English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Mynd â’r maen i’r wal

Mae Crisis newydd gyhoeddi cynllun i ddiweddu digartrefedd ym Mhrydain. Nick Morris sy’n amlinellu’r newidiadau cyfreithiol y bydd eu hangen.

Erbyn i’r rhifyn hwn o WHQ eich cyrraedd, bydd blwyddyn 50 mlwyddiant Crisis ar ben. Doedden ni ddim yn eiddgar i ddathlu’r garreg filltir hon a doedd ein sylfaenwyr ddim yn disgwyl y byddem yn dal mewn bodolaeth hanner canrif yn ddiweddarach. Felly, yr hyn wnaethon ni i nodi’r achlysur oedd paratoi a lansio cynllun i ddiweddu digartrefedd yn nhair cenedl Prydain.

Mae Everybody In: how to end homelessness in Great Britain yn cynnwys atebion seiliedig ar y dystiolaeth ar gyfer y tymor hir, nid i fodloni chwiw wleidyddol gyfredol, gan adeiladu ar sail yr hyn sydd wedi gweithio yn Lloegr, yr Alban a Chymru a gwledydd eraill. Dengys y cynllun gost atal a dileu digartrefedd, ynghyd â’r newidiadau polisi angenrheidiol i fynd â’r maen i’r wal. Craidd yr adroddiad yw’r gred y dylai pawb fod â lle diogel, sefydlog i fyw – a bod yn barod ar gyfer hynny. Mae Everybody Inyn dangos, er na fydd yn rhwydd, gyda’r polisïau iawn a’r ewyllys wleidyddol, y gallai tair cenedl Prydau ddiweddu digartrefedd o fewn 10 mlynedd. Gallwn gael pawb o dan do.

Selection of Everybody In photos on display

A’r ffocws ar faterion cyfreithiol yn WHQ, mae’r erthygl hon yn edrych ar un bennod yn unig: y fframwaith cyfreithiol delfrydol ar gyfer helpu i ddiweddu digartrefedd. Nid yw’n archwilio’r manylion yn gynhwysfawr nac yn ailymdrin â hanes Deddf Tai (Cymru) 2014, ond fe’u cynhwysir ill dau o fewn y cynllun i ddiweddu digartrefedd.

Wrth baratoi’r bennod ar y cynllun i ddiweddu digartrefedd, comisiynwyd dadansoddiad a chynigon diwygio gan ddwy arbenigwraig flaenllaw, Yr Athro Suzanne Fitzpatrick o Brifysgol Heriot-Watt, a Liz Davies, bargyfeithwraig yn Garden Court Chambers sy’n arbenigo mewn cyfraith tai a digartrefedd. Roeddem hefyd yn ddiolchgar i Dr Pete Mackie, Prifysgol Caerdydd, am ei sylwadau ar y bennod wrth iddi hi ddatblygu.

Mae’r fframwaith cyfreithiol cywir yn rhedeg fel edefyn trwy ein hymdrechion i atal digartrefedd, ei ddatrys yn gyflym pan fo’n digwydd, a sefydlu’r ymdrechion parhaus sydd eu hangen er mwyn dod â digartrefedd i ben. Ond mae’n dibynnu ar y canlynol:

  • Ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddiweddu digartrefedd o fewn deng mlynedd,a chynllun penodol ar gyfer hynny. Wrth gwrs, mae angen hefyd i Lywodraeth San Steffan sicrhau cyfundrefn fudd-daliadau sy’n gweithio, a dyna pam y cynhwysir hefyd y newidiadau sydd eu hangen ar gyfer hynny
  • Mesurau i ddarparu’r cartrefi fforddiadwy sydd eu hangen i ddiweddu digartrefedd
  • Ac, wrth gwrs, cyllid digonol i gyflawni’r dyletswyddau hyn

Gallwn ymfalchïo yn y dyletswyddau tai eang sydd gennym yng Nghymru ar gyfer atal a lliniaru digartrefedd. Yn 2016-17, helpodd y dyletswyddau hyn 62 y cant o’r teuluoedd dan fygythiad digartrefedd i’w osgoi, a lliniaru sefyllfa 41 y cant o’r rhai a oedd yn ddigartref. Mae’r adborth yn dal i fod yn gadarnhaol, yn gyffredinol.

Ond mae’n amlwg fod pobl yn dal i fethu’r cymorth sydd ei angen arnynt ac yn cwympo trwy’r bylchau yn y system gyfreithiol. Mae Everybody Inyn cyflwyno degEgwyddor gyfreithiol fframwaith delfrydol ar gyfer diweddu digartrefedd – sut mae llenwi’r bylchau hynny – ac mae’n cynnwys sgôr ‘goleuadau traffig’ cyffredinol ar gyfer gwahanol wledydd Prydain (gweler y blwch).

Egwyddor 1: Dylid bod â set o ddyletswyddau atal cadarn ar gyfer rhai sydd wynebu’r bygythiad o golli eu cartref yn fuan (o fewn 56 diwrnod). Mae digon o dystiolaeth i’r dyletswyddau yn Neddf Tai (Cymru) 2014 arwain at amryw o effeithiau positif, yn enwedig y rhai a nodwyd gan adroddiad Homelessness Monitor 2017 Crisis, a gyhoeddwyd gyda Sefydliad Joseph Rowntree. Dylai’r Egwyddor hon fod yn rhan o ddarpariaeth ‘Dewisiadau Tai gorau’ ehangach ym mhob ardal awdurdod lleol, mwy o bwyslais ar ataliaeth gynharach, a set o ddyletswyddau cyfatebol ar gyrff cyhoeddus eraill (Egwyddor 6b isod). Yn yr holl feysydd hyn ac eithrio’r dyletswyddau ehangach, gwelodd Cymru gynnydd, ond mae llawer ar ôl i’w wneud. Egwyddor 2: Pan fo camau rhesymol i atal neu leddfu digartrefedd yn aflwyddiannus, rhaid i rwyd ddiogelwch statudol gyflawn, sy’n darparu mynediad i lety sefydlog addas, gynnwys pawb sy’n ddigartref, ni waeth beth fo’u cefndir teuluol neu lefel o fregusrwydd, gyda llety dros-dro wedi ei ddarparu yn y cyfamser. Yn ymarferol, mae hyn y golygu bod rhaid dileu’r maen prawf angen blaenoriaethol yng Nghymru ac yn Lloegr, fel y gwnaeth ein cydweithwyr yn yr Alban eisoes. Y rhwyd ​​ddiogelwch gyntaf yw mynediad i lety brys, a rhaid i hwnnw fod yn addas (gan gynnwys bod yn fforddiadwy). Er mwyn i hyn weithio, mae angen y diwygiadau tenantiaeth lleiafsymiol yn y sector rhentu preifat a nodir yn Everybody In. Mae Rebecca Evans, y gweinidog tai ac adfywio, wedi addo adolygiad o angen blaenoriaethol, a ddylai ganolbwyntio ar sut i’w ddileu, ynghyd ag amserlen.

Egwyddor 3(a): Bydd ehangu’r ystod o opsiynau sy’n agored i awdurdodau lleol yn gwanhau, ond heb dorri, y cyswllt rhwng dyletswyddau digartrefedd a dyraniadau tai cymdeithasol. Dylai pobl yn y categori digartrefedd statudol barhau i dderbyn blaenoriaeth resymol mewn dyraniadau tai awdurdodau lleol, a dylai cymdeithasau tai yng Nghymru a Lloegr roi blaenoriaeth resymol i deuluoedd digartref yn eu polisïau dyrannu, fel sydd eisoes yn digwydd yn yr Alban.

Egwyddor 3(b): Dylid diddymu bwriadusrwydd yn ei ffurf bresennol. Mae’r prawf bwriadusrwydd cyfredol yn mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen i reoli unrhyw gymhellion gwrthnysig i geisio cymorth digartrefedd. Yn Everybody In, mae Crisis yn awgrymu prawf newydd o ‘wyrdroi yn fwriadol’ gyda chanlyniadau llawer mwy cyfyngedig, yn golygu na fydd teuluoedd yn derbyn unrhyw ffafriaeth ychwanegol yn eu dyraniad tai cymdeithasol.

Egwyddor 4: Dylai cysylltiad lleol beidio â bod yn rhwystr i dderbyn cymorth.Wrth gynnig hyn, derbyniai’r Athro Suzanne Fitzpatrick a Liz Davies yr angen i rannu baich ymgodymu â digartrefedd yn deg rhwng awdurdodau lleol. Fodd bynnag, maent yn cynnig ffyrdd gwell o ymdrin â hyn na’r rheolau cysylltiad lleol amrwd presennol. Er mai bwriad y rheolau cyfredol yn syml iawn yw pennu pa awdurdodau lleol sydd â dyletswydd i ddarparu llety sefydlog, yn aml fe’u defnyddir yn anghyfreithlon fel hidlydd i ddidoli ymgeiswyr. Awgrymir pedair ffordd ymlaen yn Everybody In, heb i’r un ohonynt  gau ei gilydd allan, ond â’r nod o gydnabod, er enghraifft, bod cysylltiad lleol yn effeithio ar bobl mewn rhai awdurdodau lleol yn fwy nag eraill.

Egwyddor 5: Rhaid gwneud y ddarpariaeth briodol ar gyfer teuluoedd sy’n dal yn ddigartref ar ôl derbyn y cwbl mae ganddynt hawl iddo o dan y fframwaith digartrefedd statudol, yn enwedig teuluoedd â phlant dibynnol.Os yw teuluoedd yn gwrthod cynigion addas o lety gan awdurdod tai lleol, yna daw pwynt pan fydd yr awdurdod hwnnw wedi cyflawni ei ddyletswydd tuag atynt. Gallant ddal i fod yn ddigartref. Byddai angen diwygio cyfraith gwasanaethau cymdeithasol Cymru i’w gwneud hi’n glir, lle bo’r plant mewn perygl o fod yn ddigartref, y darperir  llety ar gyfer y teulu cyfan.

Egwyddor 6(a): Dylai awdurdodau tai lleol fod â dyletswydd i ddarparu cymorth tai mewn achosion perthnasol. Dylai pob math perthnasol o gefnogaeth ffurfio rhan o’r cynlluniau personol a fynnir gan ganllawiau Cymru a deddfwriaeth ddiweddar yn Lloegr. Dylai’r cynlluniau hyn ymestyn y tu hwnt i gymorth tai, i iechyd, gofal cymdeithasol a chefnogaeth berthnasol arall, gan gofio na fydd gan bob teulu digartref anghenion cymorth ychwanegol. Mae dyletswydd cymorth tai penodol eisoes ar waith yn yr Alban; mae’r dyletswydd perthnasol yng Nghymru yn gyfyngedig i wneud asesiad o anghenion cymorth.

Egwyddor 6(b): Dylai fod gan gyrff cyhoeddus eraill ddyletswyddau cadarn i atal digartrefedd (gweler Egwyddor 1) ac i gydweithredu ag awdurdodau tai lleol i liniaru digartrefedd, er enghraifft, trwy ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd a gofal cymdeithasol perthnasol. Bydd dyletswydd i atal digartrefedd ar asiantaethau cyhoeddus allweddol eraill yn cefnogi dyletswyddau atal yr awdurdodau lleol a drafodwyd yn Egwyddor 1. Er i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 gryfhau dyletswyddau ar gymdeithasau tai a gwasanaethau cymdeithasol i gydweithredu, daeth Swyddfa Archwilio Cymru i’r casgliad yn Ionawr 2018 nad oeddent ‘yn gweithredu’n effeithiol’. Dylid gwneud dyletswyddau atal a chydweithredu allweddol yn rhan o wasanaethau iechyd a chymdeithasol, a fframweithiau deddfwriaethol cyfiawnder troseddol (sydd heb ei ddatganoli ar hyn o bryd).

Egwyddor 7: Dylai fod trefn reoleiddio, monitro ac arolygu gadarn ond gymesur i fesur sut mae awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus eraill a darparwyr tai cymdeithasol yn cyflawni eu dyletswyddau. Mae Rheoleiddiwr Tai yr Alban wedi chwarae rôl allweddol (ond un sy’n lleihau) wrth fonitro ac arolygu gwasanaethau digartrefedd yn yr Alban. Gellid edrych ar hyn fel man cychwyn wrth adeiladu model ar gyfer Cymru a Lloegr.

Egwyddor 8: System fwy agored o adolygiadau ac apeliadau unigol.Os mabwysiadir yr Egwyddorion uchod, byddai llai yn herio penderfyniadau awdurdodau lleol, oherwydd y byddai gan bawb hawl i ryw fath o lety. At hynny, byddai p’run ai bod ymgeisydd yn ddiymgeledd a/neu wedi mynd yn ddigartref yn fwriadol yn arwain at lai o ganlyniadau arwyddocaol, ag unrhyw anghydfod a allai godi wedyn yn ymwneud ag addasrwydd y llety a gynigir. Dylai’r broses fod yn annibynnol ar yr awdurdod lleol ac wedi ei chefnogi gan fynediad at gyngor cyfreithiol da sy’n rhad ac am ddim neu’n destun prawf modd.

Egwyddor 9: Dylid rhoi llawer mwy o bwyslais ar hyfforddi a chefnogi swyddogion digartrefedd rheng-flaen. Mae ganddynt swyddogaeth led-farnwrol, ond nid oes safon cyrhaeddiad addysgol penodol na chymhwyster proffesiynol penodedig i gydnabod pwysigrwydd eu rôl. Mae pwyslais parhaus ar hyfforddiant proffesiynol a datblygu sgiliau ymhlith gweithwyr digartrefedd rheng-flaen yn hanfodol i lwyddiant gweithrediad deddfwriaeth flaengar. Mae’r rhaglen hyfforddi LLWYBR ddiweddar mewn dulliau atal digartrefedd sy’n cydnabod trawma – gan Cymorth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru – yn enghraifft dda.

Egwyddor 10: Rhwyd ddiogelwch leiafsymiol ar gyfer pobl â statws mewnfudwyr.I Gymru, mae hyn yn golygu gweithio gyda’r Swyddfa Gartref i ddileu’r holl wahaniaethau rhwng statws cyfreithiol ‘ymfudwr’ a ‘dinesydd y DU’ i ddod â phawb i mewn i’r system gefnogaeth statudol a chynnig cyfle i bob person digartref gael cartref a bywyd, ni waeth o ble y daw yn wreiddiol.

Yr hyn sy’n amlwg o’r sgôr goleuadau traffig yw nad oes gan yr un genedl y fframwaith cyfreithiol delfrydol at y gwaith.  Fodd bynnag, mae llawer y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gwahanol gryfderau cyfredol. Gyda’r Egwyddorion cyfreithiol hyn, mae gan bob llywodraeth genedlaethol batrwm i’w ddefnyddio i helpu i gyflwyno ddeddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd i ddod â’r system ddelfrydol i fod.

Rydym eisoes wedi cychwyn arni yng Nghymru, ac wedi gwneud llawer y gallwn ymfalchïo ynddo, gyda’r fframwaith cyfreithiol a mwy. Ond mae gofyn parhau i fod yn uchelgeisiol, arloesi gyda’r newidiadau angenrheidiol er ddiweddu digartrefedd, a chael pawb i mewn i gartefi diogel a sefydlog.

Nick Morris yw rheolydd polisi a chyfathrebu Crisis (Cymru)


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »