DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU
Y DU
Osborne yn lliniaru’r toriadau
Cyflwynodd y Canghellor George Osborne Arolwg Gwariant llai llym nag yr ofnwyd. Yn sgil rhagolygon o dderbyniadau treth uwch, ataliodd ei gynlluniau i gwtogi ar gredydau treth, gan ddiogelu rywfaint o wariant adrannol a oedd dan fygythiad a chynyddu buddsoddi cyfalaf.
Fodd bynnag, bydd yn dal i arbed arian ar fudd-daliadau lles trwy doriadau mewn credyd cynhwysfawr a fydd yn dod i rym yn ddiweddarach yn ystod y sesiwn hon.
Cafwyd toriadau newydd mewn budd-dal tai trwy gyfyngu taliadau sector cymdeithasol i’r un lefel â’r lwfans tai lleol ac arosod y gyfradd rhannu-llety ar denantiaid dibriod o dan 35 sydd heb blant. Bydd hyn yn cynnwys pob tenantiaeth a arwyddir ar ôl Ebrill 2016 ac yn dod i rym yn Ebrill 2018. Gallai’r toriad hwn gadw pobl ifanc allan o lety cymdeithasol a pheryglu projectau tai â chymorth, er y dywed y llywodraeth y bydd yn defnyddio taliadau tai disgresiynol i liniaru effeithiau hyn.
Cyhoeddodd Osborne gynnydd hefyd yn nhreth stamp y DU ar landlordiaid prynu-i-rentu a pherchenogion ail gartrefi.
ONS yn ailddosbarthu cymdeithasau tai
Mae’r Swyddfa Ystadegau (ONS) wedi ailddosbarthu cymdeithasau Seisnig yn Lloegr fel cyrff cyhoeddus yn lle rhai sector-preifat yn y cyfrifon gwladol, sydd ag oblygiadau i weddill y DU.
Golyga’r penderfyniad y trosglwyddir benthyciadau cymdeithasau Lloegr, a’u gwerth £60 biliwn o ddyled, i’r fantolen gyhoeddus. Mae hyn yn dilyn ystyriaeth fanwl o’r gyfundrefn reoleiddio ar gyfer cymdeithasau a edrychodd yn enwedig ar y rheolau ynglŷn â phenodi aelodau bwrdd, gwaredu asedau, ac ailstrwythuro neu ddirwyn cymdeithasau i ben.
Mae hyn wedi ennyn ofnau y byddai’r llywodraeth naill ai’n ceisio rheoli gwariant a benthyca cymdeithasau neu ddod o hyd i ffordd o’u preifateiddio. Fodd bynnag, cyflwynodd gweinidogion welliannau i’r Mesur Tai mewn ymgais i sicrhau penderfyniad newydd ar ddosbarthiad.
LLOEGR
San Steffan yn prysuro i ddiwygio tai cymdeithasol
Parhaodd y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan â’i had-drefnu sylfaenol ym maes tai fforddiadwy gyda chyfres o gyhoeddiadau ar dai, cyllid a pholisi cynllunio.
O dan gytundeb rhwng yr ysgrifennydd cymunedau Greg Clark a’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, bydd yr hawl i brynu yn cael ei hymestyn i denantiaid cymdeithasau tai ar sail wirfoddol. Ni orfodir yr hawl i brynu trwy ddeddfwriaeth, ond mae’r Mesur Tai a Chynllunio yn arfaethu rhoi ‘grant’ fel iawndal i gymdeithasau ac i dalu am gartrefi newydd yn lle rhai a werthwyd. Bydd cymdeithasau’n gallu cynnig gostyngiadau cludadwy yn lle hawl i brynu o dan rai amgylchiadau.
Mae gweddill y Mesur Tai a Chynllunio yn cynnwys cyfres o newidiadau eraill:
- Diwygio’r gyfundrefn gynllunio fel bod Cartrefi Cyntaf a werthir i brynwyr tro-cyntaf am ostyngiad o 20 y cant yn cyfrif fel cartrefi fforddiadwy.
- Toll ar awdurdodau lleol yn seiliedig ar werthiant cartrefi cyngor ‘gwerth-uchel’, i gyllido gostyngiadau hawl-i-brynu ar eiddo cymdeithasau tai a chost codi cartrefi yn eu lle
- Codi rhenti ‘Talu i Aros’ uwch ar denantiaid tai cyngor ag ‘incwm uchel’ (a ddiffinir fel incwm teuluol o £30,000 yn y rhan fwyaf o Loegr a £40,000 yn Llundain). Bydd hyn eto’n ‘wirfoddol’ yn achos cymdeithasau tai
- Diwygiadau rheoleiddio ar gyfer cymdeithasau tai yn sgil penderfyniad yr ONS ar ailddosbarthu
- Terfyn ar sicrwydd tenantiaeth i denantiaid cyngor newydd, gyda thenantiaethau cyfnod-penodol dwy i bum mlynedd yn lle hynny
Yn Arolwg Gwariant mis Tachwedd, addawodd y canghellor y byddai’n dyblu’r buddsoddiad mewn cartrefi fforddiadwy, ond bydd y cwbl bron o’r arian yn mynd at Gartrefi Cyntaf a chyd-berchenogaeth.
YR ALBAN
Yr SNP yn addo 50,000 o gartrefi fforddiadwy
Addawodd Plaid Genedlaethol yr Alban fuddsoddi £3 miliwn mewn 50,000 o gartrefi newydd fforddiadwy yn ystod y pum mlynedd nesaf os enilla etholiadau Senedd yr Alban ym mis Mai.
Addawyd hyn yn wreiddiol gan y Prif Weinidog Nicola Sturgeon yng nghynhadledd y blaid ym mis Hydref. Dywedodd y gweinidog tai Margaret Burgess mewn dadl ar dai ym mis Tachwedd y byddai’r 50,000 yn gynnydd o 67 y cant yn y cyflenwad tai fforddiadwy, ac y byddai 35,000 ar gael ar rent cymdeithasol.
Disgwylir i’r cartrefi gynnal 20,000 o swyddi y flwyddyn a chreu £10 biliwn mewn gweithgaredd economaidd yn ystod tymor y senedd. Meddai Margaret Burgess: ‘Mae tai yn flaenoriaeth allweddol i’r llywodraeth hon ac mae’n hanfodol o ran trechu tlodi. Byddwn yn gweithio gyda’r holl sector tai i sicrhau ein bod yn darparu mwy o’r cartrefi fforddiadwy o ansawdd da sydd eu hangen ar bobl a’n cymunedau.’
Yn y rhifyn hwn, mae Graeme Brown, cyfarwyddydd Shelter yr Alban, yn croesawu’r targed newydd, gan ychwanegu: ‘Deallwn hefyd fod pleidiau gwleidyddol eraill yrAlban yn awr yn edrych yn fwy difrifol ar bwysigrwydd rhoi’r flaenoriaeth wleidyddol i gartrefi fforddiadwy a’r rhan hanfodol a chwaraeir ganddynt mewn meysydd fel gwella’r economi, gwario ataliol a hybu cyfiawnder cymdeithasol yn ogystal â threchu anghydraddoldeb a thlodi ymhlith plant.’
GOGLEDD IWERDDON
Gweinidog yn ymgynghori ar y sector rhentu preifat
Cyhoeddodd y gweinidog datblygiad cymdeithasol ddogfen drafod ar ffyrdd o wneud rhentu’n breifat yn ddewis mwy deniadol ac ymarferol yn y maes tai.
Wrth lansio’r ddogfen ym mis Tachwedd, dywedodd y gweinidog bod y sector rhentu preifat wedi tyfu a bod ffocws cynyddol ar y ffordd y dylid ei reoleiddio.
Y pedair brif thema yn yr ymgynghoriad sy’n para tan fis Chwefror yw:
- Rôl y sector rhentu preifat – pa gefnogaeth sy’n addas ar gyfer landlordiaid a thenantiaid?
- Cyflenwad a buddsoddi – a ddylai’r sector rhentu preifat fod â rhan mewn cyflenwi tai ac, os felly, a ddylai’r llywodraeth gynnig cymhellion i ysgogi twf a buddsoddi?
- Rheolaeth tai a thenantiaethau – sut, os o gwbl, y dylid newid rheoliadau cyfredol?
- Safonau eiddo – a ddylid gweithredu i wella safonau eiddo cyfredol?
Am fwy o wybodaeth, gweler www.dsdni.gov.uk/consultations/review-role-and-regulation-private-rented-sector
LLYWODRAETH CYMRU
Hwb i dai yn y Gyllideb Ddrafft
Diogelodd Llywodraeth Cymru y rhaglen Cefnogi Pobl a chynyddu’r Grant Tai Cymdeithasol yn ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2016/17.
Croesawodd sefydliadau tai y newyddion da yma yn sgil Arolwg Gwariant y DU a welodd gwtogi llym ar gyllid adrannol. Ceir ail gyfnod hefyd o’r cynllun benthyciadau ecwiti Cymorth i Brynu – Cymru i helpu prynwyr cartrefi.
Gwrthbwyswyd hynny, fodd bynnag, gan siom ynglŷn â’r gostyngiad, i bob golwg, mewn cyllid at gyfer atal digartrefedd.
Ym mis Rhagfyr cadarnhaoedd y gweinidog cymunedau a threchu tlodi Lesley Griffiths y bydd y fformiwla rhent cymdeithasol gyfredol yn parhau yng Nghymru yn 2016/17 er gwaetha’r toriadau yn Lloegr. Meddai: ‘Mae parhau â’n polisi rhenti cymdeithasol yn rhoi sadrwydd i landlordiaid cymdeithasol a’u galluogi i ddal i ddarparu’r llety fforddiadwy o safon sydd ei angen ar deuluoedd Cymru.’
Mae Cefnogi Pobl yn chwarae rhan allweddol mewn atal digartrefedd a helpu pobl ddiymgeledd i fyw’n annibynnol. Ym mis Ebrill, lansiodd Cymorth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru ymgyrch ‘Daliwn i Gefnogi Pobl’ i ddiogelu’r cyllid. Fe’i diogelir yn awr ar lefelau 2015/16 heb ddim toriadau pellach yn 2016/17.
Croesawodd Auriol Miller, cyfarwyddydd Cymorth Cymru, y newyddion: ‘Rydym wrth ein bodd fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod Cefnogi Pobl fel blaenoriaeth allweddol yn y gyllideb nesaf, ac rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus y Gweinidog Cymunedau Lesley Griffiths a’r pleidiau eraill yn y Cynulliad i’r rhaglen hanfodol hon.
Croesawodd Stuart Ropke, prif weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru, yr hyn a alwodd yn ‘gyllideb dda ar gyfer tai fforddiadwy’ wrth i’r Grant Tai Cymdeithasol gael ei chynyddu o £5 miliwn i gyfanswm o £68.8 million: ‘Mae angen cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru yn fwy nag erioed. Mae buddsoddi mewn tai yn helpu i ysgogi’r economi ac yn darparu swyddi a chyfleoedd hyfforddi i bobl leol yn ogystal â chyllido cartrefi newydd fforddiadwy. Croesawodd y cadarnhad ynglŷn â’r trefniant rhenti hefyd.
Croesawodd John Puzey, cyfarwyddydd Shelter Cymru, y newyddion am Cefnogi Pobl hefyd, ond ychwanegodd: ‘Bydd toriad o 8.1 y cant mewn cyllid atal digartrefedd yn arwain at ganlyniadau cythryblus – a bydd yn ei gwneud hi’n llawer anos gweithredu Deddf Tai (Cymru), mesur deddfwriaeth tai cyntaf Cymru, yn llwyddiannus.’
Pasio’r diwygiadau rhent
Pasiwyd cam terfynol y Bil Rhentu Cartrefu yn y Cynulliad ym mis Tachwedd, a disgwylid iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol wrth i WHQ fynd i’r wasg.
Bydd y ddeddf yn disodli’r gwahanol fathau cyfredol o denantiaethau a thrwyddedau â dau fath o gytundeb yn unig – y naill ar gyfer y sector preifat a’r llall ar gyfer tai cymdeithasol.
Dywedodd y gweinidog cymunedau a threchu tlodi, Lesley Griffiths: ‘Bydd y Bil yn sicrhau bod landlordiaid a’r rhai sy’n rhentu eu cartrefi’n ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau o’r dechrau’n deg, a bydd yn amddiffyniad ychwanegol i bobl rhag arferion gwael rhai landlordiaid.
‘Mae wedi cymryd llawer iawn o amser ac ymdrech eisoes i ddatblygu’r Bil, ond dyma pryd y bydd y gwaith caled yn dechrau o ddifrif. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda phartneriaid i baratoi ar gyfer gweithredu’r ddeddfwriaeth arloesol hon.’
Lansio Rhentu Doeth Cymru
Daeth y cynllun cofrestru a thrwyddedu newydd ar gyfer landlordiaid preifat ac asiantiaid yng Nghymru i rym ddiwedd Tachwedd. Mae’r rhan allweddol yma o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn golygu bod rhaid i bawb sy’n berchen eiddo preifat ar osod yng Nghymru gofrestru gyda’r awdurdod trwyddedu canolog trwy law Rhentu Doeth Cymru. Rhaid i landlordiaid ac asiantiaid sicrhau math newydd o drwydded hefyd.
O dan y ddeddfwriaeth newydd, Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i fynnu bod landlordiaid sy’n rheoli eiddo ac asiantiaid yn dilyn cwrs hyfforddi i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u hawliau a’u dyletswyddau.
Ehangu Cymorth i Brynu – Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi hyd at £290 miliwn yn ail gyfnod ei gynllun i gynnig benthyciadau ecwiti i brynwyr cartrefi newydd.
Bydd y cyllid yn talu am godi hyd at 6,000 o gartrefi yng Nghymru rhwng 2016 a 2021. Helpodd y cynllun £174 miliwn presennol 2,400 o deuluoedd i brynu gyda 650 o geisiadau eraill ar y gweill. Bydd Cymorth i Brynu – Cymru yn parhau i gynnig benthyciadau o 20 y cant o’r ecwiti ar eiddo newydd hyd at werth £300,000.
Meddai’r gweiniog cymunedau a threchu tlodi, Lesley Griffiths: ‘Mae’r buddsoddiad o £290 miliwn heddiw yn arddangos yn glir ymrwymiad y llywodraeth hon i hyrwyddo codi tai a helpu pobl i gyrraedd eu nod o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain.’
Papurau ymgynghori
- Modelau darparu amgen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus: cynllun gweithredu – gov.wales/consultations/improving/?lang=cy – Ymatebion erbyn Ionawr 13
- Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft a’r Memorandwm Esboniadol – gov.wales/consultations/localgovernment/draft-local-government-(wales)-bill-consultation/?lang=cy – Ymatebion erbyn Chwefror 15
CYMRU
Tai ac iechyd yn cyfuno ar lesiant
Arwyddodd Cartrefi Cymunedol Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru gytundeb i gydweithio’n fwy clos er mwyn gwella bywydau ac iechyd pobl yn nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
O dan femorandwm o ddealltwriaeth a arwyddwyd yng nghynhadledd CCC ym mis Tachwedd byddant yn gweithio i ganfod problemau cyffredin a datblygu ffyrdd o’u datrys ar y cyd. Mae’r ffocws ar ataliaeth ac ymyriad buan, a sicrhau bod y gwaith yn dilyn y canllawiau cenedlaethol a rhyngwladol gorau er mwyn ymbweru cymunedau i wella iechyd a lles.
Bydd Grŵp Gorchwyl Iechyd Cyhoeddus Iechyd a Thai yn cynnwys cynrychiolwyr allweddol o feysydd iechyd, tai a gofal cymunedol a chymdeithasol.
Meddai Tracey Cooper, prif weithredydd Iechyd Cyhoeddus Cymru: ‘Ein cartrefi yw calon ein cymunedau a’n bywydau beunyddiol, a gwyddom fod cysylltiad clòs rhwng ansawdd tai ac iechyd a llesiant. Trwy rannu adnoddau a gweithio gyda’n gilydd tuag at nodau ar y cyd â Chartrefi Cymunedol Cymru gallwn greu newid gwirioneddol ac ystyrlon ym mywydau pobl ledled Cymru.’
Caerdydd yn enwi datblygwr ar gyfer rhaglen adfywio
Penododd Cyngor Dinas Caerdydd Wates Living Space fel y datblygwr a fydd yn helpu i wireddu ei gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer 1,500 o gartrefi newydd yn y ddinas dros y 10 mlynedd nesaf.
Bydd y rhaglen Partneriaeth Tai yn cynnwys codi hyd at 600 o dai cyngor a gyllidir ac a reolir gan yr awdurdod lleol a bydd yn helpu i adfywio cymunedau, mireinio’r amgylchedd a gwella ansawdd bywyd y preswylwyr.
Caiff yr holl eiddo newydd ei adeiladu i safonau cynaladwyedd ac effeithlonrwydd ynni uchel, gan sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd. Rhagwelir hefyd y cwblheir project peilot ‘Passivhaus’ yn ystod cymal cyntaf y datblygiad.
Un o’r amcanion allweddol yw darparu buddiannau i’r gymuned, yn cynnwys creu rhaglenni hyfforddi a chyflogi cynaliadwy, hir-dymor yn ogystal â chreu cyfleoedd ar gyfer busnesau lleol, grwpiau cymuned a thrigolion lleol.
Meddai’r aelod Cabinet dros iechyd, tai a llesiant, y Cyng Susan Elsmore: ‘Gyda mwy na 10,000 o bobl ar y rhestr aros am dai, mae hwn yn gynllun pwysig iawn a fydd yn gyfraniad allweddol at ddiwallu anghenion tai Caerdydd. Bydd y project hefyd yn galluogi prynwyr tro-cyntaf i gymryd y cam cyntaf pwysig hwnnw ar yr ysgol dai.
‘Bydd y cynllun yn helpu i adfywio rhannau o’r ddinas ar gyfer y dyfodol trwy fuddsoddi mewn cymunedau cynaliadwy yn ogystal â chreu swyddi a chyfleoedd hyfforddi lleol.’
Mae Grŵp Craffu Tenantiaid Cymdeithas Tai Newydd yn dathlu ennill dwy wobr o fri o fewn ychydig fisoedd. Yn y Gwobrau Arolygiad Craffu Cwsmeriaid yn Lerpwl ym mis Hydref, fe’u henwyd yn ‘Grŵp Craffu Mwyaf Ysbrydoledig Cymru’. Roedd hynny yn sgil derbyn ‘Gwobr Craffu Tenantiaid’ TPAS Cymru ym mis Mehefin. Llun: Heather Douglas, Emma Newbury, Cath Kinson a John Phillips a’u gwobrau o seremonïau diweddar.
Ymuno yn y sgwrs iachus
Daeth cymuned yn Rhondda Cynon Taf ynghyd i gael ‘sgwrs iachus’ ynglŷn ag arddulliau byw, deiet ac ymarfer. Fel rhan o raglen Sgyrsiau Iachus Gwalia, cynhaliwyd Diwrnod Gweithredu ar Iechyd yn Rhydyfelin i hyrwyddo pwysigrwydd cadw’n heini ac yn iach.
Gallodd y rhai a fynychodd y digwyddiad drafod yn anffurfiol gydag arbenigwyr o gyrff fel TEDS, Drink Wise Age Well, Filter Cymru, Fareshare Cymru, Dim Smygu Cymru, Street a meddygon.
Nod Sgyrsiau Iachus yw arfogi pobl â’r ddealltwriaeth, y cyfleoedd a’r rhwydweithiau cefnogi i’w galluogi i wella eu hiechyd a’u llesiant eu hunain, eu cymheiriaid a’u cymunedau.
Meddai Nathan Harding, gweithiwr cefnogi Gwalia: ‘Cawsom ymateb hynod bositif gyda phobl yn dweud bod y diwrnod wedi peri iddynt ystyried eu hiechyd, a’u bod yn bwriadu newid eu ffordd o fyw o ganlyniad i’r sgwrs a gawsant.’
Enwi’r ffotograffydd tai cyhoeddus buddugol
Yn gynharach eleni, rhoddodd STS Cymru her i ffotograffwyr amatur yn y sector: helpwch ni i brofi y gall tai cymdeithasol fod yn hardd. Detholodd panel y beirniaid, Martin Asquith, Alison Inman a Jason Wroe, lun Tracy James o Dŷ Thornley Cymdeithas Tai Newydd yn y Barri (canol, ar y dde) fel yr enillydd.
Enillodd llun Tracy yr anrhydedd o fod ar glawr blaen Good Practice Compendium STS Cymru. Gellir lawrlwytho’r Compendiwm yn www.cih.org/cymru/welshhousingawards. Am fwy o fanylion am yr enillwyr a rhai a gyrhaeddodd restr fer Gwobrau Tai Cymru, gweler tt. 38-39.
Cafodd pum ffotograffydd arall ganmoliaeth uchel gan y beirniaid: Ben Hennessy, Gareth Thomas, Helen Matthews, Louise Blackwell a Rachel Gardiner-James. Gellwch weld pob cynnig a disgrifiadau llawn ar wefan WHQ yn whq.org.uk.
Os ydych chi’n credu bod gennych y sgiliau i arddangos ochr orau tai cymdeithasol, gwyliwch allan am gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.
CYHOEDDIADAU
10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW
1) A yw Cymru’n Decach?
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Rhagfyr 2015
www.equalityhumanrights.com/cy/publication/yw-cymrun-decach
2) Future Need and Demand for Homes in Wales
Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, Tachwedd 2015
www.ppiw.org.uk/publications/ (gweler erthygl nodwedd tt. 30-31)
3) Homeless people’s experiences of welfare conditionality and benefit sanctions
Crisis, Rhagfyr 2015
www.crisis.org.uk/publications-search.php?fullitem=472
4) Can Welfare Work for Wales: Baseline Report
Sefydliad Bevan, Tachwedd 2015
www.bevanfoundation.org/publications/can-welfare-work-for-wales-baseline-report/
5) Year 8: The Socio‐Economic Impact of the Welsh HA and Community Mutual Sector
Yr Uned Ymchwil i Economi Cymru/Cartrefi Cymunedol Cymru, Tachwedd 2015
www.chcymru.org.uk/cy/publications/weru-report
6) The Role of the Private Rented Sector in Wales
Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, Tachwedd 2015
7) Towards Zero Carbon Housing Futures
Prifysgol Sheffield, Rhagfyr 2015
www.sheffield.ac.uk/usp/research/projects/zch_futures
8) International Lessons on Tackling Extreme Housing Exclusion
Sefydliad Joseph Rowntree, Rhagfyr 2015
www.jrf.org.uk/report/international-lessons-tackling-extreme-housing-exclusion
9) Paying a High Price for a Faulty Product
Citizens Advice a New Policy Institute, Rhagfyr 2015
10) An Overview of Housing Exclusion in Europe
FEANTSA a’r Fondation Abbé Pierre, Tachwedd 2015