i ansawdd, a dathlodd y Grŵp Trawsbleidiol y garreg filltir hon trwy dorri cacen dai yn seremonïol.

A pham lai? Wedi’r cwbl, roedd y grŵp, yn fy marn i, wedi chwarae ei ran a helpu i lunio’r ddeddfwriaeth. Unwaith eto, roedd hynny oherwydd y cydweithrediad rhyngom fel gwleidyddion a hefyd oherwydd cefnogaeth a chyfraniad mawr sefydliadau o’r sector tai trwy Cartrefi i Gymru Gyfan. Mae’r nifer o sefydliadau a gynrychiolir yn ein holl gyfarfodydd trawsbleidiol, o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn dynodi angerdd ac ymroddiad pob un ohonynt i achos tai. At hynny, daethant â chyfoeth o syniadau i’r cyfarfodydd ar ffurf trafodaethau a chyflwyniadau, yn enwedig yn ein cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ym mis Tachwedd, pan drafodwyd sawl pwnc, yn cynnwys Hawl i Reoli, Gwneud Rhenti’n Iawn a’r ymgyrch Cartrefi i Gymru.

Rhaid i mi ddiolch hefyd i’m cyd-ACau yn y grŵp, Jocelyn Davies, Peter Black a Mark Isherwood. Roedd eu gwybodaeth arbenigol a’u penderfyniad i lwyddo yn amhrisiadwy. Hyd yn oed os chytunasom yn wleidyddol bob amser, rydym bob amser wedi ceisio dod o hyd i ffordd ymlaen, ac un o brif gryfderau’r grŵp oedd y lefel uchel o ymrwymiad ymhlith yr holl bleidiau.

Rhaid i mi hefyd ganmol y gweinidogion tai, o Jocelyn i Huw Lewis, Carl Sargeant ac yn awr Lesley Griffiths, am eu parodrwydd i wrando a derbyn syniadau a safbwyntiau a gynigiwyd gan y grŵp. Ni fu cyfarfod â gweinidog erioed yn broblem i’r grŵp.

Yn ôl yn 2011, tanlinellodd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant effaith hollbwysig tai ar fywydau pobl. Gall effeithio ar ein hiechyd, ein sefyllfa ariannol, ein gallu i ddod o hyd i waith ac addysg.

Cydnabyddir hyn gan bob gwleidydd, ni waeth o ba blaid. a dyna pam y bydd tai, mae’n siŵr gennyf, yn parhau i fod ar frig agenda Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad nesaf.

Byddaf innau’n rhoi’r gorau iddi adeg yr etholiad ym mis Mai, ond mae’n bwysig bod y Grŵp Tai Trawsbleidiol yn parhau i gynnig llwyfan i sylwadau a syniadau arloesol y sector tai.

Gwnaed llawer i geisio diwallu rhai o anghenion tai Cymru, ac rydym wedi dathlu llwyddiant ein cynlluniau tai fforddiadwy a thai gwag. Ond tra’r oedd 2014 yn Flwyddyn Tai, dim ond cam cyntaf oedd hynny.

Yn y Cynulliad newydd, rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i adeiladu ar sail hynny mewn amgylchedd anodd o lymder a thoriadau pellach i gyllidebau. Mae’n hanfodol bod Grŵp Tai Trawsbleidiol yn parhau i fodoli, i adeiladu consensws ar broblemau tai a chwarae rhan allweddol mewn llunio polisïau sydd â bras gefnogaeth yr holl bleidiau ac, yn bwysig iawn, y gymuned dai.

Sandy Mewies yw AC Llafur Delyn. Hi yw cadeirydd y Grŵp Tai Trawsbleidiol


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »