English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol: Tai a’r gyfraith

O ddigartrefedd i ddiogelwch tân, dyraniadau i hygyrchedd, a diwygiadau lles i lywodraethiant, mae’r gyfraith yn effeithio ar bob dim sy’n ymwneud â thai.

Thema’r rhifyn Haf hwn o WHQ yw tai a’r gyfraith, gan gymryd y gyfraith ar ei gwedd ehangaf i olygu deddfwriaeth, rheoliadau a gweithredu, boed y rhain yn dod o Fae Caerdydd, San Steffan neu Frwsel.

Dechreuwn â darllenwyr WHQ yn dweud beth fyddent yn ei newid ynglŷn â’r gyfraith mewn perthynas â thai. Mae’r cynigion yn cynnwys nid yn unig deddfwriaeth sylfaenol a syniadau mwy amlwg fel dileu’r dreth stafell wely ond deddfau presennol y gellid eu gweithredu’n well, a syniad syml i wneud bywyd yn haws i gymdeithasau tai.

Mae Jamie Saunders yn ystyried beth sy’n digwydd mewn gwrandawiadau adfeddiannu ar gyfer ôl-ddyledion rhent. Pam maen nhw drosodd mor gyflym – ac a yw landlordiaid cymdeithasol yn gwneud digon i sicrhau eu bod yn gwneud y peth iawn? Mae Catherine Simpson a Nick Blair yn holi beth fydd camau cyfreithiol i ddadreoleiddio cymdeithasau tai yn ei olygu.

Mae Amanda Stubbs a Tola Balogun yn archwilio’r gyfraith ar iechyd a diogelwch ac yn edrych ar newidiadau i ddod, nid dim ond yn sgil tân Tŵr Grenfell, ond hefyd mewn deddfwriaeth sydd ar ei ffordd o San Steffan, a chychwyn gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru).

Mae dwy erthygl yn edrych yn fanwl ar gyfraith achos ddiweddar ar ddigartrefedd. Mae Helen Taylor a Jed Meers yn ystyried datblygiadau wrth asesu bregusrwydd ymgeiswyr ac yn dadlau bod datblygiadau diweddar yn gadael deddfwriaeth Cymru mewn sefyllfa afreolaidd, tra bod Rebecca Rees yn edrych ar faterion yn ymwneud â llety dros-dro

Cyhoeddodd Crisis ei gynllun i ddiweddau digartrefedd ym Mhrydain yn ddiweddar. Nick Morris sy’n ystyried y newidiadau fydd eu hangen i’r gyfraith yng Nghymru.

Beth ddylid ei wneud pan nad yw tai cymdeithasol yn fforddiadwy i lawer o denantiaid cymdeithasol? Mae Ian Wilson yn ystyried eto y ffordd orau o gartrefu pobl ar incwm isel yn y Cymoedd, gyda golwg ar argymhellion terfynol adroddiad mawr newydd.

Clywn hefyd gan Lynn Pamment , cadeirydd yr arolwg annibynnol o’r cyflenwad tai fforddiadwy, ac mae’n taflu peth goleuni ar beth y dylem ei ddisgwyl.

Gydag erthyglau pellach ar dai a thlodi, swyddogaeth cymdeithasau tai mewn adfywio, a thai yn ngwledydd Llychlyn, ynghyd â’n holl nodweddion rheolaidd, gobeithio y bydd rhywbeth at ddant pawb yn y rhifyn hwn o WHQ.

Jules Birch, Golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »